Addysg Gweithwyr Cymorth Nyrsio Gofal Iechyd
Mae'r cwrs hwn yn ffrwyth cydweithio rhwng Prifysgol De Cymru a chwe Bwrdd Iechyd Prifysgol Cymru.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/health-and-social-care/health-and-social-care-cert-he-health-care-nursing-support-worker-education-placeholder-01.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£785*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae'r cwrs Tystysgrif AU hwn mewn Nyrsio Gofal Iechyd i Gweithwyr Cymorth yn cynnig llwybr datblygu gyrfa i Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd (HCNSW) sydd, ar ôl graddio, yn eich galluogi i wneud cais am Swyddi Ymarferydd Cynorthwyol Band 4 neu i barhau â'ch datblygiad proffesiynol.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Nod y cwrs yw rhoi gwybodaeth a sgiliau i chi a fydd yn trawsnewid eich ymarfer, gan wella ansawdd y gofal i gleifion/cleientiaid/defnyddwyr gwasanaeth.
Llwybrau Gyrfa
- Ymarferydd Cynorthwyol Band 4
Sgiliau a ddysgir
- Meddwl yn feirniadol
- Ymarfer myfyriol
- Ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth
- Cyfathrebu
- Llythrennedd digidol
Trosolwg o’r Modiwl
Mae pob modiwl yn cynnwys 50% o theori a 50% o ymarfer yn unol â gofynion y rhaglenni BSc (NMC, 2018). Mae'r dulliau a'r prosesau dysgu yn cefnogi cyfnod o gyflwyniad i ddeilliannau dysgu theori ar gyfer pob modiwl a astudir a sut y’u cymhwysir wrth ymarfer. Mae deilliannau dysgu ymarfer clinigol a theori yn cael eu rheoli ar yr un pryd drwy gydol y rhaglen.
Blwyddyn Un
Deall y Corff Dynol a’i Ddatblygiad Drwy Gydol Oes*
Hyrwyddo Iechyd a Lles*
Hanfodion Ymarfer Nyrsio
*Mae modd astudio'r modiwlau yma 100% drwy gyfrwng y Gymraeg
Blwyddyn Dau
Datblygu Hyder wrth Ymarfer
Rôl Nyrsys yn Rheoli a Gweinyddu Meddyginiaethau
Deall y Corff Dynol a’i Ddatblygiad Drwy Gydol Oes*
Mae'r modiwl 10 wythnos hwn yn canolbwyntio bob wythnos ar wahanol systemau anatomegol, gan alluogi eich dealltwriaeth o anatomeg a ffisioleg yng nghyd-destun datblygiad dynol.
Hyrwyddo Iechyd a Lles*
Nod y modiwl hwn yw eich galluogi i archwilio cysyniadau iechyd a ffactorau sy'n dylanwadu ar iechyd a lles gydol oes.
*Mae modd astudio'r modiwlau yma 100% drwy gyfrwng y Gymraeg
Hanfodion Ymarfer Nyrsio
Nod y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth hanfodol i chi o feysydd allweddol ymarfer nyrsio, a goblygiadau bod yn weithiwr proffesiynol.
Datblygu Hyder wrth Ymarfer
Eich galluogi i ennill set o sgiliau i weithredu’n fedrus a datblygu hyder cynyddol yn yr amgylchedd dysgu ymarfer.
Rôl Nyrsys yn Rheoli a Gweinyddu Meddyginiaethau
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar reoli meddyginiaethau gan ddefnyddio cyfrifiadau BNF a chyfrifiadau gweinyddu meddyginiaethau gan ddefnyddio safe medicate. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o rôl nyrsys o ran rheoli meddyginiaethau a gweinyddu meddyginiaethau.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch chi’n dysgu
Rheolir y broses o gyflwyno ac asesu er mwyn gallu cofrestru, ymgysylltu ac asesu pob modiwl yn olynol.
