Ar gael yn Clirio BSc (Anrh)

Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol

Cymerwch y camau nesaf i ddod yn syrfëwr meintiau ac ysgogi newid ym myd deinamig adeiladu. Byddwch yn cael eich paratoi â sgiliau a syniadau allweddol trwy ein gradd hyblyg sy'n cyd-fynd â'r diwydiant.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni

Côd UCAS

KN21

Dyddiad Cychwyn

Medi 2026

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Pwyntiau UCAS

96

Ffioedd

Myfyrwyr cartref: £9,790*
Myfyrwyr rhyngwladol: £17,200*

Côd UCAS

Dyddiad Cychwyn

Medi 2026

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Pwyntiau UCAS

96

Côd UCAS

Dyddiad Cychwyn

Medi 2026

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Pwyntiau UCAS

96

Côd UCAS

KN22

Dyddiad Cychwyn

Medi 2026

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Pwyntiau UCAS

96

Ffioedd

Myfyrwyr cartref: £9,790*
Myfyrwyr rhyngwladol: £17,200*

Côd UCAS

KN21

Dyddiad Cychwyn

Medi 2027

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Pwyntiau UCAS

96

Côd UCAS

Dyddiad Cychwyn

Medi 2027

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Pwyntiau UCAS

96

Côd UCAS

Dyddiad Cychwyn

Medi 2027

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Pwyntiau UCAS

96

Côd UCAS

KN22

Dyddiad Cychwyn

Medi 2027

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Pwyntiau UCAS

96

Trosolwg o'r Cwrs

Datblygwch seilwaith y dyfodol gyda'n gradd achrededig. Byddwch yn tyfu eich arbenigedd a'ch sgiliau trwy ein dulliau addysgu arloesol a thechnolegau digidol gan gynnwys modelu gwybodaeth am adeiladau (BIM), dronau, a chipio safle diffiniad uchel.

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer datryswyr problemau sydd â llygad craff am fanylion, p'un a oes gennych gefndir presennol mewn mesur meintiau neu’n awyddus i gyfrannu at ddiwydiant adeiladu deinamig sy'n tyfu. Dysgwch bopeth am y diwydiant wrth i chi archwilio sut mae syrfewyr meintiau yn llunio ac yn datblygu'r byd o'n cwmpas.

Sicrhewch fantais wrth ddechrau ar eich taith tuag at statws siartredig ac atynwch gyflog uwch gydag achrediad RICS. 

Achredir gan

RICS

Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS)


Pam astudio'r cwrs hwn?

Achrediad Proffesiynol

Mae ein cwrs wedi'i achredu gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS).

Astudiwch yn llawn amser neu'n rhan amser

Astudiwch mewn ffordd sy'n gweithio i chi, boed hynny'n llawn amser neu'n cydbwyso'ch gradd â gwaith trwy astudio'n rhan amser.

Datblygwch sgiliau y mae galw mawr amdanynt

Graddiwch gyda sgiliau y mae galw mawr amdanynt yn y diwydiant adeiladu, gan roi mantais gystadleuol i chi.

Canolbwyntio ar yrfa

Enillwch brofiad trwy siaradwyr gwadd, ymweliadau safle a lleoliadau gwaith gwerthfawr i'ch paratoi ar gyfer eich gyrfa.

Enillwch wrth ddysgu

Cynigir y radd hon fel Gradd-brentisiaeth a thrwy'r cynllun Rhwydwaith75.

Beth fyddwch chi'n ei astudio

Dysgwch am hanfodion yr amgylchedd adeiledig a'r diwydiant adeiladu, gan gynnwys tirfesur meintiau a rheoli costau.

Archwiliwch brosiectau adeiladu dilys, o ddylunio ac adeiladu i ystyriaethau moesegol a chyfreithiol.

Byddwch yn archwilio sut mae diwydiant adeiladu'r DU yn llunio'r amgylchedd adeiledig wrth ddatblygu sgiliau proffesiynol, ymwybyddiaeth foesegol, egwyddorion cynaliadwyedd a gwybodaeth ddigidol. Byddwch yn ymchwilio i rolau gyrfa a thechnolegau fel dronau, sganio laser a VR.

