Darlunio
Trowch eich angerdd dros ddarlunio a chreadigrwydd yn yrfa llawn pleser wrth i chi hogi eich crefft wrth weithio ar y cyd a rhai o stiwdios dylunio ac animeiddio mwyaf y wlad. Byddwch yn gweithio ar friff a roddwyd i chi gan gleientiaid ac yn defnyddio technegau traddodiadol ynghyd â’r offer a’r dechnoleg ddiweddaraf o safon ddiwydiannol. Mae’r cwrs bywiog hwn yn borth i ystod o yrfaoedd creadigol.
Sut i wneud cais Gwneud cais trwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda niManylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
W220
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,535*
Myfyrwyr rhyngwladol
£15,850*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae darlunio’n rhan hanfodol o’n hiaith. Dysgwch sut i ddefnyddio’ch sgiliau creadigol er mwyn cyfathrebu, cysylltu, rhoi gwybod a dysgu eraill trwy ddefnyddio ystod o gyfryngau.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Trowch eich angerdd dros ddarlunio a chynhyrchu cysyniadau creadigol yn fedr pwerus ar draws nifer o wahanol gyfryngau. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu chi i ddod o hyd i’ch llais creadigol ac yn rhoi’r profiad o fewn y diwydiant sydd ei angen arnoch i roi hwb i’ch gyrfa ddelfrydol yn ddarlunydd.
Rydym yn Aelod o
- Gymdeithas y Darlunwyr (Association of Illustrators yn Saesneg)
Llwybrau Gyrfaol
- Darlunydd llawrydd
- Artist llyfrau comig
- Artist nofel graffeg
- Artist bwrdd stori
- Darlunydd llyfrau plant
- Cyn-gynhyrchu animeiddio a gêm / datblygiad gweledol
- Dylunydd cymeriad
- Artist cysyniad
- Artist cefndir
- Dylunydd propiau
Y Sgiliau a Ddysgir
- Meddylfryd dylunio creadigol
- Dyluniad cymeriad
- Lluniadu a gwneud marciau
- Theori lliw
- Gwneud printiau
- Ymchwil a datblygu syniadau
- Cyfathrebu proffesiynol
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Byddwch yn effro i fywyd bywiog darlunio wrth i chi ddatblygu eich ieithwedd weledol a’ch sgiliau artistig. Paratowch i gymryd rhan yn y diwydiant drwy brosiectau byw a lleoliadau gwaith, byddwch yn datblygu portffolio a phrofiadau proffesiynol fydd yn eich cynorthwyo chi i ddod o hyd i’ch swydd ddelfrydol o fewn y diwydiannau darlunio / creadigol.
Blwyddyn Un
Lliw a Chyfathrebu ar gyfer Darlunio
Sgiliau Gweledol
Hanfodion Darlunio
Astudiaethau Cyfathrebu 1
Blwyddyn Dau
Darlunio er Llenyddiaeth a Gwybodaeth
Lle a Chynnyrch ar gyfer Darlunio
Darlunio ar gyfer y Ddelwedd Symudol
Astudiaethau Cyfathrebu 2
Blwyddyn Tri
Prosiect Ymchwil Beirniadol drwy Draethawd Estynedig
Eich Prosiect Mawr Terfynol
Astudiaethau Cleient
Arferion Proffesiynol a Hyrwyddol
Briff cystadleuaeth
Byddwch yn derbyn sylfaen drylwyr i’ch astudiaethau wrth i chi ddysgu am y modd y gall eich medrau darlunio gael effaith yn y byd go iawn, gan ddod o hyd i’ch iaith weledol eich hun wrth i chi gael eich ymdrwytho mewn i’r pwnc. Dysgwch y ddamcaniaeth sylfaenol sy’n sail i’ch datblygiad ymarferol ac ewch i’r afael â medrau academaidd allweddol.
Lliw a Chyfathrebu ar gyfer Darlunio
Ymchwiliwch i ddamcaniaeth lliw a seicoleg lliw er mwyn eich cynorthwyo chi i gyfathrebu eich syniadau a chynyddu eich gallu i ddweud stori mewn dull gweledol.
