Cyhoeddiadau a Pholïsau

Cyllid PDC 2024 i 2025

Mae'r wybodaeth a'r dadansoddiad ariannol a ganlyn yn seiliedig ar sefyllfa ariannol Grŵp Prifysgol De Cymru (PDC) ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dod i ben ar 31 Gorffennaf 2025. Cyfeirir at y cyfnod hwn fel '2024/25' yn y testun.

Amdanom Ni Cyhoeddiadau a Pholïsau
Abstract view of the University's Cardiff Campus.

Prif amcanion PDC yw darparu addysg uwch, addysg bellach ac ymgymryd â gweithgareddau ymchwil. Wrth wneud hyn, ymgymerir â gweithgareddau fel hyfforddiant ac ymgynghoriaeth, darparu llety, arlwyo a gwasanaethau cynadledda, sy'n cefnogi ac yn ategu prif weithgareddau PDC.


student-25

Mae PDC yn elusen gofrestredig ac felly mae unrhyw warged a gynhyrchir o’r gweithgareddau hyn yn ystod y flwyddyn yn cael ei ail-fuddsoddi er mwyn gwella cyfleusterau, gwasanaethau, a’n profiad myfyrwyr ar gyfer y dyfodol. Mae PDC yn frwd dros ‘newid bywydau a’n byd er gwell yfory’ ac mae ail-fuddsoddi yn ein seilwaith a’n hoffer yn hanfodol er mwyn gallu cyflawni ein Strategaeth 2030 PDC a pharhau i gynnig yr amgylchedd dysgu a’r cyfleoedd gorau i’n myfyrwyr.


Incwm

Cynhyrchir incwm PDC ar gyfer 2024/25 o’r gweithgareddau canlynol:

  • £145.3m (65%) - Ffioedd dysgu a chontractau addysg
  • £27.8m (12%) - Grantiau cyrff cyllido ar gyfer addysgu
  • £12.1m (5%) - Grantiau cyrff cyllido
  • £6.4m (3%) - Grantiau a chontractau ymchwil
  • £15.5m (7%) - Incwm arall
  • £7.6m (3%) - Preswylfeydd, arlwyo, cynadleddau
  • £10.2m (5%) - Incwm buddsoddi, rhoddion a gwaddolion

Mae ein prif ffynhonnell incwm (£145.3m) yn ymwneud ag incwm a gynhyrchir o ffioedd dysgu a chontractau addysg. Mae hyn yn ymwneud yn bennaf â ffioedd dysgu o £9,000 y flwyddyn gan fyfyrwyr israddedig y DU. Cefnogir ein ffioedd yn y DU gan y system benthyciadau ffioedd dysgu lle gwneir ad-daliadau pan fydd y myfyriwr yn ennill mwy o incwm na throthwy a osodwyd gan y Llywodraeth. Y ffynhonnell incwm ffioedd dysgu fwyaf arall yw ffioedd dysgu gan fyfyrwyr rhyngwladol ôl-raddedig. Rydym hefyd yn cynhyrchu ffioedd ac incwm mewn perthynas â myfyrwyr israddedig rhyngwladol, myfyrwyr ôl-raddedig y DU, myfyrwyr rhan-amser, prentisiaethau a chontractau addysg.

Mae Prifysgol De Cymru hefyd yn derbyn grant corff ariannu gan Medr i gefnogi ein gweithgaredd addysgu addysg uwch. Rydym hefyd yn derbyn cyllid gan yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau mewn perthynas â ffioedd i fyfyrwyr sy'n astudio addysg bellach o fewn y Grŵp. Cyfanswm y grantiau corff ariannu hyn oedd £27.8m yn 2024/25 a chyfrannodd at gost cyflwyno cyrsiau rhan-amser a chyflwyno pynciau cost uwch. Mae hyn hefyd yn cynnwys cyllid i gyflwyno addysg bellach i fyfyrwyr o fewn y Grŵp.

Mae Medr hefyd yn darparu cyllid anghylchol i gefnogi gweithgareddau penodol. Yn 2024/25, derbyniodd y Brifysgol £12.1m o incwm i gefnogi gweithgareddau ymchwil a buddsoddiad tuag at brosiectau cyfalaf a seilwaith a chyflawni targedau sero net. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad yn ein trawsnewidiad, gan gynnwys strategaeth ystâd Prifysgol De Cymru, gwella mannau dysgu ac addysgu a phrofiad myfyrwyr. Roedd cyllid anghylchol arall yn cynnwys cyllid ar gyfer lles, cefnogaeth i raddedigion a chyflogadwyedd a buddsoddiad strategol yn ymwneud ag Academïau Sgrin Cymru, partneriaethau ymgysylltu dinesig ac ehangu Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru.

