BSc (Anrh)

Ffisiotherapi

Disgyblaeth iechyd gymhwysol yw ffisiotherapi sy’n helpu pobl o bob cefndir a gallu i gymryd rhan yn y galwedigaethau sy’n helpu i’w diffinio nhw a’u hansawdd bywyd.

Sut i wneud cais Archebu Lle Ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio Gyda Ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £785*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Lluniwyd y radd ffisiotherapi rhan-amser ym Mhrifysgol De Cymru i ddarparu sgiliau a gwybodaeth i fyfyrwyr er mwyn iddynt allu ffynnu fel gweithwyr proffesiynol arloesol ac ymreolaethol ar draws ystod eang o leoliadau o fewn amrywiaeth o leoliadau ymarfer.

Cynlluniwyd Ar Gyfer

Mae myfyrwyr ymarferol eu natur sy’n dosturiol, yn gydymdeimladol, ac yn chwilfrydig ynglŷn â defnyddio amrywiaeth o ddulliau i helpu i wella ansawdd bywyd, yn gweddu’n berffaith i’r cwrs hwn a fydd yn arwain at yrfa gwerth chweil.

Achredir gan

  • Cymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion (CSP) 

Llwybrau Gyrfa

  • Ffisiotherapydd 
  • Ymarferydd Uwch
  • Ymgynghorydd

Sgiliau a addysgir

  • Cyfathrebu effeithiol
  • Deall hybu iechyd
  • Gwella ansawdd
  • Gweithio mewn tîm
  • Ymarfer rhyngbroffesiynol a rhyngddisgyblaethol a moeseg

Rydym yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol, nid ar bapur yn unig. Mae ein cwrs wedi'i ddylunio a'i gyflwyno gan gyfrifwyr gweithredol ac mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i wneud gwahaniaeth go iawn yn eu gyrfaoedd.


Uchafbwyntiau’r Cwrs

Cyfleoedd ar gyfer lleoliadau

Trwy leoliadau, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i brofi amrywiaeth o sefyllfaoedd er mwyn cymhwyso ac ymarfer eu gwybodaeth a’u sgiliau newydd mewn amgylchedd diogel.

Cyfleusterau rhagorol

Mae’r cwrs yn elwa o ystafell efelychu clinigol helaeth ac ardal efelychu fflat gymunedol lle mae amrywiaeth o sgiliau ymarferol yn cael eu haddysgu, eu hymarfer a’u harholi.

Dysgu rhyngweithiol

Mae Prifysgol De Cymru yn elwa o gyfleusterau chwaraeon ychwanegol o’r radd flaenaf ar safle’r Parc Chwaraeon a fydd yn darparu ystod gynyddol o amgylcheddau dysgu ac addysgu i’n myfyrwyr.

Cwrs Achrededig

Mae’r cwrs hwn yn cael ei gydnabod gan Gyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) ac yn cael ei achredu gan Gymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion (CSP).

Trosolwg o’r Modiwlau

Cwrs gradd rhan-amser yw’r cwrs BSc (Anrh) Ffisiotherapi, a gyflwynir dros bedair blynedd. Bydd pob lefel academaidd yn cael ei chyflwyno dros gyfnod o 16 mis, a bydd pob wythnos a amserlennir yn cynnwys 23 awr o ddysgu, gan ddefnyddio ymagwedd dysgu cyfunol gyda chyfleoedd dysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb. Defnyddir dysgu wyneb yn wyneb i gyfosod a chymhwyso dysgu ar-lein anghydamserol, ac i ddatblygu sgiliau gwaith tîm, meddwl yn feirniadol ac ymarferol. Mae’r holl fodiwlau ar y cwrs hwn yn rhai craidd, sy’n golygu bod rhaid cymryd pob modiwl a llwyddo ynddo er mwyn cyflawni’r BSc (Anrh) Ffisiotherapi.

Hybu Iechyd a Lles

Anatomeg a Ffisioleg

Sylfeini Bio-seico-gymdeithasol Ymarfer Ffisiotherapi.

