Cymorth i Ofalwyr
Os ydych chi'n ofalwr, efallai y bydd gennych hawl i gael cymorth ychwanegol. Mae'r Bwrsariaeth Gofalwyr yn werth £1,000 (myfyrwyr amser llawn) a £500 (myfyrwyr cwrs 6 mis) y flwyddyn i fyfyrwyr cymwys cartref PDC sy'n Ofalwyr di-dâl.*
Cymorth ychwanegol Ffioedd a Chyllid/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/nursing/nursing-postgraduate-certificate-palliative-care-placeholder-01.jpg)
Yn ôl diffiniad Carers Trust, mae gofalwr yn cynnwys “unrhyw un sy’n gofalu, yn ddi-dâl, am ffrind neu aelod o’r teulu sydd, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu gaethiwed i rywbeth, yn methu ag ymdopi heb eu cymorth”.
Byddwn yn e-bostio dolen atoch i wneud cais am y fwrsariaeth i ofalwyr ar ôl i chi gofrestru - gwnewch yn siŵr eich bod yn datgelu eich bod yn ofalwr di-dâl ar ffurflen gofrestru Prifysgol De Cymru eich blwyddyn bresennol. Os ydych wedi cael y fwrsariaeth gofalwyr mewn blynyddoedd academaidd blaenorol, bydd y ddolen yn cael ei hanfon atoch yn awtomatig drwy neges e-bost.
Yna, bydd angen i chi ddarparu cadarnhad gan unigolyn sy’n ymwneud â’r teulu ar sail broffesiynol – e.e. Gweithiwr Cymdeithasol neu feddyg teulu – eich bod yn ofalwr, ynghyd â chyfriflenni banc cyfredol.
Bydd angen i fyfyrwyr a oedd yn derbyn Lwfans Gofalwr yn flaenorol ddarparu prawf gan yr Adran Gwaith a Phensiynau bod hyn bellach wedi dod i ben.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am fwrsariaeth y gofalwyr, gwneud cais am y fwrsariaeth neu gyllid myfyrwyr, neu wirio eich bod yn cael yr hawl gywir – cysylltwch â’r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr neu anfonwch neges e-bost at Dîm y Gronfa Cymorth i Fyfyrwyr.
Os hoffech chi gael cyngor am unrhyw faterion perthnasol, mae croeso i chi gysylltu â’ch Ardal Gynghori.
*Sylwch y gall dyraniadau cyllid newid, gwiriwch am y wybodaeth ddiweddaraf.