Rydym hefyd yn denu grantiau ymchwil gan y Llywodraeth, cynghorau ymchwil, diwydiant, a sefydliadau eraill, sy'n ein helpu i ariannu ein gweithgaredd ymchwil o'r radd flaenaf. Cyfanswm yr incwm a gynhyrchwyd o weithgaredd ymchwil oedd £6.4m yn 2024/25.

Rydym yn cynnig gwasanaethau cefnogi i fyfyrwyr, gan sicrhau bod cyfleusterau arlwyo ar bob un o'n campysau, yn ogystal ag amrywiaeth o opsiynau llety. Mae gennym hefyd gyfleusterau cynadledda rhagorol, a ddefnyddir yn fasnachol hefyd. Cynhyrchodd y Brifysgol incwm o £7.6m yn ymwneud â'r gweithgareddau hyn yn 2024/25.

Cynhyrchwyd incwm arall o £15.5m yn bennaf o hyfforddiant, ymgynghoriaeth, argraffu, a gweithgaredd masnachol. Mae hyn hefyd yn cynnwys incwm a gynhyrchir o'n cyfleusterau chwaraeon a hamdden.

Mae'r Grŵp yn derbyn rhoddion a gwaddol gan roddwyr preifat a busnes, gan gefnogi cyfleusterau a gwasanaethau a ddarperir i fyfyrwyr a chyfrannu at ddyfodol y Brifysgol. Mae'r Brifysgol hefyd yn cynhyrchu incwm buddsoddi. Cynhyrchodd y gweithgareddau hyn incwm ychwanegol o £10.2m ar gyfer 2024/25. Roedd hyn yn cynnwys llog ar flaendaliadau arian parod o £4.9m, ac enillion ar fuddsoddiadau hirdymor o £3.3m, a ddangosir ar wahân yn ein datganiadau ariannol o dan 'Enillion buddsoddiadau'. Derbyniodd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru roddion a rhoddion etifeddiaeth o £2.0m hefyd. Mae'r rhan fwyaf o'r cyfraniadau hyn wedi'u dynodi i fod o fudd i fyfyrwyr trwy ysgoloriaethau, gwobrau, a chyllido prosiectau sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr, tra bydd y gweddill yn cefnogi gweithgareddau craidd y Coleg.

 

Gwariant

Mae darparu dysgu o ansawdd uchel a phrofiad cadarnhaol i fyfyrwyr wrth wraidd PDC, a dangosir hyn yn y modd y caiff ein harian ei wario. Gwariwyd incwm y Grŵp ar gyfer 2024/25 yn y modd a ganlyn:

  • £92.5m (41%) - Cyfadrannau
  • £31.7m (14%) - TG, dysgu a gwasanaethau academaidd
  • £5.2m (2%)  - Cymorth myfyrwyr
  • £28.1m (13%)  - Ystadau
  • £34.7m (15%) - Rhedeg y Brifysgol
  • £2.4m (1%) - Gwarged i'w ail-fuddsoddi
  • £7.9m (4%) - Gweithgarwch ymchwil
  • £6.1m (3%) - Preswylfeydd, arlwyo, cynadleddau
  • £16.3m (7%) - Gwariant masnachol / arall

Mae gwariant y cyfadrannau o £92.5m yn ymwneud â'r holl gostau a achosir i gyflwyno cyrsiau llawn amser a rhan amser. Mae hyn yn cynnwys costau darlithwyr a staff academaidd eraill a thechnegwyr, sy'n cefnogi cyflwyno cyrsiau. Mae costau eraill yn cynnwys deunyddiau, profiadau, lleoliadau diwydiant, mannau ac offer arbenigol, a'r gost sy'n gysylltiedig â chynnal labordai a mannau arbenigol. Dyma ein gwariant mwyaf, gan sicrhau bod incwm o ffioedd myfyrwyr yn cael ei fuddsoddi mewn darparu'r addysg a'r daith fyfyrwyr orau bosibl.

Mae Prifysgol De Cymru hefyd wedi gwario £5.2m ar weithgareddau sy'n cefnogi profiad y myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau fel cymorth anabledd, cwnsela, iechyd meddwl, cymorth ariannol a lles gan gynnwys ysgoloriaethau a bwrsariaethau.

Yn 2024/25, gwariodd Prifysgol De Cymru £31.7m ar wasanaethau hanfodol fel TG, llyfrgelloedd a gwasanaethau dysgu ehangach a gwasanaethau academaidd. Mae'r holl wasanaethau hyn yn ategu ac yn gwella'r profiad dysgu cyffredinol i fyfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru.

