Cynaliadwyedd
EIN BLAENORIAETHAU
Rydym yn ymdrechu i wreiddio cynaliadwyedd drwy’r Brifysgol a’i osod yn ganolog i bopeth a wnawn.
Amdanom ni Cynaliadwyedd
Mae Strategaeth Sero Net 2030 PDC yn nodi'r tri maes y byddwn yn eu blaenoriaethu er mwyn mynd i’r afael â lleihau carbon sef allyriadau trydan, nwy a chaffael ac maent yn cynrychioli’r pethau sydd angen i ni weithredu arnynt ar unwaith.
Mae’r meysydd hyn wedi’u nodi fel rhai sy’n cyfrannu cyfran sylweddol o allyriadau at ein hôl troed carbon cyffredinol ac mae ymrwymo i leihau’r effeithiau hyn yn hanfodol i gyflawni ein nod.
Fodd bynnag, er mwyn cyflawni sero net erbyn 2040 bydd angen i ni weithredu dull aml-gam ar draws ystod eang o feysydd. Ein blaenoriaethau amgylcheddol hirdymor yw parhau i wella ein perfformiad amgylcheddol a gwella ein dealltwriaeth o'n holl effeithiau a sut rydym yn eu lliniaru'n llwyddiannus.