Cynaliadwyedd

CYMRYD RHAN

Hoffech chi gael dylanwad uniongyrchol ar wella perfformiad cynaliadwyedd PDC neu hoffech chi fod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu addysg hinsawdd?

Cynaliadwyedd Amdanom ni
A group of people in hi-vis jackets holding shovels and smiling after planting trees at the Cardiff campus.

Oes gennych chi syniadau cynaliadwyedd yr hoffech eu rhannu gyda ni neu hoffech chi arwain y ffordd at wneud eich preswylfeydd yn fwy cynaliadwy?


student-25

Ddod yn Hyrwyddwr Cynaliadwyedd

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn y gymuned leol neu gymryd rhan mewn ymgyrchoedd a digwyddiadau?

Rydym yn falch o’r cynnydd rydym wedi’i wneud hyd yn hyn ac rydym wedi ymrwymo i wneud PDC yn brifysgol wyrddach ac iachach a gallwch ymuno â’n hymdrechion a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Ym Mhrifysgol De Cymru gallwch gymryd rhan mewn gweithgareddau sydd o fudd i'r amgylchedd, cymuned y Brifysgol yn ogystal â'ch cyflogadwyedd. Bydd ein hamrywiaeth o weithgareddau a mentrau yn eich helpu i dyfu eich dealltwriaeth a'ch profiad o gynaliadwyedd a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yr un pryd.


Cymryd Rhan yn PDC

Mae amrywiaeth o ffyrdd y gall myfyrwyr, staff ac ymwelwyr gymryd rhan i wneud newidiadau bach sy'n cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd lleol. O gamau sylfaenol y gallwch eu cymryd, i brosiectau i ymgorffori cynaliadwyedd ymhellach ar draws y Brifysgol, gyda’n gilydd gall ein teulu PDC wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Isod rydym wedi darparu rhai cyngor syml ar gyfer newid sut rydych chi'n astudio, yn byw neu'n gweithio ar ein campysau i helpu i leihau eich effaith amgylcheddol.

Rhowch her i’ch hunan i gael cawod mewn 4 munud. (Gall treulio munud yn llai yn y gawod arbed tua 40 gwydraid neu 10 litr o ddŵr). Casglwch bwyntiau am gael cawodydd byrrach ar wefan Troi PDC yn Wyrdd!

  • Pan fydd y tywydd yn boeth, cadwch jwg neu botel o ddŵr yn yr oergell er mwyn osgoi rhedeg y dŵr bob tro er mwyn cael diod oer.
  • Wrth olchi llestri, llenwch bowlen gyda dŵr poeth a defnyddiwch hwnnw yn lle rhedeg y tap. Ar gyfartaledd, gallai hyn arbed defnyddio hyd at 50% o ddŵr mewn cegin ddomestig.
  • Peidiwch â gwastraffu dŵr tap wrth aros iddo boethi – casglwch y dŵr a'i ddefnyddio i ddyfrio planhigion.
  • Dewch â photel ddŵr y gellir ei hailddefnyddio i'n hunedau arlwyo i leihau’r nifer o gwpanau sydd angen eu golchi.
  • Arhoswch nes bod llwyth llawn o ddillad i’w golchi gennych neu cyfunwch gyda chyd-letywr neu ffrind.
  • Os oes gan y toiled ddau fath o ddwrlif (botwm gyda dau hanner sy'n rhoi’r dewis o faint o ddŵr i'w ddefnyddio), defnyddiwch y dwrlif byr os yw'n addas i arbed dŵr.
  • Rhowch wybod i’r Ddesg Gymorth Ystadau am unrhyw ddŵr sy’n gollwng.

Mae gan Brifysgol De Cymru rwydwaith o aelodau brwd sy'n gweithio tuag at wneud ein campysau'n fwy cynaliadwy.

Maent yn canolbwyntio ar wella gweithrediadau a gweithgareddau o ddydd i ddydd PDC wrth chwilio am gyfleoedd i leihau ein heffaith amgylcheddol.

