Ffioedd a Chyllid

Hyfforddiant Athrawon

Mae myfyrwyr sy'n dilyn cwrs Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon fel arfer yn gymwys i gael cymorth ariannol israddedig statudol.

Tudalennau cwrs Ffioedd israddedig a chyllid
Primary teaching student Libby White reads a book to a primary school pupil in a classroom at Risca Primary School

Hyd yn oed os ydych wedi astudio o'r blaen ar lefel israddedig, mae rhai cyrsiau addysgu yn dod gyda chyllid pellach, ac efallai y bydd rhai myfyrwyr yn gymwys i gael bwrsariaethau addysgu, budd-daliadau’r wladwriaeth neu gredydau treth.

Mae'r cyllid rydych yn gymwys i'w gael yn dibynnu ar y math o gwrs Addysg Cychwynnol Athrawon rydych chi’n ymgymryd ag ef, ble rydych yn byw fel arfer, y pwnc rydych chi’n ei addysgu, ble rydych yn hyfforddi a’ch amgylchiadau personol. 

Mae'r dudalen hon yn darparu gwybodaeth cyllid ar gyfer myfyrwyr cartref yn unig.

Bwrsariaethau addysgu

Efallai y bydd y bwrsariaethau canlynol ar gael drwy Lywodraeth Cymru i'ch helpu i fforddio rhai pynciau a chyrsiau penodol