Cannoedd o fyfyrwyr ysgol a choleg yn cael blas ar yrfa mewn seiberddiogelwch
19 Rhagfyr, 2024
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2024/12-december/20241219---Photo---Hundreds-of-school-and-college-students-get-a-taste-for-a-career-in-cyber-security-copy-1.png)
Mynychodd myfyrwyr o ysgolion a cholegau ar draws Cymru ddigwyddiad llwybrau seiberddiogelwch a gynhaliwyd gan CyberFirst Cymru, Prifysgol De Cymru (PDC) a phartneriaid yn y diwydiant i roi blas iddynt o yrfaoedd ym maes seiberddiogelwch. Noddwyd y digwyddiad gan y Ganolfan Arloesi Seiber.
Cynhaliodd PDC y digwyddiad ar Gampws Casnewydd fel rhan o’i gwaith gyda rhaglen CyberFirst Cymru. Mae PDC yn arwain ar raglen CyberFirst Cymru, mewn partneriaeth â Phrifysgolion Abertawe a Bangor.
Arweinir CyberFirst gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC), sy’n anelu at godi ymwybyddiaeth o addysg seiberddiogelwch, gan gynnwys llwybrau i mewn i’r diwydiant a’r byd academaidd, yn ogystal â’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig ag ef.
Cynhaliwyd y digwyddiad llwybrau, sy’n rhan o’r rhaglen Ysgolion a Cholegau o fewn CyberFirst Cymru, ddydd Mercher 11 Rhagfyr. Hwn oedd yr ail ddigwyddiad a gynhaliwyd gan PDC, gyda'r cyntaf yn cael ei gynnal yn 2023.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i tua 300 o ddisgyblion 11 i 18 oed o ysgolion a cholegau ar draws Cymru gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr yn ymwneud â seiberddiogelwch. Cynhaliwyd y dosbarthiadau meistr gan ddarlithwyr PDC yn ogystal â phartneriaid diwydiant sy’n gweithio gyda CyberFirst gan gynnwys Airbus, Y Swyddfa Eiddo Deallusol, SudoCyber, TechnoCamps, iTSUS consulting a mwy.
Roedd y sesiynau wedi'u hanelu at helpu ysgolion a cholegau i gyflawni eu Gwobr Ysgolion CyberFirst, yn ogystal â rhoi cyfle i'r disgyblion ennill sgiliau seiberddiogelwch sy'n briodol i'w hoedran. Roedd y rhain yn cynnwys gweithgareddau yn ymwneud â cryptograffeg, fforensig ddigidol, Deallusrwydd Artiffisial mewn seiberddiogelwch a mwy.
Roedd cymysgedd o sesiynau ymarferol a gweithredol, a oedd yn galluogi myfyrwyr i ymgysylltu yn ogystal â dangos i athrawon sut y gallent addasu'r gweithgareddau hyn yn ôl yn eu hysgolion a'u colegau. Mae hon yn agwedd allweddol arall ar sut mae PDC yn cefnogi ysgolion a cholegau i ennill neu ailymgeisio am eu Gwobr Ysgolion Cyber First.
Dilynwyd y digwyddiad gan sesiwn rwydweithio a gwybodaeth i athrawon a chynghorwyr i dynnu sylw at ddatblygiadau o fewn rhaglen CyberFirst Cymru, a’u hannog i gofrestru fel llysgenhadon i’w galluogi i ddysgu sgiliau seiber.
Meddai Rhys Driscoll, Arweinydd Datblygu Partneriaid ac Allgymorth ar gyfer Seiberddiogelwch yn PDC:
“Roedd ein hail ddigwyddiad Llwybrau CyberFirst Cymru yn llwyddiant ysgubol. Eleni, fe wnaethom ni addasu’r digwyddiad i roi hyd yn oed mwy o’r hyn roedden nhw’n ei werthfawrogi o’r llynedd i ysgolion a cholegau, gan ganiatáu amser ar gyfer dysgu mwy ymarferol.
“Rhoddodd y digwyddiad gyfle i ddisgyblion o ysgolion a cholegau ar draws Cymru brofi’r meysydd niferus o seiberddiogelwch y gallent fentro iddynt. Diolch i’n partneriaid amrywiol yn y diwydiant a chydweithwyr o PDC, cafodd myfyrwyr ddigonedd o gyfleoedd difyr i ddysgu a gofyn cwestiynau.
“Rydym yn arbennig o ddiolchgar i Cyber Innovation Hub (CIH) am fod yn brif noddwyr ar gyfer y digwyddiad hwn ac am gynnal stondin yn y ffair seiber.”
Roedd Pennaeth CyberFirst ac arweinydd Rhanbarthol o NCSC hefyd yn bresennol yn y digwyddiad:
“Mae’r NCSC yn ymroddedig i feithrin talent amrywiol o fewn y diwydiant seiberddiogelwch, ond mae’r ymdrech hon yn gofyn am gydweithio. Mae’r byd academaidd a diwydiant yn chwarae rhan hollbwysig, ac roedd yn galonogol gweld Ecosystem Cymru yn uno i dynnu sylw at yr amrywiaeth o rolau seiberddiogelwch sydd ar gael yng Nghymru. Cafodd y myfyrwyr brofiad cyfoethog, ac roedd ystod y cyflwyniadau yn drawiadol. Diolch yn fawr i PDC a’r Ganolfan Arloesi Seiber am drefnu digwyddiad llwyddiannus ac effeithiol.”