Plismona Proffesiynol
Mae plismona wedi newid yn ddramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae deall y gyfraith, sut i ymchwilio i droseddau a sut i ddod â throseddwyr ger bron eu gwell yn her enfawr. Mae ein BSc mewn Plismona Proffesiynol yn addysgu'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch drwy ddulliau addysgu ymarferol.
Sut i wneud cais Gwneud Cais Trwy UCAS Bwcio Diwrnod Agored Sgwrsio â Ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/policing-and-security/bsc-professional-policing.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
Yn barod i gamu i rengoedd y genhedlaeth nesaf o swyddogion yr heddlu? Byddwch yn gallu cynnal y gyfraith a threfn yn hyderus drwy astudio ar gyfer ein gradd Plismona Proffesiynol.
Dyluniwyd ar gyfer
Paratoi ar gyfer gyrfa yn yr heddlu neu'n frwd o blaid cyfiawnder? Byddwn yn sicrhau eich bod yn meddu ar y sgiliau i gyflawni eich uchelgeisiau. Byddwch yn ymchwilio i safleoedd troseddau, yn adolygu achosion oer, yn dysgu damcaniaeth ac yn cymhwyso'r gyfraith. Gan gyfuno damcaniaeth ac ymarfer, byddwch yn graddio'n barod ar gyfer swydd eich breuddwydion.
Llwybrau gyrfa
- Plismona
- Cudd-wybodaeth y llywodraeth
- Diogelwch
- Adrannau'r llywodraeth
- Cyfiawnder troseddol
Sgiliau a addysgir
- Ymchwilio
- Y gyfraith
- Datrys problemau
- Tyst arbenigol
- Meddwl yn feirniadol
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Dros dair blynedd, byddwch yn ennill y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i ymuno â’r heddlu fel swyddog heddlu proffesiynol. O gasglu tystiolaeth a gweithio gyda phobl agored i niwed, i ymchwilio fforensig a diogelu'r cyhoedd; pan fyddwch yn gorffen eich gradd, byddwch yn barod i gychwyn arni.
Blwyddyn Un
Tu mewn i'r System Cyfiawnder Troseddol*
Archwilio Trosedd a Gwyredd*
Egwyddorion Plismona: Archwilio Sylfeini'r Heddlu, Dyletswyddau a'r Gyfraith
Ochr Dywyll Technoleg: Trosedd, Troseddwyr a'r Heddlu
Plismona Bregusrwydd: Perygl o Niwed
Y Ditectif Fforensig: Rôl Gwyddoniaeth Fforensig mewn Plismona
Tu Hwnt i'r Llyfrau: y Byd Academaidd, Cyflogaeth a Phroffesiynoldeb mewn Cyfiawnder Troseddol*
Blwyddyn Dau
Diogelu ac Amddiffyn y Cyhoedd: Yr Her o Gadw Pobl yn Ddiogel
Plismona Ymateb
Ymchwilio i Drosedd, Diogelwch a Chyfiawnder
O’r Safle Trosedd i’r Llys: Ymchwilio i Drosedd
Cynnal Cyfraith a Threfn: Plismona, Dyletswyddau a'r Gyfraith
Tu Hwnt i Ffiniau: Troseddau Difrifol, Cyfundrefnol, a Thrawswladol
Blwyddyn Tri
Ymchwiliad Cyfiawnder Troseddol: Traethawd Hir (prosiect traddodiadol neu brosiect interniaeth)
Plismona yn Ymarferol
Y Gyfraith a Dyletswyddau’r Heddlu
Ymchwilwyr Digidol: Ymchwiliad Trosedd Digidol a Seiber
Tu Hwnt i'r Wisg: Deall Proses Recriwtio'r Heddlu
Archwilio Dynladdiad: O Ddynladdiad Corfforaethol i Lofruddwyr Cyfresol**
Torri'r Distawrwydd: Archwilio Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol**
*Mae modd astudio'r modiwlau yma 100% drwy gyfrwng y Gymraeg
**Modiwlau dewisol
Tu mewn i'r System Cyfiawnder Troseddol*
Yn y modiwl hwn, byddwch yn archwilio'r system gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr ac yn ennill dealltwriaeth o gyfraith droseddol, asiantaethau cyfiawnder troseddol ac adroddiadau ystadegau trosedd. Archwilio gweithdrefnau llys, y system farnwrol, a sefydliadau allweddol fel Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS), yr Heddlu, Llysoedd, Gwasanaethau Prawf a Charchardai.
