Gwasanaethau Cyhoeddus
Byddwch yr arweinydd tosturiol, ymroddedig, llawn gweledigaeth sydd ei angen ar ein gwasanaethau cyhoeddus nawr yn fwy nag erioed.
Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Siarad â ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/public-services/ba-public-services.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
L430
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,535*
Myfyrwyr rhyngwladol
£15,850*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Byddwch yn adeiladu'r wybodaeth, y sgiliau a'r gwerthoedd sydd eu hangen i wneud gwahaniaeth go iawn i bobl a chymunedau. Mae’r cwrs hyblyg ac ymarferol hwn yn eich paratoi ar gyfer rolau arwain mewn sefydliadau cyhoeddus, o ymateb brys i ddylunio polisi a phopeth yn y canol.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Os ydych chi'n barod i ddechrau ar daith werth chweil a boddhaus sy'n eich grymuso i ddarganfod eich cryfderau a chyfrannu'n ystyrlon at gymdeithas, yna mae ein cwrs israddedig mewn gwasanaethau cyhoeddus i’r dim i chi. Byddwch yn gatalydd ar gyfer y newid sydd ei angen ar ein byd heddiw.
Llwybrau Gyrfa
- Gwasanaeth sifil a llywodraeth leol
- Gwasanaethau cyhoeddus mewn lifrai: Plismona, gwasanaethau tân ac achub, gwasanaethau ambiwlans, lluoedd arfog
- Datblygu a dylunio polisi
- Sefydliadau elusennol a gwirfoddol
- Ymchwil gymdeithasol ac academaidd
Sgiliau a addysgir
- Arweinyddiaeth a rheolaeth
- Ymateb mewn argyfwng, gwneud penderfyniadau moesegol, a’r gallu i addasu
- Meddwl yn feirniadol a datrys problemau
- Cyfathrebu, eiriolaeth a siarad cyhoeddus
- Rheoli prosiect
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Byddwch yn dechrau â sylfaen gref mewn gwasanaethau cyhoeddus a’u heffaith ar gymdeithas. Byddwch yn adeiladu eich sgiliau trwy brosiectau a lleoliadau ymarferol, yna’n canolbwyntio ar ymchwil arbenigol wrth i chi baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Byddwch yn archwilio’r gyfraith, gwahanol wasanaethau cyhoeddus, a'u dylanwad ar gymdeithas. Cewch sefydlu sylfaen academaidd gadarn trwy ymatebion wedi’u harwain gan ddeallusrwydd i faterion cymdeithasol allweddol a chyfoes. Cewch brofi eich sgiliau gwaith tîm ac arweinyddiaeth drwy weithgarwch chwilio ac achub awyr agored.
Deall Cymunedau a Data
Cewch ddeall pam a sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn defnyddio data i wella bywydau wrth i chi archwilio heriau a chryfderau allweddol cymuned benodol.
Democratiaeth, Ymgyrchoedd a Newid
Cewch ddeall ideolegau gwleidyddol a'r prosesau gwleidyddol a democrataidd sy'n llywio llywodraethiant y Deyrnas Unedig, gan gymhwyso'r ddealltwriaeth hon trwy fapio a dadansoddi rhanddeiliaid.
Archwilio Trosedd a Gwyredd*
Byddwch yn archwiliwch sut mae syniadau am drosedd wedi’u llunio a pham mae pobl yn troseddu, gan ystyried theorïau troseddegol, cymdeithasegol, dat
*Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg
Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gyfraith
Byddwch yn archwilio System Gyfreithiol Lloegr, gan edrych yn fanwl ar sut mae rhai gweithdrefnau a deddfwriaeth allweddol yn effeithio ar wasanaethau cyhoeddus.
Arweinyddiaeth, Chwilio ac Achub yn yr Awyr Agored
Byddwch yn croesi ceunentydd a mynyddoedd wrth i chi fynd i'r afael â'r sgiliau cynllunio, asesu risg, arweinyddiaeth a thechnegol sydd eu hangen mewn gweithgareddau chwilio ac achub.
Sgiliau Proffesiynol ar gyfer Gwas Cyhoeddus yr 21ain Ganrif
Cewch ddatblygu’r arferion a’r gwerthoedd proffesiynol sydd eu hangen ar weision cyhoeddus, yn ogystal â’r sgiliau academaidd a fydd yn sicrhau eich bod yn ffynnu ar y cwrs.
Byddwch yn dyfnhau eich gwybodaeth am bolisi cymdeithasol, lles, cydraddoldeb a hawliau dynol. Cewch brofi sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn ymdrin ag argyfyngau trwy weithgareddau efelychu. Byddwch yn ymgymryd â 10 wythnos o interniaeth â ffocws mewn sefydliad gwasanaethau cyhoeddus i ennill profiad yn y byd go iawn.
