MSc

Cyfrifeg Broffesiynol (gyda hyfforddiant ACCA)

Mae ein MSc mewn Cyfrifeg Broffesiynol arloesol (gyda hyfforddiant ACCA) yn cyfuno astudiaeth academaidd uwch gyda chymhwyster cyfrifeg proffesiynol.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Hydref

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £10,800*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,900*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Ionawr

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £10,800*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,900*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £1,200*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Mae’r modiwlau, a addysgir gan diwtoriaid arobryn o’n rhaglen ACCA sydd wedi cael achrediad Platinwm, yn cyd-fynd â Lefel Broffesiynol Strategol derfynol Cymhwyster Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA).

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae'r radd meistr hon mewn cyfrifyddu wedi'i hanelu at fyfyrwyr sydd wedi cwblhau papurau Lefel Hanfodion Cymhwyster Proffesiynol ACCA (papurau gwybodaeth a sgiliau cymhwysol), neu'r rhai sydd wedi'u heithrio o'r papurau ACA hyn yn sgil eu rhinweddau.

Llwybrau Gyrfa

  • Cyfrifydd Siartredig

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Addysgu arbenigol

Addysgir gan diwtoriaid arobryn o’n rhaglen ACCA sydd wedi cael achrediad Platinwm.

Cymhwyso fel Cyfrifydd Ardystiedig Siartredig

Ochr yn ochr â’ch cymhwyster Meistr, byddwch yn barod i sefyll pedwar arholiad Proffesiynol Strategol olaf ACCA.

Dysgu rhyngweithiol

Mae ein MSc mewn Cyfrifeg Broffesiynol arloesol (gyda hyfforddiant ACCA) yn cyfuno astudiaeth academaidd uwch gyda chymhwyster cyfrifeg proffesiynol.

Myfyrwyr sydd wedi ennill gwobrau

Mae ein myfyrwyr wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys pedwar fyfyriwr wedi ennill y wobr uchaf yn y byd am eu papurau ar Lefel Broffesiynol Strategol.

Trosolwg o’r Modiwl

Mae'r cwrs MSc mewn Cyfrifeg Broffesiynol (gyda hyfforddiant ACCA) yn darparu'r 'gorau o'r ddau fyd' - addysg lefel Meistr drylwyr o safbwyntiau academaidd a phroffesiynol.   Mae'n darparu sgiliau uwch seiliedig ar waith cwrs proffesiynol a gwerthusiad beirniadol uwch o feysydd pwnc a llenyddiaeth ymchwil cwrs Meistr academaidd.

Mae’r modiwlau y byddwch yn eu hastudio fel a ganlyn (sylwch fod eu henwau’n adlewyrchu enwau papurau allanol ACCA)

Adrodd ar Fusnes Strategol 
Nod y modiwl hwn yw datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a defnydd o egwyddorion, safonau, arferion a phecynnau adrodd corfforaethol cyfoes mewn amrywiaeth o gyd-destunau a sefyllfaoedd busnes, a fydd yn gofyn am sgiliau gwerthuso a synthesis uwch. 

Rheolaeth Ariannol Uwch 
Nod y modiwl hwn yw datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth, defnydd a gwerthusiad beirniadol myfyrwyr o egwyddorion rheolaeth ariannol a chyllid corfforaethol cyfoes mewn amrywiaeth o gyd-destunau busnes. 

Rheoli Perfformiad Uwch 
Nod y modiwl hwn yw datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth, defnydd a gwerthusiad beirniadol myfyrwyr o egwyddorion rheoli perfformiad cyfoes mewn amrywiaeth o gyd-destunau busnes. Ar ben hynny, ei nod yw datblygu galluoedd myfyrwyr i werthuso arferion presennol a datblygiadau cyfredol yn feirniadol. 

Arweinydd Busnes Strategol 
Nod y modiwl hwn yw paratoi myfyrwyr i werthuso’n feirniadol theori ac ymarfer strategaeth busnes, llywodraethu corfforaethol, risg a moeseg, gwerthuso a chyfuno gwybodaeth mewn senarios astudiaeth achos realistig a gwneud a chyflwyno penderfyniadau arweinyddiaeth sy’n effeithiol yn broffesiynol drwy gymhwyso’r cyfuniad priodol o sgiliau technegol, moesegol a phroffesiynol. 

Prosiect Ymchwil Busnes 
Nod y modiwl yw paratoi myfyrwyr i ymgymryd â Phrosiect Ymchwil Busnes unigol a all fod yn wirioneddol berthnasol i sefydliadau. Mae'n cynnwys sesiynau hyfforddi ar Fethodoleg Ymchwil.

