Addysg
Diddordeb mewn addysg gynradd? Mae'r radd hon yn bwydo'n ddi-dor i'n llwybr TAR addysg gynradd. Ond mae'n caniatáu hyblygrwydd ar gyfer gyrfaoedd eraill sy'n gweithio gyda phlant.
Sut i wneud cais Gwneud cais trwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda niManylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
X300
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Casnewydd
-
Côd y Campws
C
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,250*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Agorwch ddrysau i gyfleoedd gyrfa yn datblygu plant mewn amgylcheddau cyffrous sy’n amrywio o chwaraeon i amgueddfeydd, ac o sŵau i’r awyr agored, a mwynhewch lwybr di-dor i fyd addysg.
Wedi'i gynllunio ar gyfer
Unigolion sy’n angerddol dros ddatblygu pobl ifanc y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth yn unig. Mae’r cwrs hwn yn cynnig rhagolygon gyrfa rhagorol ym maes eang addysg, sy’n cynnwys amgueddfeydd a chyfleusterau addysg eraill yn ogystal ag ysgolion a cholegau.
Llwybrau gyrfa
- Athrawes ysgol gynradd
- Swyddog addysg
- Gweithiwr cymorth ysgol
- Cymorth y Blynyddoedd Cynnar
- Gweithiwr ieuenctid
Sgiliau a addysgir
- Deall y Cwricwlwm i Gymru
- Cymhwysedd digidol
- Datblygiad plant
- Arweinyddiaeth
- Ymchwil a myfyrio
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Rydyn n canolbwyntio ar ddatblygiad plant o bob oed ac yn blaenoriaethu eich twf personol. Mae’r lleoliadau yn hollbwysig, gan gyfuno profiadau o ysgolion coedwig i therapi cerddoriaeth a chlybiau chwaraeon i dimau ymddygiadol er mwyn gwella dysgu. Byddwch chi’n datblygu eich sgiliau drwy eu hymarfer yn ystod y lleoliadau.
Blwyddyn Un
Ymarfer Proffesiynol 1
Cyflwyniad i Strategaethau Ymchwil
Plentyn y Byd
Cwricwlwm Creadigol
Blwyddyn Dau
Ymarfer Proffesiynol 2
Iechyd a Hapusrwydd
Dysgu Creadigol
Taith Ymchwil Addysg
Blwyddyn Tri
Ymarfer Proffesiynol 3
Dinasyddiaeth Fyd-eang
Arweinyddiaeth Effeithiol
Cyflawni Gwaith Ymchwil Addysgol
Cyflwyniad i sut mae plant yn dysgu a beth yw’r ffordd orau o’u haddysgu. Archwilio datblygiad plant, cymhwysedd digidol, a chreadigrwydd yn y cwricwlwm. Bydd eich lleoliad ysgol gynradd yn cynnwys cefnogi athrawon a phlant. Addysgir y Gymraeg a hunaniaeth ddiwylliannol er mwyn cefnogi dysgwyr yn y dosbarth.
Ymarfer Proffesiynol 1
Mae’r modiwl hwn yn cynnwys lleoliad saith wythnos mewn ysgol gynradd sy’n canolbwyntio ar sgiliau ysgol hanfodol, datblygu’r Gymraeg, ac adnoddau ar gyfer addysgu Cymraeg yn yr ystafell ddosbarth.
Cyflwyniad i Strategaethau Ymchwil
Byddwch chi’n mynd ati i wneud gwaith ymchwil, dysgu am sawl math o fethodoleg, archwilio ystyriaethau moesegol, a dysgu sut i ddethol ffynonellau, darllen yn feirniadol ac ysgrifennu yn yr arddull academaidd.
Plentyn y Byd
Byddwch yn dysgu’r wybodaeth a’r cysyniadau sylfaenol y tu ôl i theori datblygiad plant, gan gwmpasu twf cymdeithasol, emosiynol, corfforol a deallusol drwy bolisïau ac ymarfer.
Cwricwlwm Creadigol
Modiwl ymarferol yw hwn sy’n cyflwyno Cwricwlwm i Gymru ac yn eich helpu i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i gynllunio profiadau dysgu creadigol a dilys yn yr ystafell ddosbarth.
