Filip Lewkowicz

Troi creadigrwydd yn yrfa

Dylunio
Interior Design student Filip sat in a workshop smiling whilst looking away from the camera

Mae PDC wedi rhoi’r cyfle i mi weithio ar brosiectau go iawn yn y diwydiant, cysylltu â gweithwyr proffesiynol ac archwilio agweddau gwahanol ar ddylunio.


Pam y dewisais PDC

Dw i wedi bod yn berson creadigol erioed, ac i mi, roedd astudio Dylunio Mewnol yn ddewis naturiol. Ers pan ro’n i’n ifanc, dw i wedi dwlu ar arbrofi gydag arlunio a gweithio ar brosiectau bach o amgylch y tŷ. Yn y coleg, cefais fy nghyflwyno i ddylunio mewnol drwy brosiect, a sylweddolais bod modd cyfuno creadigrwydd â’r elfen ymarferol ar ddylunio gofodau. 

Wrth ymchwilio i brifysgolion, roedd PDC yn sefyll allan. Roedd ei lleoliad yng Nghaerdydd - prifddinas nad yw’n llethol, ond sy’n unigryw iawn gyda’r arcedau, y siopau coffi a’r awyrgylch creadigol - yn ffactor mawr. Cadarnhawyd fy mhenderfyniad ar ôl mynd i Ddiwrnod Agored, oherwydd cefais weld drosof fi fy hun yr holl gyfleusterau, cymorth a chyfleoedd oedd ar gael.

Ymweld â ni yn Diwrnod Agored

RYDYN NI’N CYDWEITHIO AG ORANGE BOX AR FRIFF BYW, AC MAE GWEITHWYR PROFFESIYNOL Y DIWYDIANT YN AML YN DOD I YMWELD A RHOI CYMORTH.

Filip Lewkowicz

Myfyriwr Dylunio Mewnol

Profiad byd go iawn a chyngor i fyfyrwyr 

Un o uchafbwyntiau fy nghwrs yw’r cyfle i weithio ar friffiau byw gyda chwmnïau go iawn. Ar hyn o bryd, rydyn ni’n cydweithio ag Orange Box, cwmni dylunio dodrefn swyddfa blaengar. Mae gweithwyr proffesiynol y diwydiant yn aml yn ymweld i roi cymorth, sydd wedi bod yn amhrisiadwy i mi o ran rhwydweithio a chael cipolwg ar lwybrau gyrfa gwahanol.  

Mae amrywiaeth y cwrs wedi ennyn fy niddordeb. Un diwrnod, rydyn ni’n dylunio bwrdd, y diwrnod nesaf, rydyn ni’n cynllunio dyluniad mewnol bwyty cyfan. Fy nghyngor i ddarpar fyfyrwyr? Byddwch yn angerddol ac yn barod - gall bywyd prifysgol fod yn heriol, ond os ydych chi’n caru’r hyn rydych chi’n ei wneud, byddwch chi’n ffynnu.  

Dod o hyd i'ch cwrs

Diddordeb mewn Dylunio?

Mae ein cyrsiau dylunio yn cael eu creu gyda diwydiant mewn golwg a'n nod yw eich paratoi ar gyfer y gweithle erbyn i chi raddio.