BSc (Anrh)

Troseddeg

Treiddiwch yn ddwfn i achosion a chanlyniadau troseddau, datgelwch waith mewnol y system cyfiawnder troseddol a rhowch eich sgiliau ar brawf gydag achosion bywyd go iawn.

Sut i wneud cais Gwneud gais drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Yn eich paratoi i fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn.
Yn eich paratoi i fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn.

Côd UCAS

M900

Dyddiad Cychwyn

Medi 2027

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Pwyntiau UCAS

96


Myfyrwyr rhyngwladol: £17,600*

Trosolwg o'r Cwrs

Mae astudio Troseddeg yn PDC yn caniatáu ichi archwilio trosedd fel un o faterion mwyaf cymhleth a heriol cymdeithas. Byddwch yn archwilio pam mae trosedd yn digwydd, sut mae cymdeithas yn diffinio ac yn ymateb i ymddygiad troseddol, a sut mae dioddefwyr, troseddwyr, cymunedau a sefydliadau yn profi'r system cyfiawnder troseddol.

Mae'r cwrs Troseddeg yn cysylltu astudiaeth academaidd â materion y byd go iawn, gan ddefnyddio dysgu cymhwysol, addysgu seiliedig ar achosion a chyfleusterau arbenigol i'ch helpu i ddeall sut mae trosedd, niwed a chyfiawnder yn cael eu profi'n ymarferol.


Pam astudio'r cwrs hwn?

Cyfleusterau gradd diwydiant

Rhowch eich angerdd ar waith yn ein hystafell llys ffug a mynd i'r afael â senarios troseddau realistig yn ein hystafelloedd efelychu a'n cyfleusterau hyfforddi.

Lleoliadau a phrofiad gwaith

Datblygwch eich CV â phrofiad yn y byd go iawn yn ein sefydliadau partner. Rhowch eich sgiliau ar brawf yn y gwaith gan rwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol mewn Troseddeg.

Addysgir gan ymarferwyr arbenigol

Cewch fynd i'r afael â throseddeg o bob ongl gyda'n tîm addysgu rhyngddisgyblaethol sy'n cynnwys ymchwilwyr gweithredol a rhai o'r enwau mwyaf yn y diwydiant.

Ymchwil arloesol

Mae’n cyfadran yn cynnal ymchwil arweiniol ar brosiectau allweddol ar gyfer y Ganolfan Troseddeg, gyda 71% o'n hymchwil yn arwain y byd. [*Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021]

Beth fyddwch chi'n ei astudio

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn meithrin dealltwriaeth fanwl o'r system gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, yn archwilio hanes trosedd a gwyriad ac yn datblygu eich sgiliau ymchwil i'ch paratoi ar gyfer eich taith academaidd.

Archwiliwch y system gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr a chael dealltwriaeth o adroddiadau cyfraith droseddol, asiantaethau cyfiawnder troseddol ac ystadegau trosedd. Archwilio gweithdrefnau llys, y system farnwrol, a sefydliadau allweddol fel Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS), yr Heddlu, Llysoedd, Prawf a'r Gwasanaeth Carchardai. 

Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg

Dyfnhau eich dealltwriaeth o theori troseddegol, o esblygiad troseddu i'w gyd-destunau cyfoes. Cymryd rhan mewn dadleuon cyfredol a chymhwyso cysyniadau troseddeg i archwilio sut y cyflawnwyd trosedd a’r canfyddiadau cymdeithasol, diwylliannol ac hanesyddol.

Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg

Meithrin sgiliau ymchwil hanfodol yng nghyd-destun Trosedd a Chyfiawnder. Ennill dealltwriaeth gynhwysfawr o rôl ymchwil a datblygu sgiliau ymchwil mewn cyd-destun academaidd a phroffesiynol.

Gwella eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfoes a thechnolegol yn y sector Cyfiawnder Troseddol fel masnachu mewn pobl, seiberdroseddu a throseddau a hwylusir yn ddigidol.

Archwiliwch ddeinameg gymhleth llywodraethu troseddau yng Nghymru a Lloegr a dysgu sut mae cyfleoedd, manteision ac anfanteision yn siapio'r dirwedd cyfiawnder troseddol. Ymchwilio i ddamcaniaethau ynghylch anghydraddoldebau a darganfod y gwahaniaethau o fewn polisïau cyfiawnder troseddol, sy'n rhychwantu dosbarth cymdeithasol, lleoliad, rhyw, ethnigrwydd, rhywioldeb, ac oedran.