Archwilio Trosedd a Gwyredd*
Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ddyfnhau eich dealltwriaeth o theori troseddegol, o esblygiad troseddu i'w gyd-destunau cyfoes. Cymryd rhan mewn dadleuon cyfredol a chymhwyso cysyniadau troseddeg i archwilio sut mae trosedd wedi'i chreu a'i chanfyddu'n gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn hanesyddol.
Egwyddorion Plismona: Archwilio Sylfeini'r Heddlu, Dyletswyddau a'r Gyfraith
Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i hanes plismona modern yng Nghymru a Lloegr ac yn cynnig dealltwriaeth i chi o rôl Gwasanaeth yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr. Bydd y modiwl yn ymdrin â nifer o elfennau strategol megis rolau'r rhai sy'n gyfrifol am bennu cyfeiriad strategol gwasanaeth yr heddlu, er enghraifft cyfrifoldebau'r Ysgrifennydd Cartref a'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (PCC). Byddwch yn dod yn gyfarwydd â sut mae'r PCC yn dwyn Prif Gwnstabliaid i gyfrif am ddarparu'r gwasanaeth ar ran y cyhoedd.
Ochr Dywyll Technoleg: Trosedd, Troseddwyr a'r Heddlu
Mae'r modiwl hwn yn rhoi'r wybodaeth ddamcaniaethol a'r sgiliau ymarferol i chi sy'n ymwneud â sut y defnyddir technoleg yn y Sector Cyfiawnder Troseddol a sut y gellir defnyddio technoleg i hwyluso troseddu. Byddwch yn datblygu gwybodaeth ragarweiniol am y gwahaniaethau rhwng troseddau corfforol a digidol a throseddau sy'n gysylltiedig â throseddau a hwylusir yn ddigidol fel secstio/porn dial; bwlio; ecsbloetio twyll ar-lein, a hefyd sut y gellir defnyddio technoleg i ganfod ac atal troseddu.
*Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg
Plismona Bregusrwydd: Perygl o Niwed
Yn y modiwl hwn byddwch yn dysgu sut y gall troseddwyr erlid pobl sy'n agored i niwed. Byddwch yn dysgu am gysyniadau fel Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE), camddefnyddio sylweddau, afiechyd meddwl, Caethwasiaeth Fodern, Llinellau Sirol. Bydd y modiwl hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau rhyngbersonol, fel y gallwch ymateb yn briodol i ddigwyddiadau a diogelu pobl fregus.
Y Ditectif Fforensig: Rôl Gwyddoniaeth Fforensig mewn Plismona
Bydd y modiwl hwn yn rhoi trosolwg cynhwysfawr i chi o ddulliau gwyddoniaeth fforensig fodern o ymdrin â safleoedd trosedd. Bydd yn cynnwys cyflwyno'r technegau diweddaraf, a arweinir gan ymchwil, ynghyd â sesiynau gan ymarferwyr fforensig allanol a swyddogion yr heddlu a set o sesiynau ymarferol modern. Gan ddefnyddio Cyfleuster Hyfforddi Safle Trosedd Fforensig y Brifysgol, byddwch yn dysgu am ddiogelu a chadw safle trosedd ac ennill sgiliau mewn cadw cofnodion fforensig.
Tu Hwnt i'r Llyfrau: y Byd Academaidd, Cyflogaeth a Phroffesiynoldeb mewn Cyfiawnder Troseddol*
Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio i'ch cefnogi gyda'ch datblygiad academaidd. Felly, yn y modiwl hwn byddwch yn datblygu sgiliau academaidd a phroffesiynol ar gyfer llwyddiant yn y brifysgol ond hefyd o fewn y sector cyfiawnder troseddol. Mae'r modiwl yn cynnwys rheoli amser, ysgrifennu, cyfeirnodi, datblygu sgiliau personol ynghyd â chymhwysedd digidol a dadansoddi beirniadol.
*Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg
Diogelu ac Amddiffyn y Cyhoedd: Yr Her o Gadw Pobl yn Ddiogel
Bydd y modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o ddiogelu ac amddiffyn y cyhoedd, gan ganolbwyntio ar ddulliau amlasiantaethol o fynd i'r afael â llinynnau bregusrwydd. Byddwch yn archwilio deddfwriaeth ddiogelu, gan gynnwys y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, Deddf Plant, ac yn archwilio rolau a chyfrifoldebau gweithio amlasiantaethol. Mae'r pynciau allweddol yn cynnwys asesu risg, ymateb i gamdriniaeth, a sut mae trawma yn effeithio ar bobl ifanc. Mae'r modiwl hefyd yn ymdrin â rheoli troseddwyr trwy MAPPA, cymorth i ddioddefwyr, a chyfyng-gyngor moesegol ym maes plismona.
