James Frith

Dod â straeon yn fyw yn PDC

Dylunio
TV and Film Set Design student smiling away from camera

Mae'r cwrs yn cwmpasu popeth o wneud modelau a chelf cysyniad i luniadu technegol a gwaith ffilm ymarferol.


Fy nhaith hyd yn hyn

Dw i ym mlwyddyn olaf y cwrs BA (Anrh) Dylunio Setiau Teledu a Ffilm yn PDC. Dewisais y cwrs hwn oherwydd ei amrywiaeth—mae'n cwmpasu popeth o wneud modelau a chelf cysyniad i luniadu technegol a gwaith ffilm ymarferol. Mae pob maes yn fy ngalluogi i blymio i mewn i wahanol agweddau ar adrodd straeon a dylunio, gan ei wneud yn gyfuniad perffaith o sgiliau celf a sgiliau ymarferol.

Darganfyddais y cwrs am y tro cyntaf trwy gyflwyniad coleg, ac ar ôl archwilio PDC ymhellach mewn Diwrnod Agored, roeddwn wedi gwirioni. Roedd cwrdd â thiwtoriaid a sgwrsio un i un am ffocws y cwrs ar gelfyddyd a chymwysiadau’r byd go iawn wedi selio fy mhenderfyniad. Mae cysylltiadau diwydiant y Brifysgol, yn enwedig gyda stiwdios yng Nghaerdydd, wedi bod yn amhrisiadwy. Trwy’r cysylltiadau hyn, dw i wedi cael profiad ymarferol, gan gynnwys gweithio gydag ITV ar bropiau a chynorthwyo gyda menter It’s My Shout y BBC.

Un o fy mhrosiectau mwyaf balch fu cynllunio byd ar gyfer y llyfr A Confusion of Princes—roedd yn heriol ond yn hynod o foddhaus dehongli a dod â lleoliad yn fyw o’r testun yn unig. Dim ond cyfoethogi’r profiad hwn y mae byw yng Nghaerdydd; mae pensaernïaeth amrywiol a sîn greadigol y ddinas yn ysbrydoli fy ngwaith yn barhaus. Mae bywyd myfyrwyr yma yn fywiog, gyda digwyddiadau fel nosweithiau animeiddio misol yn dod â'r cwrs cyfan at ei gilydd y tu allan i ddosbarthiadau.

Dewch o hyd i'ch cwrs

Dw i wedi cael profiad ymarferol, gan gynnwys gweithio gydag ITV ar bropiau a chynorthwyo gyda menter It’s My Shout y BBC.

James Frith

Myfyriwr Dylunio Setiau Teledu a Ffilm

Edrych ymlaen at yrfa greadigol

Ar ôl graddio, dw i’n gobeithio gweithio mewn celf cysyniad, yn ddelfrydol mewn adran gelf fawr lle gallaf ddechrau fel cynorthwyydd a gweithio fy ffordd i fyny. Mae'r cwrs hwn wedi darparu'r sgiliau technegol a'r hyder sydd eu hangen arnaf i gyflawni fy nodau mewn dylunio setiau a chelf cysyniad.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Diddordeb mewn Dylunio?

Mae ein cyrsiau dylunio yn cael eu creu gyda diwydiant mewn golwg a'n nod yw eich paratoi ar gyfer y gweithle erbyn i chi raddio.