Gwastraff ac Ailgylchu mewn Neuaddau Preswyl
Croeso i'ch cartref newydd! Mae byw mewn neuaddau'n rhan gyffrous o fywyd myfyriwr a trwy reoli eich gwastraff yn iawn, rydych hefyd yn helpu i warchod yr amgylchedd yma yng Nghymru.
Croeso i'ch cartref newydd! Mae byw mewn neuaddau'n rhan gyffrous o fywyd myfyriwr a trwy reoli eich gwastraff yn iawn, rydych hefyd yn helpu i warchod yr amgylchedd yma yng Nghymru.
Mae Cymru'n falch o fod wedi'i raddio’n ail yn y byd am ailgylchu, ac mae'r llwyddiant hwn yn dibynnu ar bawb yn gwneud eu rhan. Mae gwastraff ac ailgylchu ledled Cymru'n cael eu rheoleiddio gan Adnoddau Naturiol Cymru, sy'n golygu bod rhaid i ni ddilyn rheolau llym ar sut mae gwastraff yn cael ei threfnu, ei storio, a'i gasglu. Mae gwneud camgymeriad nid yn unig yn effeithio ar yr amgylchedd; gall hefyd greu risgiau diogelwch a phroblemau cyfreithiol.
Trwy ddilyn y canllawiau isod, byddwch yn helpu i gadw ein neuaddau’n lân, yn ddiogel, sy’n cydymffurfio, ac yn gynaliadwy.
Trefnu Eich Gwastraff: Y 5 Ffrwd Wastraff Angenrheidiol
Rhaid gwahanu holl wastraff mewn neuaddau mewn i bum ffrwd wastraff penodol. Mae gan bob math o wastraff ei fag a'i bin ei hun, peidiwch â chymysgu eitemau os gwelwch yn dda.
Ailgylchu
Bagiau clir
- Papurau newydd, cylchgronau, amlenni
- Pecynnau cardbord (gwastatáu’r bocsys lle bo’n bosib)
- Dim papur wedi’i halogi â bwyd (e.e. bocsys pitsa brasterog)
Bagiau clir
- Caniau diod a thuniau bwyd
- Poteli, tybiau, a hambyrddau plastig
- Cartonau diod (e.e. llaeth neu sudd)
- Dim halogiad bwyd neu hylif
Bagiau clir
- Poteli a jariau gwydr yn unig
- Dim gwydr, cerameg, llestri na pyrex (gwastraff cyffredinol)
Bagiau bioddiraddadwy gwyrdd - bin gwastraff bwyd
- Pob bwyd wedi’i goginio a heb ei gogini
- Bwyd dros ben, croen, bara, reis a phasta
- Bagiau te a gwaddodion coffi
- Dim pecynnau na hylifau
Bagiau du – gwastraff na ellir ei hailgylchu
- Eitemau na ellir ei hailgylchu
- Lle mae’n bosib, cadwch hyn i’r isafswm os gwelwch yn dda
I sicrhau gall eich ailgylchu gwirioneddol cael ei ailgylchu:
- Defnyddiwch y bag cywir ar gyfer pob ffrwd wastraff
- Rhowch wastraff yn y bin cywir
- Sicrhewch fod eitemau'n wag ac yn lân lle bo modd
- Dim halogiad - gall un eitem anghywir achosi i'r bin cyfan gael ei wrthod
Os w eich ailgylchu wedi’i halogi, trinnir fel gwastraff cyffredinol, gan ddileu'r holl waith da a wnaethoch chi a'ch cyd-fyfyrwyr.
Mae bagiau am ddim, casglwch o swyddfa'r llety.
Ni chaniateir rhai eitemau byth mewn biniau gwastraff neu ailgylchu. Mae'r eitemau hyn yn beryglus, gallent achosi tanau, ac mewn rhai achosion, mae yn erbyn y gyfraith eu gwaredu'n anghywir
Yn cynnwys unrhyw beth gyda phlwg, cebl neu rannau trydanol:
- Tegellau, tostwyr, lampau
- Gwefryddau, clustffonau, sychwyr gwallt
- Peidiwch ag rhoi eitemau trydanol mewn unrhyw bin. Mae hyn yn erbyn y gyfraith ac yn cyflwyno risg tân difrifol
- Beth i'w wneud yn lle hynny, cofrestrwch docyn ar Planon ar gyfer casglu a gwaredu'n ddiogel.
