Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth
Bydd y cwrs Meistr hwn yn eich helpu i ehangu eich galluoedd mewn nifer o feysydd cyfrifiadura modern, gan ganolbwyntio ar y sgiliau y mae cyflogwyr yn galw amdanynt yn y diwydiant TG heddiw.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsiwch â Ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/computing/msc-computing-and-information-systems.png)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£10,800*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£TBC*
Myfyrwyr rhyngwladol
£TBC*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£TBC*
Myfyrwyr rhyngwladol
£TBC*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£1,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio’r sgiliau hynny i helpu i ddatrys problemau yn y byd go iawn a datblygu i fod yn weithiwr TG proffesiynol cyflawn a chyflogadwy.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae ein cyrsiau'n addas ar gyfer unrhyw un sy'n angerddol am Gyfrifiadura, p'un a oes gennych gymhwyster ffurfiol sy'n seiliedig ar Gyfrifiadura yn barod neu beidio. Os oes gennych radd israddedig sy’n seiliedig ar gyfrifiadura, bydd y cwrs hwn yn rhoi hwb i'ch sgiliau hyd at lefel Meistr, gan roi hwb i'ch gyrfa. Ond os yw eich profiad cyfrifiadurol yn fwy anffurfiol, mae hon yn ffordd wych o ffurfioli eich sgiliau - rydym wedi cael graddedigion llwyddiannus o lawer o gefndiroedd eraill yn ffynnu ar y cwrs hwn.
Wedi’i achredu gan
- BCS, Y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG
Llwybrau Gyrfa
- Datblygwr Cymwysiadau
- Gweinyddwr Cronfa Ddata
- Rheolwr Prosiect TG
- Datblygwr Gwefannau
- Peiriannydd Rhwydwaith
Sgiliau a addysgir
- Datblygu Meddalwedd
- Dadansoddi Data
- Rheoli Prosiectau
- Datblygu Cronfeydd Data
- Rhaglennu
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Cwrs
Mae'r cwrs yn adeiladu ar yr egwyddorion cyntaf, gan wneud yn siŵr bod gennych y set sgiliau cywir i symud ymlaen cyn mynd â'ch ymhellach i'r pwnc. Mae'r amserlen wedi'i dylunio'n ofalus i sicrhau eich bod yn barod ar gyfer pynciau dilynol ac yn gallu atgyfnerthu a gwella'ch sgiliau wrth fynd ymlaen.
Byddwch yn astudio nifer o fodiwlau gorfodol yn ychwanegol at eich dewis o un o dri modiwl dewisol, cyn rhoi’r cyffyrddiadau terfynol i’ch cymhwyster drwy gwblhau prosiect mewn pwnc o’ch dewis. Gallwch astudio'r cwrs hwn dros ddwy flynedd fel myfyriwr rhan-amser os yw'n well gennych.
Egwyddorion Cyfrifiadura
Byddwch yn dechrau drwy astudio’r modiwl hwn a fydd yn eich paratoi ar gyfer gweddill y cwrs, gan roi sgiliau allweddol i chi mewn rhaglennu a chronfeydd data sy’n sylfaen i systemau cyfrifiadura a gwybodaeth.
Datblygu Meddalwedd
Byddwch yn defnyddio nifer o ddulliau rhaglennu ymarferol sy’n eich galluogi i gynllunio, dylunio a datblygu datrysiadau priodol i broblemau.
Data Mawr a Dadansoddeg
Mae sefydliadau heddiw yn casglu setiau data enfawr sy’n ehangu drwy’r amser. Yma, cewch wybod sut y gellir rheoli setiau data o’r fath ac, yn bwysicach fyth, sut y gallwn wneud rhywbeth defnyddiol yn ei sgil.
Datblygu Systemau TGCh
Datblygwch eich sgiliau ym maes cronfeydd data ymhellach fyth, wrth i chi ddysgu mwy am y technolegau a ddefnyddir a’u cymhwyso i broblemau cymhleth, yn enwedig mewn cyd-destunau daearyddol.
Rheoli Diogelwch
Gallwch ddewis dysgu am yr offer a'r technegau a ddefnyddir i ddiogelu a rheoli systemau gwybodaeth yn y modiwl dewisol hwn.
