Cymorth ychwanegol
Cymorth i Fyfyrwyr sydd wedi Ymddieithrio
Ym Mhrifysgol De Cymru, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cymorth i fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu rhieni neu sydd yn ymddieithrio wrth eu rhieni yn ystod eu hastudiaethau.
Cymorth ychwanegol Ffioedd a ChyllidDyma'r ffyrdd y gallwn eich cefnogi (ond nodwch y gallai'r dyraniadau cyllido newid):
- Bwrsariaeth myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio ar gyfer myfyrwyr dan 25 oed, sy’n cael eu hystyried yn fyfyrwyr ‘cartref’ ac sy’n cael eu hasesu gan eu corff cyllido fel myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio – £1,000 y flwyddyn ar hyn o bryd ar gyfer myfyrwyr amser llawn neu £500 ar gyfer myfyrwyr rhan-amser
- Gwobr graddio i gefnogi costau cysylltiedig fel llogi gŵn a phecyn ffotograffau (£100 ar hyn o bryd)
- Cymorth i wneud cais am gyllid myfyrwyr fel myfyriwr sydd wedi ymddieithrio
- Cyngor ariannol, gan gynnwys cyllidebu a rheoli arian
- Cymorth i wneud cais i Gronfa Cefnogi Myfyrwyr Prifysgol De Cymru os ydych chi mewn caledi ariannol
- Mynediad at lety 365 diwrnod i fyfyrwyr amser llawn – ar yr amod eich bod yn bodloni’r telerau ac amodau talu