Cynlluniwyd y rhwydwaith i roi llais i staff a’u grymuso i wneud newidiadau cadarnhaol a chynaliadwy i'w hamgylcheddau gwaith, wrth ddarparu cyfleoedd datblygu a buddion llesiant.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r rhwydwaith Hyrwyddwyr Cynaliadwyedd, cysylltwch â ni yn [email protected].

Ydych chi’n angerddol dros un maes penodol o gynaliadwyedd, neu a oes gennych wybodaeth a phrofiad yr hoffech eu rhannu i siapio ein cynlluniau gweithredu cynaliadwyedd?

Fel rhan o’n Strategaeth Sero Net 2040, rydym wedi creu grwpiau ffocws sy’n creu llwyfan ar gyfer codi ymwybyddiaeth, rhannu gwybodaeth, a chydweithio i ddatblygu cynaliadwyedd ledled y Brifysgol. Datblygwyd y grwpiau ar sail effeithiau allweddol sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a gweithrediadau ein hystâd – gyda ffocws ar ysgogi gwelliannau a dod o hyd i atebion i rai o’r heriau sy’n ein hwynebu.

Mae ein Grwpiau Ffocws ar Gynaliadwyedd yn rhoi cyfle i chi wneud cyfraniadau cadarnhaol mewn lleoliad anffurfiol a fydd yn helpu i siapio ein cynlluniau gweithredu cynaliadwyedd.

Ar hyn o bryd mae gennym 5 grŵp y gallwch ymuno â nhw:

  • Arlwyo a Bioamrywiaeth
  • Ynni ac Adeiladau
  • Caffael Cynaliadwy a'r Gadwyn Gyflenwi
  • Dysgu, addysgu ac ymchwil
  • Teithio a Gwastraff

Mae'r grwpiau'n cwrdd am awr bob chwarter, felly nid oes gofyn i chi ymrwymo llawer o amser i’r grwpiau a gallwch roi hwb sylweddol i’n hamcanion allweddol. Maent hefyd yn gyfle i chi gymryd rhan yn y prosiectau a'r mentrau yr ydych yn ymwneud â nhw.

Rydym yn croesawu aelodau newydd a all ddod â llygaid a syniadau ffres i bob grŵp ac os hoffech gofrestru eich diddordeb, cysylltwch â ni.

Rydym yn awyddus i gynifer o’n staff a’n myfyrwyr ag sy’n bosib i gael cyfle i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd a digwyddiadau cynaliadwyedd a gynhelir ym Mhrifysgol De Cymru. Er mwyn cyflawni hyn byddwn yn darparu rhaglen o fentrau a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth o faterion cyfredol yn lle canolbwyntio ar un ‘Wythnos Werdd’. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i staff a myfyrwyr gymryd rhan. Mae’r rhain yn cynnwys sesiynau Cynnal a Chadw Dr Beic (MOT beic am ddim), sesiynau casglu sbwriel, plannu coed, siopau dros dro, digwyddiadau garddio cymunedol a mwy.

Crynodeb o Ddigwyddiadau Cynaliadwyedd 2023-24

Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal digwyddiad, sgwrs neu weithgaredd ar gynaliadwyedd yn ystod y flwyddyn, cysylltwch â ni yn [email protected].

Oeddech chi’n gwybod bod staff PDC yn cael hyd at dri diwrnod o wyliau â thâl ar gyfer gwirfoddoli?

Rydym wedi datblygu siop un stop ar gyfer dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli a meithrin cysylltiadau â phobl a sefydliadau sy'n ysgogi newid cadarnhaol yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

O ddigwyddiadau untro i gyfleoedd gwirfoddoli rheolaidd, mae rhywbeth at ddant pawb. Mae pawb ohonom yn brysur, felly mae’r cyfleoedd yn darparu hyblygrwydd heb orfod ymrwymo am yr hirdymor, felly gallwch neidio i mewn ac allan fel sy’n gyfleus i chi. P'un a ydych yn angerddol am yr amgylchedd, addysg neu lesiant, bydd y rhaglen o gyfleoedd gwirfoddoli yn cynnig rhestr o weithgareddau fel y gallwch ddod o hyd i'r un sy’n addas i chi.

