Ailraglennu Pŵer: Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Wrth i fenywod yng Nghymru symud ymlaen yn eu gyrfaoedd ym maes technoleg ddigidol, maent yn wynebu rhwystrau sylweddol sy’n eu rhwystro rhag symud ymlaen i rolau rheolaeth ac arweinyddiaeth uwch. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud o ran cyfranogiad a chynrychiolaeth ar y lefelau mynediad a chanol gyrfa, mae nifer y menywod mewn swyddi arwain yn dal yn anghymesur o isel.
Mae menywod yn aml yn cael eu hystyried yn llai technegol, yn llai pendant, neu’n llai addas ar gyfer rolau arweinyddiaeth o’u cymharu â’u cymheiriaid gwrywaidd, ni waeth beth yw eu cymwysterau, eu profiad na’u potensial o ran arweinyddiaeth. Mae’r rhagfarnau hyn nid yn unig yn cyfyngu ar gyfleoedd ar gyfer dyrchafiad ond hefyd yn tanseilio awdurdod a gwelededd menywod mewn lleoliadau arweinyddiaeth, gan gynnal diwylliant arweinyddiaeth sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion.
Un o’r rhwystrau mwyaf creiddiol sy’n atal menywod rhag symud ymlaen i rolau rheoli ac arwain uwch ym maes technoleg ddigidol yw parhad stereoteipiau rhyweddol.
Cydbwyso Bywyd a Gwaith
Mae’r her o gydbwyso gwaith a bywyd personol yn waeth i fenywod mewn rolau arwain uwch, lle mae disgwyliadau ynghylch argaeledd ac ymrwymiad yn aml yn ddwys.
Lawrlwythwch y map ffordd llawnRHYWYSTRI ARWEINYDDIAETH
80%
Mae 80% o fenywod ar draws diwydiannau yn teimlo y gallai gweithio hyblyg fod o fudd i’w datblygiad gyrfa
-
Mae'r heriau'n amlweddog, ac yn cynnwys ffactorau sefydliadol a chymdeithasol sydd angen gweithredu ar y cyd gan gyflogwyr, y llywodraeth ac unigolion.
-
Er bod llawer o gyflogwyr bellach yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg, efallai y bydd menywod mewn swyddi uwch yn dal i deimlo y gallai manteisio ar yr opsiynau hyn niweidio eu hygrededd neu lesteirio eu gallu i gael eu cymryd o ddifrif mewn rolau arwain.
RHYWYSTRI ARWEINYDDIAETH
5%
Mae 5% o swyddi arwain yn sector technoleg y DU yn cael eu dal gan fenywod
Mae'r heriau'n amlweddog, ac yn cynnwys ffactorau sefydliadol a chymdeithasol sydd angen gweithredu ar y cyd gan gyflogwyr, y llywodraeth ac unigolion.
Er bod llawer o gyflogwyr bellach yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg, efallai y bydd menywod mewn swyddi uwch yn dal i deimlo y gallai manteisio ar yr opsiynau hyn niweidio eu hygrededd neu lesteirio eu gallu i gael eu cymryd o ddifrif mewn rolau arwain.
RHYWYSTRI: YCHYDIG O ENGHRIEFFTIAU
-
Mae menywod ym maes technoleg ddigidol yn aml yn cael llai o gyfleoedd ar gyfer mentora a nawdd, yn enwedig gan uwch arweinwyr sydd â’r dylanwad i agor drysau i ddyrchafiadau a phrosiectau proffil uchel, gan adael llawer yn teimlo’n ynysig ac wedi’u heithrio o’r rhwydweithiau anffurfiol sy’n hanfodol ar gyfer dilyniant gyrfa. Heb fentoriaid a noddwyr amlwg yn eirioli ar eu rhan, gall cyfraniadau a photensial menywod gael eu hanwybyddu, gan gyfyngu ar eu mynediad at lwybrau arweinyddiaeth.
-
Mae gan y sector technoleg ddigidol ddiwylliant gwaith heriol, gydag oriau hir a disgwyliadau o gysylltedd cyson. I fenywod sy’n cydbwyso cyfrifoldebau gofalu, boed hynny ar gyfer plant, rhieni oedrannus neu eraill, mae hyn yn creu straen sylweddol ac yn gallu arwain at ludded neu’r penderfyniad i gamu’n ôl o rolau arwain.
