BSc (Anrh)

Therapi Galwedigaethol

Gweithiwch tuag at yrfa gwerth chweil mewn therapi galwedigaethol a chael effaith gadarnhaol ar ansawdd bywyd unigolion, cymunedau, a phoblogaethau.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni

Côd UCAS

Dyddiad Cychwyn

Medi 2027

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Pwyntiau UCAS

120

Trosolwg o'r Cwrs

Fel therapydd galwedigaethol, byddwch yn galluogi a grymuso unigolion, cymunedau, a phoblogaethau i fyw eu bywydau gorau gartref, yn y gwaith ac ym mhobman arall.

Lluniwyd y cwrs Therapi Galwedigaethol rhan-amser hwn i’ch galluogi i ddatblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad sy’n ofynnol i ymarfer fel therapydd galwedigaethol ar draws ystod amrywiol o amgylcheddau ymarfer.

Achrediadau a Chymeradwyaethau

Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol (RCOT)
Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)

Rydym wedi'i achredu gan Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol (RCOT) ac wedi'u cymeradwyo gan Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.


Pam astudio'r cwrs hwn?

Cyfleoedd ar gyfer lleoliadau

Mae pedwar lleoliad ymarfer proffesiynol wedi’u hintegreiddio drwy gydol y cwrs sy’n darparu 1,069 o oriau o ddysgu seiliedig ar ymarfer wedi’i drefnu. Mae’r rhain yn rhoi cyfleoedd i chi ddatblygu cymhwysedd proffesiynol a hunaniaeth broffesiynol mewn amrywiaeth o leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Cyfleusterau rhagorol

Mae’r cwrs yn elwa o gyfleusterau efelychu clinigol helaeth ac ardal efelychu fflat gymunedol lle mae amrywiaeth o sgiliau ymarferol yn cael eu haddysgu, eu hymarfer a’u harholi. Mae gan y Brifysgol ystod helaeth o sefydliadau partner, gan gynnwys ac yn ymestyn y tu hwnt i bartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol, i gyflwyno rhaglen leoli o ansawdd uchel.

Dysgu rhyngweithiol

Bydd sesiynau ymarferol yn cael eu cynnal yn ein hardaloedd addysgu ymarferol ac efelychu, sy’n cynnwys cyfarpar helaeth i ail-greu’r cyfleusterau a’r sefyllfaoedd a wynebir mewn ystod o leoliadau ymarfer yn y byd go iawn.

Addysgu arbenigol

Mae’r tîm addysgu craidd yn therapyddion galwedigaethol cofrestredig sy’n dod â chyfoeth o brofiad o ystod amrywiol o leoliadau. Bydd partneriaid allanol ac arbenigwyr seiliedig ar ymarfer yn rhan annatod o fywyd y cwrs, i sicrhau bod heriau iechyd a gofal cymdeithasol byd go iawn yn darparu’r cyfleoedd dysgu.

Beth fyddwch chi'n ei astudio

Bydd y modiwl hwn yn archwilio’r cysyniad o bobl fel bodau galwedigaethol drwy gydol y cylch bywyd, yn ogystal â’r berthynas rhwng ymgysylltu â galwedigaethau a chyfranogiad ynddynt, ac iechyd a lles ymhlith poblogaethau, cymunedau ac unigolion.

Bydd y modiwl hwn yn gosod y sylfaen ar gyfer deall hanes a datblygiad y proffesiwn, gan arwain at arfer therapi galwedigaethol cyfoes heddiw. Bydd yn cyflwyno athroniaeth ganolog therapi galwedigaethol a’r damcaniaethau a lywiodd arfer yn y gorffennol ac sy’n llywio arfer cyfredol.

Bydd y modiwl hwn yn meithrin dealltwriaeth o’r seiliau biopsychogymdeithasol allweddol sy’n sail i ymgysylltu â galwedigaethau, cyfranogiad ynddynt a pherfformiad galwedigaethol.

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i’r broses datrys problemau mewn therapi galwedigaethol, yn ddamcaniaethol ac o fewn dysgu seiliedig ar ymarfer.

Un o nodweddion allweddol y modiwl hwn yw gweithio a dysgu rhyngbroffesiynol, a bydd myfyrwyr yn rhannu dysgu ag amrywiaeth o fyfyrwyr sy’n astudio rhaglenni cyn-gofrestru eraill, gan gynnwys ffisiotherapi, ymarfer adran lawdriniaethau, bydwreigiaeth a nyrsio.

