Ar gael yn Clirio BSc (Anrh)

Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen

Chwaraewch eich rhan yn y gwaith o ddatblygu isadeiledd yfory. Dyma gyfle i chi fireinio eich sgiliau a datblygu gwybodaeth hanfodol ar gyfer gyrfa ym maes Mesur Meintiau a Rheoli Masnachol.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni

Côd UCAS

K24F

Dyddiad Cychwyn

Medi 2026

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Pwyntiau UCAS

48

Ffioedd

Myfyrwyr cartref: £9,790*
Myfyrwyr rhyngwladol: £17,200*

Côd UCAS

K24F

Dyddiad Cychwyn

Medi 2027

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Pwyntiau UCAS

48

Trosolwg o'r Cwrs

Mae syrfewyr meintiau yn deall pob agwedd ar adeiladu, mae galw mawr amdanynt ac maent yn ennill cyflogau deniadol. Nhw yw rheolwyr ariannol y diwydiant adeiladu ac mae angen iddynt reoli costau’n effeithiol wrth ystyried ansawdd, cynaliadwyedd ac anghenion y cleient. Mae’n yrfa werth chweil sy’n talu’n dda.

Bydd astudio cwrs Mesur Meintiau a Rheoli Masnachol yn PDC yn rhoi’r sgiliau a’r hyblygrwydd angenrheidiol i chi mewn sector cynyddol ddeinamig. Rydym yn derbyn myfyrwyr yn syth o'r ysgol, ac unigolion sydd â phrofiad sylweddol o weithio yn yr Amgylchedd Adeiledig sydd eisiau ehangu eu gwybodaeth a'u rhagolygon gwaith. 

Wedi’i achredu gan

RICS

Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS)


Pam astudio'r cwrs hwn?

Achrediad Proffesiynol

Mae'r cwrs Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol wedi'i achredu gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS)

Dulliau cyflenwi amser llawn a rhan-amser

Gall myfyrwyr gwblhau eu hastudiaethau’n amser llawn neu’n rhan-amser wrth ennill profiad gwaith

Ffocws ar gyflogadwyedd

Rydym yn ymgysylltu â’r diwydiant, fel rhanddeiliad allweddol, wrth ddatblygu ein deunydd cwrs, gan eu gwahodd i gyflwyno darlithoedd gwadd sy’n berthnasol i’r diwydiant

Sgiliau dymunol sy’n mynd i’r afael â phrinder yn y diwydiant

Byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu, datrys problemau, sgiliau digidol TG, a chydweithio

Beth fyddwch chi'n ei astudio

Mae'r modiwl hwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau academaidd, personol a phroffesiynol ar gyfer astudio yn y brifysgol. Byddwch yn myfyrio ar eich cynnydd, yn meithrin hyder, ac yn creu portffolio sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi eich dysgu yn y dyfodol. 

Archwiliwch heriau peirianneg y byd go iawn wrth i chi ddatblygu eich gwybodaeth ddamcaniaethol, gan gynnwys egwyddorion mathemategol a gwyddonol craidd. Dysgwch sgiliau allweddol trwy diwtorialau a seminarau cyn eu rhoi ar waith mewn labordai a gweithdai trochol.

Camwch i mewn i'r amgylchedd adeiledig ac archwiliwch rolau o dirfesur i reoli gwaith adeiladu. Byddwch yn darganfod sut mae cynaliadwyedd a thechnoleg glyfar yn llunio penderfyniadau, wrth feithrin y sgiliau a'r hyder ar gyfer eich gradd.

Byddwch chi'n gweithio mewn timau gyda myfyrwyr Blwyddyn Sylfaen eraill i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn, gan ddatblygu atebion trwy ymchwil, chwilfrydedd, cydweithio a datrys problemau cyfrifol, wrth feithrin sgiliau a fydd yn cefnogi eich astudiaethau yn y dyfodol. 

Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Am fanylion y modiwlau y byddwch yn eu hastudio ar ôl cwblhau’r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gweler prif dudalen y cwrs.

Addysgu ac Asesu

Byddwch chi'n dysgu drwy wneud, drwy weithgareddau byd go iawn a fydd yn eich helpu i ddeall sut mae dysgu'n gweithio yn y brifysgol. Byddwch chi'n cael eich annog i ofyn cwestiynau, archwilio syniadau newydd a gweithio gydag eraill, yn ogystal ag yn annibynnol.

