Abby O'Brien

Roedd Caerdydd a PDC yn baru'n berffaith ar gyfer fy ngyrfa ddylunio

Dylunio
Graphic Communications student smiling at camera. She is wearing a black leather jacket and there are green chairs in the background.

Roedd egni deinamig, creadigol Caerdydd yn atyniad enfawr, ac roeddwn yn gwybod fy mod wedi dod o hyd i’r lle iawn.


Dod o hyd i'r lle iawn i astudio

Dw i wedi gwybod erioed fy mod i eisiau gweithio ym myd graffeg ond doeddwn i ddim yn siŵr ble i astudio nes i fy narlithydd coleg argymell PDC. Daliodd y cwrs hwn fy llygad oherwydd ei fod yn fodern a thechnegol, yn canolbwyntio ar sgiliau dylunio digidol yn hytrach na dulliau argraffu traddodiadol yn unig. Roedd egni deinamig, creadigol Caerdydd yn atyniad enfawr, ac roeddwn yn gwybod fy mod wedi dod o hyd i’r lle iawn.

Mae astudio yma wedi agor cymaint o gysylltiadau diwydiant a chyfleoedd ymarferol. Bob blwyddyn, rydyn ni’n gweithio ar friffiau byd go iawn gan gwmnïau lleol, a dw i wedi cael cyfle i gydweithio â sefydliadau fel Heddlu Gwent a’r Bathdy Brenhinol. Mae pob prosiect yn cynnig her unigryw, ac mae’r profiadau hyn wedi dangos i mi sut beth yw gweithio yn y diwydiant. Hefyd, mae bod o gwmpas cyd-ddisgyblion sy'n rhannu angerdd am ddylunio yn creu amgylchedd mor gefnogol ac ysbrydoledig.

Dewch o hyd i'ch cwrs

BOB BLWYDDYN, RYDYN NI’N GWEITHIO AR FRIFFIAU BYD GO IAWN GAN GWMNÏAU LLEOL... MAE POB PROSIECT YN CYNNIG HER UNIGRYW, AC MAE’R PROFIADAU HYN WEDI DANGOS I MI SUT BETH YW GWEITHIO YN Y DIWYDIANT.

Abby O'Brien

Myfyriwr Cyfathrebu Graffeg

Byw a dysgu yng Nghaerdydd

Mae byw yng Nghaerdydd ond wedi gwella fy mhrofiad. Mae cymuned greadigol y ddinas yn fywiog, gyda digon o ddigwyddiadau, arddangosfeydd, a gofodau sy'n dod â phobl ynghyd. Mae’r cyfleusterau yn PDC o’r radd flaenaf, gydag adnoddau fel rhentu MacBook, offer camera, ac offer VFX sy’n ein helpu i ddod â’n syniadau’n fyw.

Ar ôl graddio, dw i'n gobeithio ymuno ag asiantaeth ddylunio. Fy nghyngor i fyfyrwyr y dyfodol? Plymiwch i mewn, archwiliwch bob cyfle, a gwnewch y mwyaf ohono - mae'r cwrs hwn yn brofiad gwych sy'n cynnig cymaint os ydych chi'n barod i ymgolli ynddo!

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Diddordeb mewn Dylunio?

Mae ein cyrsiau dylunio yn cael eu creu gyda diwydiant mewn golwg a'n nod yw eich paratoi ar gyfer y gweithle erbyn i chi raddio.