Plismona Proffesiynol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen
Ymdrinnir â meysydd allweddol fel gwrthderfysgaeth, gweithgareddau cudd, y gyfraith a’r system gyfiawnder, ac ymwybyddiaeth o safleoedd troseddau.
Gwneud Cais Uniongyrchol Gwneud Cais Trwy UCAS Bwcio Diwrnod Agored Sgwrsio â NiAr ôl pasio’r flwyddyn hon yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y radd heddlua proffesiynol sy’n cwrdd â holl ofynion craidd Cwricwlwm Cenedlaethol yr Heddlu ar gyfer gradd mewn Heddlua Proffesiynol cyn ymuno â’r Coleg Heddlua.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Os nad oes gennych y cymwysterau cywir i wneud cais am fynediad blwyddyn un y radd BSc (Anrh) Heddlua Proffesiynol, mae’r cwrs sylfaen yn cynnig llwybr amgen i astudio gradd.
Llwybrau Gyrfa
- Cwnstabl yr Heddlu
- Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
- Ymchwilwyr Cudd-wybodaeth
- Trinwyr Galwadau Brys yr Heddlu
- Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu
Sgiliau a addysgir
- Datrys Problemau
- Gwneud penderfyniadau
- Hunanfyfyrio a Datblygiad Personol
- Ymchwil a Meddwl yn Feirniadol
- Rheoli Amser a Threfniadaeth
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Fel rhan o’r cwrs heddlua sylfaen hwn, byddwn yn eich dysgu i feddwl yn annibynnol ac i ddatblygu’ch sgiliau i gyd-fynd â’r rhai sy’n ofynnol ar gyfer gyrfa yng Ngwasanaeth yr Heddlu.
- Trosedd Ddifrifol a Thrais
- Cyflwyniad i Wyddorau’r Heddlu
- Gyrfaoedd yn y System Cyfiawnder Troseddol
- Perfformiad a Datblygiad Sylfaenol
- Ymchwiliad i Gyfraith a Throsedd yr Heddlu
- Materion Cyfoes o fewn Heddlua a Throsedd
- Tu fewn i'r system cyfiawnder troseddol
- Archwilio Trosedd a Gwyredd
- Egwyddorion Plismona: Archwilio Sylfeini'r Heddlu, Dyletswyddau a'r Gyfraith
- Ochr Dywyll Technoleg: Trosedd, Troseddwyr a'r Heddlu
- Plismona Bregusrwydd: Perygl o Niwed
- Tu Hwnt i'r Llyfrau: y Byd Academaidd, Cyflogaeth a Phroffesiynoldeb mewn Cyfiawnder Troseddol
- Y Ditectif Fforensig: Rôl Gwyddoniaeth Fforensig o fewn Plismona
- Diogelu ac Amddiffyn y Cyhoedd: Yr Her o Gadw Pobl yn Ddiogel
- Ymchwilio i Drosedd, Diogelwch a Chyfiawnder
- Plismona Ymateb
- O’r Safle Trosedd i’r Llys: Ymchwilio i Drosedd
- Cynnal Cyfraith a Threfn: Plismona, Dyletswyddau a'r Gyfraith
- Tu Hwnt i Ffiniau: Troseddu Difrifol, Cyfundrefnol, a Thrawswladol
- Torri'r Distawrwydd: Archwilio Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (dewisol)
- Archwilio Dynladdiad: O Ddynladdiad Corfforaethol i Lofruddwyr Cyfresol (dewisol)
- Plismona yn Ymarferol
- Y Gyfraith a Dyletswyddau’r Heddlu
- Ymchwiliad Cyfiawnder Troseddol: Traethawd Hir
- Ymchwilwyr Digidol: Ymchwiliad Trosedd Digidol a Seiber
- Tu Hwnt i'r Wisg: Deall Proses Recriwtio'r Heddlu
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 48 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: DD ac eithrio Astudiaethau Cyffredinol
- BTEC: Diploma Estynedig BTEC Pasio Pasio Pasio neu Ddiploma BTEC Pasio Pasio
- Mynediad i AU: Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 48 pwynt tariff UCAS.
Gofynion Ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 3 TGAU gan gynnwys Gradd C neu'n uwch mewn Mathemateg a Saesneg (neu mewn Cymraeg os ydych yn astudio yn Gymraeg), neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Sylwch, er nad oes angen Gwiriad DBS ar gyfer y cwrs hwn ar gyfer mynediad, ni fydd rhai proffesiynau'n ystyried ymgeiswyr sydd â rhai mathau o euogfarnau troseddol. Felly, os oes gennych euogfarn droseddol a'ch bod yn ystyried llwybr gyrfa penodol, byddem yn argymell eich bod yn gwirio gyda'r corff proffesiynol perthnasol neu'n cyfeirio at eu polisi recriwtio i sicrhau na fydd eich euogfarn yn eich rhoi dan anfantais.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
Costau Ychwanegol
Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer yn ystod eich blwyddyn sylfaen. Gweler y rhestr isod sy'n cynnwys costau ar ôl i chi symud ymlaen i flwyddyn 1 eich rhaglen radd.
- Yn ystod y cwrs bydd yn ofynnol i fyfyrwyr deithio i leoliadau yn Ne Cymru er mwyn cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu. (Gorfodol) *
- Bydd gofyn hefyd i fyfyrwyr deithio i Gaerdydd i gymryd rhan mewn asesiad yng nghampws yr Atriwm.