Byddwch yn dysgu sut mae cynllunio yn llunio datblygiad yn yr amgylchedd adeiledig, gan archwilio caniatâd cynllunio, defnydd tir a rolau rhanddeiliaid. Mae'r modiwl hefyd yn cyflwyno adfywio trefol, dylunio cynhwysol a'r egwyddorion cyfreithiol sy'n llywio penderfyniadau cynllunio'r DU.

Byddwch yn cael cyflwyniad i'r grymoedd economaidd a chyfreithiol sy'n llunio'r amgylchedd adeiledig, gan archwilio tueddiadau'r farchnad, hanfodion prisio a buddsoddi ochr yn ochr â chontractau, iechyd a diogelwch, a chyfrifoldebau proffesiynol sy'n arwain arferion adeiladu moesegol.

Byddwch yn archwilio sut mae cartrefi'n cael eu dylunio a'u hadeiladu, gan ddysgu am ddulliau adeiladu, deunyddiau a systemau adeiladu. Mae'r modiwl yn datblygu eich dealltwriaeth o reoliadau, cynaliadwyedd a manylu, wrth feithrin sgiliau lluniadu ymarferol, CAD a chyfathrebu technegol.

Archwiliwch brosesau a chyfreithiau allweddol sy'n gysylltiedig â phrosiectau adeiladu wrth i chi archwilio'r defnydd o dechnoleg a data i gynorthwyo prosiectau.

Adeiladwch eich sgiliau cyfathrebu a thechnegol wrth i chi ddatrys heriau go iawn yn y diwydiant. Gwnewch eich astudiaethau yn bersonol i chi, gyda modiwl dewisol mewn meysydd gan gynnwys Deallusrwydd Artiffisial, Dadansoddi Data, Rheoli Prosiectau, Economi Werdd, neu Iechyd a Diogelwch, i baratoi eich gyrfa ar gyfer y dyfodol.

Byddwch yn dysgu sut mae adeiladau masnachol yn cael eu dylunio a'u hadeiladu, gan archwilio systemau strwythurol, deunyddiau a dilyniant adeiladu. Mae'r modiwl yn datblygu eich sgiliau modelu digidol, yn cyflwyno llifoedd gwaith BIM, ac yn tynnu sylw at atebion cynaliadwy, perfformiad uchel ar gyfer prosiectau masnachol modern.

Archwiliwch egwyddorion rheoli costau cynnar, cynllunio costau elfennol, a rheolaeth ariannol wrth dirfesur meintiau. Dewch i weld sut mae penderfyniadau dylunio yn effeithio ar hyfywedd a pherfformiad ariannol prosiect wrth i chi ddysgu datblygu cynlluniau costau a biliau meintiau.

Archwiliwch wahanol rolau mewn timau adeiladu wrth i chi ddysgu am brosesau cytundebol allweddol, fel llythyrau o fwriad, gweithdrefnau tendro, a gweithgareddau ôl-dendro. Ewch ati i wneud penderfyniadau contract a phrosiect gwybodus gan ddefnyddio llwybrau caffael, dyrannu risg a strategaethau contract.

Byddwch yn datblygu gwybodaeth hanfodol am reoli iechyd a diogelwch, gan archwilio deddfwriaeth, asesu risg a diwylliant diogelwch. Trwy senarios byd go iawn a gwaith tîm, byddwch yn dysgu sut i hyrwyddo ymarfer diogel, moesegol a chynaliadwy mewn amgylcheddau proffesiynol.

Byddwch yn archwilio sut mae deallusrwydd artiffisial yn gweithio a sut mae'n cael ei ddefnyddio ar draws diwydiannau. Trwy weithgareddau ymarferol, byddwch yn gweithredu technegau deallusrwydd artiffisial wrth ymdrin â phroblemau byd go iawn, gan ystyried y defnydd moesegol, cynaliadwy a chyfrifol o systemau deallus.

Byddwch yn archwilio cynaliadwyedd, yr economi gylchol a lleihau carbon, gan archwilio sut mae sefydliadau'n ymateb i heriau hinsawdd. Byddwch hefyd yn gweithredu fframweithiau byd-eang fel Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig ac yn gweithio tuag at ardystiad Llythrennedd Carbon gyda'r Ymddiriedolaeth Llythrennedd Carbon.

