Cyfathrebu Graffeg
Lluniwch syniadau ystyrlon trwy ddylunio pwerus.
Sut i wneud cais Gwneud gais drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Côd UCAS
W212
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Caerdydd
Côd y Campws
B
Pwyntiau UCAS
96
Myfyrwyr rhyngwladol: £17,600*
Côd UCAS
WF13
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Caerdydd
Côd y Campws
B
Pwyntiau UCAS
96
Trosolwg o'r Cwrs
Mae cyfathrebu graffeg yn canolbwyntio ar ddiwydiant y dyfodol, ac yn cael ei ddysgu gan ddylunwyr gweithredol sy’n barod i rannu eu gwybodaeth.
Os ydych chi'n frwd dros ffurfio darnau clyfar o gyfathrebu gweledol a defnyddio offer digidol arloesol i gynhyrchu dyluniadau gydag effaith yn y byd go iawn, yna dyma’r cwrs i chi.
Pam astudio'r cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei astudio
Bydd eich blwyddyn gyntaf yn ymdrin ag egwyddorion dylunio, meddylfryd dylunio, ac yn archwilio cyfnodau chwyldroadol yn hanes dylunio.
Byddwch yn profi llawer o heriau ymarferol.
Cychwynnwch y cwrs gyda chyfres o weithdai cyffrous er mwyn datblygu gwybodaeth ymarferol o’r modd y mae dylunwyr masnachol yn defnyddio egwyddorion i ddylunio cyfathrebiadau gweledol effeithiol.
Anogwch eich chwilfrydedd a'ch dealltwriaeth o broses sy’n ymwneud â meddylfryd dylunio wrth i chi gymhwyso dulliau a thechnegau dylunio i ddatrys heriau dylunio ymarferol.
Ymchwiliwch a dysgwch am y modd yr esblygodd dylunio graffeg trwy gydol hanes mewn uned waith gyffrous sy’n seiliedig ar ymchwil a fydd yn rhoi dealltwriaeth allweddol i chi o gyfnodau hanesyddol o fewn maes dylunio graffeg.
Dysgwch sut i gyfleu negeseuon cymhleth gyda data a deall sut y gall graffeg gwybodaeth annog newid ymddygiad a llywio canfyddiadau'r cyhoedd.
Dysgwch sut y gall maes dylunio ddylanwadu ar ymddygiad pobl trwy ymgyrchoedd ac ymwybyddiaeth. Trwy brosiect ymarferol, byddwch yn dysgu sut y gellir defnyddio dylunio ar gyfer newidiadau cymdeithasol cadarnhaol.
Arbrofwch â theipograffeg fel elfen hanfodol o gyfathrebu gweledol a datblygwch eich cariad a'ch hyder creadigol gyda theip fel ffurf gelfyddydol a gwybodaeth glerigol.
Byddwch yn ymarfer arbenigedd gan gynnwys brandio, graffeg symudol, UX a dylunio digidol.
Byddwch yn ymchwilio i asiantaethau dylunio, entrepreneuriaeth ac yn datblygu eich dealltwriaeth o ymchwil dylunio sy'n canolbwyntio ar bobl.
Dysgwch sut i ddeall ac yna, drwy ddylunio graffeg, sut i gynrychioli'n weledol weledigaeth y cwmni neu eu gwerthoedd, eu hymddygiad, eu hagwedd, eu cynnyrch, eu gwasanaethau a’u cynulleidfa.
O ddilyniannau teitl ffilm, rhyngwynebau gêm i frandiau symudol, mae dealltwriaeth o raffeg symudiad yn un o’r elfennau hollbwysig o adnoddau’r dylunwyr modern.
Cewch gipolwg gwerthfawr i fusnes dylunio wrth i chi ddysgu beth sydd ei angen i redeg eich asiantaeth chi eich hun. Byddwch yn dysgu adnabod anghenion busnesau a sefydliadau.
Dysgwch sut i ddefnyddio ymchwil dylunio i ddeall ymddygiad dynol yn well, adnabod anghenion pobl ac ennyn y ddealltwriaeth sydd ei hangen i greu atebion dylunio ystyrlon y gall pobl yn eu gwerthfawrogi.
Dewch i gyfarwyddo â maes newydd Dylunio UX, gan fabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, er mwyn dysgu sut i ddylunio'n well ar gyfer gofodau digidol a gofodau yn y byd go iawn.