Sgiliau Gweledol
Treuliwch amser yn y stiwdio yn datblygu eich arddull darlunio chi eich hun, eich ieithwedd weledol ac arddull adrodd stori, gan arbrofi gydag ystod eang o gyfryngau a thechnegau gwneud marciau ac arddulliau darlunio.
Hanfodion Darlunio
Ymchwiliwch i mewn i’r modd y mae darlunio’n cael ei gymhwyso o fewn y diwydiant cyfathrebu gweledol a darlunio, tra hefyd yn ystyried eich ieithwedd weledol, eich cynulleidfa darged a marchnadoedd.
Astudiaethau Cyfathrebu 1
Ymchwiliwch i fudiadau artistig a dylunio allweddol y gorffennol, sy’n ysbrydoli eich arferion celf chi eich hun, wrth ddatblygu sgiliau mewn ymchwil beirniadol, dadansoddi ac ysgrifennu academaidd.
Defnyddiwch eich crefft mewn dulliau mwy mentrus. Datblygwch ddealltwriaeth fasnachol o ystod o ddiwydiannau y gallech gael effaith arnynt drwy eich gwaith darlunio.
Darlunio er Llenyddiaeth a Gwybodaeth
Archwiliwch y berthynas rhwng y darlunydd, y cleient ac asiant, gan archwilio’r maes darlunio ar gyfer llenyddiaeth, darlunio golygyddol, a darlunio a all roi gwybodaeth i’r gynulleidfa.
Lle a Chynnyrch ar gyfer Darlunio
Ymchwiliwch sut y gall darlunio berswadio neu ddenu cynulleidfaoedd newydd mewn perthynas â lleoedd, cynnyrch a brandiau wrth i chi ymateb i friff sy'n cyd-fynd â’r diwydiant.
Darlunio ar gyfer y Ddelwedd Symudol
Dysgwch sut i ddyrchafu eich delweddau gyda symudiad, gan archwilio rôl y darlunydd wrth gynhyrchu animeiddiad a delweddau symudol, archwiliwch ddylunio cymeriad, hanfodion animeiddio, gwneud gif a realiti estynedig.
Astudiaethau Cyfathrebu 2
Datblygu dealltwriaeth uwch o gyd-destunau darlunio, eu pwrpas a’u cymwysiadau, gyda phwyslais ar gyfryngau cymdeithasol a thueddiadau yn y diwydiannau creadigol.
Paratowch i gymryd rhan yn y diwydiant wrth i chi weithio ar friffiau byw a phrosiectau sydd wedi eu teilwra ar gyfer eich diddordebau a’ch gobeithion chi eich hun. Byddwch yn cymryd rhan mewn lleoliad gwaith, byddwch yn cynyddu eich portffolio ac yn datblygu eich brand eich a’ch hunaniaeth eich hun ar y cyd â’r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen arnoch i lansio gyrfa yn y byd darlunio.
Prosiect Ymchwil Beirniadol drwy Draethawd Estynedig
Cysylltwch ymchwil academaidd ac ymarfer creadigol wrth i chi wneud prosiect ymchwil parhaus mewn maes sy'n ymwneud â darlunio a/neu ddylunio.
Eich Prosiect Mawr Terfynol
Datblygwch brosiect hunan-gyfeiriedig, neu gorff proffesiynol o waith yn seiliedig ar eich cryfderau, eich diddordebau a’ch dyheadau gyrfa, gan gyflwyno eich gwaith i lefel broffesiynol.
Astudiaethau Cleient
Byddwch yn ymgymryd â lleoliad gwaith 70 awr yn y diwydiant neu byddwch yn cwblhau briff prosiect byw a ddarperir gan bartner yn y diwydiant, gan ddangos eich bod yn barod i weithio o fewn y diwydiant.
Arferion Proffesiynol a Hyrwyddol
Byddwch yn meithrin sgiliau hanfodol ar gyfer y darlunio’n llawrydd. Meistrolwch y grefft o hunan-hyrwyddo gyda gwefan a chyfryngau cymdeithasol i hybu eich cyflogadwyedd.