Byddwch yn dysgu sut i gasglu, dadansoddi a dehongli data i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau. Mae'r modiwl yn datblygu eich sgiliau ystadegol, delweddu a chyfathrebu, gan eich helpu i droi setiau data byd go iawn yn fewnwelediadau ystyrlon ar gyfer ymarfer proffesiynol.

Byddwch yn cwblhau lleoliad dewisol byr neu dros yr haf, interniaeth neu brosiect dinesig, gan ennill profiad yn y byd go iawn. Gyda chefnogaeth prifysgol, byddwch yn myfyrio ar eich dysgu, yn meithrin sgiliau proffesiynol ac yn gwella eich cyflogadwyedd trwy ymgysylltu ymarferol â diwydiant neu gymuned.

Yn eich trydedd flwyddyn byddwch yn dysgu rheoli prosiectau'n hyderus, gan gynnwys contractau, cyllid a chynhyrchu dogfennau swyddogol.

Byddwch yn dangos eich sgiliau ymchwilio a dadansoddi trwy brosiect ymchwil yn seiliedig ar her wirioneddol yn y diwydiant.

Byddwch yn datblygu sgiliau mewn rheoli prosiectau, contractau a chyllid, gan archwilio arweinyddiaeth, risg, caffael a datrys anghydfodau. Byddwch yn gweithio gyda chontractau fel NEC, JCT a FIDIC i gefnogi gwneud penderfyniadau effeithiol.

Byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil annibynnol ar her amgylchedd adeiledig go iawn, gan ddatblygu sgiliau ymchwilio, dadansoddi a rheoli prosiectau. Bydd eich gwaith yn cyd-fynd â blaenoriaethau'r diwydiant a nodau byd-eang, fel Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.

Datblygwch eich arbenigedd mewn ymarfer mesur, meintioli a chostio gwaith adeiladu mewn tirfesur meintiau a phrosiectau adeiladu ehangach. Cynhyrchwch ddogfennau swyddogol cywir gan ddefnyddio'r Rheolau Mesur Newydd ac offer safonol y diwydiant wrth i chi ddysgu gwneud penderfyniadau prisio cywir.

Byddwch yn datblygu sgiliau masnachol a menter ar gyfer arweinyddiaeth amgylchedd adeiledig, gan archwilio arloesedd, ESG, sero net a llywodraethu. Trwy heriau, byddwch yn creu cynnig busnes wrth gryfhau sgiliau ariannol a phroffesiynol.

Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Addysgu ac Asesu

Archwiliwch faes mesur meintiau drwy astudiaethau achos prosiectau adeiladu byw, ymweliadau â safleoedd, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chydweithio â phartneriaid yn y diwydiant.

Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr yn y diwydiant drwy amrywiol ddulliau gan gynnwys darlithoedd rhyngweithiol, gweithdai ymarferol, cyflwyniadau, ymarfer myfyriol, efelychiadau adeiladu digidol, ac ymarferion gwaith tîm cydweithredol yn seiliedig ar senarios adeiladu yn y byd go iawn. 

Mae ein cwrs yn canolbwyntio ar y diwydiant, sy'n golygu y gallwch ddisgwyl darlithoedd gwadd, gweithdai dan arweiniad cyflogwyr a mentora prosiectau, wrth i chi gael y diweddaraf am dueddiadau sy'n dod i'r amlwg o fewn maes mesur meintiau. 

Yn yr ail flwyddyn, byddwch chi'n personoli eich modiwlau drwy ddewis o feysydd fel Deallusrwydd Artiffisial (AI), Dadansoddeg Data, Rheoli Prosiectau, yr Economi Werdd, neu Iechyd a Diogelwch, gan eich galluogi i sicrhau bod eich gyrfa'n barod ar gyfer y dyfodol a sefyll allan o flaen cyflogwyr.

Byddwch yn cael y cyfle i ddangos eich gwybodaeth ddamcaniaethol a'ch arbenigedd ymarferol drwy amrywiaeth o asesiadau, sy'n adlewyrchu ymarfer mesur meintiau proffesiynol. 

Byddwch yn cwblhau aseiniadau portffolio i ddangos eich sgiliau fel caffael, tendro a rheoli costau, gweinyddu contractau, rheoli risg, a defnyddio offer digidol. Byddwch yn adlewyrchu amgylcheddau gwaith proffesiynol a senarios gwneud penderfyniadau wrth i chi gwblhau asesiadau ymarferol, cynhyrchu rhestr fanwl o ddeunyddiau a meintiau ac adroddiadau sy'n cyd-fynd â'r diwydiant. Byddwch hefyd yn cyflwyno i’r diwydiant, yn gweithio ar brosiectau tîm ac yn datblygu sgiliau hunanfyfyriol.