Technolegau Rhwydweithio
Efallai y byddwch yn dewis datblygu sgiliau sy'n eich helpu i ddylunio a chynnal rhwydweithiau cyfrifiadurol yn y modiwl dewisol amgen hwn.
Egwyddorion ac Ymarfer Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS)
Neu fe allech ffocysu ar y ffordd y gellir dadansoddi a delweddu data gofodol i ddatrys problemau yn y byd go iawn yn y trydydd modiwl dewisol hwn.
Methodoleg Ymchwil a Rheoli Prosiectau
Paratowch eich hun ar gyfer modiwl y prosiect, wrth i chi ddysgu sut i ddefnyddio gwaith pobl eraill i gefnogi eich gwaith ymchwil eich hun a dewis strategaethau priodol i fynd i'r afael â phrosiectau cymhleth.
Prosiect MSc
Ymchwiliwch i'ch hoff bwnc yn fanwl iawn a rhowch eich datrysiad ar waith, gan orffen eich cwrs drwy ddefnyddio eich arbenigedd newydd i wneud rhywbeth arbennig iawn!
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Cyflwyno ac Asesu
Cyflwynir y cwrs drwy amrywiaeth o ddulliau, byddwch yn cael darlithoedd wyneb yn wyneb yn ogystal â deunyddiau fideo a dysgu o bell. Ond bydd y rhan fwyaf o’ch dysgu’n cael ei wneud drwy ‘wneud’: byddwch yn ein labordai addysgu arloesol lle byddwch yn defnyddio ein hoffer i fod yn greadigol ac yn ymarferol. Mae’r holl asesiadau ar gyfer y cwrs hwn yn seiliedig ar waith cwrs: nid oes arholiadau. Bydd y tasgau’n adlewyrchu natur ymarferol y cwrs gan y byddwch yn creu meddalwedd ac yn defnyddio eich sgiliau i ddatblygu datrysiadau arloesol i broblemau yn y byd go iawn.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/computing/bsc-computer-science.png)
Staff Addysgu
Mae gan ein staff brwdfrydig ac ymroddedig ystod eang o arbenigedd, gyda phrofiad mewn diwydiant a'r byd academaidd. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn darparu tîm cyfeillgar a fydd yn eich cefnogi sut bynnag y bydd angen cymorth arnoch.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/computing/msc-advanced-computer-science.png)
Cyfleusterau
Mae ein labordai cyfrifiadurol yn cynnwys yr offer diweddaraf i chi eu defnyddio drwy gydol y cwrs. Defnyddir y labordai hyn ar gyfer dosbarthiadau ymarferol, ochr yn ochr â'n darlithfeydd a'n hystafelloedd dosbarth. Gallwch hefyd gael mynediad iddynt y tu allan i'r dosbarthiadau a addysgir, gan ddefnyddio ein hoffer i gwblhau gwaith yn eich amser eich hun.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/computing/subject-computing-facilities-classroom-44989.jpg)
Gofynion mynediad
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Mae'r cwrs MSc Systemau Cyfrifiadurol a Gwybodaeth wedi'i gynllunio ar gyfer graddedigion sydd ag o leiaf gradd Anrhydedd 2: 2 neu gyfwerth mewn pwnc cysylltiedig.
Yn nodweddiadol bydd newydd-ddyfodiaid wedi graddio mewn gradd dechnegol - fel Cyfrifiadureg, Technoleg Gwybodaeth, Systemau Gwybodaeth Busnes, neu Beirianneg Electronig - ac mae angen iddynt ddatblygu eu sgiliau ymhellach ym maes datblygu systemau, systemau cronfa ddata uwch, a rheoli prosiectau.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£10,800
fesul blwyddyn*£1,200
fesul blwyddyn*£16,900
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch
astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Buddsoddwch yn eich dyfodol
Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM yn PDC gyda datblygiad Cyfrifiadureg, Mathemateg, Peirianneg a Thechnoleg cyffrous newydd ar Gampws Pontypridd.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
- Medi 2025 Rhan-amser
- Chwefror 2025 Llawn Amser
- Medi 2025 Llawn Amser
- Medi 2026 Llawn Amser
- Medi 2026 Rhan-amser
- Chwefror 2026 Llawn Amser
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.