Gwasanaethau Eiddo

Ailddefnyddio, ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu

Mae ein dull o reoli gwastraff yn cyd-fynd â 'Strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff' Llywodraeth Cymru a 'Strategaeth Beyond Recycling Strategy'.

Gwasanaethau Eiddo Ystadau a Chyfleusterau
Recycling assortment 2

Ein nod yw lleihau faint o wastraff rydym yn ei gynhyrchu a sicrhau ein bod yn delio ag unrhyw wastraff na ellir ei osgoi yn y ffordd fwyaf cynaliadwy posibl, gan ddilyn egwyddorion yr hierarchaeth wastraff. 

  • Atal a lleihau faint o wastraff rydym yn ei gynhyrchu  
  • Cynyddu Ailddefnyddio  
  • Ailgylchu trwy wahanu deunyddiau ailgylchadwy  
  • Adferiad arall fel treuliad anaerobig (gwastraff bwyd) a llosgi gydag adfer ynni  
  • Gwaredu fel ein dewis olaf, rydym yn gweithio'n agos gyda'n contractwr rheoli gwastraff i sicrhau nad oes unrhyw wastraff gweithredol yn mynd i safleoedd tirlenwi.  

  • Mae byw mewn neuaddau'n rhan gyffrous o fywyd myfyriwr a trwy reoli eich gwastraff yn iawn, rydych hefyd yn helpu i warchod yr amgylchedd yma yng Nghymru.

  • Mae byw oddi ar y campws yn golygu eich bod chi'n gyfrifol am reoli eich gwastraff eich hun ac ailgylchu.

  • Rydym wedi ymrwymo i ysgogi newid cadarnhaol a chynaliadwy ar draws y Brifysgol gan ystyried cynaliadwyedd ym mhopeth a wnawn.


Recycling glass