Ffoaduriaid, dadleoli a dyngarwch

Mae ymchwil yr Athro Palash Kamruzzaman yn rhychwantu’r meysydd croestoriadol o ddadleoli gorfodol, astudiaethau ffoaduriaid, datblygu byd-eang, cymdeithas sifil, llunio polisïau cyfranogol, arbenigedd datblygu, a gwleidyddiaeth cynhyrchu gwybodaeth.

Ffoaduriaid Rohingya ym Mangladesh

Archwiliodd ei brosiect diweddar, a ariannwyd gan yr Academi Brydeinig, brofiadau o drais a cholli urddas ymhlith pobl Rohingya a ddadleolwyd yn orfodol ym Mangladesh a phoblogaethau sydd wedi'u dadleoli'n fewnol yn Affganistan.  Mae ei ymchwil hefyd yn ymchwilio i sut mae cymunedau lletyol yng Ngwlad yr Iorddonen, Malaysia, Twrci a Bangladesh yn amgyffred ac yn rhyngweithio â phoblogaethau ffoaduriaid. Mae'r ymchwil yma’n datblygu fframwaith ar gyfer deall dadleoli gorfodol, heriau integreiddio, a llywodraethiant cymorth dyngarol, i gyd wedi'u fframio trwy brofiadau bywyd ac urddas pobl sydd wedi'u dadleoli.

Nod ei waith yw hyrwyddo dealltwriaeth fyd-eang o ddadleoli gorfodol, ymfudo, integreiddio ffoaduriaid, ac ymateb dyngarol. Fel rhan o hyn, cyhoeddodd yr Athro Kamruzzaman astudiaethau sy'n archwilio canfyddiadau cymunedau lletyol o ffoaduriaid Rohingya ym Mangladesh, yn ogystal â safbwyntiau'r gymuned letyol a ffoaduriaid Syriaidd tuag at integreiddio yn Llywodraethiaeth Al-Mafraq, Gwlad yr Iorddonen. Mae'r gweithiau hyn yn cynnig mewnwelediadau beirniadol i sut mae presenoldeb ffoaduriaid yn croestorri â dynameg gymdeithasol-wleidyddol leol, dosbarthiad adnoddau, a chydlyniant cymdeithasol mewn gwahanol gyd-destunau cenedlaethol.

Ar hyn o bryd, mae'r Athro Kamruzzaman yn gweithio gyda thîm amlddisgyblaethol sy'n archwilio’r wleidyddiaeth o wadu a pheidio â chydnabod hil-laddiad, sy'n cynnwys sawl astudiaeth beilot wedi'u clystyru o dan y thema eang o ganfyddiadau cymunedau lletyol, integreiddio ffoaduriaid, a chymorth dyngarol.

MAE'R ASTUDIAETHAU HYN YN BLAENORIAETHU CWESTIYNAU URDDAS TRWY LENS FFOADURIAID, A REALITI BOB DYDD BYWYD MEWN GWERSYLLOEDD FFOADURIAID.

Palash Kamruzzaman

Athro Polisi Cymdeithasol

Ym Malaysia, mae'n ymchwilio i sut mae cymunedau lleol yn amgyffred presenoldeb ffoaduriaid Rohingya, yn enwedig yng nghyd-destun polisïau'r wladwriaeth, portreadau’r cyfryngau, ac ymatebion cymdeithas sifil. Yn Nhwrci, mae astudiaeth gyfochrog yn canolbwyntio ar sut mae ffoaduriaid o Syria yn profi'r broses integreiddio ac yn archwilio'r cyfleoedd maen nhw'n eu nodi, y rhwystrau maen nhw'n eu hwynebu, a sut mae'r rhain yn siapio eu hymdeimlad o berthyn a'u rhagolygon. Ac ym Mangladesh, mae astudiaeth arall yn archwilio effeithiolrwydd a llywodraethiant cymorth dyngarol i ffoaduriaid sy'n byw mewn gwersylloedd. Gan ddefnyddio gwersylloedd ffoaduriaid Rohingya fel astudiaeth achos, mae'r ymchwil yn archwilio gweithrediad polisi, mecanweithiau darparu gwasanaethau, a’r economi wleidyddol ehangach o gymorth dyngarol tuag at y ffoaduriaid.

Gyda'i gilydd, nod yr astudiaethau hyn yw creu dealltwriaeth fwy cyfannol a chymharol o ddadleoli gorfodol, a phrofiadau ffoaduriaid. Mae'r ymchwil hefyd yn archwilio sut mae llywodraethiant dyngarol yn gweithredu ar draws gwahanol dirweddau cymdeithasol-wleidyddol; gan gyfrannu at y dadleuon academaidd a pholisi ehangach ar fudo byd-eang ac argyfyngau ffoaduriaid.