 Datblygu eich sgiliau academaidd a phroffesiynol ar gyfer llwyddiant yn y sector cyfiawnder troseddol. Mae'r modiwl yn cynnwys rheoli amser, ysgrifennu a chyfeirio, ynghyd â chymhwysedd digidol a dadansoddiad beirniadol.

Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg

Astudiwch esblygiad Dioddefeg yng Nghymru a Lloegr ac archwilio cysyniadau damcaniaethol mawr yn y maes. Mae'r modiwl yn ymchwilio i natur a maint erledigaeth gan ddadansoddi'n feirniadol rôl newidiol y dioddefwr o fewn y system cyfiawnder troseddol.

Meistroli dadansoddi data meintiol ac ansoddol a mapio'r berthynas rhwng troseddau sy'n digwydd a'r system gyfiawnder.

Byddwch hefyd yn cael y dewis i arbenigo mewn gwahanol fathau o droseddau drwy fodiwlau dewisol, gan gynnwys profiad gwaith ymarferol. Bydd cyfle i chi dewis tri modiwl opsiynol.

Ymchwilio i blismona modern yng Nghymru a Lloegr, o safbwyntiau hanesyddol i ddulliau plismona amrywiol, a dylanwad ffactorau diwylliannol a gwleidyddol. Hefyd, archwilio plismona trwy lensys cyfreithiol, cymdeithasegol a gwleidyddol gan gynnwys materion fel 'diwylliant cop' a llygredd yr heddlu.

Astudiwch agweddau ymarferol ymchwiliadau cymhleth ym maes plismona, gan gynnwys deddfwriaeth, ystyriaethau moesegol a sgiliau cyfweld. Dysgwch am dechnegau tystiolaeth, dulliau a ddefnyddir i gasglu tystiolaeth a'r prosesau cyfreithiol dilynol.

Datblygu dealltwriaeth o rôl ymchwil a gwerthuso o fewn y Sector Cyfiawnder Troseddol, wrth feithrin eich sgiliau ymchwil a'ch gwybodaeth am ddulliau ymchwil ffurfiol i baratoi ar gyfer eich prosiect ymchwil blwyddyn olaf.

Datblygu eich dealltwriaeth gynhwysfawr o drais a throseddau treisgar. O esblygiad hanesyddol troseddau treisgar yn y DU i ddiffiniadau a theipolegau o drais, achosion gwraidd a ffactorau risg. Byddwch hefyd yn archwilio strategaethau atal a thechnegau ymyrraeth gynnar.

Dyfnhau eich dealltwriaeth o gamddefnyddio sylweddau trwy archwilio ei gyd-destun hanesyddol, mathau o sylweddau, ffactorau achosol, dibyniaeth, canfyddiadau cymdeithasol a chanlyniadau iechyd. Mae'r modiwl yn archwilio'r cyflenwad o sylweddau, dadansoddi cadwyni cyflenwi cyffuriau a phortreadau’r cyfryngau cymdeithasol.

Astudiwch feysydd Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol (SOC), Troseddau Trawswladol a Therfysgaeth yng nghyd-destun y DU. Mae enghreifftiau'n cynnwys gwyngalchu arian, twyll, caethwasiaeth fodern a therfysgaeth. Mae'r modiwl hefyd yn archwilio eithafiaeth, radicaleiddio, grwpiau asgell dde eithafol a rôl y we dywyll a'r cyfryngau cymdeithasol.

Rhowch eich theori ar waith a datblygu eich meddwl beirniadol, gwaith tîm a chyfathrebu mewn lleoliad proffesiynol. Mae'r modiwl hwn yn gofyn am leoliad o leiaf 70 awr ar gyfer profiad ymarferol.

Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn canolbwyntio ar dechnegau ymchwiliol mwy datblygedig ac yn gwella eich sgiliau ymchwil trwy eich traethawd hir neu brosiect interniaeth pwrpasol.

Ewch i'r afael â heriau ymarferol a chymwysiadau'r byd go iawn a dewiswch rhwng dau arbenigedd: Dynladdiad a Cham-drin Domestig.

Archwilio ymchwiliadau achos oer a chamweinyddu cyfiawnder a deall pam mae rhai achosion yn parhau heb eu datrys. Byddwch yn ymgysylltu ag achosion go iawn, yn dysgu am dechnegau fforensig, ystyriaethau cyfreithiol a moesegol ac ymchwiliadau'r Heddlu.

