/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/04-profiles/41-undergraduate-student/profile-ug-design-ollie-clutton-latham-57072.jpg)
Mae’r staff wir yn ymgysylltu â chi - mae’n debyg i gael mentor yn hytrach na darlithydd.
Pam y dewisais PDC
Roedd fy nhaith i Gyfathrebu Graffeg yn eithaf unigryw. I ddechrau, doeddwn i’m yn siŵr beth ro’n i eisiau ei wneud, ond ar ôl mynd i Ddiwrnod Agored a sgwrsio gyda’r arweinwyr cwrs, Ryan a Stephen, gwelais cymaint roedd y cwrs yn canolbwyntio ar y diwydiant a’r manylder o ran cynnwys. Ro’n i wedi ystyried meysydd fel darlunio ac animeiddio, ond roedd Cyfathrebu Graffeg yn teimlo’n fwy fel llwybr gyrfa pendant.
Mae’r campws yn ddelfrydol ar gyfer creadigrwydd, gydag adnoddau i safon y diwydiant fel ystafelloedd sgrin gwyrdd a chyfleusterau llogi camerâu sy’n ein galluogi i archwilio amrywiaeth o’r cyfryngau. Mae’r staff yn ymgysylltu â chi go iawn - mae’n debyg i gael mentor yn hytrach na darlithydd.
Dewch o hyd i'ch cwrsProfiad bywyd go iawn a dyheadau i’r dyfodol
Mae’r profiad ymarferol wedi bod yn ffantastig. Yn ein blwyddyn gyntaf, buom yn gweithio ar friff byw ar ran Heddlu Gwent, yn dylunio ymgyrch diogelwch dros yr haf ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Mae prosiectau bywyd go iawn fel hyn yn rhoi mewnwelediad amhrisiadwy i ni i’r diwydiant. Un o fy hoff brosiectau oedd modiwl teipograffeg lle dyluniais ffug ymgyrch ar gyfer Amgueddfa Caerdydd, yn creu cyfres o bosteri a hysbysebion ar gyfer arddangosfa ffug. Roedd cael rhyddid creadigol ac archwilio pwnc sy’n bwysig i mi yn ysbrydoledig.
Ar ôl graddio, dw i’n gobeithio dechrau mewn rôl dechrau gyrfa yn gweithio i asiantaeth. Yn y pen draw, hoffwn sefydlu fy asiantaeth fy hun. Fy nghyngor i ddarpar fyfyrwyr yw dechrau datblygu portffolio a dod i arfer ag adnoddau dylunio - bydd y cwrs yn eich helpu i ffynnu pan fyddwch chi’n barod i fynd ati.
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Dylunio?
Mae ein cyrsiau dylunio yn cael eu creu gyda diwydiant mewn golwg a'n nod yw eich paratoi ar gyfer y gweithle erbyn i chi raddio.