Yn PDC rydych chi’n cychwyn o'r dechrau ac mae’n cynnig cefnogaeth wych bob cam o'r ffordd.
Dewis astudio Dylunio Setiau Teledu a Ffilm ym Mhrifysgol De Cymru
Leah ydw i, myfyriwr trydedd flwyddyn mewn Dylunio Setiau Teledu a Ffilm yn PDC. Wrth dyfu i fyny, fe wnes i ddilyn celf fel hobi wrth ganolbwyntio ar bynciau academaidd, ond daeth fy angerdd am adrodd straeon gweledol yn wir yn ystod Astudiaethau Ffilm Safon Uwch. Roedd dysgu sut mae elfennau fel addurniadau set yn cyfrannu at adeiladu bydoedd a gyrru naratifau yn gwneud i mi sylweddoli mai dyna roeddwn i eisiau ei wneud.
Ar ôl ymchwilio a siarad â’m tiwtoriaid, des i o hyd i gwrs PDC mewn Dylunio Setiau Teledu a Ffilm, sy’n cyfuno dysgu ymarferol â sgiliau technegol ac sydd â chysylltiadau cryf â diwydiant - rhywbeth sy’n ei osod ar wahân i opsiynau eraill.
Dewch o hyd i'ch cwrsGwneud y gorau o gyfleoedd
Ar y cwrs, dw i wedi cael cyfleoedd anhygoel i gysylltu â’r diwydiant, fel gweithio ar ffilmiau byr gyda myfyrwyr MA a mynychu digwyddiadau rhwydweithio. Rydym wedi cael siaradwyr gwadd sydd wedi gweithio ar sioeau fel Doctor Who, sydd wedi cynnig cipolwg ar gymwysiadau byd go iawn. Mae'r cwrs wedi rhoi ystod eang o sgiliau technegol i mi, o AutoCAD i Photoshop, sy'n hanfodol ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol mewn addurno set, dylunio graffeg, a phropiau.
Mae byw yng Nghaerdydd wedi bod yn ddelfrydol – mae’n ganolbwynt creadigol ond yn hygyrch ac yn hawdd i’w lywio. Dw i’n mwynhau'r sîn gerddoriaeth ddeinamig a'r holl adnoddau cyfagos sy'n cyfoethogi fy nghwrs a fy mywyd cymdeithasol. I unrhyw un sy'n ystyried y llwybr hwn, byddwn i'n dweud peidiwch â phoeni am sgiliau technegol; yn PDC rydych chi’n cychwyn o'r dechrau ac mae’n cynnig cefnogaeth wych bob cam o'r ffordd.
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Dylunio?
Mae ein cyrsiau dylunio yn cael eu creu gyda diwydiant mewn golwg a'n nod yw eich paratoi ar gyfer y gweithle erbyn i chi raddio.