Hawliau Dynol, Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Byddwch yn astudio deddfwriaeth allweddol ym maes hawliau dynol ac yn archwilio pa mor dda y mae gwladwriaethau yn cynnal eu rhwymedigaethau. Byddwch yn cymhwyso eich gwybodaeth i faes datblygu polisi.
Gwleidyddiaeth, Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Wladwriaeth Les
Byddwch yn dadansoddi Gwladwriaeth Les y Deyrnas Unedig yn feirniadol. Byddwch yn archwilio materion allweddol fel tlodi, addysg ac anghydraddoldebau iechyd, ac yn nodi atebion polisi posibl.
Trychineb ac Argyfwng: Gwytnwch, Ymateb, Achub ac Adfer
Cewch brofi sefyllfaoedd ymateb brys trwy efelychiadau, ymweliadau maes, a gweithgarwch ymarferol, gan edrych ar reoli risg.
Lleoliad Gwasanaethau Cyhoeddus a Sgiliau Proffesiynol
Byddwch yn ymgymryd â lleoliad gwaith mawr yn seiliedig ar eich dyheadau, lle byddwch yn datblygu sgiliau beirniadol ac yn nodi bylchau yn eich datblygiad.
Dulliau Ymchwilio mewn Plismona a Diogelwch*
Cewch fireinio eich sgiliau ymchwil academaidd wrth i chi archwilio'r cysylltiadau rhwng plismona ac ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth (y ddadl 'beth sy'n gweithio').
*Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg
Cewch ddatblygu yn eich arweinyddiaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan archwilio technolegau newydd a chroesawu arloesedd. Byddwch yn llunio traethawd ymchwil mawr sy'n cyd-fynd â'ch nodau gyrfa ac yn dewis modiwlau dewisol i arbenigo ymhellach yn eich meysydd diddordeb.
Sgiliau Arweinyddiaeth a Phroffesiynol
Cewch archwilio theori ac ymarfer ym maes arweinyddiaeth ynghylch gwasanaethau cyhoeddus a dechrau datblygu eich dulliau arwain eich hun.
Technoleg, Arloesi a Newid
Byddwch yn dadansoddi gwahanol ddulliau sy’n cael eu defnyddio i nodi meysydd ar gyfer newid ac arloesi ac edrych ar sut mae technoleg ac arloesi yn effeithio ar randdeiliaid yn y gwasanaethau cyhoeddus.
Traethawd Hir / Prosiect Effaith Gymdeithasol
Byddwch yn cwblhau eich cynnig o brosiect o flwyddyn dau ac yn cynhyrchu dadansoddiad cydlynol a manwl o fater cyfoes sy'n berthnasol i gymdeithaseg a/neu wasanaethau cyhoeddus.
Geowleidyddiaeth: Deall Gwrthdaro, Rhyfel a Heddwch
Cewch archwilio gwahanol fathau o wrthdaro a'u heffaith o safbwyntiau hanesyddol a chyfoes ac edrych ar sut y gellir datrys gwrthdaro presennol.
Hefyd gallwch chi ddewis un modiwl dewisol:
Cyflwyniad i Ofal Iechyd Trychineb (dewisol)
Byddwch yn ymchwilio i’r risgiau sy’n gysylltiedig â thrychinebau naturiol ac o waith dyn a’r rôl y mae ymyriadau iechyd a gofal cymdeithasol yn ei chwarae ar draws cylch trychineb.
Ymchwilio i Droseddau Difrifol a Threfnedig (dewisol)
Byddwch yn gwerthuso effaith troseddau difrifol a threfnedig yn y Deyrnas Unedig ac yn archwilio deddfwriaeth, polisïau a phrosesau ar gyfer eu plismona ac ymchwilio iddynt.
Cymdeithas Sifil a Gweithredu Cymunedol (dewisol)
Byddwch yn archwilio sut mae cymdeithas sifil a gweithredu cymunedol wedi newid y byd ar lefelau lleol a byd-eang, gan edrych ar eu perthnasoedd cymhleth â'r wladwriaeth.
Cymdeithas a'r Amgylchedd (dewisol)
Cewch ddeall amrywiaeth o faterion amgylcheddol ac archwilio datblygiad polisi cynaliadwy yng Nghymru a ledled y byd.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch chi’n dysgu
Mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfuniad deinamig o ddysgu ymarferol a theoretig i’ch paratoi ar gyfer amrywiaeth o rolau.
Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdai ymarferol, heriau yn y byd go iawn, a lleoliad gwaith blwyddyn dau a fydd yn gwthio eich sgiliau ac yn profi eich galluoedd. Mae myfyrio ar y profiadau hyn yn rhan hanfodol o'ch asesiadau.
Mae theorïau’n cael eu cysylltu â chymwysiadau yn y byd go iawn trwy astudiaethau achos ac adolygiadau polisi mewn darlithoedd a seminarau rhyngweithiol, lle caiff trafodaeth ei hannog. Mae’r asesiadau’n hyblyg, yn gadael i chi arddangos eich safbwynt unigryw, ac yn well na dim, nid oes arholiadau!
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/public-services/ba-public-services-foundation.jpg)
Staff addysgu
Mae ein tîm yn llawn o arbenigwyr o’r byd go iawn o wasanaethau cyhoeddus mewn lifrai a heb lifrai. Boed yn gyn-aelodau o’r heddlu, y fyddin, neu’r RAF, neu’n weithwyr proffesiynol sydd wedi llunio polisi a chydraddoldeb mewn llywodraeth leol, bydd eu profiadau yn cyfoethogi eich dysgu. Maen nhw’n cynnig dealltwriaeth ymarferol o'r hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano ac fe fyddan nhw’n ymroi i'ch helpu i lywio eich llwybr gyrfa, darganfod eich cryfderau, a chyflawni eich nodau.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/public-services/public-services-public-servies-health-management-placeholder-01.jpg)
Lleoliadau a phrofiad gwaith
Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â deg wythnos o leoliad gwaith sy'n cyd-fynd â'ch nodau gyrfa a'ch diddordebau.
Byddwch yn cydweithio â swyddog lleoliadau'r brifysgol a'ch sefydliad cynnal i deilwra eich profiad i weddu i'ch anghenion.
Mae'r cyfle ymarferol hwn yn eich helpu i feithrin cysylltiadau gwerthfawr, datblygu dealltwriaeth gwirioneddol o'r diwydiant, ac arddangos eich profiad i gyflogwyr y dyfodol. Gallech fod yn gweithio gydag awdurdodau lleol, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, y GIG, Cyngor ar Bopeth, heddluoedd, neu hyd yn oed Carchar Parc EF ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan ennill profiad unigryw mewn lleoliadau amrywiol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/public-services/subject-public-services-luke-goddard-and-alex-wadham-36634.jpg)
Cyfleusterau
Nid oes ystafell ddosbarth yn debyg i'r byd go iawn.
Trwy gydol y cwrs, byddwch yn camu allan i amgylcheddau amrywiol i fireinio eich sgiliau ymarferol, arweinyddiaeth, a gwneud penderfyniadau dan bwysau.
Cewch brofi efelychiadau yn ein hystafelloedd Hydra a'n clustffonau realiti rhithwir ar y campws, gan fynd i'r afael â senarios amrywiol.
I gyfoethogi eich dysgu, cewch fynd ar deithiau i lefydd fel y Senedd, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a hyd yn oed y Senedd a’r Llys Cyfiawnder Brenhinol yn Llundain.
Byddwch yn cyfuno hyn ag ystafelloedd dosbarth modern, cymorth TG, a mannau cydweithio i ategu eich addysg.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/16-pontypridd-facilities/162-glyntaff-facilities/campus-facilities-glyntaff-hydra-simulation-centre-31662.jpg)
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 80 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: CDD
- BTEC: Llwyddiant Teilyngdod Diploma Estynedig BTEC
- Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru: Gradd C/D yn y Dystysgrif Her Sgiliau a DD - CC Lefel A
- Mynediad i AU: Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 80 pwynt tariff UCAS.
- Lefel T: P (C ac uwch)
Gofynion Ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,535
fesul blwyddyn*£15,850
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Rydyn ni'n mynd ar alldaith awyr agored yn un o'r opsiynau ac os byddwch chi'n dewis hyn, bydd angen dillad ac esgidiau cerdded addas arnoch chi.
Cost: I fyny at £40
Mewn rhai achosion, bydd angen gwiriad DBS ar gyfer eich lleoliad. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post a’r ffi gweinyddu ar-lein
Cost: £64.74 y flwyddyn
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr ymgymryd â chyfnod o leoliad gwaith ym mlwyddyn 2 a gallant ddewis gwneud un ym mlwyddyn 3. Gall myfyrwyr sy'n ymgymryd â lleoliad wynebu costau sy'n gysylltiedig â theithio a bydd y gwisg ddisgwyliedig yn y gweithle yn amrywio yn ôl y lleoliad.
Cost: I fyny at £200
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.