CYLLID GOFAL IECHYD
Mae'n bosibl bod dau opsiwn ariannu gwahanol ar gyfer graddau Gofal Iechyd a gynigir gan PDC.
Ffioedd a Chyllid/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/allied-health/subject-allied-health-odp-50297.jpg)
Cyrsiau gofal iechyd cysylltiedig
Rhestrir cyrsiau gofal iechyd cymwys ym Mhrifysgol De Cymru isod. Mae'r cyrsiau gofal iechyd hyn wedi'u comisiynu gan Addysg Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ac wedi'u cynllunio'n benodol i gefnogi cynnydd unigolion i gofrestru yn eu dewis broffesiwn gofal iechyd a chefnogi anghenion gwasanaethau'r GIG a chleifion yng Nghymru yn y dyfodol.
- BSc (Anrh) Nyrsio (Anableddau Dysgu) - Llawn Amser
- BSc (Anrh) Nyrsio (Oedolion) - Llawn Amser
- BSc (Anrh) Nyrsio (Plant) - Llawn Amser
- BSc (Anrh) Nyrsio (Iechyd Meddwl) - Llawn Amser
- BSc (Anrh) Bydwreigiaeth - Llawn Amser
- BSc (Anrh) Ymarfer Gofal Llawdriniaethol (YGLl) - Rhan-Amser
- Nyrsio (Oedolion): Dysgu Hyblyg BSc Nyrsio (Oedolion): Dysgu Hyblyg BSc - Rhan-Amser, ddim yn gymwys ar gyfer opsiwn llwybr y GIG
- Nyrsio (Plant): Dysgu Hyblyg BSc - Rhan-Amser, ddim yn gymwys ar gyfer opsiwn llwybr y GIG
- Nyrsio (Anableddau Dysgu): Dysgu Hyblyg BSc - Rhan-Amser, ddim yn gymwys ar gyfer opsiwn llwybr y GIG
- Nyrsio (Iechyd Meddwl): Dysgu Hyblyg BSc - Rhan-Amser, ddim yn gymwys ar gyfer opsiwn llwybr y GIG
- BSc (Anrh) Therapi Galwedigaethol - Rhan- Amser
- BSc (Anrh) Ffisiotherapi - Rhan-Amser, ddim yn gymwys ar gyfer opsiwn llwybr y GIG
- Diploma Ôl- raddedig mewn Nyrsio (Oedolion) - Llawn Amswr, yn gymwys ar gyfer opsiwn llwybr y GIG yn unig
- Diploma Ôl- raddedig mewn Nyrsio (Anableddau Dysgu) - Llawn Amswr, yn gymwys ar gyfer opsiwn llwybr y GIG yn unig
- Diploma Ôl- raddedig mewn Nyrsio (Iechyd Meddwl) - Llawn Amswr, yn gymwys ar gyfer opsiwn llwybr y GIG yn unig
Dewisiadau Cyllid
Bydd y cyllid sydd ar gael yn dibynnu ar eich dewis o gwrs.
Os oes gennych yr opsiwn o gyllid safonol a’r GIG, bydd angen i chi benderfynu pa lwybr ariannu sydd orau i chi gan mai dim ond un y gallwch ei gael ac fel arfer ni allwch newid rhan o'r ffordd drwy eich astudiaethau. Byrd angen i chi benderfynu a ydych am ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl cwblhau eich gradd gofal iechyd. Os ‘ydw’ gallwch ddewis rhwng cyllid GIG neu gyllid myfyrwyr safonol. Os ‘nac ydw’ gallwch wneud cais am gyllid myfyrwyr safonol yn ôl eich domisil.
Er mwyn eich helpu i benderfynu, mae GIG Cymru wedi darparu'r wybodaeth ganlynol am gynllun bwrsariaeth y GIG. Mae'n bwysig bod myfyrwyr yn darllen y wybodaeth ar y wefan hon yn ofalus gan ei bod yn manylu ar sut y bydd cynllun y GIG yn gweithio a goblygiadau dewis y cynllun hwn.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y cyllid sydd ar gael i chi, neu os ydych yn ansicr pa un sydd orau, gallwch gysylltu â'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr am arweiniad pellach.
