Bwyd Cynaliadwy
Mae tîm Arlwyo a Lletygarwch PDC yn cymryd agwedd ragweithiol at ddarparu dewisiadau bwyd cynaliadwy, a chaffael bwyd lleol lle bo’n bosibl, i gefnogi’r economi leol.
Amdanom Ni Cynaliadwyedd
Rydym yn parhau i amrywio ein darpariaeth o wasanaeth arlwyo hyblyg sy'n esblygu i gynnwys cyfleoedd newydd ar gyfer cyflawni gweithrediad amgylcheddol gynaliadwy.
- Fe wnaethom ddatblygu ein Polisi Caffael Bwyd Cynaliadwy yn 2020 a’r polisi hwn sy’n arwain y ffordd o ran y gwasanaethau bwyd a diod a gynigiwn. Mae'n cael ei fonitro a'i adolygu'n flynyddol yn seiliedig ar adborth cwsmeriaid a gwybodaeth ar werthiant.
- Rhennir y Polisi gyda chyflenwyr yn ystod y broses dendro er mwyn cyfleu ein disgwyliadau yn glir a sicrhau ein bod yn contractu yn unol â'n hymrwymiadau cynaliadwyedd.
- Cyflwynwyd cynllun economi gylchol i leihau’r gwastraff a gynhyrchir gan gwpanau untro. Tynnwyd yr holl gwpanau tafladwy oedd gynt ar gael yn ein safleoedd gwerthu bwyd, caffis a lletygarwch.
- Cyflwynwyd ardoll cwpanau tafladwy i leihau'r defnydd o gwpanau coffi untro a hyrwyddo'r defnydd o'n cynllun cwpanau Huskee. Dros y 12 mis diwethaf rydym wedi arbed 77,025 o gwpanau rhag mynd i safleoedd tirlenwi.
- Cyn cyflwyno bil Llywodraeth Cymru i wahardd plastigion untro, fe wnaethom dynnu cyllyll a ffyrc plastig a chyflwyno rhai pren yn eu lle, tynnu blychau bwyd i fynd polystyren a chyflwyno blychau bioddiraddadwy a chyflwyno gwellt yfed papur yn ein hunedau Starbucks.
- Mae ein coffi a’n ffa coffi i gyd yn Fasnach Deg ac mae hyn hefyd yn cynnwys ein Siocled Poeth.
- Rydym hefyd yn darparu mygiau tsieina yn lle cwpanau untro i’n staff a’n myfyrwyr sy'n bwyta yn ein safleoedd caffi.
- Rydym yn canolbwyntio ar leihau gwastraff bwyd ac yn cydweithio â Too Good to Go i wneud y mwyaf o'n cyfleoedd i leihau gwastraff a hyrwyddo ffordd iachach a chynaliadwy o fyw i bawb. Rydym hefyd yn annog ein myfyrwyr a’n saff i ddefnyddio’n gwasanaeth Too Good to Go.
- Er mwyn lleihau gwastraff bwyd, rydym wedi cyflwyno ein cynllun Dim gwastraff, Dim angen drwy gynnig bagiau o eitemau bwyd amrywiol i’n myfyrwyr a’n staff am bris gostyngol.
- Rydym wedi gwerthu 96 o fagiau Too Good to Go a 75 o fagiau Dim gwastraff, Dim angen, sydd wedi atal mwy na 500 o frechdanau rhag cael eu gwastraffu.
- Rydym yn cefnogi ymgyrch Peas Please y Sefydliad Bwyd trwy gynnig mwy o lysiau a chynnyrch tymhorol ar ein bwydlenni ledled ein safleoedd arlwyo.
- Rydym yn cynnig dewis cynyddol o brydau fegan a llysieuol, gan gynnwys Dydd Llun Di-gig bob wythnos.