Mae batris a fêps yn un o'r prif achosion o dân mewn ardaloedd gwastraff.
- Peidiwch byth â rhoi batris neu fêps mewn unrhyw bin. Gallent gynnau wrth gael eu gwasgu neu eu cywasgu.
- Beth i'w wneud yn lle: Gollyngwch fatris a fêps yn y Swyddfa Lety
Yn cynnwys desgiau, cadeiriau, cypyrddau, darnau gwely, a silffoedd.
- Peidiwch â gadael dodrefn mewn storfeydd bin, coridorau, neu ardaloedd cymunedol.
- Beth i'w wneud yn lle: Codwch docyn ar Planon fel y gellir trefnu gwarediad yn ddiogel.
Mae gan gampysau Pontypridd, Caerdydd a Chasnewydd finiau gwastraff papur cyfrinachol 240L dan glo mewn lleoliadau parhaol, sy'n cael eu casglu'n fisol.
Gellir gwneud cais am finiau ychwanegol, am £9.11 y bin, fesul casgliad. Bagiau gwastraff cyfrinachol am £6.50 y bag. Anfonwch e-bost at [email protected].
Y Cyfryngau
Mae gan ein campysau finiau gwastraff cyfryngau cyfrinachol 140L dan glo, wedi'u dal gyda’r porthdy diogelwch neu’r dderbynfa.
Mae gwastraff y cyfryngau a dderbynnir yn cynnwys:
- Tapiau
- Cryno ddisgiau
- USBs
- DVDs
Ewch â’r gwastraff cyfryngau cyfrinachol i'r lleoliadau canlynol i'w gwaredu'n ddiogel:
- Trefforest – Porthdy Diogelwch
- Glyn-taf – Tŷ Anzani
- Caerdydd – Derbynfa Diogelwch
- Casnewydd – Derbynfa Diogelwch
Gwastraff peryglus yw gwastraff sy'n cynnwys deunyddiau neu sylweddau a allai fod yn niweidiol i iechyd dynol neu'r amgylchedd. Rhaid ei gasglu, ei storio a'i waredu ar wahân i wastraff nad yw'n beryglus.
Mae ein contractwyr gwastraff wedi'u trwyddedu a'u hawdurdodi i waredu'r mathau hyn o wastraff.
Pan fyddwn yn cynhyrchu neu'n delio â gwastraff peryglus, rhaid i ni gydymffurfio â'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus a dilyn gofynion penodol ar gyfer llwyth gwastraff peryglus.
Mae'n ofynnol i aelodau staff lenwi Ffurflen Gwaredu Gwastraff Peryglus. Dychwelwch i [email protected] gan gynnwys taflenni data neu ddogfennau ategol. Bydd ein contractwr cymeradwy yn darparu dyfynbris a chasgliad.
Mae'n bwysig nad yw staff yn defnyddio contractwyr gwastraff amgen heb drafod ymlaen llaw gyda'r tîm Rheoli Cyfleusterau.
Pan fydd y gwastraff peryglus wedi'i gasglu, rhaid llenwi nodyn llwyth a chadw copi. Rhaid anfon nodiadau llwyth i [email protected] er mwyn cydymffurfio.
I gael arweiniad ar sut i gwblhau nodyn llwyth gwastraff peryglus, ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru: / Cyfoeth Naturiol Cymru / Sut i gwblhau nodyn llwyth gwastraff peryglus.
Mae nodiadau llwyth gwastraff peryglus yn berthnasol i:
- Pob symudiad gwastraff peryglus gan gynnwys casgliadau gan fusnesau gan gludwyr gwastraff cofrestredig.
- Symudiadau o un safle i'r llall o fewn yr un busnes.
- Pob symudiad o safle'r cynhyrchydd gwastraff.
Pam bod gwneud pethau’n iawn yn bwysig
Trwy ddilyn y canllawiau hyn, rydych chi'n helpu i:
Atal tanau a niweidiau
- Cadw neuaddau'n lân ac yn groesawgar
- Lleihau gwastraff tirlenwi ac allyriadau carbon
- Cwrdd â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol
- Cadw Cymru ymhlith arweinwyr ailgylchu'r byd
Os ydych chi byth yn ansicr, peidiwch â dyfalu, gwiriwch arwyddion, gofynnwch i staff, neu godi docyn ar Planon.
Diolch am wneud eich rhan i gadw ein neuaddau'n ddiogel, yn gyfrifol, ac yn gynaliadwy.