Mae addysgu'n meithrin hyder, meddwl beirniadol a myfyrio, gyda chefnogaeth offer digidol. Mae adborth rheolaidd yn eich helpu i olrhain cynnydd, cynllunio'r camau nesaf ac adeiladu gwydnwch a theimlad cryf o berthyn wrth i chi baratoi ar gyfer astudiaeth lefel uwch. 

Byddwch yn cael eich asesu mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys tasgau byr, gwaith cwrs, cyflwyniadau, a gwaith grŵp. Mae asesiadau cynnar wedi'u cynllunio i gefnogi eich dysgu a'ch helpu i ddeall beth a ddisgwylir yn y brifysgol. Mae'r rhan fwyaf o asesiadau'n seiliedig ar waith cwrs ac yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol fel ymchwil, ysgrifennu academaidd, gwaith tîm, a chyfathrebu. Byddwch hefyd yn myfyrio ar eich cynnydd ac yn defnyddio systemau ac offer digidol y brifysgol. Bydd adborth clir ac amserol yn eich helpu i ddeall sut i wella a chefnogi eich camau nesaf.

Rydym yn argymell eich bod yn treulio blwyddyn yn gweithio yn y diwydiant adeiladu fel rhan o’ch gradd. Yn ystod y flwyddyn ryngosod hon, byddwch yn cael profiad ymarferol a fydd yn eich gwneud yn ymgeisydd mwy deniadol i gyflogwyr ac a fydd yn llywio eich astudiaethau yn eich blwyddyn olaf. 

Gall ein swyddog lleoliadau gyrfaoedd pwrpasol eich helpu i ddod o hyd i leoliadau yn ystod y gwyliau.

Ar gyfer profiad ychwanegol, byddwch yn defnyddio cyfleusterau o safon diwydiant ar y campws. Mae’r rhain yn cynnwys labordai cyfrifiadura gyda meddalwedd peirianneg fel Revit, ArchiCAD, AutoCAD, Autodesk QTO, CostX, Synchro, a Navisworks. 

Byddwch hefyd yn cael eich cyflwyno i’r technolegau digidol diweddaraf fel dronau, delweddu thermol, Realiti Rhithwir a Realiti Estynedig. 

O fis Medi 2026 ymlaen, bydd ein cyrsiau Cyfrifiadura, Peirianneg, Technoleg ac Amgylchedd Adeiledig yn symud i'w cartref newydd sbon: adeilad Calon. 

Bydd y buddsoddiad hwn o £60m yn cynnwys mwy na 40 o fannau addysgu, dysgu ac ymchwil arloesol newydd, gan gynnwys labordai electroneg a hydroleg, efelychydd hedfan, labordy roboteg, mannau ymchwil glân a diwydiannol, mannau addysgu cydweithredol, yn ogystal â gallu realiti rhithwir, ac amrywiaeth o fannau arddangos. 

Bydd Calon yn rhoi mynediad i chi at y dechnoleg, y cyfleusterau a'r cyfleoedd sydd eu hangen i lunio'r dyfodol. 

Arweinydd y Cwrs

Deborah Hughes

Dyma Dr Deborah Hughes, Aelod Siartredig CIOB ac Arweinydd Cwrs BSc (Anrh.) Mesur Meintiau a Rheoli Masnachol. Gyda chefndir amlddisgyblaethol sy'n cwmpasu rheolaeth adeiladu, peirianneg a gwyddoniaeth, mae ei haddysgu wedi'i seilio ar ymchwil academaidd ac ymarfer diwydiant. Mae hi wedi arwain gwaith datblygu cwricwlwm, rheoli rhaglenni ac achredu proffesiynol, wrth addysgu ar draws meysydd adeiladu, mesur, contractau a rheoli prosiectau, gan ddod â mewnwelediad byd go iawn i'r ystafell ddosbarth. Am ragor o wybodaeth am y cwrs, cysylltwch â Deborah drwy e-bost.

Rhagolygon Gyrfa

Mae Mesur Meintiau a Rheoli Masnachol yn cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous yn y DU ac yn rhyngwladol. Ar ôl graddio, bydd gennych y sgiliau a'r hyder i ddechrau gyrfa mewn tirfesur meintiau neu dirfesur adeiladau, gyda'r cyfle i weithio tuag at aelodaeth gorfforaethol RICS.