Plismona Ymateb
Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ehangu ar eich gwybodaeth am blismona gweithredol. Mae sail ymarferol i’r modiwl hwn, felly byddwch yn gallu cymhwyso'ch dysgu mewn ystod eang o senarios gweithredol, gan ddatblygu sgiliau ymylol ehangach yn ychwanegol at y gofynion gweithredol. Er enghraifft, byddwch yn dysgu am Reoli Gwrthdaro, Arestio, Cadw, Pwerau Atal a Chwilio a Phrotocol Ymatebwyr Cyntaf.
Ymchwilio i Drosedd, Diogelwch a Chyfiawnder
Mae'r modiwl hwn yn eich arfogi â sgiliau ymchwil i baratoi, dadansoddi, dehongli a chyflwyno data meintiol ac ansoddol, gyda ffocws ar ymchwil gymdeithasol yn y sector cyfiawnder troseddol. Mae'n cynnwys ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth, methodoleg ymchwil, a rôl ymchwil academaidd. Mae'r pynciau allweddol yn cynnwys ffurfio rhagdybiaeth, data sylfaenol ac eilaidd, dibynadwyedd a dilysrwydd, ac ystyriaethau moesegol. Byddwch yn archwilio gwahanol ddulliau ymchwil fel arolygon, cyfweliadau, grwpiau ffocws ac adolygiadau systematig, gan ddysgu eu manteision a'u hanfanteision. Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ymgymryd â'r modiwl traethawd hir ym Mlwyddyn 3.
O’r Safle Trosedd i’r Llys: Ymchwilio i Drosedd
Mae'r modiwl hwn yn eich paratoi ar gyfer ymchwiliadau cymhleth gan yr heddlu, gan gwmpasu deddfwriaeth hanfodol fel Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol, RIPA, a CPIA. Byddwch yn archwilio egwyddorion ymchwilio, ystyriaethau moesegol, a chamau ymchwiliadau, gan gynnwys adnabod y sawl sydd dan amheuaeth, diogelu safle a thystiolaeth, a thrin dioddefwyr a’r rhai dan amheuaeth. Mae'r pynciau allweddol yn cynnwys proffilio ymddygiad, gwneud penderfyniadau, a rôl arbenigwyr mewnol fel Ymchwilwyr Safle Trosedd a Swyddogion Cyswllt Teulu. Byddwch yn archwilio ymchwiliadau penodol (e.e. dynladdiad, masnachu pobl) ac yn dysgu technegau cyfweld ymchwiliol (e.e. model PEACE). Mae rôl y CPS, prosesau cyfreithiol, datgelu a chanlyniadau cyfiawnder hefyd yn cael eu harchwilio, gan ganolbwyntio ar foeseg a chyfathrebu effeithiol.
Cynnal Cyfraith a Threfn: Plismona, Dyletswyddau a'r Gyfraith
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar eich grymuso i ddadansoddi deddfwriaeth yn feirniadol mewn perthynas ag arferion a gweithdrefnau'r heddlu, yn enwedig yng nghyd-destun plismona ffyrdd. Byddwch yn dysgu dehongli a chymhwyso deddfwriaeth, gan gynnwys y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol, y Ddeddf Trefn Gyhoeddus, hyd at ddyletswyddau eraill yr heddlu megis delio ag arfau ymosodol a throseddau cyffuriau. Mae'r modiwl hefyd yn ymdrin â phlismona ffyrdd, gan gynnwys deddfau fel y Ddeddf Traffig Ffyrdd, ac yn archwilio rolau'r heddlu mewn diogelwch ar y ffyrdd, gwneud penderfyniadau moesegol, a thrin digwyddiadau difrifol sy'n gysylltiedig â'r ffordd.