Mae Prifysgol De Cymru hefyd yn gwario arian ar ein hystâd i sicrhau ein bod yn darparu amgylchedd dysgu rhagorol i fyfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys cost rhedeg campysau Prifysgol De Cymru, ac ystâd ehangach y grŵp, sef cyfanswm o £28.1m yn 2024/25. Mae'r gwariant hwn yn ymwneud â chost adeiladau, cyfleustodau, glanhau, a chynnal a chadw a diogelwch parhaus yr ystâd.

Rydym hefyd yn gwario arian ar wasanaethau hanfodol i redeg y Grŵp, mae hyn yn cynnwys adnoddau dynol, cyllid, a phob gweithgaredd cymorth proffesiynol arall. Gwariwyd cyfanswm o £34.7m ar redeg Prifysgol De Cymru yn 2024/25.

Mae Prifysgol De Cymru yn darparu gweithgaredd ymchwil o safon fyd-eang - roedd cost y gweithgaredd hwn yn £7.9m yn 2024/25. Mae hyn yn cael ei ariannu'n bennaf gan grantiau allanol gyda chyllid pellach gan Medr.

Mae Prifysgol De Cymru yn darparu gwasanaethau cefnogi i fyfyrwyr, gan wella eu profiad myfyrwyr cyffredinol. Mae neuaddau preswyl ar Gampws Trefforest Prifysgol De Cymru ac mae cyfleusterau arlwyo ar gael ym mhob un o'n campysau. Cyfanswm cost darparu'r gwasanaethau hyn yn 2024/25 oedd £6.1m a delir yn llawn o'r incwm y mae'r gweithgaredd yn ei gynhyrchu.

Mae Prifysgol De Cymru yn talu am gostau sy'n gysylltiedig â'i gweithgaredd masnachol, yn ogystal â thaliadau pensiwn sy'n gysylltiedig â'r staff a gyflogir gan y Grŵp. Cyfanswm y costau hyn oedd £16.3m ar gyfer 2024/25, gan nodi bod hyn yn cynnwys costau diswyddo gwirfoddol wrth i'r brifysgol weithredu cynlluniau strategol i sicrhau ei chynaliadwyedd yn y dyfodol. Mae'r tâl pensiwn yn anwadal a gall newid yn sylweddol o un flwyddyn i'r llall ac felly ni ddangosir y tâl hwn yn erbyn y maes gweithgaredd penodol i weithwyr, er mwyn darparu cysondeb i'r dadansoddiad ariannol ar draws blynyddoedd.

 

Buddsoddi ar gyfer y Dyfodol

Mae PDC yn sefydliad elusennol sy’n darparu gweithgareddau a gwasanaethau i ddarparu’r profiad dysgu gorau i’w myfyrwyr ac i wasanaethu ei chymuned ehangach. Unwaith y bydd yr holl gostau uchod wedi'u talu, caiff unrhyw arian dros ben ei ail-fuddsoddi yn seilwaith PDC. Yn 2024/25, cynhyrchodd PDC warged o £2.4m a fydd yn cael ei ail-fuddsoddi i wella profiad myfyrwyr.

Mae gan PDC raglen buddsoddi cyfalaf sylweddol, ac mae rhai o’r meysydd allweddol o fuddsoddiadau a wnaed yn ystod 2024/25 yn cynnwys:

  • £14.5m eleni ar waith mewn perthynas â'r adeilad Cyfrifiadura, Peirianneg a Thechnoleg newydd (Calon) ar gampws Trefforest sydd i fod i agor yn 2026
  • £4.1m ychwanegol ar y Clinig Ceiropracteg newydd ar gampws Trefforest a agorodd ym mis Gorffennaf 2025.
  • £1.4m ar uwchraddio offer a chyfleusterau addysgu ac ymchwil mewn Peirianneg Sifil, Gwyddorau, mannau dysgu trawsnewidiol, clinigau a stiwdios ar draws campysau.
  • Buddsoddiad pellach o £1.0m mewn cyfleusterau i staff a myfyrwyr ar gampws Casnewydd.
  • £4.7m ar offer TG fel rhan o strategaeth trawsnewid digidol y Brifysgol
  • £0.6m ar uwchraddio cyfleusterau a chynnal a chadw strwythurau i'r adeiladau ar draws y campysau.
  • £0.6m ar waith ymgynghori mewn perthynas ag adeiladu system CRM newydd
  • £0.8m yng Ngholeg Merthyr Tudful ar gyfleusterau TG i staff a myfyrwyr, buddsoddiadau pellach mewn stiwdios Celfyddydau Creadigol a gwelliannau cyffredinol o fewn yr adeiladau.
  • £0.7m yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gamau datblygu a dylunio'r Hen Lyfrgell ac uwchraddio TG digidol

Gwybodaeth Bellach

Os hoffech ragor o wybodaeth am sefyllfa ariannol PDC, cyfeiriwch at y Datganiadau Ariannol ac Adolygiad Blynyddol, 2024-25.