-
Mae’r ‘nenfwd gwydr’ yn parhau i fod yn her barhaus yn y sector technoleg ddigidol, yn enwedig wrth i fenywod nesáu at y lefelau uwch o arweinyddiaeth. Mae ymchwil gan McKinsey yn dangos bod menywod yn wynebu rhwystrau sylweddol o ran cael mynediad at brif swyddi rheoli a rolau gweithredol, hyd yn oed pan fydd ganddynt y cymwysterau a’r profiad i wneud hynny.
Argymhellion
Cymryd rhan mewn Rhwydweithiau a digwyddiadau STEM
Ymchwiliwch a chysylltwch â rhwydweithiau a digwyddiadau lleol fel Menywod Cymru mewn STEM, Women in Cyber ac Wythnos Dechnoleg Cymru i feithrin cysylltiadau, cynyddu gwelededd, cael cymorth a dysgu gan fenywod mewn swyddi STEM.
Chwilio am Gyfleoedd Mentora a Modelau Rôl
Cysylltwch â gweithwyr proffesiynol benywaidd ym maes technoleg a chwiliwch am gyfleoedd mentora, naill ai drwy fynychu digwyddiadau rhwydweithio neu drwy LinkedIn.
Datblygu Sgiliau Arwain
Dilynwch gyrsiau DPP sy'n canolbwyntio ar arweinyddiaeth, gwneud penderfyniadau strategol, a meithrin hyder. Gall prifysgolion a cholegau Cymru ddarparu rhaglenni wedi’u teilwra.
Eirioli dros eich Hun
Ewch ati’n rhagweithiol i chwilio am brosiectau proffil uchel, cyfleoedd i arwain, a chyfrifoldebau ychwanegol i gynyddu eich gwelededd yn eich sefydliad.
Dod yn Fentor
Chwiliwch am gyfleoedd i fentora merched a menywod sy’n dilyn cyfleoedd addysg neu yrfaoedd ym maes technoleg.
Darparu Rhaglenni Arweinyddiaeth wedi’u Targedu ar gyfer Menywod
Datblygwch a hyrwyddwch gyrsiau DPP sy'n canolbwyntio ar arweinyddiaeth ac sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer menywod ym maes technoleg ddigidol. Gweithiwch mewn partneriaeth ag arweinwyr diwydiant yng Nghymru i gynnig cynlluniau mentora, darlithoedd gwadd, a gweithdai arweinyddiaeth i fenywod sy’n dilyn gyrfaoedd digidol.
Hyrwyddo Modelau Rôl
Hyrwyddwch fenywod llwyddiannus o Gymru ym maes arweinyddiaeth technoleg ddigidol drwy ddigwyddiadau siaradwyr, astudiaethau achos, a rhwydweithiau cyn-fyfyrwyr.
Cynnig Dysgu Hyblyg i Ddarpar Arweinwyr
Darparwch opsiynau DPP hyblyg, gan gynnwys cyrsiau arweinyddiaeth ar-lein neu fodiwlaidd, i ddarparu ar gyfer menywod sy’n cydbwyso dyheadau gyrfa ag ymrwymiadau gofalu neu ymrwymiadau eraill.
Arferion Recriwtio Cynhwysol
Mabwysiadwch arferion recriwtio dienw i leihau rhagfarn ddiarwybod, gan sicrhau defnydd o iaith gynhwysol mewn disgrifiadau swydd ac annog menywod i ymgeisio. Darparwch hyfforddiant ar ragfarn ar sail rhyw i reolwyr sy’n penodi a rhowch baneli cyfweld amrywiol ar waith.
Hyrwyddo Menywod mewn Arweinyddiaeth
Gosodwch dargedau mesuradwy ar gyfer gwella amrywiaeth o ran rhywedd mewn rolau arwain. Sefydlwch raglenni arweinyddiaeth i fenywod sy’n darparu cyfleodd mentora, nawdd a mynediad at hyfforddiant. Hyrwyddwch arweinwyr benywaidd llwyddiannus yn eich sefydliad i ysbrydoli eraill.
Polisïau Hyblyg a Chyfeillgar i Deuluoedd
Datblygwch bolisïau gweithio hyblyg sy’n gynhwysol i bob gweithiwr, nid dim ond menywod. Darparwch bolisïau absenoldeb gwell i rieni sy’n cefnogi cyfrifoldebau rhannu gofal i leihau’r baich ar fenywod.
