Ystadau a Chyfleusterau
Mae'r adran Ystadau a Chyfleusterau yn gyrru gofynion cynnal a chadw/gweithredol y Brifysgol o ddydd i ddydd ac yn yr hir dymor ynghyd â rheoli prosiectau cyfalaf cymhleth mawr i ddiwallu anghenion Strategaeth a Rhaglen Gyfalaf gyffredinol y Brifysgol a'r Strategaeth Ystadau.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/11-campus-exterior-shots/campus-exterior-newport-night-0812.jpg)
Mae Grŵp Prifysgol De Cymru yn cynnwys ystâd aml-safle o tua. 200,000㎡. Mae'r Brifysgol ei hun yn gwario tua £10m yn flynyddol ar gynnal a chadw’r Ystâd sy'n cynnwys cyfleustodau, glanhau, diogelwch, parcio, taliadau rheoli a'i rhaglen mân waith sy'n cynnwys cynlluniau cynnal a chadw, rheoli gofod, cynaliadwyedd a phrosiectau. Yn ychwanegol, mae gan y Brifysgol raglen datblygu cyfalaf gyfredol o tua £24m.