Un o nodweddion allweddol y modiwl hwn yw gweithio a dysgu rhyngbroffesiynol, a bydd myfyrwyr yn rhannu dysgu ag amrywiaeth o fyfyrwyr sy’n astudio rhaglenni cyn-gofrestru eraill, gan gynnwys ffisiotherapi, ymarfer adran lawdriniaethau, bydwreigiaeth a nyrsio.

Bydd y modiwl hwn yn rhoi mewnwelediad manwl i’r rhwystrau a’r ffactorau galluogi y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu wrth ymgymryd â galwedigaethau, gan ddarparu ymyriadau i ddatgloi eu potensial.

Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i gael mewnwelediad manwl i’r rhwystrau a’r ffactorau sy’n gwella ymgysylltiad ag alwedigaethau y mae oedolion yn eu hwynebu, gan ddarparu ymyriadau i ddatgloi potensial perfformiad galwedigaethol.

Galluogi’r myfyriwr i ddatblygu, gwerthuso a chymhwyso gwybodaeth am y materion proffesiynol, cyfreithiol a moesegol sy’n berthnasol i arfer therapi galwedigaethol.

Galluogi’r myfyriwr i ddatblygu ymhellach ei wybodaeth, ei sgiliau, ei hyfedredd a’i hyder mewn arfer Therapi Galwedigaethol diogel ac effeithiol.

Galluogi’r myfyriwr i ddatblygu ymhellach ei wybodaeth, ei sgiliau, ei hyfedredd a’i hyder mewn arfer Therapi Galwedigaethol diogel ac effeithiol.

Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i gael mewnwelediad manwl i’r ffactorau sy’n amharu ar ymgysylltiad galwedigaethol ac yn ei wella y mae oedolion hŷn yn eu hwynebu, gan ddarparu ymyriadau i ddatgloi potensial perfformiad galwedigaethol.

Datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth i ddefnyddio dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil, sy’n galluogi datblygu a darparu gwasanaethau diogel ac effeithiol, ynghyd â chyfleoedd i gynhyrchu gwybodaeth newydd.

Nod y modiwl hwn yw dwyn ynghyd theori ac ymarfer o fodiwlau Lefel 4 a 5, gan baratoi myfyrwyr i ymdrin â chymhlethdodau ymarfer er mwyn dod yn therapyddion galwedigaethol hyderus a chymwys.

Galluogi’r myfyriwr i atgyfnerthu ei wybodaeth, ei sgiliau, ei gymhwysedd a’i hyder er mwyn dod yn ymarferydd therapi galwedigaethol cymwys a hyderus.

Galluogi’r myfyriwr i ddatblygu ymhellach ei wybodaeth, ei sgiliau, ei hyfedredd a’i hyder mewn arfer Therapi Galwedigaethol diogel ac effeithiol.

Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyfle i archwilio arfer therapi galwedigaethol cyfoes a datblygol, gyda ffocws penodol ar grwpiau, cymunedau a phoblogaethau.

Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i fyfyrio ar eu datblygiad dysgu a’u perfformiad eu hunain a’u gwerthuso wrth iddynt baratoi i drosglwyddo i fyd gwaith ar ôl cofrestru.

Galluogi myfyrwyr i werthuso’n feirniadol ac arwain newid mewn arfer a gwasanaethau Therapi Galwedigaethol.

Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Addysgu ac Asesu

Cwrs ymarferol yw hwn sydd wedi'i gynllunio i'ch paratoi ar gyfer ymarfer proffesiynol fel therapydd galwedigaethol. Gallwch ddisgwyl cymysgedd o weithdai, seminarau, dysgu seiliedig ar efelychu a phrofiad lleoliad trwy gydol eich astudiaethau. Rydym yn canolbwyntio ar eich helpu i feithrin hyder mewn amgylcheddau bywyd go iawn, gan gyfuno addysgu academaidd â dros 1,000 o oriau o ddysgu seiliedig ar ymarfer mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hefyd gennych fynediad at lwyth o gyfleusterau efelychu clinigol a mannau addysgu ymarferol sy'n adlewyrchu'r amgylcheddau y byddwch chi'n gweithio ynddynt ar ôl graddio.

