Cyfrifeg Proffesiynol (gyda hyfforddiant ACCA) (Llwybr Carlam)
Uwchsgiliwch i radd Meistr gan ddefnyddio'ch Cymhwyster ACCA.
Sut i wneud cais Archebu lle ar noson agored Sgwrsio â Ni
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£11,060*
Myfyrwyr rhyngwladol
£17,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae'r cwrs hwn yn caniatáu i fyfyrwyr sydd eisoes wedi cwblhau pob arholiad Lefel Broffesiynol Strategol ACCA ac sydd â phrofiad ôl-gymhwysol o leiaf blwyddyn o hyd, i ymuno â llwybr carlam Gradd Meistr. Bydd myfyrwyr yn ennill gradd Meistr mewn Cyfrifeg Broffesiynol (gyda hyfforddiant ACCA) (llwybr carlam) trwy gwblhau prosiect ymchwil manwl.
Cynlluniwyd ar gyfer
Cyfrifwyr cymwys ACCA sy'n dymuno ychwanegu rhinweddau Meistr academaidd i wella eu set sgiliau.
Llwybrau gyrfa
- Rheolwr Ariannol
- Pennaeth Cyllid
- Cyfarwyddwr Treth neu Archwilio
- Rheolaeth
Sgiliau a ddysgwyd
- Meddwl beirniadol
- Sgiliau dadansoddi, synthesis a gwerthuso uwch
- Sgiliau ymchwil allweddol
- Sgiliau ysgrifennu academaidd ac ymarferol
- Datblygu dadl ac achos
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Wedi'u heithrio o'r modiwlau cyfrifyddu technegol ar yr amrywiad llawn o'r radd Meistr yn rhinwedd eu Cymhwyster ACCA proffesiynol, mae myfyrwyr yn hytrach yn dilyn y modiwl 'Traethawd Hir - Cyfrifeg a Chyllid' 60 credyd.
Mae'r modiwl Traethawd Hir yn caniatáu i fyfyrwyr gynhyrchu darn sylweddol o allbwn ymchwil ar bwnc o'u dewis ac mae'n cynnwys hyfforddiant yng nghysyniadau allweddol Dulliau Ymchwil.
Traethawd hir: Cyfrifeg a Chyllid
Mae'r modiwl Traethawd Hir yn ymgorffori hyfforddiant Dulliau Ymchwil, gan gynnwys cyflwyniad i allbwn ymchwil, dewis pwnc, a chynnal adolygiad llenyddiaeth. Bydd myfyrwyr yn dewis ac yn gweithredu methodoleg addas gan ddefnyddio data cynradd neu eilaidd ac yn ymgymryd â dadansoddiad ansoddol neu feintiol, cyn ysgrifennu ac amddiffyn eu hymchwil. Cyflwynir y cynnwys hwn ar ddechrau'r broses traethawd hir, gan alluogi myfyrwyr i weithredu damcaniaeth yn ymarferol. Yna mae myfyrwyr yn datblygu eu cynnig ymchwil ac yn cwblhau eu prosiect dan arweiniad goruchwyliwr mewn sesiynau grŵp ac un-i-un.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut y byddwch chi'n dysgu
Mae dull ymarferol, dan arweiniad myfyrwyr, yn eich rhoi yng nghanol eich dysgu, gan gyfuno dulliau sy'n seiliedig ar broblemau, dulliau gweithredol a chydweithredol. Mae'r addysgu ar sail ymchwil gyfoes y tîm a phrofiad ymarferol yn y diwydiant, gan roi cipolwg i chi ar heriau'r byd go iawn.
Rydym yn darparu amgylchedd cefnogol lle gallwch feithrin eich hyder a datblygu galluoedd ymchwil cryf, gan ddod â chysyniadau'n fyw trwy brofiad ac ymchwil yn y byd go iawn.
Astudio ar lwybr carlam
Er nad yw lleoliadau yn rhan o'r cwrs llwybr carlam hwn, mae pob myfyriwr PDC yn gallu defnyddio ein gwasanaeth Gyrfaoedd, sy'n cysylltu'n barhaus â chyflogwyr lleol a chenedlaethol ac yn hysbysebu cyfleoedd lleoliadau sydd ar gael i fyfyrwyr yn rheolaidd.
Astudio ar lwybr carlam
Mae gan ein campysau gyfleusterau addysgu modern, mannau astudio ôl-raddedig, adnoddau llyfrgell sy'n benodol i bynciau, astudiaethau arbenigol a gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr. Maent mewn lleoliadau sy'n addas ar gyfer astudio a chyda digon o gyfleusterau arlwyo i danio'ch astudiaethau.
GOFYNION MYNEDIAD
Rhaid i fyfyrwyr fod wedi cwblhau pob arholiad Lefel Broffesiynol Strategol ACCA eisoes a bod â phrofiad ôl-gymhwysol o leiaf blwyddyn o hyd.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£11,060
fesul blwyddyn*£17,900
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Mae gan y Brifysgol gyfrifiaduron ar gael ar y campws a gliniaduron i'w benthyg. Fodd bynnag, argymhellir yn gryf bod gennych eich gliniadur personol eich hun, a fydd yn gallu rhedeg Microsoft Office 365. Fel myfyriwr byddwch yn gallu lawrlwytho copi am ddim o unrhyw feddalwedd sy'n berthnasol i'r cwrs.
Cost: £250+
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.