Archwiliwch y bygythiad newidiol o derfysgaeth, diogelwch ac eithafiaeth mewn cymdeithas, gan archwilio radicaleiddio yn y DU, ehangu gwyliadwriaeth, a sut mae'r we dywyll a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn lledaenu casineb.

Dylunio a chynnal prosiect ymchwil gwyddorau cymdeithasol ym maes cyfiawnder troseddol. Datblygu eich cymhwysedd mewn dylunio ymchwil, casglu data a dadansoddi ar gyfer cyfraniadau i arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn y sector cyfiawnder troseddol.

Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg

Chwiliwch yn ddwfn i ddynladdiad gan gwmpasu ei agweddau, patrymau a nodweddion cymdeithasol a chyfreithiol yn y DU ac yn rhyngwladol. Cael mewnwelediad i broses ymchwilio dynladdiad gan gynnwys cynhyrchu tystiolaeth, heriau posibl, a methiannau.

Datblygu eich dealltwriaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol yng nghyd-destun Cymru a Lloegr. Archwilio safbwyntiau damcaniaethol, ymatebion polisi, a goblygiadau ymarferol a thyrchu i ymatebion cyfreithiol a pholisi o fewn y system cyfiawnder troseddol.

Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Addysgu ac Asesu

Mae dysgu yn PDC yn ymarferol ac yn ymdrochol. Byddwch yn cael eich annog i drafod materion cymhleth, dadansoddi tystiolaeth, ystyried gwahanol safbwyntiau a datblygu ymatebion gwybodus i'r problemau cymdeithasol sy'n gysylltiedig â throsedd a chyfiawnder. Byddwch hefyd yn camu i mewn i amgylcheddau realistig sy'n adlewyrchu arfer proffesiynol, gan feithrin hyder, profiad a sgiliau gwneud penderfyniadau cyn i chi raddio. Mae'r cyfleusterau safonol hyn yn dod â damcaniaeth yn fyw ac yn eich paratoi ar gyfer realiti plismona modern, trosedd a chyfiawnder a gwasanaethau cyhoeddus.

Profwch amgylchedd dysgu ymdrochol ar y cwrs BSc Troseddeg trwy seminarau ymarferol, sesiynau trafod a darlithoedd. Rydym yn gwahodd siaradwyr gwadd yn rheolaidd sydd ag arbenigedd mewn ystod eang o bynciau cysylltiedig â Throseddeg, ac yn annog ein myfyrwyr ifynychu sgyrsiau oddi ar y campws mewn safleoedd fel Carchardai neu Lysoedd. Byddwch hefyd yn dysgu'n annibynnol ar y cwrs hwn trwy ddarllen, ymchwilio a gwaith prosiect.

Mae asesiad ar y cwrs BSc Troseddeg wedi'i gynllunio i symud y tu hwnt i draethodau ac arholiadau traddodiadol, gan roi cyfleoedd i chi roi gwybodaeth droseddegol ar waith gyda phroblemau, achosion a senarios byd go iawn. Byddwch yn cael eich asesu trwy ystod o dasgauarloesol ac ymarferol, gan gynnwys dadansoddiadau achos, ymarferion cyfiawnder troseddol efelychiedig, briffiau polisi, cyflwyniadau, prosiectau ymchwil, adroddiadau, portffolios myfyriol a gweithgareddau seiliedig ar senarios. 

Mae'r asesiadau hyn wedi'u cynllunio i'ch helpu i feddwl fel troseddegwr: dadansoddi tystiolaeth, cwestiynu ymatebion cyfiawnder, deall niwed, gwerthuso gwahanol safbwyntiau a chyfleu eich syniadau'n glir. Trwy asesiadau ymarferol ac asesiadau seiliedig ar achosion, byddwch yn datblygu'r hyder, y meddwl beirniadol a'r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen ar gyfer eich dyfodol. 

Rhowch hwb i'ch CV a gwella eich cyflogadwyedd ar leoliad drwy ein hystod eang o sefydliadau partner. Efallai y byddwch chi'n cael gweithio ar ymchwiliadau go iawn i bobl ar goll gydag Uned Achosion Oer PDC, darganfod camweddau cyfiawnder posibl gyda'r ProsiectInnocence, neu dreulio'ch lleoliad ochr yn ochr ag asiantaethau lleol sy'n datrys troseddau yn Ne Cymru. 