Ymgollwch ym myd dylunio digidol mewn ffordd ymarferol, lle byddwch chi'n dysgu i weithio mewn timau digidol gan ddefnyddio technolegau digidol fel ffotograffiaeth, animeiddio, dylunio 2D a 3D.
Byddwch yn datblygu eich proffesiynoldeb a’ch portffolio ac yn ymchwilio briffiau dylunio a ddewiswyd gennych chi eich hun ar gyfer yr yrfa yr hoffech yn y dyfodol.
Byddwch yn arddangos eich gwaith i’r diwydiant mewn arddangosfa i raddedigion.
Dysgwch y sgiliau sydd eu hangen arnoch i fwynhau gyrfa o fewn y maes dylunio gyda'n rhaglen hyfforddi greadigol trwyadl. Byddwch yn cymryd rhan mewn cyfres o friffiau a bydd yn rhaid i chi eu cwblhau o fewn amser penodol. Fe’u cyflwynir i chi gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol o fewn y diwydiant.
Byddwch yn creu hunaniaeth i’ch brand proffesiynol ac yn curadu eich portffolio creadigol yn seiliedig ar ryngweithio ac ymchwilio i'r hyn y mae asiantaethau dylunio yn chwilio amdano mewn dylunwyr yn y dyfodol.
‘Meddyliwch yn Eang’ a datblygwch eich syniadau gorau er mwyn darparu atebion creadigol i rai o heriau dylunio mwyaf y byd. Gweithiwch ar friff dylunio gan asiantaethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Ymchwiliwch i bwnc dylunio o'ch dewis chi eich hun i ddarganfod heriau dylunio newydd. Dyluniwch a chyhoeddwch eich canlyniadau yn eich dogfen ymchwil.
Dyma'ch cyfle i weithio ar eich briff dylunio hunangyfeiriedig eich hun a gwthio'ch sgiliau dylunio er mwyn i chi allu dangos eich sgiliau i ddarpar gyflogwyr y dyfodol.
Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Addysgu ac Asesu
Byddwch yn dysgu drwy weithdai ymarferol, prosiectau byw a darlithoedd gwadd, byddwch yn mynd i'r afael â heriau dylunio creadigol, yn archwilio eich diddordebau ac yn adeiladu portffolio proffesiynol. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn datblygu'r sgiliau, yr hyder a'r profiad diwydiant sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn dylunio graffeg.
Mae'r asesiad yn seiliedig ar waith cwrs yn bennaf, gyda phwyslais cryf ar brosiectau dylunio ymarferol, briffiau creadigol a datblygu portffolio. Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfuniad o waith dylunio, cyflwyniadau, prosiectau ymchwil a gweithgareddau ymarfer proffesiynol, gan ganiatáu ichi arddangos eich creadigrwydd, eich sgiliau technegol a'ch syniadau dylunio drwy gydol y cwrs.
Ar y cwrs ymarferol hwn, cewch eich annog i sicrhau lleoliadau sydd o ddiddordeb i chi, boed hynny gydag asiantaeth leol yng Nghaerdydd, brand neu elusen genedlaethol, neu hyd yn oed sefydliad fel y BBC neu Heddlu Gwent.
Mae llawer o'n myfyrwyr dylunio yn manteisio ar gyfleoedd llawrydd a lleoliadau diwydiant ochr yn ochr â'r cwrs trwy ddod i gysylltiad â chleientiaid, ymarferwyr diwydiant ac asiantaethau dylunio o fewn ein rhwydwaith proffesiynol.
Nid oes terfyn ar brofiad ein myfyrwyr dylunio ym mhob math o sefydliadau, ac mae myfyrwyr wedi mwynhau gweithio mewn amrywiaeth o leoedd fel yr asiantaeth Martin Hopkins, Bright Collie a'r BBC.
Wedi'i leoli yng nghanol Caerdydd, bydd gennych fynediad uniongyrchol at gyfleusterau arbenigol ar y campws gan gynnwys Stiwdio Cipio Sgrin Werdd, cyfleusterau Argraffu 3D, peiriannau torri laser, stiwdios ffotograffiaeth ac argraffyddion. Mae ein stiwdios dylunio â'r Macs diweddaraf gydag Apple Silicon, meddalwedd arbenigol (Adobe Creative Cloud, Cinema 4D a Figma), yn ogystal â Thabledi Wacom Graphics i'ch helpu chi.