Y ffi Ffioedd Dysgu am gyrsiau gofal iechyd llawn-amser yw £9,535 y flwyddyn.
- Ffioedd Dysgu, trwy Fenthyciad Ffioedd Dysgu
- Benthyciadau a / neu grantiau ar gyfer Costau Byw - hyd at £12,345 i Fyfyrwyr o Gymru a £10,544 i Fyfyrwyr o Loegr
- Grantiau dibynyddion os yw'n berthnasol
- Elfen Cymorth Arbennig os yw'n berthnasol
- Cymorth Wythnosau Ychwanegol trwy'r benthyciad cyrsiau hir
Byddech yn gwneud cais i'r corff cyllido lle rydych chi'n preswylio fel arfer cyn dechrau'r cwrs.
Sylwer na fyddwch yn gymwys i gael lwfansau prawf modd drwy'r arian safonol os byddwch yn derbyn Pecyn Cymorth Bwrsariaeth GIG Cymru.
Bydd pob myfyriwr rhan-amser cymwys yn gallu gwneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu heb brawf modd.
Gall myfyrwyr o Gymru dderbyn benthyciad hyd at £2,625 a myfyrwyr o Loegr fenthyciad o hyd at £6,955 tuag at eu ffioedd, yn dibynnu ar ddwyster eu cwrs a'r ffi.
Cymorth Ychwanegol ar gyfer Costau Byw i Fyfyrwyr sy'n Byw yng Nghymru
Bydd myfyrwyr rhan-amser cymwys sy'n byw yng Nghymru ac sy'n cychwyn ar gwrs ar ôl 1 Medi 2021 yn gymwys i wneud cais am gymorth ar gyfer costau byw trwy Grant Dysgu Llywodraeth Cymru a Benthyciad Cynhaliaeth. Mae'r lefel yn seiliedig ar y grant lleiaf o £1,000 sydd ar gael i fyfyrwyr amser llawn, felly byddai myfyriwr rhan-amser sy'n astudio ar 50% o oriau amser llawn yn derbyn isafswm grant o £500. Mae lefel y grantiau a'r benthyciadau pellach yn dibynnu ar nifer yr oriau (h.y. y dwysedd) o astudio ac incwm yr aelwyd. Uchafswm y benthyciad a'r grant cyfunol sydd ar gael i fyfyriwr sy'n astudio dwyster 75% yw £6,829 neu £4,553 ar gael i fyfyriwr sy'n astudio dwyster 50% .
Cymorth Ychwanegol ar gyfer Costau Byw i Fyfyrwyr sy'n Byw yn Lloegr
Mae Benthyciad Cynhaliaeth rhan-amser ar gael i'r rhai sy'n cychwyn ar eu cwrs o fis Medi 2022 ymlaen, yn amodol ar ddwyster astudio. Uchafswm sydd ar gael i fyfyriwr sy'n astudio dwyster 75% yw £7,908 neu £5,272 ar gael i fyfyriwr sy'n astudio dwyster 50%.
Gwneud cais am grantiau rhan-amser (os yw'n berthnasol) a benthyciadau
Bydd ceisiadau am drigolion Cymru ar gael trwy Cyllid Myfyrwyr Cymru
Bydd ceisiadau am drigolion Lloegr ar gael trwy Cyllid Myfyrwyr Lloegr
Mae'r wybodaeth hon yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2025/26 ar gyfer cyrsiau amser llawn.
- Mae'r GIG yn talu holl ffioedd y cwrs.
- Grant o £1,000 heb fod yn seiliedig ar brawf modd.
- Bwrsariaeth prawf modd o hyd at £3,651 (cyfradd arall) neu hyd at £2,879 (cyfradd cartref rhieni). Mae'r ffigurau hyn yn seiliedig ar y cyrsiau gofal iechyd llawn-amser sy'n 42 wythnos o hyd.
