Myfyrwyr a hawlio Budd-daliadau
Er na fydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gymwys i hawlio budd-daliadau, yn enwedig rhai sy'n dibynnu ar brawf modd, efallai y bydd gennych hawl i wneud cais am fudd-daliadau'r wladwriaeth neu credyd cynhwysol yn seiliedig ar eich incwm a’ch amgylchiadau, a rhai mathau o gyllid myfyrwyr.
Cymorth ychwanegol Ffioedd a Chyllid
Yn gyffredinol, efallai y gallwch hawlio:
- Os ydych yn gyfrifol am blant.
- Os oes gennych anabledd a'ch bod yn derbyn Lwfans Byw i'r Anabl, neu Daliad Annibyniaeth Bersonol (fel arfer bydd hyn yn cael ei adolygu os byddwch yn cofrestru ar gwrs amser llawn).
- Os ydych yn gadael eich cwrs dros dro oherwydd salwch neu gyfrifoldebau gofalu.
Canllawiau Credyd cynhwysol i fyfyrwyr.
Efallai y bydd rhai myfyrwyr yn gallu cael cymorth gyda thaliadau presgripsiwn, deintydd ac optegydd. Mae’r gefnogaeth yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw. Ewch i wefan berthnasol y GIG i gael rhagor o wybodaeth.
Gall pob myfyriwr amser llawn wneud cais am Ffurflen Eithrio rhag talu'r Dreth Gyngor.
Sut i wneud cais am fudd-daliadau a ble i gael rhagor o wybodaeth
Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys ac yn dymuno gwneud cais am fudd-daliadau, dylech gysylltu â'ch Canolfan Byd Gwaith leol.
Mae rhagor o wybodaeth am yr holl fudd-daliadau a chymhwysedd ar gael ar wefan y Llywodraeth.
Mae gwybodaeth am fudd-daliadau lles ac iechyd ar gyfer Myfyrwyr yr UE a Myfyrwyr Rhyngwladol ar gael ar wefan UKCISA.
Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith pan fyddwch yn dod yn fyfyriwr amser llawn er mwyn sicrhau nad ydych yn cael gormod o arian. Mae rhagor o gyngor a gwybodaeth ar gael yma.