Briff Cystadleuaeth
Cyfle arall i gynyddu eich arbenigedd proffesiynol ac i sicrhau bod llawer o bobl yn gweld eich gwaith. Mae ein myfyrwyr yn gyson lwyddiannus mewn llawer o wobrau a chystadlaethau cenedlaethol.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch chi’n dysgu
Bydd eich profiad ar y cwrs yn adlewyrchiad agos o arferion y diwydiant, ac felly yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y byd go iawn. Byddwch yn treulio tua 80% o'ch amser yn y stiwdio, yn meithrin eich sgiliau ymarferol ac yn gweithio ar eich portffolio. Mae gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn ymuno'n aml i gyflwyno prosiectau byw, gan gynnwys gwaith grŵp. Mae'r cwrs yn addasu i dueddiadau’r diwydiant, gan roi rhyddid creadigol i chi fynd i'r afael â briffiau mewn gwahanol gyfryngau. Ymdrinnir â damcaniaeth mewn darlithoedd a seminarau rhyngweithiol, a chaiff eich dealltwriaeth ei hasesu trwy waith cwrs ysgrifenedig a chyflwyniadau – nid oes arholiadau.
Y staff dysgu
Mae ein staff yn arweinwyr o fewn y diwydiant ac mae ganddynt brofiad o’r byd go iawn, yn cynnwys cyfarwyddwr animeiddio gynt gyda Disney a Nickelodeon a darlunydd gyda chylchgronau a phapurau newyddion rhyngwladol. Byddant yn eich cynorthwyo chi i ddarganfod ac i gywreinio eich arddull greadigol unigryw chi eich hun, ac yn cynnig cyfarwyddyd personol fydd yn gweddu i’ch talentau. Gyda’u cysylltiadau â’r diwydiant byddwch yn gallu manteisio ar leoliadau gwaith gwerthfawr, briffiau byw, a phrosiectau gwadd. Yn ogystal â hyn maent ar gael o hyd i roi cefnogaeth bersonol i chi drwy gydol eich taith.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/design/ba-illustration-teaching.jpg)
Lleoliadau Gwaith a Phrofiad Gwaith
Drwy gydol eich amser ar y cwrs, bydd gennych ystod eang o gyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith. Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn mynd i’r afael â phrosiect mawr gydag arweinwyr o fewn y diwydiant megis Cloth Cat Animation, Grŵp Lluniau Hachette, neu Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Byddwch hefyd yn cyfrannu at Ŵyl Trochi adnabyddus Prifysgol De Cymru, gan ddarlunio murluniau a mapiau ar gyfer yr ŵyl. Bydd staff y cwrs a’n tîm gyrfaoedd yn eich helpu i drefnu lleoliadau ychwanegol os oes gennych ddiddordeb. Mae cyn-fyfyrwyr wedi gweithio i Orielau Celf Efrog Newydd, wedi dysgu celf trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhatagonia, wedi dylunio bagiau ar gyfer graddedigion Prifysgol De Cymru, ac wedi arwain gweithdai celf gydag ysgolion a grwpiau cymunedol lleol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/design/ba-illustration-placements.jpg)
Cyfleusterau
wedi i chi allu manteisio ar yr offer a’r dechnoleg ddiweddaraf sydd gan y brifysgol byddwch yn barod i weithio o fewn y diwydiant. Yng nghanolfan greadigol ein campws yng Nghaerdydd, byddwch yn gweithio gyda stiwdios proffesiynol. Byddwch hefyd yn gallu defnyddio ardaloedd cydweithio cymdeithasol, ystafell Mac gyda thabledi darlunio a meddalwedd Adobe, ac offer arbenigol fel argraffu digidol Risograph, argraffwyr 3D, a thorwyr laser. Bydd y profiad ymarferol hwn yn eich paratoi i gychwyn yn syth bin mewn unrhyw stiwdio y byddwch yn ymuno â hi.