Gallwn hefyd gynnig offer arbenigol fel camerâu DSLR, MacBooks, iPads, lensys camera a phecynnau goleuo y gellir eu benthyca trwy ein gwasanaethau benthyg. Mae'r llyfrgell hefyd yn cynnig ystod eang o lyfrau dylunio, cylchgronau a chyfnodolion.
Arweinydd y Cwrs
Stephen Leadbetter
Stephen Leadbetter yw Arweinydd y Cwrs BA (Anrh) Cyfathrebu Graffeg, ac mae'n ddylunydd arobryn sydd â phrofiad yn y diwydiant ar draws brandio, dylunio UX/UI a graffeg symudol. Gan dynnu ar ei waith gydag asiantaethau creadigol ledled y DU, mae Stephen yn creu amgylchedd dysgu ymarferol sy'n helpu myfyrwyr i feithrin sgiliau sy'n barod ar gyfer y diwydiant, datblygu eu harfer creadigol a pharatoi am yrfaoedd yn y diwydiant dylunio.
Gofynion Mynediad
Gofynion ychwanegol
TGAU: Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni96 Pwyntiau UCAS neu'n uwch
Gofynion cymhwyster nodweddiadol
Lefel A:
CCC i gynnwys pwnc celf a dylunio perthnasol
Bagloriaeth Cymru:
Pasio Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru gyda Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a CC Lefel A gyda phwnc celf a dylunio perthnasol
BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc celf a dylunio perthnasol
Mynediad i AU:
Pasio'r Diploma Mynediad i AU mewn pwnc celf a dylunio perthnasol gydag o leiaf 96 pwynt tariff UCAS
Safon T:
Pasio (C ac uwch) mewn pwnc celf a dylunio perthnasol
Ffioedd a Chyllid
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Deunyddiau fesul blwyddyn
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr brynu llyfrau braslunio i ddogfennu eu proses ddylunio wrth ymgymryd ag aseiniadau ymarferol. Gall myfyrwyr hefyd ddewis prynu deunyddiau neu ddeunydd ysgrifennu arbenigol ychwanegol megis pennau rendro, pensiliau technegol a stensiliau siâp i gefnogi eu hymarfer. Mae gan y llyfrgell amrywiaeth o lyfrau dylunio i gefnogi dysgu myfyrwyr, ond efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu eu copi preifat eu hunain. Mae'r costau yn amodol ar ofynion unigol.
Cost: I fyny at £250
Costau Argraffu ac Arddangos
Efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr argraffu canlyniadau wedi'u dylunio ar gyfer modiwlau penodol ar gyfer briffiau byw, cyflwyniadau i gleientiaid ac asesiadau. Mae'r costau yn amodol ar ofynion unigol.
Cost: I fyny at £300
Dyfeisiau Digidol
Mae myfyrwyr yn aml yn prynu dyfeisiau digidol sy'n berthnasol i'w harfer. Gall y rhain gynnwys un neu sawl Apple iMacs, MacBook Pros, iPad Pros, cyfrifiaduron, gliniaduron, neu Gamera DSLR. Mae'r costau yn ddarostyngedig i ofynion unigol. Mae offer hefyd ar gael i'w fenthyg trwy wasanaethau'r brifysgol.
Cost: £400-£1600
Perifferolion
Mae myfyrwyr yn aml yn prynu perifferolion digidol ychwanegol fel Tabledi Graffig Wacom, Apple Magic Mouse (neu frand arall), Apple Pencil (neu frand arall), storio allanol neu storio cwmwl a Monitorau allanol. Costau yn amodol ar ofynion unigol. Mae offer hefyd ar gael i'w fenthyg trwy wasanaethau'r brifysgol.
Teithiau Maes
Taith maes i leoliad rhyngwladol.
Cost: £900 - £1,200
Fesul blwyddyn

Benthyciadau Cyfryngau
Mynnwch fynediad at gamerâu, offer goleuo, sain ac offer recordio o safon y diwydiant, gyda chymorth gan ein gwasanaeth Benthyciadau Cyfryngau am ddim a thechnegwyr profiadol. Mae gennym bopeth sydd ei angen arnoch i'ch helpu i arbrofi, mireinio a dod â'ch gwaith yn fyw'n hyderus.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.
Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
-
Apply direct
Cyfathrebu Graffeg
-
Gyda Blwyddyn Ryngosod, 4 blynedd
-
Medi
-
Caerdydd
-
-
Apply direct
Cyfathrebu Graffeg
-
Llawn Amser, 3 blynedd
-
Medi
-
Caerdydd
-
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.