Yn ogystal â'r modiwlau a astudir ym Mlwyddyn Un, mae'n ofynnol i fyfyrwyr gwblhau'r modiwl Moeseg a Sgiliau Proffesiynol a'r Gofyniad Profiad Ymarferol (PER) cyn y gallant ddod yn aelod llawn o ACCA. Nodyn: Cyfrifoldeb y myfyrwyr yw mynd i arholiadau allanol ACCA (gweler gwefan ACCA am ragor o fanylion).

Modiwl Moeseg a Sgiliau Proffesiynol 

Mae'r modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i sgiliau moesegol a phroffesiynol uwch ac maent yn dod i gysylltiad â sefyllfaoedd busnes realistig drwy amgylchedd rhyngweithiol. Mae'r modiwl yn ategu gwybodaeth dechnegol myfyriwr drwy ei helpu i ddatblygu'r ymddygiadau moesegol a phroffesiynol y bydd eu hangen arno i gwblhau'r arholiadau Proffesiynol Strategol yn llwyddiannus. 

Codir ffi untro am y modiwl sy’n daladwy i ACCA. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan ACCA 

Gofynion Profiad Ymarferol 

Y PER yw pan fydd myfyrwyr yn dangos sgiliau a phrofiad perthnasol mewn amgylchedd gwaith go iawn. 

Mae cwblhau PER yn golygu: 

  • cyflawni 36 mis o brofiad dan oruchwyliaeth mewn rôl(au) cyfrifyddu neu gyllid perthnasol 
  • cwblhau naw amcan perfformiad 
  • cofnodi cynnydd ar-lein yn MyExperience 
  • cael goruchwyliwr profiad ymarferol i gadarnhau’r profiad   

Mae myfyrwyr yn gyfrifol am drefnu eu PER eu hunain fel arfer drwy eu man gwaith arferol

GOFYNION MYNEDIAD

Gradd israddedig mewn cyllid, cyfrifeg neu archwilio o brifysgol yn y DU, dosbarth 2:2 Anrhydedd neu uwch; 

NEU radd busnes israddedig o brifysgol yn y DU sydd â lefel briodol o gynnwys ariannol, dosbarth 2:2 Anrhydedd neu uwch; 

NEU gymwysterau proffesiynol neu ryngwladol achrededig cyfatebol (fel pasio papurau Lefel Hanfodion ACCA yn uniongyrchol mewn defnyddio gwybodaeth a sgiliau). 

Sylwch, rhaid i fyfyrwyr sy'n ymuno â'r cwrs hwn o leiaf (a) fod wedi eu heithrio o bapurau Lefel Hanfodion ACCA sy'n cymhwyso gwybodaeth a sgiliau yn rhinwedd eu graddau israddedig neu (b) fod wedi pasio'r papurau hyn yn uniongyrchol, ac felly bod yn barod i ddechrau astudio ACCA ar Lefel Broffesiynol Strategol. 

Mae'n rhaid i fyfyrwyr sy'n dymuno ymuno â'r cwrs fod wedi gwneud cais am aelodaeth myfyriwr gydag ACCA cyn y dyddiad dechrau a chael cadarnhad o'u heithriadau. Mae manylion ar gael ar wefan ACCA.

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£10,800

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£10,800

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£1,200

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,900

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,900

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

* Rhwymedig 

Bydd gofyn i fyfyrwyr dalu ar wahân am aelodaeth myfyrwyr ACCA, eithriad a ffioedd arholiad allanol. Am y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i: www.accaglobal.com.  

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut byddwch chi’n dysgu

Mae dulliau addysgu yn sicrhau bod myfyrwyr yn barod ar gyfer arholiadau Lefel Broffesiynol Strategol ACCA a osodir yn allanol ac ar gyfer asesiadau Meistr mewnol (aseiniadau ac arholiadau) mewn modd integredig.

Mae arholiadau ACCA yn gofyn i fyfyrwyr ganolbwyntio ar y senarios ymarferol cymhleth y bydd cyfrifydd proffesiynol yn eu hwynebu a’r cymwyseddau technegol uwch y bydd eu hangen arnynt i fynd i’r afael â’r rhain. Mae asesiadau mewnol sy’n seiliedig ar arholiadau MSc yn efelychu strwythur ac arddull arholiadau allanol ACCA.

Cyfrifoldeb y myfyrwyr yw mynd i arholiadau allanol ACCA (gweler gwefan ACCA am ragor o fanylion).

Staff addysgu

  • Rhian Gosling, Arweinydd y Cwrs
  • Dr Jared Davies
  • Geraint Evans
  • Nicola Gilbert
  • Claudia Scicluna
  • Rosemary Eaton
  • Teresa Marsh
  • Joanna Howell
  • Tamira Rolls
  • Chibuzo Amadi 

Astudio yn PDC

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.