Offer
Ar ein Campws yng Nghaerdydd, mae gennym ni amrywiaeth eang o offer y byddwch chi'n cael eich hyfforddi i'w defnyddio fel rhan o'ch cwrs. I helpu i gefnogi eich astudiaethau, mae gennym gyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau sy'n eich galluogi i logi'r offer, am ddim, fel y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich aseiniadau a'ch gwaith ymarferol. Mae gennym ni gamerâu ffilm a ffotograffiaeth sylfaenol ac o’r radd flaenaf, offer goleuo a sain cludadwy yn ogystal ag amrywiaeth o ficroffonau a ddefnyddir mewn stiwdios proffesiynol, offerynnau ac offer cysylltiedig i'w defnyddio yn ein stiwdios cerddoriaeth neu ar leoliad. Mae'r tîm o swyddogion technegol a hyfforddwyr hefyd ar gael i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau a materion technegol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/design/ba-illustration-facilities.jpg)
Gofynion mynediad
pwynt tariff UCAS: 96
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: CCC
- Bagloriaeth Cymru: Pasio Diploma Bagloriaeth Uwch Cymru gyda Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a CC ar Lefel A gyda phwnc celf a dylunio perthnasol
- BTEC: Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc perthnasol
- Mynediad i AU: Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 96 pwynt tariff UCAS
Gofynion ychwanegol:
TGAU: Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,535
fesul blwyddyn*£15,850
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch
astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Mae PDC yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau sylfaenol, ond rydym yn eich annog i gael eich deunyddiau dewisol eich hun i'w defnyddio ar gyfer gwaith wedi'i gyfarwyddo.
Deunyddiau Lluniadu:
- Set o bensiliau graffit (yn amrywio o 2H i 6B) Pensiliau lliw o Pris Manwerthu a Argymhellir (RRP) £8
- Pennau blaen ffelt RRP £10
- Pennau llinellu cain (meintiau nib amrywiol) RRP £8.99
- Pen brwsh RRP £4
- Rhwbiwr RRP £1.99
- Naddwr RRP £3
- Ffon fesur fetel £2.99
- Dolen Llafn Sgalpel (gyda Llafnau 10A ) RRP £4.99
Cyflenwadau Paentio:
- Paentiau dyfrlliw (set fach o diwbiau neu set badell) Brwshis Paent o (meintiau a siapiau amrywiol) RRP £13.99
- Palet ar gyfer cymysgu lliwiau RRP £5.25
- Cynwysyddion dŵr
Offer Digidol:
- Gyriant bawd allanol ar gyfer ffeiliau wrth gefn (32GB neu uwch) RRP £14.99
Amrywiol:
- Ffolder Portffolio A3 neu ffolder ar gyfer storio a chyflwyno eich gwaith celf RRP £6.99
- Bag braslunio neu fag ysgwydd i gario eich deunyddiau
- Llyfr Braslunio A4 Personol RRP £3.99
- Llyfr Braslunio A3 Personol RRP £5.99
- Llyfr nodiadau a phen ar gyfer cymryd nodiadau yn ystod dosbarthiadau a beirniadaethau (ar wahân i'ch llyfr braslunio) RRP £2.00
Cost: I fyny at £150
Wrth i'r cwrs fynd rhagddo, mae'n ddefnyddiol cael eich gliniadur eich hun, ond bydd gennych fynediad at yr holl gyfarpar TG dros y tair blynedd. Mae costau gliniadur yn amrywio yn dibynnu ar eich dewisiadau a'ch cyllideb eich hun.
Cost: I fyny at £300
Weithiau, efallai y bydd gofyn i chi argraffu canlyniadau darluniadol ar gyfer modiwlau penodol, briffiau byw, cyflwyniadau i gleientiaid neu asesiadau. Mae'r costau'n amodol ar ofynion unigol.
Cost: I fyny at £200
Bydd teithiau maes sy'n rhan o ddysgu craidd yn cael eu talu gan y cwrs. Trefnir ymweliadau ychwanegol o bryd i'w gilydd sy'n ddewisol ac efallai y gofynnir i fyfyrwyr rannu'r costau. Bydd y teithiau dewisol hyn yn amrywio o £20 ar gyfer teithiau lleol i £500 ar gyfer teithiau rhyngwladol.
Cost: I fyny at £500
Benthyca Offer Cyfryngau
Gallwch logi amrywiaeth o offer, ar gyfer eich aseiniadau a’ch gwaith ymarferol, am ddim o’n cyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau.
Benthyca Offer CyfryngauSicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Roedd 92% o fyfyrwyr BA (Anrh) Darlunio PDC yn fodlon ar eu cwrs. (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024)
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.