Tu Hwnt i Ffiniau: Troseddau Difrifol, Cyfundrefnol, a Thrawswladol
Bydd y modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o droseddau difrifol, cyfundrefnol, terfysgaeth, eithafiaeth a radicaleiddio. Mae'n ymdrin â diffiniadau allweddol, teipolegau, ac esblygiad hanesyddol y troseddau hyn, gan dynnu sylw at rôl gorfodi'r gyfraith, gan gynnwys yr NCA a chydweithrediad rhyngwladol. Byddwch yn archwilio enghreifftiau fel gwyngalchu arian, masnachu cyffuriau, a masnachu pobl. Mae'r modiwl hefyd yn mynd i'r afael â therfysgaeth ac eithafiaeth, gan ganolbwyntio ar radicaleiddio, eithafiaeth dde eithafol, a rôl llwyfannau digidol wrth ledaenu casineb.
Ymchwiliad Cyfiawnder Troseddol: Traethawd Hir (prosiect traddodiadol neu brosiect interniaeth)*
Dylunio a chynnal prosiect ymchwil gwyddorau cymdeithasol mewn cyfiawnder troseddol. Datblygu eich cymhwysedd mewn dylunio ymchwil, casglu data a dadansoddi ar gyfer cyfraniadau i arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn y sector cyfiawnder troseddol.
Plismona yn Ymarferol
Bydd y modiwl hwn yn datblygu eich dealltwriaeth o blismona ymateb drwy ganolbwyntio ar sgiliau cyfathrebu ac offer gwneud penderfyniadau a ddefnyddir gan gwnstabliaid yr heddlu. Bydd y modiwl yn datblygu eich gallu i ymdrin â materion gweithredol, megis rheoli gwrthdaro, diogelu, ac ymchwilio, o fewn amgylcheddau amrywiol. Byddwch yn archwilio ystyriaethau gweithredol allweddol fel stopio a chwilio o dan DDEDDF YR HEDDLU A THYSTIOLAETH DROSEDDOL, diogelu, a dadansoddi patrymau troseddu. Mae pynciau pwysig fel digwyddiadau mawr a difrifol, gangiau stryd, troseddau cyllyll a rheoli trawma hefyd yn cael eu dysgu.
Y Gyfraith a Dyletswyddau’r Heddlu
Mae'r modiwl hwn yn eich arfogi â dealltwriaeth fanwl o'r ddeddfwriaeth allweddol sy'n berthnasol i blismona, gan ganolbwyntio ar ei chymhwyso i ddigwyddiadau cyffredin. Byddwch yn archwilio amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys troseddau yn erbyn yr unigolyn, camddefnyddio cyffuriau, troseddau trefn gyhoeddus, dwyn, twyll a difrod troseddol. Mae'r modiwl hefyd yn ymdrin â rôl yr heddlu wrth reoli digwyddiadau trefn gyhoeddus ac yn darparu sgiliau ymarferol ar gyfer dehongli a chymhwyso cyfreithiau mewn senarios plismona bywyd go iawn. Erbyn diwedd y modiwl, byddwch yn gallu dangos gafael gref ar egwyddorion cyfreithiol a'u cymhwysiad mewn senarios.
*Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg
Ymchwilwyr Digidol: Ymchwiliad Trosedd Digidol a Seiber
Yn y modiwl hwn byddwch yn cael dealltwriaeth gynhwysfawr o ymchwilio i droseddau digidol, plismona digidol, a heriau e-drosedd. Mae'r modiwl hwn yn ymdrin ag egwyddorion ac arferion ymchwilio i droseddau a hwylusir yn ddigidol, gan ganolbwyntio ar droseddau cyfundrefnol. Byddwch yn cael mewnwelediad i derminoleg, deddfwriaeth a rheoliadau allweddol sy'n rheoli'r defnydd o dechnoleg ddigidol mewn ymchwiliadau troseddol. Mae'r modiwl hefyd yn cynnwys ymarferion ymarferol, archwilio arferion fforensig, rheoli tystiolaeth, ac astudiaethau achos yn y byd go iawn. Mae'n cyd-fynd â chanllawiau Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar dystiolaeth ddigidol, gan bwysleisio uniondeb tystiolaethol a chymhwyso deddfau perthnasol fel Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol a'r Ddeddf Diogelu Data.
