PGDip

AAA/ADY (Anawsterau Dysgu Penodol)

Enillwch wybodaeth a sgiliau arbenigol wrth gefnogi dyslecsia ac Anawsterau Dysgu Penodol (ADP) eraill, gan gynnwys ADHD ac Awtistiaeth, i ddyfnhau eich ymarfer a'ch arbenigedd presennol ac adeiladu hygrededd proffesiynol.

Sut i wneud cais Archebu Lle Ar Noson Agored Sgwrsio Gyda Ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Casnewydd

  • Côd y Campws

    C

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £1,200*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Cyflawnwch ddiploma lefel 7 gyda'r opsiwn i ennill cymhwyster proffesiynol ac achrediad a gydnabyddir yn genedlaethol wrth gefnogi anawsterau dysgu penodol (dyslecsia) - gan eich darparu i wneud newidiadau gwirioneddol i'ch ymarfer mewn ysgolion a lleoliadau dysgu.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Y rhai sydd eisoes yn cefnogi dysgwyr ag anawsterau - neu'r rhai sy'n edrych i fynd i mewn i'r maes - sydd eisiau dyfnhau eu gwybodaeth arbenigol am anawsterau dysgu penodol, fel dyslecsia. Mae'r cwrs yn cyd-fynd ag egwyddorion Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 a chyrff cenedlaethol fel Cymdeithas Dyslecsia Prydain.

Llwybrau gyrfa

  • Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Athrawon/tiwtoriaid/Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch (CALU) arbenigol
  • Therapyddion Iaith a Lleferydd
  • Swyddi Gwasanaeth Iechyd
  • Therapyddion Galwedigaethol

Sgiliau a ddysgir

  • Asesu a chynllunio
  • Sgiliau diagnostig
  • Meddwl beirniadol
  • Gweithio rhyngasiantaethol
  • Ysgrifennu a dadansoddi academaidd ac adroddiadau

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Tîm addysgu arbenigol

Mae eich tîm addysgu yn dod â phrofiad byd go iawn o'r sector AAA ac maent yn ymchwilwyr ac ymarferwyr gweithredol ym maes ADP.

Amserlen hygyrch

Mae addysgu wyneb yn wyneb gyda'r nos wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch amserlen, gan ei gwneud hi'n haws cydbwyso'ch ymrwymiadau gwaith presennol neu brofiad proffesiynol ochr yn ochr â'ch astudiaethau.

Cefnogaeth ymroddedig

Mae ein tiwtoriaid ymroddedig wrth law i arwain eich taith academaidd gyda hyfforddiant un-i-un ac adborth arbenigol.

Ennill achrediad proffesiynol

Bydd gennych yr opsiwn i ennill achrediad proffesiynol gyda Chymdeithas Dyslecsia Prydain.

Trosolwg o'r Modiwl

Nod y modiwlau ar gwrs y Diploma i Raddedigion mewn AAA/ADY yw ehangu dealltwriaeth ddamcaniaethol myfyrwyr drwy waith ymchwil a gwerthuso o fewn eu priod rolau proffesiynol.

  • AAA/ADY: Cyd-destunau a Chysyniadau 
  • Theori ac asesu ym maes dyslecsia

 

 

  • Gweithio gydag Dyslecsia: Cysylltu Theori, Asesu ac Ymarfer
  • Methodoleg Ymchwil

 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut y byddwch yn dysgu

Caiff y cwrs ei ddysgu drwy sesiynau cyfnos nos Lun, nos Fawrth, a nos Fercher o 5:00pm–7:30pm (un noson y tymor), wedi'u cynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau proffesiynol. Mae sesiynau'n cyfuno darlithoedd anffurfiol, trafodaethau grŵp, a gweithgareddau ymarferol, fel defnyddio deunyddiau asesu a diagnostig ac integreiddio sgiliau astudio. Byddwch chi'n datblygu sgiliau hanfodol mewn ymchwil llyfrgell, asesu ar gyfer ADP, syntheseiddio gwybodaeth, a gweithio gyda systemau electronig, gyda ffocws cryf ar gymhwyso'r sgiliau hyn i wella'ch ymarfer proffesiynol a chefnogi'ch gwaith gyda dysgwyr yn uniongyrchol.

I ennill achrediad proffesiynol gyda Chymdeithas Dyslecsia Prydain, rhaid i chi adeiladu portffolio ymarfer addysgu. Bydd hyn yn cynnwys gweithio'n weithredol a chefnogi dysgwyr ag anawsterau dysgu penodol a chymhwyso theori i ymarfer.

