Ailraglennu’r Dyfodol
Creu Sector Technoleg Ddigidol Cynhwysol i Fenywod yng Nghymru. Nid map trywydd yn unig yw Ailraglennu’r Dyfodol, ond galwad i weithredu.
Lawrlwythwch y map ffordd llawn Cysylltu â ni
Mae Cymru’n cael ei gweddnewid gan dechnolegau digidol, ac eto mae cyfran o’r boblogaeth yn dal i gael ei heithrio rhag siapio’r trawsnewid hwnnw. Drwy ailraglennu’r dyfodol, byddwn yn datgloi rhagoriaeth menywod a merched sydd heb ei gyffwrdd, gan greu economi sy’n gweithio i bawb.
Dyfodol wedi’i Ailysgrifennu
Dychmygwch Gymru lle mae pob merch yn gweld posibiliadau di-ben-draw technoleg ddigidol, lle mae’r don nesaf o arloesi yn cael ei phweru gan feddyliau amrywiol, gan chwalu rhwystrau ac ailysgrifennu stori ein dyfodol digidol. Cymru lle mae menywod nid yn unig yn bresennol yn yr economi ddigidol ond yn ei siapio, gan ddylunio deallusrwydd artiffisial (AI) moesegol, sbarduno datblygiadau mewn seiberddiogelwch, ac adeiladu technoleg sy’n gwasanaethu pawb, nid dim ond rhai ohonom.
Drwy eithrio cyfran sylweddol o’r boblogaeth o’r sector technoleg ddigidol sy’n tyfu’n gyflym, mae Cymru mewn perygl o ddisgyn y tu ôl i ranbarthau eraill sy’n adeiladu ecosystemau technoleg ddigidol amrywiol a deinamig. Wrth i gystadleuaeth fyd-eang ddwysáu, bydd gan ranbarthau sydd â phiblinellau talent mwy cynhwysol fantais o ran arloesi, twf economaidd, a denu buddsoddiad.
Y Rhaniad Sgiliau Digidol
47%
Mae 47% o fusnesau Cymru yn cael trafferth gyda phrinder sgiliau, yn enwedig mewn meysydd fel deallusrwydd artiffisial a thechnolegau gwyrdd.
Y Rhaniad Sgiliau Digidol
70%
Mae mwy na 70% o’r swyddi yr ystyrir eu bod mewn perygl mawr o ddigidoleiddio ac awtomeiddio yn cael eu dal gan fenywod.
Mae 5% o swyddi arwain yn sector technoleg y DU yn cael eu dal gan fenywod.
Menywod yw 25% o’r gweithlu TGCh yng Nghymru a 17% o’r gweithlu seiber yng Nghymru.
Lawrlwythwch y map ffordd llawn
Mae’r map trywydd hwn yn ymwneud â chwalu’r rhwystrau strwythurol sydd wedi dal menywod yn ôl, ac adeiladu system lle mae pob merch yng Nghymru yn gweld technoleg nid yn unig fel rhywbeth y gall hi ei ddefnyddio, ond fel rhywbeth y gall hi ei siapio.
LAWRLWYTHOFel llawer o ranbarthau ledled y DU, mae gan Gymru hanes hir o alwedigaethau wedi’u rannu yn ôl rhywedd. Nid yw’r sector technoleg ddigidol – sydd wedi bod yn gaer i ddynion yn hanesyddol – yn eithriad. Mae’r diffyg amrywiaeth hwn yn peryglu creu technoleg nad yw’n diwallu anghenion pawb – yn enwedig wrth i ddeallusrwydd artiffisial a data lunio sectorau fel gofal iechyd a thrafnidiaeth. Os caiff menywod eu heithrio o gyfrannu at y datblygiadau hyn, mae perygl gwirioneddol y bydd atebion technolegol yn parhau i adlewyrchu rhagfarnau rhyweddol presennol, neu’n methu ystyried anghenion penodol menywod yn gyfan gwbl. Bydd ehangu’r pwll talent drwy annog mwy o fenywod i ymuno â gyrfaoedd technoleg ddigidol, aros ynddynt, a datblygu o fewn y sector, nid yn unig yn helpu i feithrin mwy o gynhwysiant, ond hefyd yn gyrru arloesedd ac yn cefnogi twf economaidd cynaliadwy yng Nghymru.
Casgliad
Mae’r map trywydd strwythuredig hwn yn amlinellu dull cynhwysfawr o hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau ym maes technoleg ddigidol, gan fynd i’r afael â’r rhwystrau y mae merched a menywod yn eu hwynebu ar wahanol gamau yn eu teithiau addysgol a gyrfaol, o blentyndod cynnar i swyddi arwain a hefyd entrepreneuriaeth. Er mwyn ailraglennu’r dyfodol, mae’r map trywydd hwn yn galw am gydweithio rhwng merched, menywod, addysgwyr, cyflogwyr, llunwyr polisïau a’r dylanwadwyr sydd gan ferched yn eu bywydau, i greu dyfodol lle mae merched a menywod yn weladwy, yn cael eu gwerthfawrogi, ac yn ffynnu yn economi ddigidol Cymru, p’un a ydynt yn ymuno drwy lwybrau academaidd traddodiadol, prentisiaethau, hyfforddiant galwedigaethol, neu newidiadau gyrfa yn ddiweddarach mewn bywyd. Drwy gydweithio, gallwn ailraglennu’r dyfodol ac adeiladu economi ddigidol sy’n gadael neb ar ôl.
Lawrlwythwch y map ffordd llawn