Tu Hwnt i'r Wisg: Deall Proses Recriwtio'r Heddlu
Bydd y modiwl hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa ym maes plismona drwy roi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o'r proffesiwn a phroses recriwtio'r heddlu. Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth, ymddygiad moesegol, gwytnwch a datblygiad personol. Byddwch yn archwilio pynciau allweddol, gan gynnwys Fframwaith Cymwyseddau a Gwerthoedd y Coleg Plismona, Adroddiad Casey 2023, a heriau plismona gweithredol. Bydd y modiwl yn rhoi cymorth ymarferol i chi i'r broses recriwtio, gan gynnwys camau ymgeisio, asesiadau, a chyfweliadau, i'ch helpu i fod yn llwyddiannus yn eich cais i wasanaeth yr Heddlu a sefydliadau eraill.
Archwilio Dynladdiad: O Ddynladdiad Corfforaethol i Lofruddwyr Cyfresol**
Ymchwiliwch yn ddwfn i ddynladdiad, gan gwmpasu ei agweddau, patrymau a nodweddion cymdeithasol a chyfreithiol yn y DU ac yn rhyngwladol. Cewch fewnwelediad i broses ymchwilio dynladdiad, gan gynnwys cynhyrchu tystiolaeth, heriau posibl, a methiannau.
Torri'r Distawrwydd: Archwilio Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol**
Datblygwch eich dealltwriaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol yng nghyd-destun Cymru a Lloegr. Archwiliwch safbwyntiau damcaniaethol, ymatebion polisi, a goblygiadau ymarferol a thyrchu i ymatebion cyfreithiol a pholisi o fewn y system cyfiawnder troseddol.
**Modiwlau Opsiynol
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Dulliau Dysgu
Ym Mhrifysgol De Cymru, byddwch yn dilyn cwricwlwm a osodwyd gan y Coleg Plismona. Nid yw ein dull addysgu yn cynnwys darlithoedd traddodiadol; yn lle hynny, rydym yn canolbwyntio ar diwtorialau grŵp llai a sesiynau sgiliau ymarferol. Byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i astudio'n annibynnol. Byddwn yn esbonio pob cysyniad a maes astudio newydd i chi ac yn rhoi cyfleoedd i chi roi’r hyn rydych wedi’i ddysgu ar waith gan ddefnyddio ein cyfleusterau o’r radd flaenaf. Bydd eich asesiadau yn cynnwys gwaith ysgrifenedig, cyflwyniadau, portffolios ac ymarferion rhyngweithiol.
Darperir y cwrs hwn dros dri diwrnod yr wythnos, gyda dau ddiwrnod wedi'u neilltuo i astudio’n annibynnol a gwaith oddi ar y campws.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/policing-and-security/bsc-professional-policing-including-foundation-year.jpg)
Staff Addysgu
Mae aelodau ein tîm addysgu yn dod o bob agwedd ar blismona a phob rheng. Rydym yn cynrychioli amrywiaeth o gefndiroedd, arbenigeddau a diddordebau. Rydym yn recriwtio unigolion sy'n cynnig nodweddion gwahanol, nid nodweddion tebyg, er mwyn sicrhau bod amrywiaeth eang o arbenigedd a phrofiad ar gael i chi. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr ym meysydd plismona cymunedol, plismona traffig, amddiffyn pobl agored i niwed a gwrthderfysgaeth. Mae ein tîm yn cynnwys ditectifs a chyn brif gwnstabl hyd yn oed.
Yr un nodwedd gyffredin sy'n berthnasol i bob un ohonom yw ein hymrwymiad i'ch helpu i baratoi ar gyfer dyfodol mewn plismona, ni waeth pa lwybr neu arbenigedd y byddwch yn ei ddewis.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/policing-and-security/ma-professional-policing.jpg)
Lleoliadau a phrofiad gwaith
Rydym yn gweithio'n agos gyda Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Swydd Gaerloyw, Heddlu Wiltshire, Heddlu Dorset, Heddlu Dyfnaint a Chernyw, Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent, yn ogystal â sawl asiantaeth arall sy'n gweithio ochr yn ochr â'r heddlu. Ar y cyd â'r partneriaethau proffesiynol hyn, gallwn gefnogi lleoliadau gwaith a phrofiad gwaith i'n myfyrwyr. Rydym yn gwneud ein gorau i gynnig cyfleoedd ymarferol i brofi eich sgiliau a'ch gwybodaeth, ond dysgu wrth weithio yw'r ffordd orau i chi wneud hynny. Byddwch hyd yn oed yn cael cyfle i ymchwilio i achosion oer drwy ein huned achosion oer. Mae'r heddlu wedi ailagor sawl hen ymchwiliad o ganlyniad i ymchwiliadau gan fyfyrwyr.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/policing-and-security/bsc-professional-policing-accelerated.jpg)
Cyfleusterau
Rydym yn cynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer ein cwrs Plismona Proffesiynol. Ni yw un o'r ychydig brifysgolion ledled y byd â Chanolfan Efelychu Hydra Minerva, sef amgylchedd dysgu ymdrochol, a ddefnyddir gan yr heddlu i helpu unigolion i ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau gwneud penderfyniadau allweddol. Mae gennym hefyd Gyfleuster Hyfforddiant Safle Trosedd lle gall myfyrwyr ddatblygu technegau ymarferol ar gyfer ymchwilio i safleoedd trosedd; labordai fforensig ag adnoddau helaeth a llys ffug.