Mae gwirfoddoli hefyd yn cynnig profiad a chipolwg gwerthfawr ar sut mae sefydliadau a rhaglenni cymunedol yn gweithio a gallwch ddysgu sgiliau a’u rhannu ag eraill gan gynnwys cyflogwyr, ar geisiadau neu ar eich CV.

Mae rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli cynaliadwyedd lleol ar gael yma.

Yn olaf, os ydych yn gwirfoddoli’n rheolaidd, gallwch gofnodi hyn ar ap Troi PDC yn Wyrdd er mwyn ennill pwyntiau a gwobrau posib!

Mae gan bob un ohonom rôl bwysig i’w chwarae wrth leihau ein hallyriadau carbon.

Mae hyfforddiant Llythrennedd Carbon yn cynnig cyfle i ddatblygu eich dealltwriaeth, gyda’r wybodaeth am sut i leihau eich ôl troed carbon a rhoi’r hyder i chi siarad ag eraill am y materion hanfodol sy'n bwysig i chi. Gall unrhyw aelod o staff gymryd rhan yn rhaglen hyfforddiant Llythrennedd Carbon PDC er mwyn datblygu’r wybodaeth a’r hyder i wneud newid cadarnhaol i chi’ch hunan a’r blaned.

Cynhelir y cwrs ar-lein a wyneb yn wyneb yn achlysurol drwy gydol y flwyddyn. Am ragor o fanylion, ewch i https://www.unprmeclimate.org/carbon-literacy 

Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yw’r glasbrint ar gyfer cyflawni dyfodol gwell a mwy cynaliadwy i bawb. Maent yn mynd i'r afael â'r heriau byd-eang sy'n ein hwynebu, gan gynnwys tlodi, anghydraddoldeb, newid yn yr hinsawdd, dirywio amgylcheddol, heddwch a chyfiawnder.

Pwrpas y Cytundeb NDC yw ysbrydoli, dathlu a hyrwyddo rôl hollbwysig addysg wrth gyflawni’r Nodau Datblygu Cynaliadwy a’r gwerth mae’n ei chynnig i lywodraethau, busnesau, a’r gymdeithas ehangach.

Gall myfyrwyr, ymchwilwyr, academyddion, a staff gweithredol lofnodi’r Cytundeb NDC er mwyn gwneud ymrwymiad personol a phroffesiynol i chwarae eu rhan.

Gall unigolyn gyfrannu at Nodau Datblygu Cynaliadwy mewn ffyrdd amrywiol, fel gwastraffu llai o fwyd, helpu pobl o’ch cwmpas, lleihau’r defnydd o ddŵr, osgoi cynhyrchion sy’n niweidiol i’r amgylchedd (e.e. plastig), ailgylchu, a phrynu offer sy’n defnyddio ynni’n effeithlon.

Os hoffech chi lofnodi’r cytundeb, gallwch wneud yma: https://www.sdgaccord.org/ 

Rydym yn awyddus i gefnogi myfyrwyr gyda'u hastudiaethau drwy ddarparu lleoliadau gwaith neu gefnogaeth prosiect/ymchwil lle bo modd. Mae gennym brosiectau a heriau cynaliadwyedd a all ddarparu cyfleoedd ‘byd go iawn’ gwerthfawr i fyfyrwyr eu hintegreiddio i’w hastudiaethau a hefyd i weithio ochr yn ochr â thimau Ystadau a Chynaliadwyedd y Brifysgol. Siaradwch â'ch tiwtor neu cysylltwch â'r Tîm Cynaliadwyedd am ragor o wybodaeth.

Oes gennych chi syniad a gall gwneud ein campws yn fwy cynaliadwy? P'un a ydych chi'n fyfyriwr sydd â gweledigaeth o fyw heb wastraff neu'n aelod o staff sydd â chynllun ar gyfer lleihau carbon yn eich adran, mae Cronfa Gynaliadwyedd PDC yma i’ch helpu.