Asesiad Ffisiotherapi

Datblygu Hyder mewn Ymarfer Ffisiotherapi

Biomecaneg Symudiad Dynol

Cyflyrau Tymor Byr

Triniaeth ac Adsefydlu

Materion Proffesiynol, Cyfreithiol a Moesegol mewn Ffisiotherapi

Gwneud Penderfyniadau Gwybodus yn Ymarferol: Y Ffisiotherapydd fel ymarferydd medrus 

Dulliau Ymchwil

Cyflyrau Tymor Hir

Rheoli triniaeth claf – Cyfosod ac Integreiddio Dysgu Penodol i’r Proffesiwn 

Cyflyrau Gydol Oes

Dod yn Ffisiotherapydd Ymreolaethol

Ymarfer Seiliedig ar Dystiolaeth ac Ymchwil: Cychwyn a rheoli newid yn seiliedig ar dystiolaeth ac arweinyddiaeth dosturiol mewn ymarfer Ffisiotherapi

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut byddwch yn dysgu

Cyflwynir y cwrs yn rhan-amser, a bydd pob lefel astudio (16 mis) yn gyfwerth ag un flwyddyn amser llawn. Byddwch yn ymgymryd â gweithgareddau prifysgol a lleoliad wedi’u hamserlennu dros 2-3 diwrnod yr wythnos, yn dibynnu ar y flwyddyn astudio, a disgwylir i chi ymroi 12.5 awr ychwanegol yr wythnos i astudio unigol.

Staff addysgu

Mae Prifysgol De Cymru yn helpu pob math o fyfyriwr i ragori trwy greu amgylchedd cymdeithasol a chefnogol ar gyfer astudio a byw. Pan fyddwch yn ymuno â’r cwrs, byddwch yn cael Tiwtor Personol a fydd yn gweithio gyda chi drwy gydol eich astudiaethau, i ddatblygu’ch sgiliau academaidd a phroffesiynol.

Lleoliadau

Bydd 9 lleoliad i gyd, yn rhychwantu amrywiaeth o arbenigeddau clinigol, er mwyn i chi dyfu i fod yn unigolyn medrus, ymreolaethol.

Cyfleusterau

Bydd sesiynau ymarferol yn cael eu cynnal yn ein hardaloedd efelychu ac addysgu ymarferol, sy’n cynnwys cyfarpar helaeth i ail-greu’r cyfleusterau a’r sefyllfaoedd a wynebir mewn ystod o leoliadau ymarfer yn y byd go iawn.

Wedi'i achredu gan
Cydnabyddir gan

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Llwybrau gyrfa posibl

Bydd y rhan fwyaf o raddedigion yn ymuno â’r GIG ac yn elwa o strwythur gyrfa clir gyda chyfleoedd i ddatblygu fel ymarferwyr uwch sy’n cyfrannu at wasanaethau arbenigol, hyd at Ffisiotherapyddion Ymgynghorol. Fodd bynnag, gall graddedigion hefyd gymhwyso eu sgiliau mewn ystod o leoliadau gofal cymdeithasol ac addysgol, gweithio i glybiau chwaraeon ac mewn cyfleusterau chwaraeon, mewn ymarfer preifat, ac mewn diwydiant.

Cymorth gyrfaoedd

Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol yn cynnig ystod o gyngor ac arweiniad i fyfyrwyr, a bydd cyfeiriadau at y gwasanaethau sydd ar gael i bawb a restrir yn southwales.ac.uk/careers yn cael eu hychwanegu at wefan y cwrs yn ddiofyn. Fodd bynnag, os oes mentrau pwysig eraill sy’n benodol i gwrs neu bwnc yn cael eu cynnal yn lleol, mae cyfle i ychwanegu manylion eraill yma. P’un a yw hyn yn cynnwys cysylltu â gweithwyr proffesiynol, arbenigwyr diwydiant neu fentoriaid, neu strategaethau i wella eu cystadleugarwch a’u dyheadau yn y farchnad swyddi, bydd manylion ychwanegol yn rhoi hyder, anogaeth, a chymhelliad i ddarpar ymgeiswyr er mwyn iddynt ymrwymo i ymgeisio.

