BSc (Anrh)

Troseddeg gyda Seicoleg

Mae deall sut mae'r meddwl dynol yn gweithio yn hanfodol er mwyn gwneud synnwyr o pam mae troseddau yn digwydd a defnyddio'r ddealltwriaeth honno i atal troseddau ac adsefydlu. Drwy'r ddau faes astudio gwahanol ond ategol hyn, byddwch yn paratoi ar gyfer dyfodol mewn ystod o yrfaoedd diddorol.

Sut i wneud cais Gwneud cais trwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Côd UCAS

    L3CY

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £9,535*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,200*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Ewch ati i ddysgu am fyd cymhleth ymddygiad troseddol yn ein cwrs, sy'n cyfuno astudiaethau troseddeg gyda seicoleg.

Dyluniwyd ar gyfer

Pam mae troseddau'n digwydd? Beth sy'n digwydd yn y meddwl dynol? Byddwch yn cael cyfle i ddod o hyd i'r atebion i'r cwestiynau hyn a mwy pan fyddwch yn cyfuno'ch astudiaethau cyfiawnder troseddol gyda seicoleg. Os oes gennych ddiddordeb mewn pobl a pham y maent yn ymddwyn mewn ffordd benodol, mae'n bosibl mai dyma'r cwrs i chi.

Llwybrau gyrfa

  • Gwasanaethau prawf
  • Gwasanaethau cudd-wybodaeth
  • Adrannau'r llywodraeth 
  • Cymorth i ddioddefwyr

Sgiliau a addysgir

  • Ymchwilio
  • Y gyfraith 
  • Datrys problemau 
  • Tyst arbenigol
  • Meddwl yn feirniadol 

PDC yw’r unig brifysgol yng Nghymru a De Orllewin Lloegr i weithredu Uned Achosion Oer. Mae ein myfyrwyr yn cael y cyfle i weithio ar achosion byw a chynorthwyo ymchwiliadau heddlu. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan yn y Prosiect Innocence, gan archwilio achosion gwirioneddol lle mae camweinyddu cyfiawnder wedi digwydd er mwyn sefydlu sail resymol dros apelio.


Uchafbwyntiau’r Cwrs

Profiad o'r byd go iawn

Byddwch yn gweithio gyda heddluoedd, yn ymweld â safle trosedd ac yn gweithio ar achosion go iawn i brofi'r hyn rydych wedi'i ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth.

Partneriaethau yn y diwydiant

Rydym yn gweithio gyda heddluoedd, cwmnïau preifat ac arbenigwyr yn y maes er mwyn dod â'r datblygiadau diweddaraf ym maes fforenseg ddigidol i chi.

Dysgu deuol

Dysgwch gan arbenigwyr ym maes cyfiawnder troseddol a seicoleg er mwyn meithrin dealltwriaeth ddofn.

Trosolwg o’r Modiwl

Byddwch yn astudio cymysgedd o fodiwlau Troseddeg a Seicoleg drwy gydol y cwrs. Byddwch yn archwilio pob pwnc ar wahân ac yna'n dysgu sut i'w rhoi at ei gilydd i wella eich gwybodaeth am gyfiawnder troseddol drwy seicoleg ac, ar yr un pryd, seicoleg drwy gyfiawnder cymdeithasol.

Blwyddyn Un
Y Tu Mewn i'r System Cyfiawnder Troseddol* 
Archwilio Trosedd a Gwyredd* 
O Ddamcaniaeth i Effaith: Ymchwil Hanfodol i Droseddeg
Safbwyntiau Beirniadol mewn Seicoleg
Tu Hwnt i'r Llyfrau: Academia, Cyflogaeth a Phroffesiynoldeb ym maes Cyfiawnder Troseddol* 
Gwir Effaith Trosedd: Bregusrwydd a Dioddefwyr 

