Safonau'r Gymraeg

Cyhoeddiadau a Pholïsau

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn disodli Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac fel rhan o'r ddeddfwriaeth newydd yng Nghymru mae gan yr iaith Gymraeg statws cyfreithiol cyfartal â’r Saesneg.

Amdanom ni Cyhoeddiadau a Pholïsau
The University's Ty Crawshays building at Treforest, Pontypridd.

Felly ni all yr iaith Gymraeg cael ei thrin yn llai ffafriol. Nid oes rhaid i gyrff cyhoeddus mwyach ddatblygu a gweithredu cynlluniau iaith Gymraeg, ond yn hytrach rhaid iddynt gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.

Cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg Hysbysiadau Cydymffurfio i brifysgolion yng Nghymru ar 29 Medi 2017. Mae'r ddogfen hon yn rhestru pa rai o'r 182 Safon (fel y rhestrir yn llawn yn Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017) y mae’n rhaid i sefydliad gydymffurfio â hwy, ynghyd ag unrhyw eithriadau i’r dyddiadau gweithredu.

Mae dyletswydd statudol ar Brifysgol De Cymru i gydymffurfio â’r safonau a restrir ynghyd â’r dyddiadau cydymffurfio yn yr Hysbysiad Cydymffurfio a gyflwynwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 29 Medi 2017. Disgwylir i’r Brifysgol gydymffurfio â’r rhan fwyaf o’r safonau erbyn 1 Ebrill 2018.*

*Nodwch: Mae rhai dyddiadau gosod yn dod i rym yn hwyrach yn 2018 a 2019. Yn yr achosion hyn mi fydd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn dal mewn grym. 

Nod y safonau yw:

• Ei wneud yn eglur i sefydliadau beth yw eu dyletswyddau o ran yr iaith Gymraeg. 

• Ei wneud yn eglur i siaradwyr Cymraeg y gwasanaethau y gallant ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg.

• Gwella’r safon a chysondeb wrth ddarparu gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg.

Gweler isod gynllun gweithredu Prifysgol De Cymru ar sut y mae’n bwriadu cydymffurfio â’r Safonau o 1 Ebrill 2018.

Cynllun Gweithredu Safonau

Thema'r Safon I bwy mae’n berthnasol
Safonau Cyflenwi Gwasanaethau Myfyrwyr, darpar-fyfyrwyr ac aelodau’r cyhoedd er mwyn hybu neu hwyluso’r iaith Gymraeg ac i sicrhau nad yw’r iaith Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol.
Safonau Gweithredu Staff PDC- mynd i’r afael â sut rydym yn gweithio o ddydd i ddydd.
Safonau Llunio Polisi Staff PDC- mae angen i ni ystyried pa effaith mae penderfyniadau polisi yn ei gael ar allu person i ddefnyddio’r iaith Gymraeg.
Safonau Cadw Cofnodion Staff PDC- mae hwn yn golygu cadw cofnodion ar rai o’r safonau e.e. nifer y staff sy’n siarad Cymraeg a nifer y cwynion a dderbyniwyd am beidio â chydymffurfio â’r safonau.

ADRODDIAD BLYNYDDOL

Yn unol â gofynion y Safonau, rhaid i’r Brifysgol gynhyrchu adroddiad monitro sy’n cyfateb i’r flwyddyn ariannol flaenorol, ac yn trafod sut mae’r Brifysgol wedi cydymffurfio â’r safonau.

2022-23 Adroddiad Blynyddol

2021-22 Adroddiad Blynyddol

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r safonau, cysylltwch â Swyddog yr Iaith Gymraeg [email protected]