GOFYNION MYNEDIAD

Pwyntiau UCAS: 120 (neu uwch)

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Lefel A: BBB i gynnwys naill ai Bioleg neu Fioleg Ddynol ac i eithrio Astudiaethau Cyffredinol. Byddai pynciau Lefel A dymunol yn cynnwys Bioleg neu Fioleg Ddynol.
  • Bagloriaeth Cymru: Gradd B a BB ar Lefel A i gynnwys naill ai Bioleg neu Fioleg Ddynol ac i eithrio Astudiaethau Cyffredinol. Byddai pynciau Lefel A dymunol yn cynnwys Bioleg neu Fioleg Ddynol.
  • BTEC: Rhagoriaeth Diploma Estynedig BTEC, Rhagoriaeth, Teilyngdod mewn Bioleg neu Fioleg Ddynol. Byddai modiwlau dymunol yn cynnwys Bioleg neu Fioleg Ddynol.
  • Mynediad i AU: Pasio Diploma Mynediad i AU mewn Gwyddoniaeth a chael o leiaf 120 pwynt tariff UCAS y mae'n rhaid iddynt gynnwys modiwlau mewn Bioleg a/neu Fioleg Ddynol. Byddai modiwlau dymunol yn cynnwys Bioleg neu Fioleg Ddynol.

Cyfweliad

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr fynychu cyfweliad. Bydd gofyn i chi ddangos mewnwelediad gwirioneddol i'r ddisgyblaeth, a brwdfrydedd amdani. Dylech ddysgu cymaint ag y gallwch am y proffesiwn, gan gynnwys lle mae ymarferwyr yn ymarfer, a'u rôl mewn gofal iechyd modern. Rhaid i chi hefyd ddangos mewnwelediad i'ch sgiliau trefnu a'ch gallu i reoli'ch astudiaethau'n effeithiol.

  • Dydd Mawrth 8 Ebrill 2025
  • Dydd Mercher 9 Ebrill 2025
  • Dydd Iau 10 Ebrill 2025
  • Dydd Gwener 11 Ebrill 2025

Bydd ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn ar gyfer mynediad ym mis Medi 2025 yn cau ddydd Gwener 28 Mawrth 2025.

Gofynion Ychwanegol:

  • Fel arfer, mae’r Brifysgol yn gofyn am leiafswm o 5 TGAU i  gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg Gradd C/Gradd 4 neu well neu gymhwyster cyfatebol, ond ystyrir amgylchiadau unigol.
  • Cymwysterau cyfatebol fyddai’n cael eu hystyried:  Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif neu Sgiliau Gweithredol Lefel 2 mewn Mathemateg a Saesneg (wedi eu cyflawni o fewn y tair blynedd diwethaf).
  • Geirda boddhaol wedi'i lanlwytho gyda'ch cais.
  • Mae angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manwl (DBS) ar Restr Gwahardd y Gweithlu Plant ac Oedolion a Phlant ac Oedolion a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).
  • Yn anffodus, gan fod y cwrs hwn wedi ei ariannu gan y GIG, a bod yn rhaid i fyfyrwyr weithio ar leoliadau o fewn eu bwrdd iechyd lleol, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr o dramor (tu hwnt i’r UE).
  • Dyddiad Cau Cais: Bydd ceisiadau ar gyfer Medi 2025 yn agor ar 1 Medi 2024 ac yn cau am hanner dydd ar ddydd Gwener 28 Mawrth 2025.

Ar gau i ymgeiswyr rhyngwladol

Yn anffodus, nid yw'r cwrs hwn yn agored i ymgeiswyr rhyngwladol ar hyn o bryd, ewch i'n tudalennau cwrs lle gallwch ddod o hyd i ddewis arall o gyrsiau.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£785

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

* Rhwymedig

Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am DBS neu dystysgrif ymddygiad da o'u mamwlad. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post a’r ffi gweinyddu ar-lein

Cost: £64.74

Bydd angen tanysgrifio ar gyfer pob blwyddyn o’r cwrs am ffi flynyddol o £16. Sylwer bod rhaid ymuno â’r gwasanaeth o fewn 30 niwrnod o dderbyn eich tystysgrif DBS Manylach.

Cost: £16

Cost yn dibynnu ar leoliad y lleoliad

Cost yn dibynnu ar ddewis y myfyriwr o esgidiau

Cost yn dibynnu ar ddewis y myfyriwr o stethosgop

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Bywyd yn PDC

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.

Sut i Wneud Cais

Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.