Cyfweliadau Therapi Galwedigaethol

Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod cyn mynychu eich cyfweliad Diwrnod Cyfweliad Therapi Galwedigaethol. Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi.

Archebwch eich Cyfweliad
Three happy students stood together and chatting

Trefnu eich cyfweliad

I drefnu eich cyfweliad, cofrestrwch i'n Porth Digwyddiadau Prifysgol. Rhaid i ymgeiswyr fynychu cyfweliad cyn cael cynnig lle ar y cwrs. Os ydych wedi derbyn gwahoddiad am gyfweliad ond heb archebu eto, mewngofnodwch nawr i sicrhau eich lle.

Os nad ydych wedi defnyddio ein Porth Digwyddiadau o'r blaen, gallwch fewngofnodi gyda'r un cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd ar gyfer eich cais. I gael mynediad i'ch cyfrif a'ch opsiynau archebu, cliciwch ar 'Wedi anghofio eich cyfrinair?', dilynwch y camau i sefydlu'ch cyfrif, ac yna mewngofnodi i archebu eich lle.

Archebu eich cyfweliad

Methu gwneud dyddiad y cyfweliad?

Os nad ydych yn gallu mynychu unrhyw un o'r dyddiadau cyfweld sydd ar gael, neu os ydych wedi archebu ond bod angen i chi aildrefnu, gallwch gysylltu â'n Tîm Derbyn drwy e-bost ar [email protected] a fydd yn helpu i ddod o hyd i ddyddiad addas i chi.

[email protected]

Cyrraedd a Chofrestru

Rydym wrth ein bodd eich bod chi'n ymuno â ni! Bydd ein llysgenhadon cyfeillgar yn cwrdd â chi pan fyddwch chi'n cyrraedd. Ewch draw i'r ddesg gofrestru i fewngofnodi a chael eich dogfennau'n barod i'w gwirio.

student-25

Cyngor a pharatoi cyfweliad

Bydd angen i chi ddangos brwdfrydedd gwirioneddol dros y proffesiwn a dealltwriaeth glir o'r rôl y mae ymarferwyr yn ei chwarae mewn gofal iechyd modern. Byddwch yn barod i ddangos sgiliau trefnu cryf, rheoli astudiaethau effeithiol, a gwerthoedd sy'n cyd-fynd â Safonau ymddygiad, perfformiad a moeseg HCPC (2016).

- Trafodaeth Grŵp (15 munud)
Byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaeth grŵp fer, gan fyfyrio ar y galluogwyr a'r heriau sy'n gysylltiedig ag astudio'n rhan-amser.

- Cyfweliad Aml-Fer (MMI)
Ar ôl y drafodaeth, byddwch yn symud trwy wyth gorsaf gyfweld. Ym mhob un, bydd gennych 2 funud i ddarllen cwestiwn a 5 munud i rannu eich syniadau a'ch barn gyda chyfwelydd cyn cylchdroi i'r orsaf nesaf.


Cwestiynau Cyffredin Cyfweliad

Rydym wedi casglu rhai o'r cwestiynau cyfweliad nodweddiadol, fel y gallwch deimlo'n hyderus eich bod chi'n gwybod popeth a ofynnir i chi yn eich cyfweliad.

Y Cyfweliad - Trafodaeth Grŵp

  • Cyflwyniad: Byddwch yn ymuno â thrafodaeth grŵp gyda chyd-ymgeiswyr a thîm y cwrs. Mae hwn yn gyfle gwych i gwrdd ag eraill a rhannu eich barn ar bethau.
  • Pwrpas: Byddwn yn eich helpu i atgyfnerthu a chadarnhau eich dealltwriaeth o'r cwrs.
  • Cwestiynau: Mae croeso i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am y cwrs.
  • Trafodaeth: Gyda'n gilydd, byddwn yn trafod yr ystyriaethau a'r heriau y gallai’r cwrs eu cyflwyno i chi a'ch cyfoedion.
  • Byddwch yn gyfforddus: Tynnwch eich cot os oes angen, yfwch ddiod, ac ymlaciwch.
  • Ymunwch: Meddyliwch am sut y gallwch chi ymuno yn y sgwrs a pheidiwch â bod ofn cyfrannu.
  • Byddwch yn Gadarnhaol ac yn Agored: Gwrandewch, byddwch yn gyfeillgar, a pheidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau. Er bod hyn yn rhan o'ch cyfweliad, nid prawf mohono.

Symud ystafelloedd

Byddwch yn symud ystafell neu adeilad i fynd i ail ran eich cyfweliad. Gall hyn fod yn gyfle gwych i gael ysbaid, a pharatoi ar gyfer y rhan nesaf. Dyma ambell awgrym i sicrhau bod y pontio’n un esmwyth:

  1. Peidiwch â Gor-gyffroi: Anadlwch yn ddwfn i’ch cadw rhag cyffroi ac i gadw eich ffocws.
  2. Meddyliwch am y Cam Nesaf: Edrychwch ar eich nodiadau neu bwyntiau allweddol ar gyfer y cyfweliadau sydd i ddod.
  3. Yfwch Ddŵr: I’ch hydradu eich hun.
  4. Ymestynnwch: Gall ymestyn eich corff eich helpu i deimlo'n fwy cyfforddus ac egnïol.
  5. Meddylfryd Cadarnhaol: Atgoffwch eich hun o'ch cryfderau a'ch cyflawniadau.