Lluniwyd y cwrs gan ddefnyddio ymagwedd gyfunol fel y gellir dysgu mewn ffordd mor hyblyg â phosibl ar yr un pryd â chynnal ymdeimlad o berthyn o fewn poblogaeth y garfan.  
 
Bydd yr amserlen gyflwyno’n cael ei llunio i ddod â myfyrwyr wyneb yn wyneb ar gyfer gweithdai, seminarau a rhywfaint o astudio mewn grwpiau a thiwtorialau. Fodd bynnag, lle y bo’n bosibl, cynorthwyir myfyrwyr i fanteisio ar hyblygrwydd o ran amser, lleoliad a modd astudio, gan ddefnyddio technolegau i alluogi dysgu o bell ac, yn ei dro, cynyddu rhuglder digidol y myfyrwyr.

Byddwch yn cael eich asesu trwy gymysgedd o asesiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein sydd wedi'i gynllunio i roi hyblygrwydd i chi wrth eich cadw mewn cysylltiad â'ch cymuned cwrs. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdai, seminarau, tiwtorialau a gweithgareddau grŵp, llebyddwch yn datblygu ac yn arddangos eich gwybodaeth a'ch sgiliau.

Mae pedwar lleoliad ymarfer proffesiynol wedi’u hintegreiddio drwy gydol y cwrs sy’n darparu 1,069 o oriau o ddysgu seiliedig ar ymarfer wedi’i drefnu. Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, bydd y rhain yn rhan-amser (18.75 awr), ac yn ystod blwyddyn tri a phedwar byddant yn amserllawn (37.5 awr). Byddant yn rhoi cyfleoedd i chi ddatblygu cymhwysedd proffesiynol a hunaniaeth broffesiynol mewn amrywiaeth o leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.  
 
Bydd y rhan fwyaf o leoliadau’n lleol, o fewn 30 milltir o’r Brifysgol. Pan fydd lleoliadau’n bellach na 30 milltir o’r Brifysgol, cynigir llety dros dro. Gwneir pob ymdrech i ddod o hyd i leoliadau Cymraeg ar gyfer myfyrwyr sy’n gofyn am gyfle dysgu dwyieithog. 

Mae’r cwrs yn elwa o gyfleusterau efelychu clinigol helaeth ac ardal efelychu fflat gymunedol lle mae amrywiaeth o sgiliau ymarferol yn cael eu haddysgu, eu hymarfer a’u harholi. 
 
Mae gan y Brifysgol ystod helaeth o sefydliadau partner, gan gynnwys ac yn ymestyn y tu hwnt i bartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol, i gyflwyno rhaglen leoli o ansawdd uchel.  
 
Ar gyfer rhai elfennau o’ch cwrs, cewch eich addysgu’n rhyngbroffesiynol ochr yn ochr â Ffisiotherapyddion, Nyrsys, Bydwragedd, ac Ymarferwyr Adran Lawdriniaeth a byddwch yn elwa o’r ddealltwriaeth gyfannol a ddaw yn sgil hyn. 

Rhagolygon Gyrfa

Os ydych chi'n angerddol am helpu pobl i wella eu hannibyniaeth a'u lles, gallai therapi galwedigaethol fod ar eich cyfer chi. Byddwch yn barod i herio eich hun trwy gydol y cwrs, gan wybod bod pob lleoliad, sesiwn ymarferol a phrofiad clinigol yn dod â chi'n agosach at ddod yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol hyderus.

Eich gyrfa yn y dyfodol

Bydd gennych gymhwyster academaidd a byddwch yn gymwys i wneud cais am gofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) fel Therapydd Galwedigaethol i'ch galluogi i ddilyn gyrfa fel therapydd galwedigaethol.

100% o raddedigion Nyrsio a Phroffesiynau Iechyd PDC mewn Cyflogaeth a/neu Astudiaeth Bellach 15 mis ar ôl graddio.

(Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2022/23)

Mae Sara yn eistedd mewn cwrt tennis bord yn ei chadair olwyn. Mae hi'n dal bat tennis bord mewn un llaw ac yn dyrnu'r awyr i ddathlu gyda'i llaw arall. Mae gan y bwrdd logo 'Llundain 2012' arno.

"Rydyn ni'n cael hyfforddiant ymarferol trwy'r amser, fel trin â llaw, hyfforddiant amddiffyn, cymorth bywyd sylfaenol, a hyfforddiant mesur cadair olwyn."

