Cenhadaeth Ddinesig ac Ymgysylltu â’r Gymuned
Rydym yn gweithio ochr yn ochr ag arweinwyr cymunedol, sefydliadau diwylliannol, y Llywodraeth a’r trydydd sector i nodi ffyrdd y gallwn hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol yn yr ardal, datblygu iechyd a lles ei phobl, a chynrychioli de Cymru mewn trafodaethau cenedlaethol a rhyngwladol.
Gwasanaethau Busnes Ymuno â’n Rhwydwaith
Yn PDC rydyn ni wedi ymrwymo i greu well yfory trwy ein ymchwil, partneriaethau a chyfraniadau i'r genhadaeth ddinesig. Mae ein Cynllun Gwirfoddoli Dinesig i Staff yn galluogi staff PDC i gyfrannu eu sgiliau a’u harbenigedd i effeithio ar feysydd ffocws a nodir gan Fframwaith Cenhadaeth Ddinesig Cymru, gan gynnwys: lle, dinasyddiaeth weithredol, ymateb i faterion byd-eang a datblygu cysylltiadau gyda ysgolion a cholegau.
Cysylltwch â’n Rheolwr Ymgysylltu â’r Gymuned
Cysylltwch â niYmgysylltiad Dinesig ar Waith
Partneriaeth Ymgysylltu Dinesig De Cymru (SWCEP)
Partneriaeth Ymgysylltu Dinesig De Cymru (SWCEP), a sefydlwyd ym mis Ionawr 2023, yw'r unig bartneriaeth yn y DU i gynnwys sefydliadau addysg bellach fel partneriaid cyfartal, gan gydnabod eu cysylltiadau cymunedol llawr gwlad a'u rôl yng ngwaith Cenhadaeth Ddinesig. Mae SWCEP wedi darparu dwy ffrwd gyllido: y Gronfa Arian Sefydlu, a ddyfarnodd £70,000 i 9 prosiect cydweithredol, a'r Rhaglen Digwyddiadau Ymgysylltu Dinesig, a gynhaliodd 45 o ddigwyddiadau a ariannwyd gan y Gronfa Buddsoddi Strategol. Ym mis Hydref 2024, cafodd SWCEP ei chydnabod yng Ngwobrau Ymgysylltu ac Effaith Prifysgol De Cymru am ei Heffaith Sifil. Yn 2026, bydd Gwasg Prifysgol Cymru yn cyhoeddi dau lyfr ar Ymgysylltu Dinesig, a fydd yn cynnwys 54 o gyfranwyr o sefydliadau SWCEP. Ym mis Hydref 2023, llofnododd pob un o'r 10 partner Gytundeb Dinesig ar gyfer y rhanbarth.
Cysylltwch â SWCEP trwy [email protected] am fwy o fanylion.
Ailraglennu’r Dyfodol
Nid map trywydd yn unig yw Ailraglennu’r Dyfodol, ond galwad i weithredu.
Mae Cymru’n cael ei gweddnewid gan dechnolegau digidol, ac eto mae cyfran o’r boblogaeth yn dal i gael ei heithrio rhag siapio’r trawsnewid hwnnw. Drwy ailraglennu’r dyfodol, byddwn yn datgloi rhagoriaeth menywod a merched sydd heb ei gyffwrdd, gan greu economi sy’n gweithio i bawb.
Mae’r map trywydd hwn yn ymwneud â chwalu’r rhwystrau strwythurol sydd wedi dal menywod yn ôl, ac adeiladu system lle mae pob merch yng Nghymru yn gweld technoleg nid yn unig fel rhywbeth y gall hi ei ddefnyddio, ond fel rhywbeth y gall hi ei siapio.
A allai eich sefydliad elwa ar wirfoddolwyr PDC?
cysylltu â niRydym yn cynnig Talebau Digwyddiadau Cymunedol ac Ymgysylltu i sefydliadau trydydd sector a mentrau cymdeithasol lleol. Mae'r talebau hyn yn helpu i dalu'r gost o logi cyfleusterau PDC ar gyfer digwyddiadau cymunedol a gweithgareddau ymgysylltu o fis Medi 2024 i fis Gorffennaf 2025. Gall sefydliadau dderbyn hyd at £250 tuag at logi lleoliad, gyda chyllid cyfyngedig yn cael ei ddyfarnu ar sail y cyntaf i'r felin. Rhaid i ymgeiswyr cymwys fod wedi’u lleoli ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a chydweithio â staff neu fyfyrwyr PDC. Rhaid i ddigwyddiadau fod yn rhad ac am ddim ac alinio â blaenoriaethau Cenhadaeth Ddinesig PDC, megis gwella addysg, hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol, neu fynd i’r afael â materion byd-eang. Mae telerau ac amodau yn berthnasol. Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy a gwneud cais.