Mae profiad gwaith mewn Troseddeg yn caniatáu ichi ymgyfarwyddo ag amgylcheddau proffesiynol, archwilio'ch gwahanol feysydd diddordeb a rhwydweithio â darpar gyflogwyr yn y dyfodol. Bydd eich tiwtoriaid a thîm Gyrfaoedd PDC yn eich cefnogi i ddod o hyd i leoliadaugwaith wrth i chi astudio. 

Mae ein cyfleusterau dysgu arbenigol yn rhoi profiad ymarferol i chi mewn amgylcheddau proffesiynol realistig. Yn hytrach na dysgu am drosedd a chyfiawnder yn yr ystafell ddosbarth yn unig, bydd gennych gyfleoedd i ymgysylltu â gweithgareddau cymhwysol sy'n datblygu eichsgiliau dadansoddi, cyfathrebu a datrys problemau. 

O ymchwilio i leoliadau troseddau efelychiedig a dadansoddi tystiolaeth achosion byw yn yr Ystafell CIPHER, i brofi’r broses o wneud penderfyniadau yng Nghanolfan Efelychu Hydra a chyflwyno achosion yn ein Ffug Lys Barn ymdrochol, byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol ochr yn ochr â gwybodaeth academaidd. 

Wedi'u cynllunio i adlewyrchu lleoliadau plismona, troseddeg a chyfreithiol y byd go iawn, mae'r cyfleusterau hyn yn helpu i feithrin yr hyder, y dulliau cyfathrebu a'r sgiliau meddwlbeirniadol sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd ar draws y sector cyfiawnder troseddol. 

Arweinydd y Cwrs

Daniel Welch

Daniel Welch yw Pennaeth Pwnc Plismona, Troseddeg a Gwasanaethau Cyhoeddus, ac Arweinydd Cwrs cyrsiau Troseddeg israddedig Prifysgol De Cymru. Mae ei ddiddordebau academaidd yn canolbwyntio ar ymateb y gwasanaeth heddlu i gam-drin domestig, yn enwedigprofiad dioddefwyr, Rheolaeth drwy Orfodaeth a pholisïau heddlu cysylltiedig. Mae Daniel yn frwd dros ddysgu cymhwysol, sy'n seiliedig ar senario, a helpodd i ddatblygu CIPHER, gofod dysgu rhyngweithiol PDC ar gyfer addysg troseddu, cyfiawnder a gwasanaeth cyhoeddus. 

Rhagolygon Gyrfa

Yn PDC, rydym yn cefnogi myfyrwyr a graddedigion i adeiladu gyrfaoedd ystyrlon ar draws meysydd cyfiawnder troseddol, gwasanaethau cyhoeddus a'r sector gwirfoddol. Mae graddedigion troseddeg fel arfer yn symud ymlaen i feysydd fel y gwasanaeth prawf, carchardai, adsefydlu, cymorth i ddioddefwyr, diogelwch cymunedol, polisi, ymchwil, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, elusennau ac astudiaethau yn y dyfodol, neu rolau cymorth cyfiawnder troseddol ehangach.

Gall y radd hon eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd ar draws cyfiawnder troseddol, diogelwch cymunedol a chymorth cymdeithasol. Gallech weithio ym maes cyfiawnder troseddol a diogelwch cymunedol fel Swyddog Diogelwch Cymunedol neu Weithiwr Cymorth Cyfiawnder Troseddol, neu gefnogi adsefydlu ac ailsefydlu fel Swyddog Carchar, Swyddog Gwasanaeth Prawf neu Weithiwr Adsefydlu. Mae cyfleoedd eraill yn cynnwys rolau cymorth i ddioddefwyr ac eiriolaeth fel Gweithiwr Achos Cymorth i Ddioddefwyr neu Swyddog Gofal Tystion, gwasanaethau defnyddio sylweddau a chymorth fel Gweithiwr Adferiad, Gweithiwr Cymorth neu Weithiwr Allgymorth, a rolau polisi, ymchwil a chyfiawnder cymdeithasol gan gynnwys Cynorthwyydd Polisi neu Gynorthwyydd Ymchwil.

94% o'n graddedigion mewn cyflogaeth ac astudiaeth bellach 15 mis ar ôl graddio

Arolwg Hynt Graddedigion 2022/23

Criminology alumni, Euan, poses for a profile shot in front of red backdrop

“Roedd y cyfleoedd gwych i rwydweithio yn werthfawr iawn – ac roedd cael swydd fel swyddog carchar yn syth ar ôl darlith yn ddechrau annisgwyl ond gwych i fy ngyrfa.”

