Cynaliadwyedd
Bioamrywiaeth
Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i wella bioamrywiaeth ar ein campysau.
Amdanom Ni Cynaliadwyedd
Un dull y gellir ei ddefnyddio i wella bioamrywiaeth yw’r cysyniad o ailwylltio, sy’n golygu gadael ardaloedd o laswelltir i dyfu’n naturiol a pheidio â’u torri’n ôl.
Mae gwneud hynny’n annog tir i adfer yn naturiol, gan ganiatáu i flodau gwyllt dyfu a gwella’r cynefin i bryfed peillio a bywyd gwyllt arall. Mae ailwylltio yn annog cydbwysedd rhwng pobl a gweddill byd natur er mwyn i ni allu ffynnu gyda’n gilydd.
Oeddech chi'n gwybod?
- Mae’r DU wedi colli dros 97% o gynefin dolydd blodau gwyllt ers y 1930au (Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, 2023). Yn raddol, mae PDC yn anelu at ail-greu cynefin o'r fath yn yr ardal hon.
- Mae dros 250 o rywogaethau o bryfed peillio yn y DU mewn perygl o ddiflannu. Mae llawer o hyn o ganlyniad i golli dolydd gwair a gor-dorri mannau gwyrdd.
- Ers 1950, mae poblogaeth draenogod y DU wedi gostwng 97%. Mae gadael ardaloedd fel hyn yn rhoi lle iddynt hela am fwyd.
- Rydym yn defnyddio ein hardaloedd cadwraeth i hyfforddi ac addysgu ein myfyrwyr mewn Cadwraeth, Ecoleg, Cynaliadwyedd a Rheolaeth.
- Mae llawer o gnydau sy’n tyfu yn y DU yn dibynnu ar bryfed peillio gwyllt (gan gynnwys gwenyn, gwyfynod, gloÿnnod byw, pryfed hofran, pryfed a chwilod).