Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldeb Iechyd gyda FRAIT

Mae ymchwilwyr wedi datblygu offeryn ymarferol sy’n helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd hirdymor i deuluoedd ledled Cymru.

Mae ymwelydd iechyd yn gwenu wrth ryngweithio â merch ifanc a’i thad. Mae’r plentyn yn defnyddio dyfais lechen ar y bwrdd, gyda’r ymwelydd iechyd a’r plentyn ill dau wedi’u hysgogi gan y sgrin.

Am flynyddoedd, mae polisïau Llywodraeth Cymru wedi anelu at wella canlyniadau i blant ifanc. Roedd ymwelwyr iechyd, sy’n cefnogi teuluoedd o gyfnod beichiogrwydd hyd at y blynyddoedd cynnar, angen ffordd gyson, yn seiliedig ar dystiolaeth, i nodi pa deuluoedd sydd angen cymorth ychwanegol.

Yn 2014, gweithiodd ymchwilwyr PDC gydag ymwelwyr iechyd ledled Cymru i ddatblygu’r Offeryn ac Adnodd Asesu Gwydnwch Teulu (FRAIT). Gan ddefnyddio ymgynghori a thechnoleg efelychu arloesol ar raddfa fawr, fe wnaethant fapio beth mae ‘gwydnwch teuluol’ yn ei olygu yn ymarferol. Y canlyniad oedd asesiad strwythuredig, canllawiau clir, a phecyn hyfforddi i gefnogi barn broffesiynol a gwneud penderfyniadau, gan ganolbwyntio ar ddull yn seiliedig ar gryfderau i gynnig cefnogaeth i deuluoedd lle bo angen.

MAE FRAIT WEDI TRAWSNEWID SUT MAE CYMRU’N CEFNOGI EI DINASYDDION IEUENGAF TRWY ROI TEGWCH AC ATAL WRTH WRAIDD GOFAL.

Carolyn Wallace

Athro Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymunedol

Mabwysiadwyd FRAIT gan Lywodraeth Cymru fel rhan o ‘Rhaglen Plant Iach Cymru’ yn 2016 a ddaeth yn orfodol yn 2017. Heddiw, mae pob ymwelydd iechyd yng Nghymru yn defnyddio FRAIT gyda phob teulu ar eu llwyth achosion (o leiaf 250 teulu yr un) ar draws saith apwyntiad allweddol ym mlynyddoedd cynnar plentyn. Mae hyn yn cyfateb i fwy nag 1.8 miliwn o ryngweithiadau teuluol.

Mae’r effaith wedi bod yn sylweddol. Mae teuluoedd bellach yn derbyn asesiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru. Gall ymwelwyr iechyd nodi pryderon yn gynharach, teilwra cymorth yn fwy effeithiol, a chysylltu teuluoedd â’r gwasanaethau cywir ar yr amser iawn. Mae creu Cymuned Ymarfer Ymwelwyr Iechyd Cymru gyfan yn sicrhau adborth a gwelliant parhaus, tra bod cydweithio â GIG Cymru wedi arwain at ddatblygu fersiwn electroneg, gan wneud yr asesiad hyd yn oed yn fwy hygyrch.