Blwyddyn Dau
O Gelloedd i Ymwybyddiaeth
Datblygiad Gydol Oes yn y Cyd-destun Cymdeithasol 
Ymchwilio i Droseddau, Diogelwch ac Anghyfiawnder
Dinoethi Troseddau Treisgar** 
Defnyddio a Chamddefnyddio Sylweddau** 
Y Tu Hwnt i Ffiniau: Troseddau Difrifol, Cyfundrefnol a Thrawswladol** 
Profiad Gwaith** 

Blwyddyn Tri
Seicoleg Iechyd Gydol Oes 
Seicoleg Fforensig 
Traethawd hir (Dewisol)*
Y Tu Ôl i Fariau a Thu Hwnt: Archwilio Carchardai, Prawf ac Ailsefydlu 
Archwilio Lladdiadau: O Laddiadau Corfforaethol i Lofruddion Cyfresol** 
Torri'r Tawelwch: Astudio Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol** 

*Mae modd astudio'r modiwlau yma 100% drwy gyfrwng y Gymraeg

**dewisol

Mae Blwyddyn Un yn cynnig cyflwyniad cynhwysfawr i gyfiawnder troseddol, gan archwilio meysydd sy'n cynnwys y system cyfiawnder troseddol a dod yn droseddegwr. Bydd modiwl olaf y flwyddyn yn rhoi cyflwyniad i safbwyntiau beirniadol ym maes seicoleg i chi.

Y Tu Mewn i'r System Cyfiawnder Troseddol* 
Archwiliwch y system gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys cyfraith trosedd, gweithdrefnau'r llysoedd, cyfiawnder troseddol a sefydliadau allweddol a llunio adroddiadau ar ystadegau trosedd.

Archwilio Trosedd a Gwyredd*
Archwiliwch ddamcaniaeth droseddegol, o esblygiad i gyd-destunau cyfoes. Trafodwch ac ystyriwch sut mae troseddau yn cael eu creu a chanfyddiadau ohonynt o safbwynt cymdeithasol, diwylliannol a hanesyddol. 

O Ddamcaniaeth i Effaith: Ymchwil Hanfodol i Droseddeg
Meithriniwch sgiliau ymchwil hanfodol. Cyfle i ddeall rôl ymchwil a datblygu sgiliau ymchwil mewn cyd-destunau academaidd a phroffesiynol.

*Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg

Safbwyntiau Beirniadol mewn Seicoleg
Eich cyflwyniad i seicoleg wybyddol, fiolegol, cymdeithasol a datblygiadol. Cyfle i ddeall y cyd-destun a gwahaniaethau allweddol a dulliau damcaniaethol beirniadol. 

Tu Hwnt i'r Llyfrau: Academia, Cyflogaeth a Phroffesiynoldeb ym maes Cyfiawnder Troseddol*
Gwellwch eich sgiliau academaidd, personol a phroffesiynol yn y modiwl sgiliau craidd eang hwn.  

Gwir Effaith Trosedd: Bregusrwydd a Dioddefwyr 
Eich cyflwyniad i ddioddefoleg sy'n cynnwys cysyniadau damcaniaethol allweddol, natur a graddau erledigaeth a rôl newidiol dioddefwyr. 

*Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg

Ym mlwyddyn dau, byddwch yn archwilio rhai o'r materion cyfredol ym maes troseddeg a seicoleg yn fanylach. Byddwn yn edrych ar gamddefnyddio sylweddau ac effaith carchar. Bydd cyfle i chi hefyd gwblhau lleoliad profiad gwaith.

O Gelloedd i Ymwybyddiaeth
Dysgwch am y cysylltiadau rhwng prosesau'r corff, yr ymennydd ac ymddygiad, wedi'u rhoi yn eu cyd-destun drwy gynnig manylion am wahaniaethau unigol a dadleuon hanesyddol. 

Datblygiad Gydol Oes yn y Cyd-destun Cymdeithasol 
Cymhwyswch ddamcaniaethau cymdeithasol a damcaniaethau datblygu seicoleg, gan ystyried datblygiad nodweddiadol ac annodweddiadol, gwybyddiaeth gymdeithasol, hunaniaeth gymdeithasol ac amrywiaeth ddiwylliannol. 