- Rydym wedi sefydlu Grŵp Ffocws Bioamrywiaeth ac Arlwyo sy'n datblygu cynllun gweithredu ar gyfer gwella, gyda'r nod o leihau effaith amgylcheddol ein darpariaeth arlwyo a manteisio ar gyfleoedd i fyfyrwyr a staff gymryd rhan mewn tyfu ffrwythau a llysiau.
- Lle bo modd, rydym yn prynu bwyd gan gyflenwyr lleol ac yn eu cynnwys ym mhob proses dendro er mwyn lleihau effaith y milltiroedd bwyd sy'n deillio o'n gweithrediadau.
- Rydym wedi cynyddu’r isafswm gwariant gyda chyflenwyr er mwyn lleihau’r nifer o archebion a wneir gyda phob cwmni. Mae hyn yn sicrhau bod y timau sy'n gwneud yr archebion yn cynllunio ymlaen llaw, yn cynyddu maint eu harcheb ac yn lleihau’r nifer o archebion untro bychain ac felly'n lleihau’r nifer o archebion diangen.
- Mae gennym finiau ailgylchu un ffrwd yn ein holl safleoedd bwyd a cheginau.
- Mae 21 o ffynhonnau dŵr ledled y Brifysgol. Maent yn darparu dŵr oer am ddim i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr, ac rydym wedi cyflwyno gwydrau yn lle cwpanau plastig yn ein safleoedd bwyd.
- Rydym yn cynnig blychau bwyd y gellir eu hailddefnyddio (ar gael mewn meintiau gwahanol) a photeli dŵr i leihau’r plastig a chardbord a ddefnyddir yn y Brifysgol.
- Rydym yn cefnogi ymgyrchoedd a digwyddiadau cenedlaethol fel Dydd Llun Di-gig, 5 y dydd, Diwrnod Fegan y Byd a Caru Bwyd Casáu Gwastraff i godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd i leihau ein heffaith carbon drwy ein bwyd.
- Mae ein cyflenwr brechdanau newydd wedi defnyddio trydan adnewyddadwy yn unig yn un o’u safleoedd cynhyrchu ers mis Hydref 2021 ac 80% yn eu lleoliad cynhyrchu arall. Maent hefyd yn defnyddio cerbydau trydan ac allyriadau isel i leihau allyriadau trafnidiaeth, ac maent yn cyflenwi o storfeydd lleol i leihau milltiroedd bwyd.
- Rydym yn cydweithio’n glos gyda'n cyflenwyr i leihau nifer y cerbydau sy'n dod a chynnyrch i'n campysau bob dydd.
- Gosodwyd gorsafoedd golchi yn ein prif ardal fwyd er mwyn galluogi cwsmeriaid i olchi eu llestri ailddefnyddiadwy.
- Mae gennym finiau gwastraff bwyd ym mhob adeilad, llety a mannau arlwyo.
- Yn 2025, cawsom sgôr o 3 seren gan y Sustainable Restaurant Association drwy eu hachrediad Food Made Good. Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://thesra.org/the-food-made-good-standard/.
Mae Campws Glyntaf yn gartref i gychod gwenyn ac mae gennym dŷ gwydr hefyd lle gellir tyfu ffrwythau a llysiau. Mae Gardd Gymunedol Meadow Street ger Campws Trefforest yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli i fyfyrwyr a staff er mwyn iddynt gael dysgu sut i dyfu ffrwythau a llysiau i’w hunain a’r gymuned leol.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi busnesau lleol drwy ein tendrau, a sicrhau bod safonau cynaliadwyedd yn rhan allweddol o’n proses dendro. Mae ein cyflenwyr yn cael eu henwebu a'u rheoleiddio drwy ein haelodaeth TUCO (Sefydliad Arlwywyr y Brifysgol) neu drwy gontractau prifysgolion cydweithredol lleol.
Fel rhan o’n hymrwymiad i leihau poteli plastig untro, mae ffynhonnau dŵr ar gael ledled PDC. Ceir hyd i leoliadau’r ffynhonnau drwy Refill app ac ar fapiau’r campysau: