Meg Kingsbury

Dod â syniadau yn fyw trwy Ddarlunio

Dylunio
Illustration student smiling, looking away from the camera, whilst working on a project

Mae Caerdydd wedi bod yn anhygoel o ran fy natblygiad artistig.


Astudio Darlunio yn PDC 

Mae celf wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd erioed. Ro’n i’n cael fy annog gartref i fynd ar drywydd celf, ac yn ystod Covid, tra’n astudio arholiadau TGAU, ro’n i’n canolbwyntio ar gelf fwy nag erioed. I ddechrau, ro’n i’n ystyried gyrfa ym maes gwyddorau milfeddygol, ond daeth fy nghariad at ddarlunio i’r brig. Mae’n rhywbeth dw i wir yn angerddol drosto, a dw i wedi bod yn un sy’n dilyn fy ngreddf erioed.   

Dewisais PDC oherwydd ro’n i eisiau symud i ddinas fyddai’n ysbrydoli fy nghelf. Mae Caerdydd yn ddeinamig, yn greadigol ac wedi’i lleoli y pellter perffaith o’m tref enedigol, Cheltenham. Er na wnes i ddod i Ddiwrnod Agored, ro’n i’n teimlo’n hyderus mai dyma’r lle iawn i mi - ac yn wir, dyna’r dewis cywir.  

Dewch o hyd i'ch cwrs

DW I WEDI CAEL CYFLEOEDD GWYCH YN Y DIWYDIANT, GAN GYNNWYS PROSIECT GYDA MUSIC TO CLARE’S EMERGENCY, CYNGOR CAERDYDD A SUSTAINABLE STUDIOS.

Meg Kingsbury

Myfyriwr Darlunio

Prosiectau creadigol a dyheadau gyrfa 

Yn ystod fy amser yma, dw i wedi cael cyfleoedd gwych yn y diwydiant, gan gynnwys prosiect gyda Music to Clare’s Emergency, Cyngor Caerdydd a Sustainable Studios.  Rydyn ni hefyd wedi gweithio ar friffiau byw, gan gynnwys prosiectau dylunio ar gyfer teledu. Fy hoff brofiad hyd yma oedd gweithio ar furlun; roedd yn gyfle unigryw, a dw i’n ddiolchgar iawn amdano.  

O ran fy nyfodol, dw i’n archwilio llwybrau gyrfa amrywiol gyda help y tîm gyrfaoedd - maen nhw’n hynod gefnogol! Fy nghyngor i ddarlunwyr y dyfodol? Dal ati i ymarfer - peidiwch â cholli brwdfrydedd. Mae darlunio’n rheolaidd yn cadw’r creadigrwydd yn fyw!   

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Diddordeb mewn Dylunio?

Mae ein cyrsiau dylunio yn cael eu creu gyda diwydiant mewn golwg a'n nod yw eich paratoi ar gyfer y gweithle erbyn i chi raddio.