Gallwch ddisgwyl cael pob cyfle i brofi'r hyn rydych wedi'i ddysgu drwy ymarferion ymarferol, ac o ganlyniad, pan fyddwch yn dechrau eich gyrfa ym maes plismona, byddwch yn gyfarwydd â'r gweithdrefnau.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/policing-and-security/msc-international-security-and-risk-management.jpg)
Pam PDC?
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/16-pontypridd-facilities/161-treforest-facilities/campus-facilities-treforest-policing-moot-court-33004.jpg)
Pam PDC?
90%
o’n myfyrwyr BSc (Anrh) Heddlua Proffesiynol yn fodlon â’u cwrs.
Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2024GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau tariff UCAS: 104
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: BCC
- Bagloriaeth Cymru: Pasio Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru gyda Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a BC - CC ar Lefel A i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
- BTEC: Diploma Estynedig BTEC Rhagoriaeth Teilyngdod Teilyngdod - Teilyngdod pasio
- Mynediad i AU: Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 104 pwynt tariff UCAS
- Lefel T: P (C ac uwch)
Gofynion ychwanegol
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Sylwch, er nad oes angen Gwiriad DBS ar gyfer y cwrs hwn ar gyfer mynediad, ni fydd rhai proffesiynau'n ystyried ymgeiswyr sydd â rhai mathau o euogfarnau troseddol. Felly, os oes gennych euogfarn droseddol a'ch bod yn ystyried llwybr gyrfa penodol, byddem yn argymell eich bod yn gwirio gyda'r corff proffesiynol perthnasol neu'n cyfeirio at eu polisi recriwtio i sicrhau na fydd eich euogfarn yn eich rhoi dan anfantais.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,535
fesul blwyddyn*£16,200
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
- Mae myfyrwyr yn cael cyfle i gymryd rhan yn Ysgol Haf Ryngwladol yr Heddlu. Bydd costau'r gweithgaredd hwn yn amrywio yn dibynnu ar y wlad sy'n ei chynnal. Mae hyn yn ddewisol. Cost: I fyny at £600
- Yn ystod y cwrs bydd gofyn i fyfyrwyr deithio i leoliadau yn ardal Cymru er mwyn cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu. Cost: I fyny at £30
Efallai y bydd myfyrwyr am argraffu copi caled o’u Traethawd Hir 10,200 gair terfynol.
Cost: I fyny at £10
Mae storfa cwmwl ar gael i'w defnyddio gan fyfyrwyr. Efallai y bydd rhai myfyrwyr am brynu dyfeisiau storio ychwanegol i ategu eu gwaith.
Cost: I fyny at £50
Mae deunydd myfyrwyr ar gael yn gyffredinol ar-lein ac mewn fformat digidol. Efallai y bydd rhai myfyrwyr am gynhyrchu copïau caled at eu defnydd personol.
Efallai y bydd myfyrwyr am brynu eu copïau eu hunain o destun sy'n gysylltiedig â'r Heddlu, fodd bynnag, mae copïau cyfeirio ar gael yn y Llyfrgell.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/13-video-thumbnails/video-thumbnail-policing-career.jpg)
Dechreuwch eich gyrfa yn y llu heddlu
Wedi’i ddysgu gan gyn-aelodau o’r heddlu sy’n rhannu cyfoeth o wybodaeth weithredol, mae cwrs plismona proffesiynol Prifysgol De Cymru yn cael ei gydnabod gan heddluoedd ledled Cymru a Lloegr, gan roi mantais gystadleuol i chi.
Wrth astudio gyda PDC, byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol sy’n berthnasol i’r gweithle ac yn archwilio sgiliau gwyddonol, dadansoddol a thechnegol allweddol yn ein cyfleusterau pwrpasol rhagorol.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.