MSc

Addysg Feddygol

Bwriedir ein hyfforddiant addysg feddygol, a gaiff ei gyflwyno gyda'n partner Diploma MSc, ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n ymwneud ag unrhyw fath o addysgu meddygol.

Sut i wneud cais

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Ar-lein

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £TBC*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £TBC*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Mae'r cwrs MSc mewn Addysg Feddygol yn cynnig dilyniant o'r Diploma Ôl-raddedig i unigolion sydd â diddordeb mewn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol a chymhwyso addysg feddygol.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae'r cwrs ar-lein hwn wedi'i ddatblygu'n arbennig ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol prysur fel meddygon, meddygon teulu, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r rhai sydd â graddau israddedig cysylltiedig fel fferyllwyr.

Mewn partneriaeth â

  • Learna | Diploma MSc

Llwybrau Gyrfa

  • Meddyg
  • Meddyg Teulu
  • Fferyllydd
  • Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol

Sgiliau a addysgir

  • Ymchwil
  • Gwerthuso
  • Datrys problemau
  • Arweinyddiaeth

Trosolwg o'r Modiwl

Methodolegau Ymchwil a Gwerthuso Beirniadol

Nod y modiwl hwn yw helpu myfyrwyr i adnabod, deall, dehongli a chymhwyso dulliau a ddefnyddir mewn ymchwil gofal iechyd a gwerthuso'n feirniadol y gwahanol fethodolegau sy'n benodol i ymchwil Addysg Feddygol.

Prosiect Proffesiynol: Addysg Feddygol 

I gynhyrchu'r prosiect proffesiynol, mae myfyrwyr yn parhau i ddefnyddio'r cwrs ar-lein; fodd bynnag, mae llawer o'r gwaith yn hunangyfeiriedig.

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Disgwylir i fyfyrwyr yn yr 8 wythnos gyntaf ryngweithio â'u tiwtor yn wythnosol. Yna byddwch yn dewis prosiect penodol ac yn cyflwyno crynodeb/cynnig prosiect (tua 1,500 o eiriau).

Ar ôl i'r cynnig gael ei gymeradwyo, cwblheir y prosiect proffesiynol (10,500 o eiriau) ei hun trwy arweiniad a goruchwyliaeth ar-lein a gynigir gan y tiwtor.

Staff addysgu

  • Dr Richard Chudleigh, Cyfarwyddwr y Cwrs
  • Angela Sims, Arweinydd y Cwrs

Cewch gefnogaeth tîm ymroddedig a fydd yn eich helpu gydag unrhyw heriau y gallech eu hwynebu - o help i lywio eich ffordd o gwmpas ein platfform dysgu ar-lein i gyngor ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud i basio'r cwrs a bodloni terfynau amser.

Cyfleusterau

Fel rhan o'ch astudiaethau, bydd gennych fynediad at dros 13,000 o erthyglau cyfnodolion testun llawn, erthyglau newyddion a thrafodion cynadleddau.

Mewn partneriaeth â

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Llwybrau gyrfa posibl

Mae'r cwrs MSc mewn Addysg Feddygol yn cynnig dilyniant o'r Diploma Ôl-raddedig ar gyfer unigolion sydd â diddordeb mewn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol a chymhwyso addysg feddygol.

Cymorth gyrfaoedd

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Er mwyn sicrhau eich lle ar y cwrs, bydd ymgeiswyr fel arfer yn meddu ar radd gyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn maes gofal iechyd proffesiynol perthnasol, fel gradd feddygol neu nyrsio.

Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig heb y cymwysterau cydnabyddedig hyn yn cael eu hystyried yn unigol a gellir ystyried ystod eang o brofiad blaenorol. 

Gofynion Ychwanegol:

Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith i'w asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gallu gweithio'n gyffyrddus ar lefel ôl-raddedig, a dangos y wybodaeth glinigol a phroffesiynol ofynnol.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

* Rhwymedig

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Sut i wneud cais

Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.

Gwefan Learna