Mae gennym gynigiad cyflawn o £1,500 pob flwyddyn academaidd i gefnogi staff a myfyrwyr i weithredu syniadau yn eu hadrannau ar draws ein campysau. Rydym yn cynnig grantiau graddfa fechan o £250 i gefnogi prosiectau sy’n helpu i gyflawni ymrwymiadau a nodau cynaliadwyedd PDC.

Rydym yn awyddus i ymgysylltu â staff a myfyrwyr i greu ystâd gynaliadwy ar y cyd yn PDC. Rydym yn gwybod y gall atebion i leihau ein heffaith ddod gan wahanol bobl mewn llawer o wahanol rolau ar draws y Brifysgol.

Yr hyn y byddwn yn ei ariannu

Rydym yn chwilio am brosiectau creadigol, effeithiol ac ymarferol sy'n cyd-fynd â'n hamcanion cynaliadwyedd craidd:

  • Mentrau Amgylcheddol y Campws: Gwella bioamrywiaeth leol, gwella mannau gwyrdd, neu leihau gwastraff ar y campws.
  • Lleihau Carbon: Ffyrdd creadigol o arbed ynni, hyrwyddo teithio llesol neu leihau ôl troed gweithrediadau adrannol.
  • Addysg Gynaliadwyedd: Gweithdai, ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, neu adnoddau sy'n helpu ein cymuned i ddysgu am weithredu ar yr hinsawdd a byw'n gynaliadwy.

Sut i ymgeisio

  • Mae'r gronfa ar agor i bob myfyriwr a staff presennol.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich prosiect wedi'i leoli ar y campws ac yn cynnig budd cynaliadwyedd mesuradwy.
  • Llenwch ein ffurflen fer ar-lein gan nodi beth hoffech chi ei wneud a sut y byddwch chi'n gwario'r £250.
  • Caiff ceisiadau eu hadolygu ar sail dreigl.
  • Os hoffech drafod eich syniadau, rydym yn hapus i'ch helpu i'w datblygu - cysylltwch â ni ar [email protected]

Proses ymgeisio a gwerthuso

  • Er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid, rhaid i chi fod yn aelod staff neu'n fyfyriwr presennol o fewn PDC.
  • Gellir defnyddio cyllid ar gyfer mentrau neu brosiectau ar draws holl gampysau Prifysgol De Cymru.
  • Bydd y tîm Cynaliadwyedd yn ystyried ceisiadau i ddechrau ac yna'n cael eu cyflwyno i'w trafod yng nghyfarfodydd chwarterol y Pwyllgor Cynaliadwyedd. Bydd pob penderfyniad yn cael ei gyfleu i chi drwy'r e-bost a ddarperir.  
  • Danfonwch ffurflenni cais atom ni ar ôl i chi orffen.
  • Rhaid gwario'r holl gyllid o fewn 3 mis i hysbysiad o'r penderfyniad ariannu. Bydd unrhyw arian sy'n weddill a heb cael ei wario yn cael ei hawlio'n ôl ar ôl y cyfnod hwn.
  • Yn dilyn cwblhau'r prosiect neu'r fenter yn llwyddiannus, bydd gofyn i ymgeiswyr ysgrifennu paragraff byr am eu prosiect, sut y cyfrannodd at gynaliadwyedd PDC a rhoi lluniau i ni y gallwn eu defnyddio.
  • Byddwn yn cynnwys crynodeb byr o'r holl brosiectau/mentrau a gwblhawyd drwy'r Gronfa Gynaliadwyedd yn ein cyfathrebiadau a'n hadroddiadau blynyddol.
  • Byddwn yn ystyried ariannu pob math o brosiectau gan gynnwys bioamrywiaeth, defnydd ynni/dŵr, lleihau gwastraff, addysg ac ymwybyddiaeth, teithio cynaliadwy, offer a newid ymddygiadau cyn belled â'u bod yn cyfrannu at gynaliadwyedd o fewn ein campysau neu gymuned y Brifysgol.

 

Mae'r Brifysgol yn annog Lleisiau’r Myfyrwyr. Dangosir hyn mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys cynrychiolaeth myfyrwyr ar bwyllgorau'r Brifysgol ac ymhlith ein Hyrwyddwyr Cynaliadwyedd.

