“Mae ymchwilwyr ym mhob cwr o’r byd yn mynd ati’n gynyddol i fabwysiadu arferion gwyddoniaeth agored, nid yn unig i leihau tuedd wrth gyhoeddi ac i wella ansawdd ymchwil, ond i wella gallu’r cyhoedd i weld gwaith ymchwil y mae arian cyhoeddus yn aml wedi talu amdano. Mae nifer o elfennau i wyddoniaeth agored, gan gynnwys cofrestru methodolegau ymchwil ymlaen llaw, sicrhau bod data ar gael yn agored i graffu arno, a chyhoeddiadau mynediad agored. Er y gall y ddwy elfen gyntaf fod o ddiddordeb i ymchwilwyr, mae cyhoeddiadau mynediad agored yn cael gwared ar y rhwystrau i waith ymchwil drwy sicrhau bod ymchwil a adolygir gan gymheiriaid ar gael drwy glic botwm i unrhyw sydd eisiau’i ddarllen. Mae hynny’n galluogi’r boblogaeth yn ehangach i elwa’n fwy uniongyrchol o’r gwaith.
“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Grŵp Ymchwil Caethiwed ym Mhrifysgol De Cymru wedi ymwneud â llunwyr polisi yn San Steffan, Senedd Cymru a Chynulliad Gogledd Iwerddon ac wedi rhoi cyngor i grwpiau sy’n amrywio o grwpiau diddordeb trawsbleidiol i gyrff iechyd cyhoeddus ac elusennau. Mae’r ymwneud hwn wedi bod yn haws o lawer drwy allu rhoi dolenni uniongyrchol i’n cyhoeddiadau mynediad agored. Er enghraifft, ym mis Mawrth 2021, fe wnaethon ni gyflwyno tystiolaeth i alwad yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon am dystiolaeth i’r Adolygiad o Ddeddf Gamblo 2005. Yn ein tystiolaeth, nid yn unig yr oedd modd i ni grynhoi ein tystiolaeth, ond roedd modd rhoi hyperddolenni i destun llawn yr erthyglau dan sylw. Roedd yr un peth yn wir pan wnaethon ni a Llywodraeth Cymru gyd-ysgrifennu’r Fframwaith trin camddefnyddio sylweddau: niwed i'r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol. Mae’r ddogfen hon ar gael i’r cyhoedd ei gweld.
“Mae cyhoeddiadau mynediad agored wedi ein galluogi i rannu ein gwaith yn haws ag unigolion a sefydliadau na fyddai gan amlaf yn gallu gweld erthyglau mewn cyfnodolion. Yn fwy na hynny, mae’r gallu i rannu ein cyhoeddiadau mynediad agored yn creu ymdeimlad o gynhwysiant ac ymddiriedaeth. Yr argraff yw mai nid i academyddion yn unig y mae’r erthyglau hyn, ond eu bod yn gyhoeddiadau i bawb ac er budd y cyhoedd yn y pen draw. O ganlyniad, mae mwy o bosibilrwydd o gael effaith ar y byd go iawn.”
Ymchwilwyr
Mae Gareth Roderique Davies yn Athro mewn Seicoleg sy’n arbenigo mewn camddefnyddio sylweddau, caethiwed ymddygiadol, ysfeydd ac effeithiau hirdymor defnyddio cyffuriau hamdden. Ynghyd â’r Athro John, mae’n aelod sydd wedi’i wahodd i arsylwi yn y Grŵp Trawsbleidiol ar Niwed sy’n Gysylltiedig â Gamblo yn Senedd Cymru ac yn aelod sydd wedi’i wahodd o Fwrdd Prosiect Fframwaith Trin Camddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cymru ar gyfer niwed i’r ymennydd sy’n gysylltiedig ag alcohol.
Prif ffocws yr Athro Bev John yw gwaith ymchwil cymhwysol ym maes iechyd seicolegol, ac yn enwedig hyrwyddo newid ymddygiad cadarnhaol yng nghyd-destun iechyd meddwl a chorfforol a chamddefnyddio sylweddau; a datblygu a gwerthuso ymyriadau seicolegol. Mae’r Athro John wedi cyfrannu at ddatblygiadau polisi a’r trafodaethau cyhoeddus am alcohol a niwed sy’n gysylltiedig â gamblo, ac mae wedi cyhoeddi’n eang mewn cyfnodolion sy’n cael eu hadolygu gan gymheiriaid a chyfryngau perthnasol eraill.