Byddwch chi’n ymdrin â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gefnogi dysgu ym mhob lleoliad, megis addysgu’n greadigol, a’r sgiliau personol sydd eu hangen yn y gweithle. Cynhelir y lleoliadau y tu hwnt i’r ysgol yn unig, gan gynnwys ysgolion anghenion dysgu ychwanegol, amgueddfeydd, ac amrywiaeth o gyfleusterau chwaraeon.
Ymarfer Proffesiynol 2
Byddwch yn gwella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth ar gyfer lleoliadau addysgol eraill, gan bwysleisio ar gyfathrebu’n effeithiol. Mae'r Gymraeg a diwylliant Cymreig wedi’u cynnwys yn y lleoliadau hyn.
Iechyd a Hapusrwydd
Byddwch yn archwilio sut mae ymyrryd yn gynnar yn effeithio ar iechyd a llesiant plant a theuluoedd yn y dyfodol ac yn ymchwilio i ddamcaniaethwyr sy'n pwysleisio pwysigrwydd ymyrryd yn gynnar i unigolion a’r gymdeithas. Byddwch hefyd yn ystyried pwysigrwydd gofalu am eich hun wrth weithio ym myd addysg.
Dysgu Creadigol
Byddwch yn astudio sut mae dysgu drwy chwarae – dan do ac yn yr awyr agored – yn hybu datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol a chymdeithasol pobl ifanc.
Taith Ymchwil Addysg
Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno dulliau ymchwil ar gyfer cynllunio ymholiad annibynnol wrth ddatblygu sgiliau ymchwil beirniadol, dadansoddol a gwerthusol.
Rydym yn canolbwyntio ar sgiliau ar gyfer y dyfodol, megis arweinyddiaeth a chynaliadwyedd. Yn ogystal â hyn, byddwch chi’n mynd ati i gwblhau prosiect ymchwil sy’n seiliedig ar eich profiadau yn ystod eich lleoliad. Byddwch chi’n datblygu eich sgiliau digidol drwy brosiectau ymarferol a thrwy wreiddio’r defnydd o dechnoleg yn eich arfer. Cewch chi’r cyfle i ddewis lleoliadau sy'n gweddu i’ch diddordebau, gan gynnwys opsiynau tramor.
Ymarfer Proffesiynol 3
Byddwch yn datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth mewn lleoliad addysgol o'ch dewis chi, gan gynnwys lleoliadau ysgol tramor.
Dinasyddiaeth Fyd-eang
Byddwch yn mynd i'r afael â pholisïau cenedlaethol a rhyngwladol ar gynaliadwyedd a dinasyddiaeth ac yn gweld sut maent yn llywio addysg a’r gymdeithas.
Arweinyddiaeth Effeithiol
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o rôl arweinyddiaeth mewn cyd-destunau addysg wrth ganolbwyntio hefyd ar eich twf personol a phroffesiynol.
Cyflawni Gwaith Ymchwil Addysgol
Byddwch yn mireinio eich sgiliau ymchwil, gan eich galluogi i gynnal prosiect ymchwil annibynnol a chyflwyno eich canfyddiadau mewn fformat academaidd.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut y byddwch yn dysgu
Cyflwynir ein dysgu ar ein campws yng Nghasnewydd, yng nghanol y ddinas. Arweinir y sesiynau gan staff academaidd ymroddedig sydd â Statws Athro Cymwysedig (SAC). Mae ein hystafelloedd dosbarth a'n mannau ymarferol wedi'u cynllunio ar gyfer gweithio mewn grwpiau bach a chael trafodaethau difyr, gan ddarparu dysgu ymarferol. Nid oes unrhyw arholiadau. Cynhelir asesiadau o wahanol fathau, gan gynnig cyfleoedd i chi arddangos eich sgiliau trwy draethodau, cyflwyniadau, portffolios, a thrwy greu adnoddau addysgol. Cewch eich asesu ar eich lleoliad ar sail eich portffolio, a byddwch yn cael digon o gefnogaeth gan aelod o'r tîm addysg a'ch mentor lleoliad.
Staff addysgu
Mae pob aelod o’n tîm yn athro cymwysedig – ac mae pob un ohonynt yn cyfrannu amrywiaeth o safbwyntiau, profiadau a gwybodaeth ymarferol at eich dysgu. Yn ogystal â hyn, rydym yn cydweithio’n agos ar draws yr holl gyrsiau gradd addysgu a blynyddoedd cynnar, gan gynnig dealltwriaeth, cysylltiadau a chyfleoedd gwerthfawr ichi rhwng llwybrau. Mae myfyrwyr yn dweud wrthym eu bod nhw wir yn gwerthfawrogi amgylchedd cefnogol y cwrs radd Addysg. Caiff yr amgylchedd cefnogol hwn ei gynnal drwy gefnogaeth a mentoriaeth bersonol, amgylchedd dysgu cydweithredol a thrwy helpu myfyrwyr i ddatblygu eu hangerdd tuag at leoliadau, llwybrau gyrfa a diddordebau ymchwil.