Eich Gyrfa yn y Dyfodol

Mae ein graddedigion yn cael eu parchu'n fawr gan gyflogwyr ac yn gweithio ar draws pob sector adeiladu, o ddatblygiadau tai a masnachol i brosiectau seilwaith mawr. Mae cysylltiadau cryf â'r diwydiant a dros 40 mlynedd o brofiad yn sicrhau eich bod yn graddio â sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi. Mae llwybrau gyrfa posibl yn cynnwys: 

Contractwr Syrfëwr Meintiau  
Syrfëwr Meintiau Proffesiynol 
Rheolwr Masnachol 
Amcangyfrifwr 
Rheolwr Costau 

98% o raddedigion mewn cyflogaeth a/neu astudiaeth bellach 15 mis ar ôl graddio.

Arolwg Hynt Graddedigion 2021/22

Disgwyliadau cyflog

Gall gradd Tirfesur Meintiau a Rheoli agor cyfleoedd ar draws Amgylchedd Adeiledig a'r sector ehangach. Mae gyrfaoedd Amgylchedd Adeiledig yn cynnig potensial enillion cryf:

Cyflog canolrifol
DU: £41.9k y flwyddyn
Cymru: £38.2k y flwyddyn
 
Cyfanswm y swyddi yn 2025
DU: 1.09m
Cymru: 38,215
 
Ffynhonnell: Lightcast Labour Market Data 2026

Partneriaid diwydiant

Rydym wedi gweithio gyda gwahanol sefydliadau i lunio ein gradd, o'n haddysgu i gyfleoedd profiad gwaith. Byddwch yn ymwneud â phrosiectau adeiladu go iawn a gyrchwyd gan bartneriaid strategol, gan gynnwys awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, contractwyr a chwmnïau ymgynghori.  

Mae rhai o'n partneriaid yn y diwydiant yn cynnwys: 

GIG 
Dŵr Cymru 
Balfour a Beatty 
Trafnidiaeth Cymru 

The logo of the Royal Institution of Chartered Surveyors - it shows a lion and

Sicrhewch fantais wrth ddechrau ar eich taith tuag at statws siartredig ac atynwch gyflog uwch gydag achrediad RICS.

Dysgwch fwy am achrediad RICS

Datblygwch sgiliau y mae galw mawr amdanynt

Mae mesur meintiau yn cynnig rhagolygon gyrfa cryf ar draws diwydiant adeiladu sy'n tyfu. Byddwch yn datblygu sgiliau technegol, masnachol a rheoli y mae galw mawr amdanynt, gan eich paratoi ar gyfer rolau amrywiol a rhoi mantais gystadleuol i chi. 

Gofynion Mynediad

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni

48 Pwyntiau UCAS neu'n uwch

Gofynion cymhwyster nodweddiadol

Lefel A:
DD i eithrio Astudiaethau Cyffredinol

BTEC:
Pas Pas Diploma Estynedig BTEC neu Pas Pas Diploma BTEC

Mynediad i AU:
Llwyddo Diploma Mynediad i AU

Safon T:
P (D neu E)

Gofynion ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 3 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ar Radd C / Gradd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU £ 9,790

Fesul blwyddyn

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

Ffi Rhyngwladol Rhan-amser £ 17,200

Fesul blwyddyn

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

Beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

98%

o raddedigion yr Amgylchedd Adeiledig a Pheirianneg Sifil PDC mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach 15 mis ar ôl graddio.

Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2021/22

Dau fyfyriwr mewn llyfrgell Prifysgol

Wedi'i rhestru ymhlith y 50 prifysgol orau yn y DU yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian 2026. 

Three students studying in a pod in the library at Cardiff campus

Ar y brig yng Nghymru ar gyfer busnesau newydd am y 6ed flwyddyn yn olynol, a'r 7fed yn y DU (HEBCIS).

Archwiliwch ein cyfleusterau

Camwch i ddyfodol STEM.

Calon

Rhowch gynnig ymarferol ar offer safonol y diwydiant yn adeilad newydd Calon, sydd werth £60m. O roboteg a realiti rhithwir i labordai peirianneg arbenigol ac efelychydd hedfan, byddwch yn dysgu defnyddio'r dechnoleg sy'n llunio byd yfory.

Dysgwch fwy

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.

Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

  • Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen

    • Llawn Amser, 4 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct
  • Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen

    • Llawn Amser, 4 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.

Barod i wneud cais?

Dal i archwilio eich opsiynau?