Troseddeg gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen
Mae'r Flwyddyn Sylfaen mewn Troseddeg yn rhan o raglen radd integredig pedair blynedd, ac mae wedi'i chynllunio ar gyfer myfyrwyr nad ydynt ar hyn o bryd yn bodloni'r meini prawf derbyn ar gyfer mynd yn syth ar radd Troseddeg lawn.
Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
M80F
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£5,760*
Myfyrwyr rhyngwladol
£17,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Paratowch ar gyfer gyrfa mewn Troseddeg wrth adeiladu'r sgiliau academaidd sydd eu hangen i lwyddo yn y brifysgol.
Cynlluniwyd ar gyfer
Mae’r flwyddyn sylfaen hon yn gam delfrydol at addysg uwch os oes gennych ddiddordeb yn y gyfraith a chyfiawnder ond ddim yn meddu ar y gofynion mynediad ar gyfer gradd Troseddeg.
Llwybrau gyrfa
- Gorfodi'r gyfraith
- Addysg a gwaith ieuenctid
- Gwasanaeth carchar neu brawf
- Gwaith cymdeithasol
- Eiriolaeth dioddefwyr
Sgiliau a addysgir
- Cydweithio
- Rheoli amser
- Ymchwilio
- Meddwl yn feirniadol
- Sgiliau TG
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Paratowch ar gyfer astudio yn y brifysgol drwy ddatblygu sgiliau academaidd ac archwilio materion byd go iawn sy'n gysylltiedig â throsedd a chyfiawnder. Drwy waith tîm, myfyrio a dysgu cymhwysol, byddwch yn meithrin hyder a dealltwriaeth ar draws y flwyddyn sylfaen.
Dechrau eich Taith Prifysgol
Datblygwch sgiliau academaidd, personol a phroffesiynol ar gyfer astudio yn y brifysgol. Byddwch yn myfyrio ar eich cynnydd, yn meithrin hyder, ac yn creu portffolio ar sail tystiolaeth i gefnogi eich dysgu yn y dyfodol.
Trosedd, y Cyfryngau a Diwylliant
Gan ganolbwyntio ar drosedd a chyfiawnder mewn cymdeithas, mae'r modiwl hwn yn archwilio sut mae'r cyfryngau, hunaniaeth a barn y cyhoedd yn llunio dealltwriaeth a pholisi. Byddwch yn ymgysylltu â dadleuon allweddol ac yn cynnig diwygiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Y Tu Mewn i'r Ymchwiliad: Deall Trosedd ac Ymarfer Plismona
Cyflwyniad i ymchwiliadau troseddol yng Nghymru a Lloegr drwy archwilio prosesau ymchwiliol, gwneud penderfyniadau moesegol ac ymarfer proffesiynol. Byddwch yn defnyddio meddylfryd ymchwiliol mewn senarios realistig ar draws mathau gwahanol o droseddau.
Yr Her Effaith: Llunio Atebion y Byd Go Iawn
Mae’r Her Effaith yn fodiwl prosiect Blwyddyn Sylfaen lle mae myfyrwyr yn gweithio mewn timau i fynd i'r afael â materion y byd go iawn, gan ddatblygu atebion trwy ymchwil, chwilfrydedd, gwaith tîm a datrys problemau’n gyfrifol.
Am fanylion y modiwlau y byddwch yn eu hastudio ar ôl cwblhau’r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gweler prif dudalen y cwrs.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch yn dysgu
Byddwch chi'n dysgu trwy brofiadau dysgu gweithredol, byd go iawn sy'n annog chwilfrydedd, cydweithio a meddwl annibynnol. Mae addysgu yn eich helpu i ddeall sut mae dysgu'n gweithio yn y brifysgol, wrth feithrin hyder academaidd, meddwl beirniadol a hunanfyfyrio. Byddwch chi'n gweithio'n annibynnol a chydag eraill trwy drafodaethau, gweithgareddau ymarferol a myfyrio dan arweiniad, gyda chefnogaeth offer digidol. Mae adborth rheolaidd yn eich helpu i gydnabod cynnydd a chynllunio'r camau nesaf, gan gefnogi lles, gwydnwch a theimlad cryf o berthyn wrth i chi baratoi ar gyfer lefel uwch o astudio.
Sut y byddwch chi'n cael eich asesu
Byddwch chi'n cael eich asesu mewn ffyrdd gwahanol, gan gynnwys tasgau byr, gwaith cwrs, cyflwyniadau a gwaith grŵp. Mae asesiadau cynnar wedi'u cynllunio i gefnogi eich dysgu a'ch helpu i ddeall beth a ddisgwylir yn y brifysgol. Mae'r rhan fwyaf o asesiadau ar sail gwaith cwrs ac yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol fel ymchwil, ysgrifennu academaidd, gwaith tîm a chyfathrebu. Byddwch chi hefyd yn myfyrio ar eich cynnydd ac yn defnyddio systemau prifysgol ac offer digidol. Bydd adborth clir ac amserol yn eich helpu i ddeall sut i wella a chefnogi eich camau nesaf.
Lleoliadau a phrofiad gwaith
Bydd myfyrwyr sy’n symud ymlaen i’r rhaglen radd Troseddeg llawn yn cyflawni 70 awr o brofiad ymarferol mewn lleoliad sy’n addas i’ch nodau gyrfa a’ch diddordebau. Bydd y lleoliad hwn yn cael ei deilwra i chi, a’r manylion yn cael eu pennu drwy drafodaethau rhyngoch chi a swyddog lleoliadau’r Brifysgol a’r sefydliad croeso. Bwriad hyn yw eich helpu chi i gau’r bwlch rhwng astudio a chyflogaeth drwy gael cymorth ymarferol mewn meysydd megis sgiliau cyfweld, datblygu CV a chydnabod y sgiliau trosglwyddadwy y byddwch chi’n eu cyflwyno i’r gweithle.
Cyfleusterau
Byddwch yn cael eich addysgu ar safle Pontypridd, sydd â mannau dysgu modern a chymuned bywiog a chroesawgar. Ymhlith ein cyfleusterau mae’r Ystafell Ffug Lys, Canolfan Efelychu Hydra a’n Cyfleuster Hyfforddiant Safle Trosedd. Nod pob un o’r rhain yw dod â’ch cwrs yn fyw, gan roi’r cyfle i chi gymhwyso eich sgiliau a chael eich asesu mewn amgylcheddau ymarferol.
Gofynion mynediad
Pwynt tariff UCAS: 48
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: DD ac eithrio Astudiaethau Cyffredinol
- BTEC: Diploma Estynedig BTEC Pasio Pasio Pasio neu Ddiploma BTEC Pasio Pasio
- Mynediad i AU: Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 48 pwynt tariff UCAS.
Gofynion Ychwanegol
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 3 TGAU gan gynnwys Gradd C neu'n uwch mewn Mathemateg a Saesneg (neu mewn Cymraeg os ydych yn astudio yn Gymraeg), neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£5,760
fesul blwyddyn*£17,200
fesul blwyddyn*Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.