Ymchwilio i Droseddau, Diogelwch ac Anghyfiawnder
Datblygwch eich sgiliau ymchwil a gwerthuso. Archwiliwch brosesau paratoi, dadansoddi a dehongli data meintiol ac ansoddol a mireiniwch eich galluoedd cyflwyno. 

Dinoethi Troseddau Treisgar* 
Cyfle i chi ddeall troseddau treisgar, o esblygiad hanesyddol y DU i ddiffiniadau a theipoleg trais, achosion craidd, ffactorau risg, atal a strategaethau ymyrryd yn gynnar. 

Defnyddio a Chamddefnyddio Sylweddau* 
Astudiwch gyd-destun hanesyddol camddefnyddio sylweddau, mathau o sylweddau, ffactorau achosol, caethiwed, canfyddiadau cymdeithasol, canlyniadau iechyd a phortreadau yn y cyfryngau. 

Y Tu Hwnt i Ffiniau: Troseddau Difrifol, Cyfundrefnol a Thrawswladol* 
Astudiwch brosesau gwyngalchu arian, twyll, caethwasiaeth fodern a therfysgaeth yn ogystal ag eithafiaeth, radicaleiddio, y dde bellaf a rôl y we dywyll. 

Profiad Gwaith* 
Rhowch eich damcaniaeth ar waith a datblygwch eich sgiliau meddwl yn feirniadol, gweithio fel tîm a chyfathrebu mewn lleoliad proffesiynol 70 awr. 

* dewisol - dewiswch dri

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn cwblhau dau fodiwl gorfodol ac yna'n dewis o blith modiwlau dewisol, gan gynnwys ysgrifennu traethawd hir, gweithio mewn diwydiant, cwblhau interniaeth cyfiawnder cymdeithasol neu archwilio lladdiadau, troseddau amgylcheddol neu derfysgaeth.

Seicoleg Iechyd Gydol Oes 
Ystyriwch y rhyngweithio rhwng ffactorau seicolegol, ymddygiadol, ffisiolegol a chymdeithasol mewn iechyd ac afiechyd drwy gydol oes. 

Seicoleg Fforensig 
Datblygwch ddealltwriaeth o agweddau seicolegol tri maes eang - ymchwiliadau'r heddlu ac ymchwiliadau diogelwch; achosion troseddol ac achosion llys; rheoli troseddwyr. 

Traethawd hir (Dewisol)*
Dilynwch eich diddordebau wrth ymgymryd â'ch prosiect ymchwil gwyddor gymdeithasol, gan feithrin gallu mewn dylunio ymchwil, casglu data a dadansoddi. 

*Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg

Y Tu Ôl i Fariau a Thu Hwnt: Archwilio Carchardai, Prawf ac Ailsefydlu 
Beth yw nodau carcharu? Ewch ati i ddysgu am ddamcaniaethau cosbi ac adsefydlu. 

Archwilio Lladdiadau: O Laddiadau Corfforaethol i Lofruddion Cyfresol** 
Archwiliwch agweddau cymdeithasol a chyfreithiol, patrymau a nodweddion, y prosesau ymchwiliol, tystiolaeth a'r heriau posibl sy'n gysylltiedig â lladdiadau. 

Torri'r Tawelwch: Astudio Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol** 
Cyfle i ddeall safbwyntiau damcaniaethol ac ymatebion polisi i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. 

**Dewisol

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut byddwch yn dysgu

Bydd ein BSc mewn Troseddeg gyda Seicoleg yn rhoi'r wybodaeth, yr adnoddau a'r profiad sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa yn y dyfodol yn gweithio'n uniongyrchol fel rhan o'r system cyfiawnder troseddol neu ochr yn ochr â hi. Byddwch yn cyfuno cyfleoedd dysgu yn yr ystafell ddosbarth â chyfleoedd i brofi damcaniaethau mewn lleoliadau ymarferol fel ein tŷ safle trosedd a'r ystafell efelychu troseddau. Rydym yn cyfuno darlithoedd a gweithdai rhyngweithiol i ddatblygu eich dealltwriaeth o faterion troseddegol go iawn. Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau seicoleg ymarferol yn ein labordai pwrpasol. Y tu allan i'r ystafell ddosbarth, byddwch yn cwblhau gwaith darllen, ymchwil a phrosiect. 

