TAR

Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (PcET)

Trowch eich arbenigedd presennol yn yrfa werth chweil fel athro mewn addysg bellach, addysg i oedolion ac addysg alwedigaethol.

Sut i wneud cais Archebu lle ar noson agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Côd UCAS

    2V9X

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

Cymhwyster addysgu a gydnabyddir yn genedlaethol ac sydd wedi'i gynllunio ar gyfer rhai sy’n hyderus gydag ysgrifennu addysgol neu gymdeithasegol, neu rai a fydd efallai â diddordeb mewn ennill MA mewn Addysg yn ddiweddarach.

Cynlluniwyd Ar Gyfer

Myfyrwyr neu raddedigion cwrs gradd sydd am gael gyrfa ystyrlon a sefydlog mewn addysgu. Byddwch yn berson sy’n angerddol dros bwnc ac yn awyddus i rannu eich arbenigedd a’ch gwybodaeth mewn amgylchedd addysgol.

Llwybrau Gyrfaol

  • Athro
  • Mentor dysgu
  • Hyfforddwr
  • Tiwtor

Sgiliau a addysgir

  • Datblygu addysgeg
  • Llythrennedd ar gyfer ymarfer proffesiynol
  • Tegwch mewn addysgu a dysgu
  • Ymchwilio

Students and Lecturers sitting in a classroom at USW campus in Newport

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Hyfforddi i addysgu mewn dim ond blwyddyn

Bydd cwblhau'r cwrs amser llawn yn llwyddiannus yn golygu y gallwch gymhwyso i addysgu yn y sector mewn blwyddyn.

Opsiynau Astudio Hyblyg

Os ydych chi’n gweithio’n rhan amser, neu eisoes yn gweithio mewn amgylchedd AHO, mae ein llwybr rhan amser yn caniatáu i chi gymhwyso fel athro mewn dim ond dwy flynedd.

Cefnogi Addysgu

Mae gan dîm arbenigol y cwrs brofiad helaeth o bob rhan o AHO, yn gweithio gyda’i gilydd i'ch cefnogi i ddatblygu’r gwerthoedd, y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ffynnu fel athro.

Cyfleoedd Lleoliad

Gallwch roi theori ar waith drwy weithio ac addysgu yn y diwydiant, gan eich galluogi i raddio gyda'r profiad y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.

Cymhellion Ariannol

Efallai y byddwch yn gymwys i gael cymhelliant ariannol gan y llywodraeth i astudio ar gwrs AHO.

Trosolwg o'r Modiwl

Mae'r cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel athro yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Byddwch yn mynychu sesiynau dysgu cydweithredol, yn gweithio ar leoliad AHO gyda mentor a chydweithwyr, ac yn ymgymryd ag astudio annibynnol i ddatblygu gwerthoedd, gwybodaeth a sgiliau. Bydd myfyrwyr amser llawn yn cwblhau chwe modiwl mewn blwyddyn, a bydd myfyrwyr rhan amser yn cwblhau tri modiwl bob blwyddyn.

Cynllunio ar gyfer Dysgu
Mae'r modiwl hwn yn gweithredu fel sylfaen ac yn sail i fan cychwyn y cwrs. Byddwch yn cael eich cyflwyno i egwyddorion cynllunio byrdymor a hirdymor trwy gwblhau addysgu cymheiriaid a chynllun dysgu.  

Asesu ar gyfer Dysgu
Yn y modiwl hwn, byddwch yn datblygu egwyddorion asesu ac yn deall sut mae'r rhain yn cael eu defnyddio i greu offer asesu a phroffiliau dysgwyr, a dylunio gweithgareddau sy'n diwallu anghenion dysgwyr.

Datblygu Ymarfer Proffesiynol
Mae'r modiwl hwn yn cynnwys cynllunio, sicrhau adnoddau ac addysgu o leiaf 50 o oriau gan gynnwys 3 arsylwad llwyddiannus o'ch addysgu. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch hefyd yn arsylwi athrawon cymwys ac yn ystyried sut i ddatblygu o ddigwyddiadau heriol.

Ymchwil yn seiliedig ar ymarfer
Mae'r modiwl hwn yn datblygu ymarfer wedi’i lywio gan ymchwil mewn ymateb i her a wyneboch yn eich addysgu ar leoliad. Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwilio fel cyfweld a chasglu data i lywio gweithredoedd pedagogaidd yn rhan o gylch ymchwil weithredu.   

Llythrennedd ar gyfer Dysgu
Mae'r modiwl hwn yn archwilio syniadau ym maes cyfathrebu a llythrennedd e.e., digidol, gweledol, graffig, ysgrifenedig, a rhifiadol mewn bywyd bob dydd ac addysgu. Byddwch yn cael eich asesu trwy hysbysfwrdd ac arddangosfa ryngweithiol.