Gorsafoedd Cyfweld Unigol

Fformat: Mae ein cyfweliadau yn cael eu cynnal mewn fformat " cyfweliadau cryno carlam ".

Gorsafoedd: Byddwch yn ymweld ag 8 gorsaf gyfweld wahanol. Ym mhob gorsaf cewch:

  • 2 funud i ddarllen ac ystyried cwestiwn (yn yr orsaf fewnol/ganol goch). Defnyddiwch yr amser hwn i ddarllen y cwestiwn a gwneud nodiadau ar eich ateb.
  • Cyfweliad 5 munud: Byddwch wedyn yn trafod eich syniadau, eich atebion a’ch barn gyda'r cyfwelydd, gyda Therapydd Galwedigaethol (ThG), neu gyda gwestai (yn y gorsafoedd gwyn allanol).

Proses: Byddwch yn dechrau mewn gorsaf gyda rhif penodol, pan ddaw’r amser i ben, byddwch yn symud i’r un cyfeiriad â’r cloc i'r orsaf nesaf. Mae'r broses hon yn parhau tan i chi ymweld â phob un o'r wyth gorsaf.

Swyddog Amseru: Bydd ein swyddog amseru’n dweud pan fydd yn bryd symud i'r orsaf nesaf.

Gorsaf 8 - Dyma'ch cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau sydd ar ôl gennych, ac i aelod o dîm y cwrs ddod i'ch adnabod yn well fel unigolyn.

Sicrhewch eich bod yn deall y cwrs ac yn gwybod sut i reoli eich amser

  1. Penderfynwch sut rydych chi'n mynd i reoli eich amser a sut y byddwch yn cydbwyso’ch gwaith astudio a’ch ymrwymiadau eraill - ceisiwch siarad â rhywun sydd wedi astudio'n rhan amser i ddeall y disgwyliadau.
  2. At ba agwedd ar y cwrs rydych chi'n edrych ymlaen fwyaf?
  3. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pam rydych chi eisiau gwneud y cwrs hwn a beth sy'n mynd i'ch gyrru drwy'r cyfnodau heriol - dangoswch pam rydych chi'n angerddol.
  • Pam ydych chi eisiau bod yn therapydd galwedigaethol?
  • Beth wnaeth eich ysbrydoli i ystyried y proffesiwn hwn?
  • Pam ydych chi'n meddwl eich bod chi'n addas i fod yn therapydd galwedigaethol yn y dyfodol?
  1. Ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau a gwerthoedd proffesiynol
  • Beth mae defnyddwyr gwasanaeth yn ei ddisgwyl gan therapyddion galwedigaethol?

  1. Beth ydych chi'n feddwl mae therapydd galwedigaethol yn ei wneud?
  2. Pa sgiliau sydd eu hangen ar therapyddion galwedigaethol?
  3. Sicrhewch eich bod yn gallu esbonio’n glir beth yw therapi galwedigaethol a’r hyn sy'n ei wneud yn arbennig. Mae gwefannau'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) a Choleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol (RCOT) yn rhai da i’w darllen. Gallech ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol - dilynwch therapyddion galwedigaethol ar Twitter, Facebook, a LinkedIn am gipolwg ar eu gwaith yn y byd go iawn. Bydd hyn yn eich helpu i ddangos eich angerdd dros y proffesiwn yn hyderus, a’ch gwybodaeth amdano.
  1. Edrychwch ar dudalen cwrs Therapi Galwedigaethol i weld pynciau gaiff eu trafod yn y cyfweliadau.
  2. Byddwch yn eglur o ran pam rydych chi eisiau astudio therapi galwedigaethol a’r hyn fydd yn eich ysgogi’n barhaus.

  1. Mae angen i chi ddeall ymarfer Therapi Galwedigaethol - dilynwch therapyddion galwedigaethol ar Twitter, Facebook, a LinkedIn i gael cipolwg ar eu profiadau yn y byd go iawn.
  2. Enillwch brofiad uniongyrchol - os yn bosibl, siaradwch â therapydd galwedigaethol neu ewch i ymweld ag adran therapi galwedigaethol.
  3. Adolygwch ddeddfwriaeth berthnasol a'r fframwaith polisi - ymchwiliwch i bolisïau Llywodraeth Cymru a'r ddeddfwriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyfredol.
  4. Cysylltwch â'r Brifysgol – ewch i ddiwrnodau agored a chysylltwch â staff y brifysgol gydag unrhyw gwestiynau.

  • Mae bryn serth cyn adeilad Elaine Morgan, ac efallai y bydd angen cerdded yno ar ddiwrnod y cyfweliadau. Os oes angen cymorth arnoch, mae'n werth gofyn neu drafod wrth gyrraedd. Neu gwnewch yn siŵr bod gennych rywun a all eich helpu.
  • Mae gwybod y pellter rhwng adeiladau a pha mor hir bydd y broses yn ei gymryd o'r dechrau i'r diwedd yn bwysig.
  • Mae lifftiau a thoiledau hygyrch ym mhob adeilad.
  • Gofynnwch os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch ar gyfer y diwrnod, neu os oes gennych ofynion penodol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â'r Brifysgol neu dîm y Cwrs Therapi Galwedigaethol [email protected]

Exterior shot of the University Clinical Simulation Centre, Tramsheds.

Cyrraedd eich cyfweliad

Mae ein campws Glyn-taf (adeilad Elaine Morgan yng Nglyn-taf Isaf) yn hawdd i gyrraedd mewn car ac mae ganddi gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rhagorol.