Euan Thomas, Graddedig Troseddeg

Dysgwch fwy

Disgwyliadau cyflog

Gall gradd Troseddeg agor cyfleoedd ar draws troseddeg a'r sector plismona a gwasnaethau cyhoeddus ehangach. Mae gyrfaoedd Troseddeg yn cynnig potensial enillion cryf:

Cyflog canolrifol

DU: £40.7k y flwyddyn
Cymru: £36.3k y flwyddyn

 

Cyfanswm y swyddi yn 2025

DU: 2.39m
Cymru: 109.364

 

Ffynhonnell: Lightcast Labour Market Data 2026

Partneriaid diwydiant

Mae'r cwrs Troseddeg yn darparu cysylltiadau diwydiant byd-eang sy'n cysylltu ein myfyrwyr ag arbenigwyr blaenllaw a chyflogwyr posibl y dyfodol drwy gydol eu hamser yn PDC. Mae ein cwricwlwm wedi'i gynllunio mewn cydweithrediad â sefydliadau allanol a gweithwyrproffesiynol y diwydiant i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Gofynion Mynediad

Ychwanegol

TGAU: Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynwch gwestiwn i ni

96 Pwyntiau UCAS neu'n uwch

Gofynion cymhwyster nodweddiadol

Lefel A:
CCC

Bagloriaeth Cymru:
Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru Gradd C a CC Safon Uwch

BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod

Mynediad i AU:
Pasio y Diploma Mynediad i AU a chael o leiaf 96 pwynt tariff UCAS.

Safon T:
P

Ffioedd a Chyllid

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

Gwerslyfrau

Bydd gwerslyfrau ar gael yn y llyfrgell, ond gallai myfyrwyr ddymuno prynu eu copïau eu hunain. I fyny at £200

Lleoliad Gwaith

Gall myfyrwyr 2il flwyddyn ymgymryd â lleoliad gwaith am gyfnod os byddant yn dilyn y modiwl Ymarfer Proffesiynol. Gallai myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliad fynd i gostau sy’n gysylltiedig â theithio a bydd y wisg a ddisgwylir yn y gweithle’n amrywio yn ôl y lleoliad. I fyny at £300

DBS

Mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr 2il flwyddyn sy’n dewis dilyn y modiwl Ymarfer Proffesiynol pan fydd yn ofynnol ar gyfer y lleoliad. Mae’r ffi’n cynnwys cost yr archwiliad manylach, ffioedd gweinyddol ar-lein ac archwiliadau swyddfa’r post. £55.42

Ffi Rhyngwladol Rhan-amser £ 17,600

Fesul blwyddyn

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

Gwerslyfrau

Bydd gwerslyfrau ar gael yn y llyfrgell, ond gallai myfyrwyr ddymuno prynu eu copïau eu hunain. I fyny at £200

Lleoliad Gwaith

Gall myfyrwyr 2il flwyddyn ymgymryd â lleoliad gwaith am gyfnod os byddant yn dilyn y modiwl Ymarfer Proffesiynol. Gallai myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliad fynd i gostau sy’n gysylltiedig â theithio a bydd y wisg a ddisgwylir yn y gweithle’n amrywio yn ôl y lleoliad. I fyny at £300

DBS

Mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr 2il flwyddyn sy’n dewis dilyn y modiwl Ymarfer Proffesiynol pan fydd yn ofynnol ar gyfer y lleoliad. Mae’r ffi’n cynnwys cost yr archwiliad manylach, ffioedd gweinyddol ar-lein ac archwiliadau swyddfa’r post. £55.42

Beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

92%

o fyfyrwyr BSc (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol gyda Seicoleg PDC yn fodlon ar eu cwrs.

Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026

#1

Y brifysgol orau yng Nghymru a'r 24ain allan o 123 o brifysgolion yn y DU.

Canllaw Prifysgolion y Guardian 2027

Three USW students walking outside of Cardiff Campus - Atrium

10 pwnc wedi'u rhestru yn y 10 uchaf yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian 2027, gan gynnwys dau yn y safle cyntaf.

Three students studying in a pod in the library at Cardiff campus

Ar y brig yng Nghymru ar gyfer busnesau newydd a'r 7ed yn y DU.

#1

Mae'r Gyfraith yn PDC ar y brig yn y DU o ran boddhad myfyrwyr.