Ymestyn Ymarfer Proffesiynol
Mae'r modiwl hwn yn ymestyniad o’r modiwl Datblygu Ymarfer Proffesiynol, ac mae'n cynnwys cynllunio, sicrhau adnoddau ac addysgu o leiaf 50 awr yn ychwanegol gan gynnwys 3 arsylwad llwyddiannus arall o'ch addysgu.   

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi’n dysgu

Byddwch yn dysgu trwy gyfuniad o weithgareddau dysgu cydweithredol, trafodaethau, dysgu rhyngweithiol a chyfleoedd lleoliad. Bydd eich ystafell ddosbarth yn cynnwys myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd ac arbenigeddau pwnc, gan eich galluogi i gyfuno egwyddorion pedagogaidd a phrofi cyfoeth o ddysgu gan gyfoedion fydd yn werthfawr iawn i chi ar leoliad.

Byddwch yn cael eich asesu mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys arddangosfeydd rhyngweithiol ac arsylwadau o'ch addysgu. Mae asesiadau wedi'u seilio ar y syniad o roi theori ar waith ac felly’n efelychu’r hyn y byddech chi'n ei wneud yn naturiol fel athro. Mae holl gynnwys y cwrs wedi'i fapio i safonau proffesiynol yng Nghymru a Lloegr, fel eich bod mor barod â phosibl  ar gyfer y byd gwaith waeth ble rydych chi'n dewis ymgartrefu ar ôl graddio.  

Staff addysgu

Mae tîm addysgu Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol i gyd yn brofiadol yn y maes hyfforddi athrawon, ac yn bobl a ddechreuodd eu gyrfaoedd fel athrawon mewn addysg Bellach, Addysg i Oedolion ac Addysg yn y Gymuned a/neu Uwchradd. Maen nhw’n dod o ystod eang o gefndiroedd o ran pynciau, gan gynnwys Mathemateg, Gwyddoniaeth, Celf, Cyfrifiadureg, Saesneg (ESOL a Llythrennedd Oedolion) a TGCh, ac mae ganddyn nhw amrywiaeth o ddiddordebau addysgu ac ymchwilio. Maen nhw’n rhan o rwydwaith sydd wedi'i gysylltu'n dda - ac yn mynychu seminarau a chynadleddau yn rheolaidd i gyflwyno ymchwil yn seiliedig ar AHO.  

Lleoliadau

Mae lleoliadau’n rhan hanfodol o'r cwrs hwn, yn digwydd ochr yn ochr â modiwlau craidd ac yn cyfrannu'n sylweddol at asesiadau. Ar gyfer y llwybr amser llawn, byddwch yn ymgymryd ag o leiaf 100 awr o addysgu, 30 awr o arsylwi, a 10 awr o ddyletswyddau adrannol, fel cyfarfodydd cynllunio ac asesu. Ar gyfer y llwybr rhan amser, bydd hyn yn cael ei rannu dros ddwy flynedd.

Bydd mentor yn cael ei aseinio i chi yn ystod eich lleoliad a byddwch yn cael eich arsylwi gan ein tîm addysgu, i’ch goruchwylio a’ch cefnogi. Yr un person fydd eich mentor drwy gydol cyfnod y lleoliad, gan eich galluogi i adeiladu perthynas a theimlo'n hyderus wrth ofyn am arweiniad a chyngor. Bydd lleoliadau’n cael eu haseinio i fyfyrwyr amser llawn gan ein tîm addysgu ar ôl trafod eich diddordebau a'ch arbenigedd. Dylai myfyrwyr rhan amser drefnu lleoliad yn eu maes neu ddiwydiant dewisol.

Cyfleusterau

Bydd elfen dysgu rhyngweithiol y cwrs hwn yn cael ei rhoi ar waith drwy efelychiadau ystafell ddosbarth ac addysgu efelychiadol, yn defnyddio Canolfan Efelychu Hydra. Mae Canolfan Efelychu Hydra yn darparu amgylchedd dysgu ac addysgu unigryw ac fe'i defnyddir i gynnal senarios ymdrochol, efelychiadol i'ch galluogi i ymarfer eich sgiliau mewn amgylchedd cydweithredol. Bydd cyfran fawr o'ch astudiaethau yn defnyddio'r llyfrgell a bydd gennych fynediad at ystafelloedd dosbarth a mannau dysgu y gellir eu harchebu trwy gydol eich amser ar y cwrs. 