Mae gennym gynrychiolaeth myfyrwyr ar Fwrdd y Llywodraethwyr ar hyn o bryd, sef ein hawdurdod llywodraethu. Mae gan y Corff Llywodraethu gyfrifoldeb cynllunio a strategol a bydd yn derbyn ac yn cymeradwyo llawer o benderfyniadau hollbwysig ynghylch cyllid ag ystadau. Mae gan Bwyllgor Adnoddau Dynol y Bwrdd aelod sy’n fyfyriwr hefyd, ac mae ein Bwrdd Academaidd yn cynnwys dau fyfyriwr. Mae myfyrwyr yn chwarae rhan ac yn cymryd rhan bwysig wrth wneud penderfyniadau allweddol ledled y Brifysgol, ac mae’r penderfyniadau hynny’n cael effaith uniongyrchol ar ein taith tuag at ddyfodol cynaliadwy.

Rydym hefyd yn ymgysylltu’n barhaus â’n myfyrwyr drwy wythnos creu newid Undeb y Myfyrwyr lle mae cyfleoedd i gymryd rhan.

Gwneud y pethau bychain = Gweld gwahaniaethau mawr

  • Diffoddwch yr holl oleuadau pan nad oes eu hangen arnoch, yn enwedig pan fyddwch yn gadael eich ystafell neu’ch swyddfa.
  • Peidiwch â gadael offer trydanol mewn modd segur (standby). Diffoddwch eich teledu, gliniadur, cyfrifiadur personol, a monitor, yn enwedig dros nos neu os ydych i ffwrdd dros benwythnosau.
  • Diffoddwch eich monitor pan fyddwch i ffwrdd o'ch desg am fwy na 5 munud.
  • Gwnewch y gorau o olau dydd – agorwch y llenni a chadwch silffoedd ffenestri yn daclus.
  • Diffoddwch y golau pan nad oes ei angen e.e. ar ddiwrnodau heulog braf.
  • Cadwch ddrysau a ffenestri ar gau pan fydd y gwres ymlaen i atal gwres rhag dianc ac aer oer rhag dod i mewn i'r gofod.
  • Os ydych yn rhy gynnes, diffoddwch y thermostat ar eich rheiddiadur i leihau faint o wres sydd yn yr ystafell.
  • Rhowch wybod am broblemau gwresogi, oeri a goleuo drwy'r tîm Ystadau a Chyfleusterau.
  • Rhowch ystyriaeth i sgôr effeithlonrwydd ynni offer trydanol wrth brynu offer newydd.
  • Peidiwch â berwi mwy o ddŵr nag sydd ei angen arnoch a rhowch y dŵr sy’n weddill mewn fflasg i'w ddefnyddio’n nes ymlaen yn y dydd.

Nod y Brifysgol yw gwresogi ei hadeiladau i 19-21°C. Mae cadw at y tymheredd hwn drwy gydol y dydd yn gallu bod yn heriol. A hyd yn oed os cyrhaeddir y tymheredd hwn, mae pawb yn teimlo’n gyfforddus ar wahanol dymheredd, felly ni fydd modd cadw pawb yn hapus.

Os ydych chi'n teimlo'n oer, gofynnwch a yw’ch cydweithwyr yn teimlo’n oer hefyd? Os na, ystyriwch wisgo haen arall o ddillad er mwyn teimlo’n fwy cyfforddus. Gwisgwch yn addas ar gyfer y tymor – ni fydd crys heb lewys yn eich cadw'n gynnes ym mis Ionawr.

  • Tynnwch y llenni wrth iddi nosi er mwyn atal y gwres rhag dianc yn ystod y nos.
  • Ceisiwch osgoi defnyddio dyfeisiau gwresogi trydan cludadwy – os yw'ch ystafell yn teimlo'n oer, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth Ystadau.
  • Rhowch wybod i'r Ddesg Gymorth Ystadau am ddiffygion neu broblemau gwresogi.