Complete University Guide 2027

#1

Ar y brig yng Nghymru o ran Rhagolygon Graddedigion.

Complete University Guide 2027

Archwiliwch ein cyfleusterau

Cipolwg y tu mewn i Ystafell CIPHER bwrpasol gyntaf y DU.

Ystafell CIPHER

Mae Ystafell CIPHER ar gampws Trefforest PDC yn cefnogi ymchwiliadau troseddol drwy ddysgu trochi rhyngweithiol. Gan ddefnyddio byrddau cyffwrdd uwch-dechnolegol a deunydd achos realistig, byddwch yn asesu gwybodaeth, yn archwilio trywyddau ymholi, yn nodi cysylltiadau rhwng tystiolaeth ac yn cyfiawnhau penderfyniadau ymchwiliol. Mae’r dull cydweithredol hwn yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau dadansoddol a’r farn broffesiynol sydd eu hangen i ymchwilio i achosion cymhleth a gwneud penderfyniadau gwybodus sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Canolfan Efelychu Hydra

 Mae ein Canolfan Efelychu Hydra yn ail-greu digwyddiadau realistig sy’n datblygu dros amser, lle gallwch asesu gwybodaeth newydd, gwerthuso risgiau ac addasu eich ymateb wrth i sefyllfaoedd esblygu. Byddwch yn ymarfer cofnodi penderfyniadau ymchwiliol, egluro’r rhesymeg y tu ôl i’ch gweithredoedd ac ystyried canlyniadau eich penderfyniadau, gan eich helpu i ddatblygu’r farn broffesiynol sydd ei hangen i reoli ymchwiliadau cymhleth.

Camwch i mewn i'n cyfleuster Lleoliadau Trosedd ac ymchwiliwch leoliadau trosedd

Cyfleuster Hyfforddi Lleoliadau Troseddau 

Ymchwiliwch i leoliadau trosedd realistig yn Nhŷ’r Athro Bernard Knight, lle mae amgylcheddau wedi’u hail-greu i efelychu digwyddiadau sy’n amrywio o fyrgleriaethau a thanau i lofruddiaethau. Byddwch yn datblygu eich sgiliau wrth adnabod, cofnodi ac adfer tystiolaeth, gan archwilio sut mae canfyddiadau fforensig yn cyfrannu at adeiladu achos, profi trywyddau ymholi a chefnogi penderfyniadau ymchwiliol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Ennill sgiliau trosglwyddadwy o'r byd go iawn ar sut i gynnal ymchwiliadau.

Uned Achosion Oer

PDC yw’r unig brifysgol yng Nghymru a De Orllewin Lloegr i weithredu Uned Achosion Oer. Mae ein myfyrwyr yn cael y cyfle i weithio ar achosion byw a chynorthwyo ymchwiliadau heddlu. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan yn y Prosiect Innocence, gan archwilio achosion gwirioneddol lle mae camweinyddu cyfiawnder wedi digwydd er mwyn sefydlu sail resymol dros apelio.

Ffug lys barn

Drwy gydol eich cwrs byddwch yn ymchwilio i system gyfreithiol y DU, yn dyst i ddramâu llys bywyd go iawn ar deithiau maes ac yn cyflwyno eich achosion yn ein hystafell ffug lys barn ymdrochol ar y campws.

Dysgwch fwy

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.

Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

  • Troseddeg

    • Llawn Amser, 3 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.

Euan Thomas

"Ers graddio, rwyf wedi symud yn fy mlaen o fod yn swyddog carchar i fod yn ymarferydd cyfiawnder ieuenctid ac rwy'n hyfforddi i fod yn weithiwr cymdeithasol. Mae'r radd hon wir yn agor drysau. Mae'r amgylchedd croesawgar a chefnogol yn PDC yn hybu twf.'

Euan Thomas Graddedig Troseddeg

Gweld proffil myfyriwr

Amelia Bisby

"Roedd y cyfuniad o'r tŷ lleoliad troseddau, cyfleuster efelychiadau Hydra, a'r uned achosion yn un anodd ei guro. Dim ond yn rhannol roedd prifysgolion eraill yn cynnig y cyfleusterau hyn, tra bo gan PDC y cyfan. Roedd y darlithwyr yn ysbrydoledig, ac roedd cymuned y campws yn groesawgar."

Amelia Bisby Amelia Bisby

Myfyriwr Troseddeg

Barod i wneud cais?

Dal i archwilio eich opsiynau?