Addysg ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol
Datblygu eich sgiliau dysgu ac addysgu mewn amrywiaeth o gyfleusterau o'r radd flaenaf, gan gynnwys Canolfan Efelychu Clinigol y Brifysgol a Chanolfan Efelychu Hydra.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio â ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/nursing/postgraduate-certificate-education-for-healthcare-professionals.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
Mae';r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol wedi'i chynllunio'n benodol i baratoi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig i ddatblygu a mabwysiadu rôl addysgol mewn pob math o leoliadau – rhai academaidd a rhai seiliedig ar ymarfer.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
ydd gan gyfranogwyr ddiddordeb gwirioneddol mewn cefnogi dysgu a datblygu amgylcheddau dysgu effeithiol.
Llwybrau Gyrfa
- Addysgwr Ymarfer
- Darlithydd
- Tiwtor Sgiliau Clinigol
Sgiliau a addysgir
- Y gallu i hwyluso dysgu
- Y gallu i gynllunio sesiynau
- Gwell dealltwriaeth o gefnogi dysgwyr ag anghenion penodol
- Gwell hyder wrth asesu dysgwyr
- Y gallu i wella'r amgylchedd dysgu
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Mae'r cwrs hwn yn dechrau bob mis Ebrill ac yn para tan y mis Mawrth canlynol. Mae dau fodiwl i'w cwblhau gyda chyfanswm o 60 credyd. Mae diwrnodau astudio ar y campws ar ddydd Gwener o 10yb tan 3yp.
Hwyluso Dysgu ac Addysgu ac Asesu yn y Cyd-destun Ymarfer
Nod y modiwl hwn yw datblygu gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd i hwyluso a chefnogi dysgu’n effeithiol a chynnal asesiad o fyfyrwyr ac eraill o fewn cyd-destun maes ymarfer y cyfranogwyr.
Gwella'r Profiad Dysgu yn y Cyd-destun Ymarfer
Nod y modiwl hwn yw archwilio a datblygu ansawdd profiad myfyrwyr a dysgu myfyrwyr yn y cyd-destun ymarfer ac archwilio'n feirniadol eu rôl wrth wella'r profiad dysgu yn effeithiol.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Bydd dysgu damcaniaethol yn cael ei reoli trwy brosesau dysgu wedi'u hwyluso sy'n cynnwys tiwtorial, gweithdai, chwarae rôl, gweithgareddau dysgu dan arweiniad cyfranogwyr a defnyddio amgylcheddau dysgu efelychiedig.
Bydd dysgu ymarfer yn y gwaith yn canolbwyntio ar gefnogi dysgu ac asesu myfyrwyr yng nghyd-destun ymarfer y cyfranogwr. Bydd gan gyfranogwyr ddau hwylusiad crynodol a arsylwir o gyfleoedd dysgu / asesu gyda myfyrwyr.
Bydd y cyfranogwyr yn myfyrio'n feirniadol ac yn datblygu o'r adborth ar y sesiynau hyn ac yn datblygu portffolio cefnogol o'r sesiynau. Bydd elfen arall o asesu yn canolbwyntio ar ddatblygu ac arwain menter yng nghyd-destun ymarfer y cyfranogwr i wella profiad dysgu'r myfyrwyr ac eraill.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/13-video-thumbnails/video-healthcare-interview.png)
Staff addysgu
Mae tîm craidd o uwch ddarlithwyr profiadol iawn sy’n weithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig hefyd a fydd yn eich cefnogi drwy'r cwrs hwn ac yn hwyluso eich dysgu a'ch datblygiad.
Dyrennir Tiwtor Personol i fyfyrwyr i gynnig cefnogaeth ac arweiniad gyda phob agwedd ar y cwrs. Bydd tiwtoriaid personol yn cynnig goruchwyliaeth academaidd hefyd i helpu'r cyfranogwr i baratoi ar gyfer asesiadau crynodol ac i arsylwi ar hwyluso'r cyfranogwr o ddysgu ac asesu.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/00-miscellaneous/misc-student-at-healthcare-appointment.jpg)
Lleoliadau
Nid oes elfen o leoliadau neu brofiad gwaith ynghlwm wrth y cwrs hwn, ond rhaid i gyfranogwyr fod mewn rôl lle gallant hwyluso dysgu ac asesu dysgu.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/nursing/subject-nursing-generic-48206.jpg)
Cyfleusterau
Cyflwynir y cwrs hwn ar Gampws Glyn-taf lle bydd cyfranogwyr yn gallu profi amrywiaeth o gyfleusterau addysgu a dysgu gan gynnwys yr Ystafell Efelychu Clinigol, Ystafell Hydra Minerva a chyfleusterau eraill.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/16-pontypridd-facilities/162-glyntaff-facilities/campus-facilities-glyntaff-clinical-simulation-centre-54751.jpg)
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd 2: 2 neu uwch mewn gradd a bod â thystiolaeth o ymgysylltiad diweddar â gweithgareddau DPP. Rhaid iddynt hefyd fod mewn rôl lle gallant hwyluso dysgu ac asesu dysgu.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.