Staff addysgu

Bydd eich tîm addysgu yn dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd a fydd o fudd i'ch dysgu. Ein blaenoriaeth yw recriwtio unigolion sy'n cynnig nodweddion gwahanol, nid nodweddion tebyg. Rydym yn defnyddio'r term Saesneg “Aces in Places” i ddisgrifio'r drefn. Mae ein tîm yn hynod gymwys ac mae'r rhan fwyaf yn Athrawon neu'n Athrawon Cynorthwyol. Mae gan yr unigolion hyn brofiad o'r maes troseddeg cyfan, ac mae'n debygol iawn y bydd gan o leiaf un o'ch athrawon swydd fel yr un rydych chi am ei gwneud ac y bydd yn gallu darparu arweiniad a chyfarwyddyd i'ch helpu i gyflawni eich nodau. Byddwn hefyd yn gwahodd ymarferwyr arbenigol fel siaradwyr gwadd ac yn mynd ar deithiau maes sy'n benodol i'r pwnc i gefnogi eich dysgu. 

Lleoliadau a phrofiad gwaith

Diolch i'n rhwydwaith helaeth o bartneriaid yn y diwydiant, rydym yn gallu cyflwyno'r byd go iawn i'ch dysgu. Yn ogystal â darlithwyr gwadd a theithiau maes, rydym yn gwneud popeth y gallwn i ddarparu cyfleoedd lleoliad gwaith i'ch helpu i brofi eich gwybodaeth a'ch sgiliau newydd yn y byd go iawn. Yn yr ail flwyddyn, mae gennym fodiwl profiad gwaith dewisol ac ym mlwyddyn tri, gallwch ddewis modiwl gweithio mewn diwydiant. Drwy eich cwrs, byddwn yn canolbwyntio ar eich cyflogadwyedd yn y dyfodol a byddwn yn hwyluso cyfleoedd rhwydweithio a lleoliadau gwaith i gefnogi hynny.

Cyfleusterau

Mae'r cyfleusterau yn cynnwys ystafelloedd arsylwi a chyfweld â drych dwy ffordd, teledu cylch cyfyng a sain, sy'n golygu y gellir cynnal a chofnodi gwaith ymchwil a sesiynau ymarfer cyfweld. Mae gennym hefyd labordy cyfrifiaduron pwrpasol wedi'i aerdymheru lle gellir defnyddio meddalwedd arbenigol i gynnal arbrofion seicoleg ac i gynnal cyfweliadau arweiniad i yrfaoedd. 

Mae'r Ystafell Niwroseicoleg Wybyddol yn cynnwys cyfarpar seicoleg arbenigol ac rydym yn cynnig gwasanaethau seicolegol i'r cyhoedd drwy ein clinigau seicoleg, sy'n cynnwys awtistiaeth, dadansoddi ymddygiad, ymyriadau seicoleg iechyd a chwaraeon. 

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Erbyn i chi orffen y cwrs hwn, bydd gennych sylfaen gadarn ar gyfer hyfforddiant proffesiynol mewn gwaith cymdeithasol, prawf, cyfiawnder ieuenctid, gwaith ieuenctid a chymunedol ac ymchwil. Mae ein graddedigion yn camu ymlaen i yrfaoedd yn yr heddlu, y gwasanaeth carchardai ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill, yn ogystal â gwasanaethau amddiffyn a chefnogi dioddefwyr, gwaith cymdeithasol a seicoleg glinigol. 

Bydd meistroli dau bwnc academaidd yn rhoi ymdeimlad clir i gyflogwyr y dyfodol o'ch sgiliau trefniadol lefel uchel, y gallwch eu defnyddio mewn amrywiaeth o yrfaoedd gwerth chweil. Yn ogystal â meithrin gwybodaeth am ddau bwnc ategol, byddwch yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy allweddol y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi. 