Cynlluniau Mentora a Chymorth
Sefydlwch raglenni mentora sy’n paru menywod gydag uwch arweinwyr at ddiben rhannu arweiniad gyrfa a datblygiad gyrfa. Crëwch grwpiau cymorth neu Grwpiau Adnoddau Gweithwyr penodol i ddarparu cymorth gan gymheiriaid a chyfleoedd rhwydweithio.
Cyfleoedd Rhwydweithio Cynhwysol
Cydweithiwch â sefydliadau fel Menywod Cymru mewn STEM, Academi Menywod Cymru, a Women in Cyber i gynnal digwyddiadau rhwydweithio cynhwysol sy’n croesawu menywod. Sicrhewch fod digwyddiadau rhwydweithio’n cael eu cynnal mewn amgylcheddau hygyrch a chroesawgar, gyda chynrychiolaeth gytbwys.
Sefydlu Llwybrau Dyrchafu Tryloyw
Datblygwch feini prawf clir, heb ragfarn, sy’n nodi ac yn meithrin talent arwain menywod. Gweithredwch raglenni datblygu arweinyddiaeth strwythuredig sy’n rhoi’r sgiliau a’r hyder i fenywod symud ymlaen i rolau uwch.
Dathlu ac Arddangos Arweinwyr Benywaidd yng Nghymru
Ewch ati i hyrwyddo cyflawniadau arweinwyr benywaidd yn y sefydliad i ysbrydoli darpar arweinwyr benywaidd a normaleiddio cynrychiolaeth menywod mewn rolau uwch.
Gwella Mynediad at Ofal Plant Fforddiadwy
Cynhaliwch adolygiad cynhwysfawr o fforddiadwyedd a mynediad at ofal plant yng Nghymru, gan nodi bylchau yn y ddarpariaeth, gwahaniaethau rhanbarthol, a rhwystrau i rieni mewn patrymau gwaith anhraddodiadol. Dylai’r canfyddiadau lywio diwygiadau wedi’u targedu i ehangu mynediad, gwella fforddiadwyedd, a chefnogi rhieni’n well mewn sectorau fel technoleg ddigidol.
Hyrwyddo Polisïau Gweithio’n Hyblyg
Anogwch gyflogwyr technoleg i fabwysiadu trefniadau gweithio hyblyg, fel gweithio o bell, modelau hybrid, a rhannu swyddi ar gyfer rolau arweinyddiaeth.
Cyflwyno Rhaglenni Datblygu Arweinyddiaeth
Ariannwch gynlluniau hyfforddi a mentora penodol ym maes arweinyddiaeth a rheolaeth ar gyfer menywod ym maes technoleg ddigidol. Datblygwch raglenni wedi’u targedu sy’n cefnogi menywod sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl seibiant gyrfa, gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau digidol a llwybrau arweinyddiaeth.
Ymgorffori Cydraddoldeb Rhywedd yn Safonau’r Diwydiant
Cyflwynwch fframweithiau amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y sector sy’n gosod targedau ar gyfer cynrychiolaeth menywod mewn rolau arweinyddiaeth. Mynnwch fod cwmnïau technoleg sy’n bidio am gontractau sector cyhoeddus yng Nghymru yn dangos polisïau cadarn ar amrywiaeth a chynhwysiant rhywedd.
Hyrwyddo Arferion Recriwtio Cynhwysol
Datblygwch becynnau cymorth ar gyfer cyflogwyr yng Nghymru i gefnogi arferion cyflogi cynhwysol, gan gynnwys CVs dienw, paneli cyfweld sy’n gytbwys o ran rhywedd, a hyfforddiant rhagfarn ddiarwybod. Anogwch sefydliadau i gyhoeddi bandiau cyflog tryloyw i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau cyflog a allai lesteirio cynnydd menywod.
Lawrlwythwch y map ffordd llawn
Mae’r map trywydd hwn yn ymwneud â chwalu’r rhwystrau strwythurol sydd wedi dal menywod yn ôl, ac adeiladu system lle mae pob merch yng Nghymru yn gweld technoleg nid yn unig fel rhywbeth y gall hi ei ddefnyddio, ond fel rhywbeth y gall hi ei siapio.
LAWRLWYTHO