Cyfleusterau
Mae ein gofodau modern yn cynnwys y dechnoleg a'r adnoddau diweddaraf, sy'n ddelfrydol ar gyfer dysgu ac addysgu mewn modd rhyngweithiol. Bydd gennych chi fynediad at offer arloesol ar gyfer ymarfer dulliau realiti estynedig a dulliau realiti rhithwir. Byddwch yn profi amgylcheddau ystafell ddosbarth realistig mewn ystafelloedd arbenigol a fydd yn eich helpu i gael profiad ymarferol mewn lleoliad diogel. Byddwch yn defnyddio ein stiwdio ddawns i gefnogi llythrennedd corfforol a gweithgareddau amser cylch, ymhlith gweithgareddau eraill. Mae ein llyfrgelloedd yn llawn adnoddau ar theori addysg, datblygiad plant, ac arferion addysgu a fydd yn eich helpu chi i fanteisio i’r eithaf ar eich astudiaethau.
Lleoliadau a phrofiad gwaith
Mae rhestr y lleoedd y mae ein myfyrwyr yn ennill profiadau gwerthfawr yn un hirfaith ac yn cynnwys ymddiriedolaethau bywyd gwyllt, unedau ymddygiad, therapi cerddoriaeth, clybiau criced. Mae'r cymysgedd hwn yn eich helpu i ddarganfod eich cryfderau a'ch diddordebau ac yn codi’ch ymwybyddiaeth o gyfleoedd newydd sydd ar gael i raddedigion Addysg. Byddwch chi’n treulio saith wythnos ar leoliad bob blwyddyn, gan symud bob yn ail rhwng y brifysgol a’r gwaith er mwyn myfyrio ar eich datblygiad a’i gryfhau. Byddwch yn treulio lleoliad y flwyddyn gyntaf mewn ysgol gynradd er mwyn sicrhau eich bod yn deall y Cwricwlwm i Gymru. Bydd lleoliad yr ail flwyddyn mewn lleoliad addysgol y tu allan i ysgolion prif ffrwd. Eich dewis chi fydd y lleoliad ym mlwyddyn 3, a byddwn ni’n gweithio’n agos gyda chi i drefnu lleoliad sy’n gweddu i’ch anghenion a’ch diddordebau. Gallwch hyd yn oed ddewis lleoliad rhyngwladol tair wythnos.
Y gorau yng Nghymru o ran Rhagolygon i Raddedigion ym myd Addysg – Tabl Cynghrair y Guardian 2023
Ar y brig yng Nghymru o ran rhagolygon graddedigion mewn Addysg.(Complete University Guide 2023)
Mae addysg ym Mhrifysgol De Cymru ar y brig yng Nghymru o ran cymorth academaidd, cyfleoedd dysgu, adnoddau dysgu, asesu ac adborth (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024)
Y gorau yng Nghymru o ran Rhagolygon i Raddedigion ym myd Addysg – Tabl Cynghrair y Guardian 2023
Ar y brig yng Nghymru o ran rhagolygon graddedigion mewn Addysg.(Complete University Guide 2023)
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 104 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: BCC i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
- Bagloriaeth Cymru: Pasio Diploma Bagloriaeth Uwch Cymru gyda Gradd B yn y Dystysgrif Her Sgiliau a CC ar Lefel A i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
- BTEC: Diploma Estynedig BTEC Rhagoriaeth Teilyngdod Teilyngdod
- Mynediad i AU: Pasio'r Diploma Mynediad i AU a chael o leiaf 104 pwynt tariff UCAS.
Gofynion ychwanegol
TGAU: Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond efallai y rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Mae angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar Restr y Gweithlu Plant a Gwahardd Plant a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,250
fesul blwyddyn*£16,200
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Bydd angen i fyfyrwyr brynu iPad i gael mynediad i'r cwrs. Bydd opsiynau ar gyfer prynu iPad ar gael drwy'r Brifysgol os oes angen.
Cost: I fyny at £465
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.