I helpu i hwyluso eich astudiaethau, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymhellion ariannol i fyfyrwyr sy'n awyddus i astudio ar gwrs AHO. Bydd ein tîm addysgu yn trafod hyn ac yn ei roi ar waith i chi os ydych chi'n gymwys.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd Graddedigion

Mae ein graddedigion yn cael llwyddiant mewn ystod eang o sectorau o fewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO), gan gynnwys colegau, darparwyr hyfforddiant fel ACT, dysgu gan oedolion a dysgu yn y gymuned, amgylcheddau dysgu seiliedig ar waith, a charchardai. Mae llawer o'n myfyrwyr yn sicrhau rolau llawn neu ran amser yn y sefydliadau lle gwnaethon nhw gwblhau eu lleoliadau, diolch i'r rhwydwaith proffesiynol cryf a'r cyfleoedd byd go iawn a ddarperir trwy gydol y cwrs.

Llwybrau gyrfaol posib

Mae graddedigion yn aml yn symud yn eu blaen i yrfaoedd gwerth chweil fel ymarferwyr AHO, gan gyfrannu at ddatblygu addysg mewn ystod amrywiol o leoliadau. Mae cyn fyfyrwyr y cwrs hwn wedi sicrhau rolau fel athrawon, mentoriaid dysgu a thiwtoriaid. Yn ogystal, ar ôl cwblhau'r cymhwyster hwn, mae llawer yn mynd yn eu blaen i barhau â'u haddysg trwy ddilyn graddau pellach mewn addysg ar lefel ôl-raddedig, gan barhau â'u twf proffesiynol ac ehangu eu potensial o ran gyrfa.

Cefnogaeth Gyrfaoedd

Ochr yn ochr â'r gwasanaeth gyrfaoedd yn PDC, mae tîm addysgu Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol yn cynnig cymorth gyrfa wedi'i bersonoli drwy gydol y cwrs. Byddwch yn derbyn tiwtorialau ar greu rhwydweithiau proffesiynol, sesiynau cyfweld ffug, a pharatoi at gyflogaeth. Yn eich tymor olaf, byddwch yn cael sesiwn cynllunio pwrpasol ar gyfer pen eich taith addysgu chi gyda'ch tiwtor personol, a bydd y tîm addysgu ar gael i gynnig arweiniad gyda cheisiadau a chwilio am swyddi. Yn ogystal, mae llawer o'n cyn fyfyrwyr yn dychwelyd fel mentoriaid, yn cynnig cyngor a chefnogaeth gwerthfawr i garfannau newydd o athrawon dan hyfforddiant.

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Byddai angen i chi fod â chymhwyster lefel 6 yn eich maes pwnc addysgu, yn ogystal ag un flwyddyn neu fwy o brofiad galwedigaethol yn eich pwnc addysgu (lle bo’n berthnasol). Pan fyddwch chi gyda ni, byddwch yn datblygu sgiliau, hyder a dealltwriaeth o ddysgu, addysgu ac asesu yn eich pwnc ac ymarfer proffesiynol cyffredinol yn y sector.

 

Gofynion ychwanegol 

Bydd ymgeiswyr addas yn cael eu gwahodd i ddiwrnod cyfweld naill ai ar-lein neu ar Gampws Casnewydd, ac mae hyn yn rhan bwysig o ddod i adnabod pawb a’r cwrs. Bydd gofyn i chi roi cyflwyniad byr ar sut bydd eich profiadau a'ch cymwysterau yn eich helpu i ddod yn athro ym maes AHO. Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau. Mae rhagor o wybodaeth am y diwrnod cyfweld yma.

Mae angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar Restr y Gweithlu Plant a Gwahardd Plant a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.   

*Rhwymedig

Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am DBS neu dystysgrif ymddygiad da o'u mamwlad. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post a’r ffi gweinyddu ar-lein

Cost: £64.74

Bydd angen tanysgrifio ar gyfer pob blwyddyn o’r cwrs am ffi flynyddol o £16. Sylwer bod rhaid ymuno â’r gwasanaeth o fewn 30 niwrnod o dderbyn eich tystysgrif DBS Manylach.

Cost: £16

Teithio i ac o leoliad ac unrhyw gostau ychwanegol a godir gan leoliadau.

Mae'r gost yn dibynnu ar leoliad y lleoliad ac mae'n gost ychwanegol i'w thalu gan fyfyrwyr.

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

MAE'R CWRS AHO WEDI DATBLYGU FY ARBENIGEDD PWNC AC WEDI RHOI'R OFFER I FI I HELPU HYD YN OED MWY O BOBL I DDYSGU.

Myfyriwr Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol

RWY'N TEIMLO'N HYDERUS YNOF FY HUN AC YN FY NGALLUOEDD ADDYSGU NEWYDD, AC RWY'N EDRYCH YMLAEN YN EIDDGAR AT YRFA RWYF WIR YN EI MWYNHAU.

Myfyriwr Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol

Astudio yn PDC

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.