- Mae myfyrwyr yn cael cyfle i gymryd rhan yn Ysgol Haf Ryngwladol yr Heddlu. Bydd costau'r weithgaredd hon yn amrywio yn dibynnu ar y wlad sy'n ei chynnal. Cost: £140 - £450
Efallai y bydd myfyrwyr yn cael cyfle i fenthyg cotiau labordy ar y safle ond efallai yr hoffent brynu eu cotiau eu hunain.
Cost: £20 - £30
Efallai y bydd angen argraffu rhai asesiadau (e.e. posteri academaidd) a bydd hyn yn golygu cost i’w rhannu rhwng gweithgor neu gost i unigolion yn dibynnu ar fodiwlau.
Cost: £0 - £10
Mae angen un copi caled o Draethawd Hir 10,200 gair olaf y myfyrwyr.
Cost: £0-£10
Efallai y bydd myfyrwyr am brynu eu copïau eu hunain o destun sy'n gysylltiedig â'r Heddlu, fodd bynnag, mae copïau cyfeirio ar gael yn y Llyfrgell.
Mae storfa cwmwl ar gael i'w ddefnyddio gan fyfyrwyr. Efallai y bydd rhai myfyrwyr am brynu dyfeisiau storio ychwanegol i arbed eu gwaith.
Cost: £5 - £50
Mae deunydd myfyrwyr ar gael yn gyffredinol ar-lein ac mewn fformat digidol. Efallai y bydd rhai myfyrwyr am gynhyrchu copïau caled at eu defnydd personol.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Dulliau Dysgu
Mae’r cwrs Heddlua Proffesiynol yn cyflwyno cwricwlwm a osodwyd gan y Coleg Heddlua i sicrhau bod ein graddedigion o’r ansawdd gorau. Bydd yn eich cyflwyno i’r meysydd gwybodaeth allweddol sy’n ofynnol gan heddwas cyfoes ac yn datblygu eich sgiliau personol ac ymarferol.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Swydd Gaerloyw, Heddlu Wiltshire, Heddlu Dorset, Heddlu Dyfnaint a Chernyw, Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent.
Asesir myfyrwyr trwy gyfuniad o ddulliau gan gynnwys gwaith cwrs, flogiau, posteri academaidd, cyflwyniadau, traethodau, adroddiadau, cyfweliadau, portffolios, adroddiadau labordy, arholiadau ysgrifenedig, cwestiynau amlddewis ac ymarferion asesu rhyngweithiol.
Y Staff Addysgu
Mae heddlua wedi cael ei addysgu yn y Brifysgol am fwy na 15 mlynedd.
O fewn yr amser hwn, rydym wedi adeiladu tîm heb ei ail sy’n cynnwys uwch swyddogion o’r proffesiwn heddlua â’u cyfoeth o wybodaeth weithredol, ac academyddion â’u hymchwil blaengar i feysydd allweddol megis terfysgaeth ar sail crefydd, cysylltiadau rhyngwladol, a llywodraethiant ac atebolrwydd yr heddlu.
Trefnir darlithoedd gwadd trwy gydol y flwyddyn sy’n cynnwys swyddogion yng ngwasanaeth yr heddlu.
- Janine Vickery, Arweinydd y Cwrs
- Daniel Welch
- Helen Martin
- Yr Athro Colin Rogers
- Yr Athro Peter Vaughan
- Allison Turner
- Roger Phillips
- Hilary Miller
- Mike Edwards
- Carwyn Evans
- Alun Davies
- Carl Davies
- Peter Jones
- David Morgan
Lleoliadau
Mae myfyrwyr ar y Radd Heddlua yn cael cyfle i gymryd rhan mewn Ysgol Haf Ryngwladol. Mae PDC yn gweithio gyda phrifysgolion hyfforddi’r heddlu yn yr Almaen, yr Iseldiroedd ac Awstralia.
Os ydych chi eisiau gwirfoddoli fel cwnstabl arbennig neu fyfyriwr-wirfoddolwr yr heddlu, byddwn yn eich helpu i wneud hynny a byddwn yn hapus i gefnogi’ch cais.
Lleoliadau
Os ydych chi eisiau gwirfoddoli fel cwnstabl arbennig neu fyfyriwr-wirfoddolwr yr heddlu, byddwn yn eich helpu i wneud hynny a byddwn yn hapus i gefnogi’ch cais.
Cyfleusterau
Bydd ein Canolfan Efelychu Hydra - yr unig un yng Nghymru - yn eich helpu i ymdrin â senarios realistig megis ymholiadau ynghylch troseddau mawr. Mae’r ystafell efelychu yn eich galluogi i brofi’r digwyddiadau hyn mewn amgylchedd dysgu diogel.
Y Cyfleuster Hyfforddi Safle Trosedd yw’r man lle byddwch yn ymarfer eich technegau ar gyfer ymchwilio i leoliadau trosedd. Mae gennym gyfleusterau fforensig lle gallwch archwilio a dadansoddi tystiolaeth fforensig, ac ystafelloedd cyfweld sy’n cynnwys systemau teledu cylch cyfyng, fel y gallwch arsylwi ac asesu eich sgiliau cyfweld.
Mae ein hystafell llys ffug o’r radd flaenaf ac yn darparu amgylchedd trochol ar gyfer dadleuon, cynadleddau i’r wasg gyda’n myfyrwyr newyddiaduraeth, a ffug dreialon.