Partneriaid diwydiant

Mae llawer o'n staff addysgu wedi dod o ddiwydiant ac yn rhoi blaenoriaeth i gynnal eu cysylltiadau â'r diwydiant er budd ein myfyrwyr. Rydym yn manteisio ar y cydberthnasau hyn i ddarparu darlithoedd gwadd, lleoliadau gwaith ac adnoddau'r diwydiant i'ch helpu i ddysgu. 

Rydym wedi llunio partneriaethau â heddluoedd a thimau cyfiawnder ieuenctid lleol, yn ogystal â'r gwasanaeth prawf, yr Adran Gwaith a Phensiynau, carchardai, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac elusennau cyfiawnder ieuenctid. 

Cymorth gyrfaoedd

Fel un o fyfyrwyr Prifysgol De Cymru, byddwch yn gallu cael cyngor gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd drwy gydol eich astudiaethau ac ar ôl i chi raddio. 

Mae'r gwasanaeth yn cynnig apwyntiadau un i un gyda chynghorwyr gyrfaoedd yn y gyfadran, boed hynny ar ffurf wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy Skype a thrwy e-bost drwy'r gwasanaeth “Gofynnwch Gwestiwn”. Mae gennym adnoddau helaeth ar-lein hefyd i'ch helpu wrth i chi ystyried eich opsiynau gyrfa a chyflwyno'ch hun yn effeithiol i gyflogwyr. Mae'r adnoddau yn cynnwys profion seicometrig, asesiadau gyrfa, lluniwr CV, efelychydd cyfweliadau a help gyda cheisiadau. Mae ein cronfa ddata o gyflogwyr yn cynnwys dros 2,000 o gyflogwyr cofrestredig sy'n targedu myfyrwyr Prifysgol De Cymru. 

Gofynion mynediad

Pwynt tariff UCAS: 96

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Lefel A: CCC
  • Bagloriaeth Cymru: Pasio Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru gyda Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a CC Lefel A
  • BTEC: Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod
  • Mynediad i AU: Pasio y Diploma Mynediad i AU a chael o leiaf 96 pwynt tariff UCAS 
  • Lefel T: P (A* - C)

Gofynion ychwanegol 

TGAU: Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£9,535

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,200

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

* Rhwymedig

Bydd gwerslyfrau ar gael yn y llyfrgell, ond gallai myfyrwyr ddymuno prynu eu copïau eu hunain.

Cost: I fyny at £200

Gall myfyrwyr 2il flwyddyn ymgymryd â lleoliad gwaith am gyfnod os byddant yn dilyn y modiwl Ymarfer Proffesiynol. Gallai myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliad fynd i gostau sy’n gysylltiedig â theithio a bydd y wisg a ddisgwylir yn y gweithle’n amrywio yn ôl y lleoliad.

Cost:I fyny at £300

Mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr 2il flwyddyn sy’n dewis dilyn y modiwl Ymarfer Proffesiynol pan fydd yn ofynnol ar gyfer y lleoliad. Mae’r ffi’n cynnwys cost yr archwiliad manylach, ffioedd gweinyddol ar-lein ac archwiliadau swyddfa’r post.

Cost: £55.42

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

DRWY ASTUDIO'R CWRS BSC (ANRHYDEDD) TROSEDDEG GYDA SEICOLEG, LLWYDDAIS I FEITHRIN Y WYBODAETH A'R SGILIAU I ALLU DERBYN Y CYFRIFOLDEB O ADDYSGU POBL AR FATERION CYMDEITHASOL.

Zoey Morgan

Myfyriwr Troseddeg gyda Seicoleg

HEB OS, GWNAETH Y PROFIAD CYFAN WELLA FY SGILIAU CYFLOGADWYEDD, A FYDD YN RHOI MANTAIS GYSTADLEUOL I MI DROS RADDEDIGION SY'N ASTUDIO CWRS TEBYG I MI.

Zoey Morgan

Myfyriwr Troseddeg gyda Seicoleg

Bywyd yn PDC

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

Mynediad uwch

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Derbyniadau rhyngwladol

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.