Mae'r cwrs yn creu Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd hunangyfeiriedig a gwydn sy'n feddyliwr beirniadol gyda'r gallu i gyfrannu at ddarparu gofal tosturiol diogel ac effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar draws amrywiaeth o leoliadau.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/research/research-welsh-institute-for-health-and-social-care.jpg)
Staff addysgu
- Anitha Livingstone, arweinydd y cwrs
- Stuart Baker, dirprwy arweinydd y cwrs
- Sam Metcalfe
- Steve Walden
- Katie Spender
- Dawn Hopkins
- Colin Macpherson
- Marcelle Dos Santos
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2023/10-october/news-image-young-people-heathcare-careers.png)
Lleoliadau
Cyflogir pob ymgeisydd ar y pryd fel Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd sy’n gweithio gyda chleientiaid mewn lleoliadau gofal iechyd a byddant yn parhau i weithio yn ystod yr astudiaeth. Bydd ganddynt gontract parhaol mewn gofal iechyd a mynediad at Asesydd/Goruchwyliwr Ymarfer hyfforddedig sy’n Nyrs Gofrestredig, a fydd yn rhoi arweiniad iddynt yn eu hymarfer clinigol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/13-video-thumbnails/video-healthcare-interview.png)
Cyfleusterau
Dysgu drwy Efelychu: Mae’r Ganolfan Efelychu Clinigol ac ystafell efelychu Hydra Minerva yn cynnig cyfleoedd dysgu ymdrochol i roi theorïau mewn cyd-destun a’u cymhwyso i sefyllfaoedd ymarferol a dilys.
Addysgu Wyneb yn Wyneb: Mae 8 diwrnod astudio y flwyddyn lle gwahoddir y myfyrwyr i’r campws ar gyfer gwahanol ddulliau dysgu megis Darlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gwaith grŵp a chyflwyniadau.
Astudio dan gyfarwyddyd gan gynnwys dysgu ar-lein: Mae gan Brifysgol De Cymru adnoddau dysgu ar-lein rhagorol a bydd myfyrwyr yn cael eu cyfarwyddo a’u cefnogi i fanteisio i’r eithaf ar ddarpariaeth ar-lein Prifysgol De Cymru, y rhan fwyaf ohoni drwy’r Rhith-amgylchedd Dysgu ac yn cynnwys mynediad i grwpiau trafod.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/13-video-thumbnails/video-360-clinical-sim-centre.png)
Gofynion mynediad
Rhaid i ymgeiswyr:
- Bod â NVQ / QCF Lefel 3 neu gymhwyster cyfwerth a bod â phortffolio byw cyfredol o dystiolaeth o ddatblygiad parhaus gan gynnwys detholiad o'r canlynol - Pasbort codi a chario, tystiolaeth o hyfforddiant cynnal bywyd sylfaenol, POVA a hyfforddiant amddiffyn plant, rheoli heintiau a'r gallu i fyfyrio ar ymarfer trwy ysgrifennu myfyriol
- Dangos hyfedredd mewn iaith Saesneg a gallu mewn sgiliau llythrennedd a rhifedd i gyflawni canlyniadau'r cwrs. Mae hyn yn cyfateb i fod â chymhwyster Lefel 2 Saesneg iaith a Mathemateg (sy'n cyfateb i Fathemateg a Saesneg TGAU Gradd C neu'n uwch)
- Yn gweithio fel Gweithiwr Cefnogi Gofal Iechyd (HCSW) yn cefnogi Nyrsys Cofrestredig ar hyn o bryd
- Bod â chontract parhaol ym maes gofal iechyd a bod â mynediad at Asesydd / Goruchwyliwr Ymarfer Nyrsio Cofrestredig hyfforddedig
- Tystiolaeth o'u sgiliau ymarferol mewn gofal claf
- Darparu cadarnhad o gefnogaeth gan Reolwr Llinell i fynychu diwrnodau astudio gorfodol y Brifysgol ac i nodi Asesydd / Goruchwyliwr Ymarfer sydd wedi'i hyfforddi'n briodol yn ymarferol.
- Darparu geirda ysgrifenedig sy’n cefnogi’r cais
Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr ddangos gallu llythrennedd digidol a thechnolegol i gyflawni deilliannau’r cwrs.
Mae’r broses dewis a dethol yn cynnwys adolygiad o ddatganiad personol yr ymgeisydd a chadarnhad bod yr ymgeisydd yn cwrdd â gofynion mynediad PDC ar gyfer y cwrs. Os yw’r ymgeisydd yn cwrdd â’r meini prawf hyn, gwahoddir yr ymgeisydd i ddiwrnod cyfweliad grŵp gyda phanel sy'n cynnwys staff academaidd o dîm y cwrs a phartneriaid ymarfer. Cynhelir diwrnodau cyfweliad grŵp yn ystod tymor yr haf.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Ffioedd a Chyllid
£785
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.