PGDip

Addysg Feddygol

Cyflwynir y diploma ôl-raddedig gyda'n Diploma MSc partner, ac mae'r wedi'i fwriadu ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n ymwneud ag unrhyw fath o addysgu meddygol.

Sut i wneud cais

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Ar-lein

Ffioedd

Bydd y cwrs Addysg Feddygol yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol, a’r gallu i gymhwyso addysg feddygol. Ar ôl ei gwblhau, bydd graddedigion yn gallu dangos gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o faterion penodol sy’n flaenllaw mewn theori ac ymarfer ym maes addysg feddygol.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae'r diploma dysgu o bell rhan-amser ar-lein hwn wedi'i ddatblygu'n arbennig ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol prysur fel meddygon, meddygon teulu, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r rheini sydd â graddau israddedig cysylltiedig fel fferyllwyr.

Mewn partneriaeth â

  • Learna | Diploma MSc

Llwybrau Gyrfa

  • Meddyg
  • Meddyg Teulu
  • Fferyllydd
  • Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol

Sgiliau a addysgir

  • Ymchwil
  • Gwerthuso
  • Datrys problemau
  • Arweinyddiaeth

Trosolwg o'r Modiwl

Bydd y cwrs Addysg Feddygol yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol, a chymhwyso addysg feddygol. Ar ôl ei gwblhau, bydd graddedigion yn gallu dangos gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o faterion penodol sy’n flaenllaw o ran theori ac ymarfer mewn addysg feddygol.

Ymarfer Addysg Feddygol
Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol o gyd-destun addysg feddygol ym mhroffesiwn ehangach addysg sy'n canolbwyntio ar ofal cleifion.

Asesu

Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth fanwl o egwyddorion asesu mewn addysg feddygol.

Y Cyfryngau

Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth fanwl o sut i ymgorffori amrywiaeth o raglenni digidol mewn addysg feddygol.

Arweinyddiaeth

Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth fanwl o bwysigrwydd arweinyddiaeth effeithiol i helpu i wella gofal cleifion.

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Byddwch chi'n gwneud cyfuniad o brosiectau unigol a grŵp, a bydd gennych bortffolio ymarfer myfyriol i'ch helpu chi i ystyried sut y gellir trosi'r hyn rydych chi'n ei ddysgu ar y cwrs yn waith ac ymarfer bob dydd.

Ar ôl i chi sicrhau eich lle ar y cwrs, fe'ch gwahoddir i Weminar Diwrnod Sefydlu Ar-lein.

Mae'r cwrs addysg feddygol yn rhoi asesu wrth wraidd dysgu drwy ddefnyddio senarios clinigol i hwyluso datrys problemau, dadansoddi beirniadol a gofal seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r senarios yn canolbwyntio ar ddysgu ac asesu, gan ymgorffori asesu yn y broses ddysgu.

Staff addysgu

  • Dr Richard Chudleigh, Cyfarwyddwr y Cwrs 
  • Angela Sims, Arweinydd y Cwrs 

Cewch gefnogaeth tîm ymroddedig a fydd yn eich helpu gydag unrhyw heriau y gallech eu hwynebu - o help i lywio eich ffordd o gwmpas ein platfform dysgu ar-lein i gyngor ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud i basio'r cwrs a bodloni terfynau amser.

Cyfleusterau

Fel rhan o'ch astudiaethau, bydd gennych fynediad at dros 13,000 o erthyglau cyfnodolion testun llawn, erthyglau newyddion a thrafodion cynadleddau.

Mewn partneriaeth â

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Ar ôl ei gwblhau, bydd graddedigion yn gallu dangos gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o faterion penodol sy’n flaenllaw o ran theori ac ymarfer mewn addysg feddygol; gallu gwerthuso damcaniaethau ac egwyddorion addysg feddygol yn feirniadol i lywio ymarfer addysgol a dangos ymwybyddiaeth o wybodaeth ddatblygedig mewn dulliau addysgol.

Cymorth gyrfaoedd

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Er mwyn sicrhau eich lle ar y cwrs, bydd ymgeiswyr fel arfer yn meddu ar radd gyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn maes gofal iechyd proffesiynol perthnasol, fel gradd feddygol neu nyrsio.

Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig heb y cymwysterau cydnabyddedig hyn yn cael eu hystyried yn unigol a gellir ystyried ystod eang o brofiad blaenorol. 

Gofynion Ychwanegol:

Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith i'w asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gallu gweithio'n gyffyrddus ar lefel ôl-raddedig, a dangos y wybodaeth glinigol a phroffesiynol ofynnol.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

* Rhwymedig

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Sut i wneud cais

Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.

Gwefan Learna