- Yn ogystal â'r fwrsariaeth sylfaenol, gall myfyrwyr wneud cais am nifer o lwfansau ychwanegol prawf modd os ydynt yn bodloni meini prawf penodol. Mae'r lwfansau hyn yn darparu cefnogaeth i fyfyrwyr anabl a chymorth ychwanegol i fyfyrwyr gydag oedolion a phlant dibynnol.
- Benthyciad cynhaliaeth cyfradd is o £11,150 (cyfradd mewn mannau eraill) neu £9,315 (cyfradd cartref rhieni) ar gyfer myfyrwyr sy'n hanu o Gymru y mae eu cwrs yn dechrau ym mis Ebrill 2025.
- Benthyciad cynhaliaeth cyfradd is o £2,670 (cyfradd mewn mannau eraill) neu £2,004 (cyfradd cartref rhieni) ar gyfer myfyrwyr sy'n hanu o Loegr y mae eu cwrs yn dechrau ym mis Ebrill 2025.
- Benthyciad cynhaliaeth o £11,345 (cyfradd mewn mannau eraill) neu £9,480 (cyfradd cartref rhieni) ar gyfer myfyrwyr sy’n hanu o Gymru y mae eu cwrs yn dechrau ar ôl 1 Medi 2025.
- Benthyciad cynhaliaeth cyfradd is o £2,753 (cyfradd mewn mannau eraill) neu £2,066 (cyfradd cartref rhieni) ar gyfer myfyrwyr sy'n hanu o Loegr y mae eu cwrs yn dechrau ar ôl 1 Medi 2025.
Sylwer: Bydd cyfradd fenthyca is yn berthnasol yn y flwyddyn astudio olaf i myfyrwyr o loegr.
Gweler Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) am fanylion pellach.
Os ydych yn astudio'r diploma ol-raddedig mewn nyrsio ni fyddech yn gallu derbyn benthyciad cynhaliaeth cyfradd ostyngol.
Os ydych yn astudio'r cwrs Therapi Galwedigaethol neu Ffisiotherapi rhan-amser, gallwch dderbyn hyd at 75% o'r grant heb brawf modd a bwrsari sy'n dibynnu ar brawf modd,yn ogystal â'r lwfansau ychwanegol sy'n dibynnu ar brawf modd. Ni fyddech yn gallu derbyn benthyciad cynhaliaeth.
Gwneud cais am gyllid myfyrwyr
Mae angen i bob myfyriwrcofrestrwch eu hopsiwn ariannu yn Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr.
- Gwnewch gais ar-lein
- Mae canllawiau a gwybodaeth am y broses ymgeisio ar gael
- Rhaid i chi hefyd wneud cais ar wahân i SFW/SFE am eich benthyciad cynhaliaeth cyfradd ostyngol
Dylech wneud cais gan ddefnyddio ffurflen bapur PN1 naill ai gan SFW neu SFE oherwydd os byddwch yn gwneud cais ar-lein, cewch eich asesu’n unig am y Benthyciad Cyfradd Ostyngol. Dylech gynnwys llythyr eglurhaol yn nodi eich bod wedi optio allan o gyllid y GIG a darparu eich e-bost yn cadarnhau hyn gyda'ch cais.
Fodd bynnag, os ydych wedi dechrau neu gwblhau unrhyw gwrs a ariennir gan y GIG o'r blaen, gallai hyn effeithio ar eich cyllid. Cysylltwch â Dyfarniadau Myfyrwyr GIG i gael mwy o wybodaeth am hyn.
Sylwch, os oes gennych radd anrhydedd eisoes, ni fyddwch yn gymwys i dderbyn y amser llawn pecyn cyllido safonol ar gyfer gradd gofal iechyd os gwnewch gais i Cyllid Myfyrwyr Cymru. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am reolau astudio blaenorol ar ein tudalen Astudiaethau Blaenorol neu Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach.
Os ydych yn astudio cwrs rhan-amser, gallwch dderbyn cyllid rhan-amser gan fod pynciau sy'n gysylltiedig â meddygaeth yn bynciau wedi’u heithrio