Staff addysgu

Mae eich staff addysgu yn dod â phrofiad helaeth i'r cwrs, ar ôl dal rolau uwch fel Cydlynwyr Anghenion Arbennig/Gweithwyr Cymorth mewn ysgolion, colegau addysg bellach a phrifysgolion. Gan gymryd rhan weithredol mewn ymchwil ar draws Cymru, ac yn rhyngwladol, mae'r tîm yn dod ag arbenigedd ymarferol a mewnwelediad academaidd, gan sicrhau bod y cwrs yn adlewyrchu realiti'r ystafell ddosbarth a'r ymchwil ddiweddaraf mewn ADP ac addysg gynhwysol. Gwahoddir siaradwyr gwadd o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol i sesiynau hefyd, gan gynnig mewnwelediadau ffres, safbwyntiau byd go iawn a chyfleoedd i rwydweithio.

Cyfleusterau

Mae astudio yn ein campws yng Nghasnewydd yn golygu y bydd gennych fynediad at gyfleusterau gwych a gynlluniwyd ar gyfer cydweithredu. O ganolfannau dysgu modern i ystafelloedd TG â chyfarpar da a llyfrgell helaeth, bydd popeth sydd ei angen arnoch wrth law. Mae gennym enghreifftiau o wahanol ddeunyddiau asesu a diagnostig sy'n berthnasol i ADP (Dyslecsia) ac mae llyfrgellydd addysg pwrpasol a chronfeydd data ar-lein hefyd a all gefnogi eich ymchwil llenyddiaeth. Mae ystafelloedd astudio y gellir eu bwcio, y Ganolfan Ddysgu a'r Parth Cynghori hefyd ar gael yn ystod eich amser yn PDC.

Lleoliadau a phrofiad gwaith

I gymryd y diploma, bydd angen i chi fod mewn lleoliad gwaith lle mae gennych fynediad at ddysgwyr sydd angen cymorth gydag ADP. Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd PDC hefyd ar gael i gynorthwyo gyda dod o hyd i leoliadau.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd Graddedigion

Gall y cwrs hwn eich helpu i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa - boed hynny'n golygu symud ymlaen yn eich rôl bresennol, symud i swyddi arweinyddiaeth, neu arbenigo ymhellach mewn AAA/ADY ac addysg gynhwysol. Mae llawer o raddedigion yn mynd ymlaen i fod yn Gydlynwyr Anghenion Dysgu neu'n dilyn TAR i ddod yn athrawon cymwys llawn sydd ag arbenigedd mewn cefnogi dysgwyr ag anghenion ychwanegol.

Llwybrau gyrfa posibl

Mae graddedigion y cwrs hwn yn dilyn ystod eang o lwybrau gyrfa o fewn addysg, iechyd a gwasanaethau cymorth. Gallech symud i rolau fel arbenigwr AAA/ADY, cydlynydd cynhwysiant, ymgynghorydd addysg, neu hyfforddwr o fewn ysgolion, colegau, neu sefydliadau allanol. Mae'r cwrs hefyd yn darparu sylfaen gref ar gyfer astudiaeth neu ymchwil bellach mewn addysg gynhwysol. Mae yna hefyd yr opsiwn i ymestyn y cwrs i radd Meistr lawn trwy gymryd 60 credyd ychwanegol.

Cymorth Gyrfaoedd

Bydd Gwasanaeth Gyrfaoedd PDC yn eich helpu i ddarganfod eich posibiliadau gyrfa yn ystod ac ar ôl eich gradd. Bydd gennych fynediad at gymorth, datblygiad ac arweiniad ar ysgrifennu CV, cwblhau ceisiadau, meistroli cyfweliadau a llywio'r broses recriwtio. Fel myfyriwr yn PDC, byddwch hefyd yn gallu mynychu gweithdai sgiliau, sesiynau cyflogwyr, a ffeiriau gyrfaoedd, gan gysylltu â chyflogwyr newydd, gwella eich sgiliau, a rhoi hwb i'ch hyder.

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Statws Athro Cymwysedig ynghyd â phrofiad addysgu neu o leiaf dwy flynedd o brofiad o gefnogi myfyrwyr ag anawsterau llythrennedd mewn Addysg bellach neu Uwch. 

Gofynion Ychwanegol:

Gwiriad Manylach Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Gwell (DBS) ar y Gweithlu Plant a'r Rhestr Gwahardd Plant a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru DBS. (Cyfwerth tramor  yn ofynnol ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn DU) 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

* Rhwymedig

 

Mae arsylwadau ymarfer addysgu yn orfodol ar gyfer y Diploma Ôl-raddedig 

Cost - £ 400 

Aelodaeth Gysylltiol o Gymdeithas Dyslecsia Prydain (AMBDA) (Cymdeithas Dyslecsia Prydain) 

Cost - £ 800 

Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am DBS neu dystysgrif ymddygiad da o'u mamwlad. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post a’r ffi gweinyddu ar-lein

Cost: £64.74

Bydd angen tanysgrifio ar gyfer pob blwyddyn o’r cwrs am ffi flynyddol o £16. Sylwer bod rhaid ymuno â’r gwasanaeth o fewn 30 niwrnod o dderbyn eich tystysgrif DBS Manylach.

Cost: £16

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.

Astudio yn PDC

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.