Cymerwch ran mewn ymweliadau safle a lleoliadau gwaith i fireinio'ch sgiliau a gwella'ch gwybodaeth. Bydd ymweliadau safle yn dangos y byd adeiladu ar waith ac yn eich helpu i ddechrau adeiladu rhestr o gontractau diwydiant. Enillwch brofiad yn y byd go iawn trwy ymgymryd â lleoliad haf 70 awr, interniaeth neu brosiect dinesig trwy ein modiwl Profiad Proffesiynol Cymhwysol. 

Fel arall, gallwch gwblhau lleoliad blwyddyn ryngosod rhwng eich ail a'ch trydedd flwyddyn, lle byddwch yn gweithio ar safleoedd adeiladu, yn casglu profiad perthnasol ac yn gwneud cysylltiadau gwerthfawr. Mae swyddog lleoliadau gyrfaoedd pwrpasol wrth law i'ch helpu i ddod o hyd i leoliad blwyddyn ryngosod a phrofiad gwaith yn ystod y gwyliau. 

Bydd gennych fynediad i ystafell brosiect amgylchedd adeiledig bwrpasol, mannau dysgu trawsnewidiol a labordai cyfrifiadurol pwrpasol gyda'r feddalwedd ddiweddaraf, fel Revit, ArchiCAD, AutoCAD, Autodesk QTO, CostX, Synchro, a Navisworks. 

O fis Medi 2026 ymlaen, bydd ein cyrsiau Cyfrifiadura, Peirianneg, Technoleg ac Amgylchedd Adeiledig yn symud i'w cartref newydd sbon: adeilad Calon. 

Bydd y buddsoddiad hwn o £60m yn cynnwys mwy na 40 o fannau addysgu, dysgu ac ymchwil arloesol newydd, gan gynnwys labordai electroneg a hydroleg, efelychydd hedfan, labordy roboteg, mannau ymchwil glân a diwydiannol, mannau addysgu cydweithredol, yn ogystal â gallu realiti rhithwir, ac amrywiaeth o fannau arddangos. 

Bydd Calon yn rhoi mynediad i chi at y dechnoleg, y cyfleusterau a'r cyfleoedd sydd eu hangen i lunio'r dyfodol. 

Arweinydd y Cwrs

Deborah Hughes

Dyma Dr Deborah Hughes, Aelod Siartredig CIOB ac Arweinydd Cwrs BSc (Anrh.) Mesur Meintiau a Rheoli Masnachol. Gyda chefndir amlddisgyblaethol sy'n cwmpasu rheolaeth adeiladu, peirianneg a gwyddoniaeth, mae ei haddysgu wedi'i seilio ar ymchwil academaidd ac ymarfer diwydiant. Mae hi wedi arwain gwaith datblygu cwricwlwm, rheoli rhaglenni ac achredu proffesiynol, wrth addysgu ar draws meysydd adeiladu, mesur, contractau a rheoli prosiectau, gan ddod â mewnwelediad byd go iawn i'r ystafell ddosbarth. Am ragor o wybodaeth am y cwrs, cysylltwch â Deborah drwy e-bost. 

Rhagolygon Gyrfa

Fel rhaglen achrededig gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS), mae'r cwrs hwn yn caniatáu ichi ennill y wybodaeth dechnegol i ddechrau eich taith tuag at gydnabyddiaeth Syrfëwr Siartredig (MRICS). Bydd angen i chi feddu ar brofiad perthnasol yn y diwydiant a chwblhau Asesiad Cymwyseddau Proffesiynol RICS.

Eich Gyrfa yn y Dyfodol

Our graduates progress in their careers as quantity surveyors and cost managers in the private, public and third sector. Mae llwybrau gyrfa posibl yn cynnwys: 

Contractor quantity surveyor 
Professional quantity surveyor 
Commercial manager 
Estimator 
Cost manager 

 

98% o raddedigion PDC mewn cyflogaeth a/neu astudiaeth bellach 15 mis ar ôl graddio.