Dysgwch fwy

Disgwyliadau cyflog

Gall gradd mewn Proffesiynau Iechyd agor cyfleoedd ar draws gofal iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, adsefydlu, a lleoliadau cymunedol. Mae gyrfaoedd Proffesiynau Iechyd yn cynnig potensial ennill cryf:

Cyflog canolrifol

DU: £37.4k y flwyddyn
Cymru: £38.5k y flwyddyn

 

Cyfanswm y swyddi yn 2025

DU: 1.05m
Cymru: 47,433 

 

Ffynhonnell: Lightcast Labour Market Data 2026

Adeiladwch eich gyrfa eich hun

Nid oes rhaid i'ch gyrfa olygu gweithio i rywun arall. Os ydych chi eisiau gweithio'n llawrydd, dechrau busnes neu ddatblygu syniad, gall Menter PDC eich helpu gyda mentora un-i-un, gweithdai ymarferol a chyfleoedd ariannu drwy Gronfa Cychwyn Busnes Menter PDC.
 
Bydd gennych hefyd fynediad at fannau Stiwdio Sefydlu yn ein campysau yng Nghaerdydd, Casnewydd a Threfforest. Ar ôl graddio, gallwch gael aelodaeth am ddim am hyd at dair blynedd, gan roi gweithle i chi a rhwydwaith o sylfaenwyr eraill.
 
P'un a ydych chi'n dewis cyflogaeth, gweithio'n llawrydd neu ddechrau busnes, byddwn yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau, hyder a'r cysylltiadau i symud ymlaen.
 
Menter PDC

Partneriaid diwydiant

Bydd partneriaid allanol ac arbenigwyr sy'n seiliedig ar ymarfer yn cael eu hymgorffori ym mywyd y cwrs, er mwyn sicrhau bod heriau iechyd a gofal cymdeithasol yn y byd go iawn yn darparu'r cyfleoedd dysgu.

Gofynion Mynediad

Ychwanegol

  • Fel arfer, mae’r Brifysgol yn gofyn am leiafswm o 5 TGAU i  gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg Gradd C/Gradd 4 neu well neu gymhwyster cyfatebol, ond ystyrir amgylchiadau unigol.
  • Cymwysterau cyfatebol fyddai’n cael eu hystyried:  Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif neu Sgiliau Gweithredol Lefel 2 mewn Mathemateg a Saesneg (wedi eu cyflawni o fewn y tair blynedd diwethaf).
  • Un geirda boddhaol i'w lanlwytho gyda'r cais.
  • Gwiriad Manwl Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd* (DBS) boddhaol ar Restrau Gwahardd Plant ac Oedolion y Gweithlu a Phlant ac Oedolion a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru'r DBS a chliriad Iechyd Galwedigaethol. Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd lofnodi datganiad Addasrwydd i Ymarfer mewn Cyfweliad ac annog myfyrwyr i gael brechiad ffliw.
  • *Sylwer y bydd unrhyw gofnod heddlu a ddatgelir yn cael ei asesu yn unol â phroses Addasrwydd i Ymarfer PDC a gofynion HCPC, i wirio potensial cofrestriad proffesiynol llwyddiannus gyda’r Rheoleiddiwr ar ôl graddio o’r cwrs.
  • Yn anffodus, gan fod y cwrs hwn yn cael ei ariannu gan y GIG a bod yn rhaid i fyfyrwyr gael lleoliadau yn y Bwrdd Iechyd GIG lleol, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol/UE. 

Cyfweliad

Gwahoddir ymgeiswyr i gyfweliad amlfodd bach. Bydd gofyn i chi ddangos mewnwelediad gwirioneddol i'r ddisgyblaeth, a brwdfrydedd amdani. Dylech ddysgu cymaint ag y gallwch am y proffesiwn, gan gynnwys lle mae ymarferwyr yn ymarfer, a'u rôl mewn gofal iechyd modern. Rhaid i chi hefyd ddangos mewnwelediad i'ch sgiliau trefnu a'ch gallu i reoli'ch astudiaethau'n effeithiol. Bydd gofyn i chi ddangos gwerthoedd yn unol â Safonau ymddygiad, perfformiad a moeseg yr HCPC (2016).

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hyn i'w ddisgwyl yn eich cyfweliad drwy ddarllen canllawiau gan dîm y cwrs.

Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni

120 Pwyntiau UCAS neu'n uwch

Gofynion cymhwyster nodweddiadol

Lefel A:
BBB heb gynnwys Astudiaethau Cyffredinol

Bagloriaeth Cymru:
Gradd B a BB Safon Uwch i eithrio Astudiaethau Cyffredinol

BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Rhagoriaeth Rhagoriaeth Teilyngdod

Mynediad i AU:
Diploma Gwyddoniaeth/Mathemateg/ Gofal Iechyd/Nyrsio. Rhaid cwblhau 120 credyd i gyd gan gynnwys o leiaf 45 ar lefel 3 a 15 ar lefel 2. O’r 45 credyd ar lefel 3, mae angen lleiafswm o 24 Rhagoriaeth, 18 Teilyngdod a 3 Llwyddo

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

Datganiad Derbyniadau Cyd-Destunol

Ffioedd a Chyllid

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. * Rhwymedig

DBS Manylach*

Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am DBS neu dystysgrif ymddygiad da o'u mamwlad. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post a’r ffi gweinyddu ar-lein. £64.74

Gwasanaeth diweddaru’r DBS*

Bydd angen tanysgrifio ar gyfer pob blwyddyn o’r cwrs am ffi flynyddol o £16. Sylwer bod rhaid ymuno â’r gwasanaeth o fewn 30 niwrnod o dderbyn eich tystysgrif DBS Manylach. £16

Yswiriant cerbyd Busnes*

Bydd llawer o fyfyrwyr yn defnyddio eu cerbyd eu hunain ar gyfer lleoliadau ymarfer. Bydd angen yswiriant busnes a bydd y gost yn amrywio yn dibynnu ar y cwmni yswiriant. Costau amrywiol

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. * Rhwymedig

DBS Manylach*

Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am DBS neu dystysgrif ymddygiad da o'u mamwlad. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post a’r ffi gweinyddu ar-lein. £64.74

Gwasanaeth diweddaru’r DBS*

Bydd angen tanysgrifio ar gyfer pob blwyddyn o’r cwrs am ffi flynyddol o £16. Sylwer bod rhaid ymuno â’r gwasanaeth o fewn 30 niwrnod o dderbyn eich tystysgrif DBS Manylach. £16

Yswiriant cerbyd Busnes*

Bydd llawer o fyfyrwyr yn defnyddio eu cerbyd eu hunain ar gyfer lleoliadau ymarfer. Bydd angen yswiriant busnes a bydd y gost yn amrywio yn dibynnu ar y cwmni yswiriant. Costau amrywiol

Beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

100%

o fyfyrwyr PDC BSc (Anrh) Therapi Galwedigaethol yn fodlon ar eu cwrs.

(Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026)

Dau fyfyriwr mewn llyfrgell Prifysgol

Yn y 50 prifysgol gorau yn y DU yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian 2026.

Occupational therapy student attending to a patient in the community flat at the clinical simulation centre

Mae Cwnsela, Seicotherapi a Therapi Galwedigaethol yn ail yn y DU ac ar y brig yng Nghymru o ran Bodlonrwydd Myfyrwyr. (Complete University Guide 2026)

#1

Mae Proffesiynau Iechyd yn PDC ar y brig yn y DU am werth ychwanegol.

(Canllaw Prifysgolion y Guardian 2026)

Cyfweliadau Therapi Galwedigaethol

Popeth sydd angen i chi ei wybod cyn mynychu eich cyfweliad Therapi Galwedigaethol.

Darllenwch ein hawgrymiadau cyfweliad

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.

Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

  • Therapi Galwedigaethol

    • Rhan-amser, 4 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.

Storïau Myfyrwyr

Rydw i'n rhywun sy'n dysgu orau trwy waith ymarferol, felly mae dull ymarferol y cwrs yn addas iawn i mi.

Amy Williams Myfyriwr Therapi Galwedigaethol

Gweld Proffil Myfyrwyr

Storïau Myfyrwyr

"Des i Ddiwrnod Agored, cwrddais ag arweinydd y cwrs a rhai o'r myfyrwyr, ac roeddwn i wedi fy syfrdanu gan y cyfleusterau."

Sara Head Myfyriwr Therapi Galwedigaethol

Gweld Proffil Myfyrwyr

Barod i wneud cais?

Dal i archwilio eich opsiynau?