Mae amrywiaeth o wasanaethau trên a bws yn gwasanaethu ein campysau.

Os yn bosib, beiciwch yn lle mynd ar fws neu yrru. Mae’n llesol i'r amgylchedd, yn llesol i chi ac yn well yn ariannol. Gallwch feicio i holl gampysau PDC ar Rwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans ac mae storfa ddiogel i feiciau, loceri a chawodydd ar gael ar bob campws.

Darperir gwasanaeth bws gwennol am ddim rhwng campysau Trefforest a Glyn-taf a champws Trefforest a’r Parc Chwaraeon.

Cynhelir sesiynau Dr Beic, lle gallwch gael gwasanaeth beic yn rhad ac am ddim ar ein campysau drwy gydol y flwyddyn. Cadwch lygad ar ein Rhaglen Digwyddiadau Cynaliadwyedd i weld amseroedd a dyddiadau.

Defnyddiwch boteli dŵr a chwpanau coffi y gellir eu hailddefnyddio. Ym Mhrifysgol De Cymru mae ardoll o 30c ar gwpanau coffi untro ac rydym wedi cyflwyno cynllun dychwelyd blaendal o’r enw ‘Huskee Cup’ i leihau’r defnydd o gwpanau coffi untro.

Gwnewch yn siŵr beth all gael ei ailgylchu cyn taflu eich gwastraff yn y biniau ar y campws – mae gennym finiau ar gyfer papur a cherdyn, plastig a thuniau, gwydr a gwastraff cyffredinol. Darllenwch ein canllawiau gwastraff ac ailgylchu yma.

Gwnewch yn siŵr bod yr hyn rydych yn ei ailgylchu’n lân: golchwch eich cynwysyddion bwyd cyn eu rhoi yn y biniau ailgylchu. Does dim modd ailgylchu deunydd pacio seimllyd – fel bocsys pitsa.

Gorsafoedd Ail-lenwi Dŵr Yfed am ddim – defnyddiwch y gorsafoedd ail-lenwi ar draws ein campysau er mwyn lleihau gwastraff plastig.

Ffordd arloesol PDC o’ch gwobrwyo am gymryd camau sy’n gwella cynaliadwyedd a llesiant yw Troi PDC yn Wyrdd – ar y campws a thu hwnt. Mae hefyd yn ffordd hwyliog o gymryd rhan ac mae cyfleoedd i ennill gwobrau.

Ar ôl cofrestru, gallwch gofnodi eich camau cynaliadwy drwy’r platfform gwe neu’r ap ac ennill ‘Pwyntiau Gwyrdd’. Bob mis, bydd y pedwar unigolyn sy’n ennill y mwyaf o Bwyntiau Gwyrdd yn ennill taleb gwerth £20!

https://www.youtube.com/watch?v=Jh9YSZyadCM

Mae dros 30 o gamau gweithredu gwahanol y gallwch chi ennill Pwyntiau Gwyrdd ar eu cyfer, gan gynnwys arbed ynni, lleihau'ch defnydd o ddŵr, cadw'n heini, osgoi plastig untro, lleihau faint o gig rydych chi'n ei fwyta, atal gwastraff bwyd, a dysgu rhagor am Agenda Cynaliadwyedd y Brifysgol, gyda gweithgareddau newydd a chyfleoedd i ennill pwyntiau a gwobrau.

Mae yna lawer o gynnwys newydd, ymgyrchoedd, a digwyddiadau y gallwch chi gymryd rhan ynddynt drwy gydol y flwyddyn a gallwch hefyd gyflwyno syniadau ar gyfer gweithgareddau a lluniau o'ch gweithredoedd – bydd y ddau beth yn ffordd o ennill pwyntiau.

Ymunwch â'r gymuned o aelodau sydd eisoes wedi cofrestru i weld a allwch chi gyrraedd y brig!

Gallwch gofrestru ar yr ap ffôn ar gyfer Android, ac yma ar gyfer ffonau Apple. Fel arall, gallwch ddefnyddio'r platfform gwe: https://turnuswgreen.org/cym/