Arolwg Hynt Graddedigion 2021/22

Disgwyliadau cyflog

Gall gradd Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol agor cyfleoedd ar draws Amgylchedd Adeiledig a'r sector ehangach. Mae gyrfaoedd Amgylchedd Adeiledig yn cynnig potensial enillion cryf:

Cyflog canolrifol
DU: £41.9k y flwyddyn
Cymru: £38.2k y flwyddyn

 

Cyfanswm y swyddi yn 2025
DU: 1.09m
Cymru: 38,215

 

Ffynhonnell: Lightcast Labour Market Data 2026

Partneriaid diwydiant

Rydym wedi gweithio gyda gwahanol sefydliadau i lunio ein gradd, o'n haddysgu i gyfleoedd profiad gwaith. Byddwch yn ymwneud â phrosiectau adeiladu go iawn a gyrchwyd gan bartneriaid strategol, gan gynnwys awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, contractwyr a chwmnïau ymgynghori.  

Mae rhai o'n partneriaid yn y diwydiant yn cynnwys: 

GIG 
Dŵr Cymru 
Balfour a Beatty 
Trafnidiaeth Cymru 

Datblygwch sgiliau y mae galw mawr amdanynt

Mae mesur meintiau yn cynnig rhagolygon gyrfa cryf ar draws diwydiant adeiladu sy'n tyfu. Byddwch yn datblygu sgiliau technegol, masnachol a rheoli y mae galw mawr amdanynt, gan eich paratoi ar gyfer rolau amrywiol a rhoi mantais gystadleuol i chi. 

Gofynion Mynediad

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni

96 Pwyntiau UCAS neu'n uwch

Gofynion cymhwyster nodweddiadol

Lefel A:
CCC  

Bagloriaeth Cymru:
Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a CC Safon Uwch 

BTEC:
Teilyngdod Teilyngdod 

Mynediad i AU:
Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 96 pwynt tariff UCAS

Safon T:
P (C ac uwch)

Gofynion Ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol. 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU £ 9,790

Fesul blwyddyn

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

Ffi Rhyngwladol Rhan-amser £ 17,200

Fesul blwyddyn

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

Beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

98%

o raddedigion yr Amgylchedd Adeiledig a Pheirianneg Sifil PDC mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach 15 mis ar ôl graddio.

Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2021/22

Dau fyfyriwr mewn llyfrgell Prifysgol

Wedi'i rhestru ymhlith y 50 prifysgol orau yn y DU yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian 2026. 

Three students studying in a pod in the library at Cardiff campus

Ar y brig yng Nghymru ar gyfer busnesau newydd am y 6ed flwyddyn yn olynol, a'r 7fed yn y DU (HEBCIS).

Archwiliwch ein cyfleusterau

Camwch i ddyfodol STEM.

Calon

Rhowch gynnig ymarferol ar offer safonol y diwydiant yn adeilad newydd Calon, sydd werth £60m. O roboteg a realiti rhithwir i labordai peirianneg arbenigol ac efelychydd hedfan, byddwch yn dysgu defnyddio'r dechnoleg sy'n llunio byd yfory.

Dysgwch fwy

Sut i Wneud Cais

Wedi cael eich canlyniadau? Gwnewch gais ar-lein neu ffoniwch ni heddiw ac, os ydych yn gymwys, sicrhewch eich Pecyn Clirio gyda buddion gwerth hyd at £3k i'ch helpu i ddechrau yn y brifysgol gyda mwy. Cymerwch y cam nesaf: GwnewcFfurflen Gais Clirioh gais drwy Clirio.

Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

  • Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol

    • Gyda Blwyddyn Ryngosod, 4 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct
  • Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol

    • Llawn Amser, 3 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct
  • Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol

    • Rhan-amser, 6 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct
  • Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol

    • Rhan-amser, 4 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct
  • Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol

    • Gyda Blwyddyn Ryngosod, 4 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct
  • Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol

    • Llawn Amser, 3 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct
  • Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol

    • Rhan-amser, 6 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct
  • Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol

    • Rhan-amser, 4 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.

Weithio, Ennill a Dysgu!

Mae'r cwrs hwn hefyd ar gael drwy Network75, llwybr gwaith ac astudio cyfun, ac fel Prentisiaeth Gradd.

Dysgwch fwy

Barod i wneud cais?

Dal i archwilio eich opsiynau?